Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credyd Pensiwn y Wladwriaeth) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credyd Pensiwn y Wladwriaeth) (Cymru) 2005, ISBN 0110912152. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 512ZB(4)(a)(iv) a 568 o Ddeddf Addysg 1996[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credyd Pensiwn y Wladwriaeth) (Cymru) 2005. Daw i rym ar 21 Tachwedd 2005 ac mae'n gymwys o ran Cymru. Budd-dal rhagnodedig 2. Mae Pensiwn Credyd y Wladwriaeth sy'n daladwy o dan adran 1 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002[2] yn fudd-dal a ragnodwyd at ddibenion adran 512ZB(4)(a)(vi) o Ddeddf Addysg 1996 mewn amgylchiadau lle mae'r rhiant yn derbyn yr elfen credyd gwarant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 8 Tachwedd 2005 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi'r elfen credyd gwarant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth at ddibenion adran 512ZB o Ddeddf Addysg 1996. Yr effaith yw os yw rhiant yn derbyn yr elfen credyd gwarant mae gan ei blentyn hawl i gael ciniawau ysgol am ddim. Notes: [1] 1996 p.56. Mae'r pwerau wedi'u rhoi i'r Ysgrifennydd Gwladol (gweler y diffiniad o "prescribed" yn adran 512 o Ddeddf 1996 ). Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 512ZB a 568 o Ddeddf 1996 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672. a'r cofnod ynglŷn â Deddf 1996 yn Atodlen 1 iddo), ac adran 211o Ddeddf Addysg 2002 (y mewnosododd adran 201ohoni adran 512ZB yn Neddf 1996).back
ISBN 0 11 091215 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 15 November 2005 |