Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) 2005, ISBN 011091211X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran mesurau ym maes milfeddygaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor[4] yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 7 Tachwedd 2005. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(b) Bison bison;
(ii) unrhyw berson arall a benodwyd yn swyddog awdurdodedig o ran y mangreoedd hynny yn unol â rheoliad 8(2) o'r Rheoliadau hynny;
(b) o ran unrhyw fangreoedd sy'n fangreoedd wedi eu cyfuno at ddibenion y Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994[11], ac sydd wedi'u cymeradwyo oddi tanynt, person sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hynny; ac
(ii) a awdurdodwyd i weithredu o ran y mangreoedd hynny yn unol â rheoliad 12(3) o'r Rheoliadau hynny.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd yn cynnwys cyfeiriad at awdurdod iechyd porthladd, ac yng nghyd-destun cyfeiriad o'r fath mae unrhyw gyfeiriad at ardal awdurdod bwyd yn gyfeiriad at ddosbarth awdurdod iechyd porthladd
(b) y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwyd i bobl, bwyd anifeiliaid neu wrteithiau.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn rhwystro llaeth sy'n dod o anifail buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 rhag cael ei roi ar y farchnad.
(b) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)[14] gyda'r addasiadau bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 6(1) fel y bônt yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15 a bod cyfeiriadau yn is-adran (4) at "sale or intended sale" yn cael eu cyfrif yn gyfeiriadau at "placing on the market" fel y'i diffinnir yn Erthygl 3.1(b) o Reoliad 999/2001; (c) adran 32 (pwerau mynediad); (ch) adran 33(1) (rhwystro swyddogion etc.); (d) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch); (dd) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)[15], i'r graddau y mae'n berthnasol i dramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch); (e) adran 35(2) a (3)[16] i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (d); (f) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); (ff) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)[17]; ac (g) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll gyda'r addasiad bod y cyfeiriadau at "food authority" yn cael eu cyfrif yn gyfeiriadau at yr awdurdod gorfodi perthnasol).
Arolygu cynhyrchion amheus a chymryd meddiant ohonynt
(ii) naill ai i beidio a chael ei symud oddi yno neu i beidio â chael ei symud oddi yno ac eithrio i rywle a bennir yn yr hysbysiad hyd nes tynnir hysbysiad yn ôl; neu
(b) cymryd y cynnyrch i'w feddiant a'i symud oddi yno er mwyn trefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cynnyrch hwnnw.
(3) Pan fo'r swyddog awdurdodedig yn arfer y pŵer a roddwyd gan baragraff (2)(a), rhaid i'r swyddog hwnnw, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 21 niwrnod, benderfynu a yw wedi'i fodloni neu heb ei fodloni y cydymffurfiwyd â rheoliad 3 mewn perthynas â'r cynnyrch ac—
(b) os nad yw wedi'i fodloni felly, cymryd y cynnyrch i'w feddiant a'i symud oddi yno er mwyn trefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cynnyrch hwnnw.
(4) Pan fo swyddog awdurdodedig yn arfer y pŵer a roddwyd gan baragraff (2)(b) neu (3)(b), rhaid iddo hysbysu'r person sydd â gofal dros y cynnyrch o'i fwriad i drefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cynnyrch hwnnw ac—
(b) caniateir, ond nid oes rhaid, i'r ynad heddwch hwnnw fod yn aelod o'r llys y cyhuddir unrhyw berson ger ei fron o dramgwydd o dan yr adran honno mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw.
(5) Os yw'n ymddangos i ynad heddwch, ar sail y dystiolaeth y mae'n ei hystyried ei bod yn briodol o dan yr amgylchiadau, fod methiant i gydymffurfio â rheoliad 3 wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw gynnyrch y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag ef o dan y rheoliad hwn, rhaid iddo gondemnio'r cynnyrch a gorchymyn—
(b) i unrhyw dreuliau a dynnwyd yn rhesymol mewn cysylltiad â'r distrywio neu'r gwaredu gael eu talu gan berchennog y cynnyrch.
(6) Os tynnir hysbysiad o dan baragraff (2)(a) yn ôl, neu os bydd yr ynad heddwch, y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag unrhyw gynnyrch o dan y rheoliad hwn, yn gwrthod ei gondemnio, rhaid i'r awdurdod gorfodi perthnasol dalu iawndal i berchennog y cynnyrch am unrhyw ddibrisiant yn ei werth sy'n ganlyniad i'r camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.
(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu i'r ddau.
(3) Ni chaniateir cychwyn erlyniad am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i reoliad 3 neu fynd yn groes, gan wybod hynny, i ofynion hysbysiad a roddwyd o dan baragraff (2)(a) o reoliad 5 ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—
(b) blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,
p'un bynnag yw'r cynharaf.
(ii) mewn mangreoedd sy'n fangreoedd cyfunol at ddibenion Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1994 ac a gymeradwyir oddi tanynt, a (iii) mewn mangreoedd sy'n fangreoedd cyfunol at ddibenion Rheoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995 ac a gymeradwyir oddi tanynt; a
(b) mewn unrhyw fangre arall, gan yr awdurdod bwyd y mae'r fangre yn ei ardal.
Diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995
(b) any bovine carcase or body part in respect of which a direction for disposal has been given under regulation 10A(5) of the TSE (Wales) Regulations 2002[19]".
Dirymiadau (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rhoi ei heffaith i Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio anifeiliaid o'r fath rhag mesurau rheoli a difodi penodol a geir yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 (OJ Rhif L204, 5.8.2005, t.22). 2. Mae Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC yn darparu na ellir rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996. 3. Rhoddir effaith i'r gwaharddiad hwnnw gan reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn. 4. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd—
(b) yn darparu ar gyfer archwilio a chymryd meddiant o gynhyrchion yr amheuir eu bod wedi cael eu rhoi ar y farchnad yn groes i reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn (rheoliad 5); (c) yn creu tramgwyddau a chosbau (rheoliad 6); (ch) yn gwneud darpariaeth ar gyfer eu gorfodi (rheoliad 7); (d) yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995 (O.S. 1995/614) i'r graddau y mae yn gymwys o ran Cymru, sy'n ganlyniadol i reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn a rheoliad 10A(5) o Reoliadau TSE (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1416 (Cy.142), a fewnosodwyd gan reoliad 4 o Reoliadau TSE (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005 (O.S. 2005/ ) (rheoliad 8) ac (dd) yn dirymu'r Rheoliadau Cig Ffres (Rheolaethau Cig Eidion) (Rhif . 2) 1996 (O.S.1996/2097) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru (rheoliad 9).
5.
Paratowyd arfarniad rheoliadol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes ac fe'i gosodwyd yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW. Notes: [1] O.S. 2003/1246.back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back [4] OJ Rhif l245, 29.9.2003, t.4.back [7] OJ Rhif L204, 5.8.2005, t.22back [8] OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1back [9] OJ Rhif L163, 23.6.2005, t.1back [10] O.S. 1995/539, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/731, O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2148, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/3124, O.S. 1995/3189, O.S. 1996/1148, O.S. 1996/2235, O.S. 1997/1729, O.S. 1997/2074, O.S. 2000/656, O.S. 2000/2257 (Cy.150), O.S. 2001/1508 (Cy.105), O.S. 2001/1740 (Cy.123), O.S. 2001/1802 (Cy.131), O.S. 2001/2198 (Cy.158), O.S. 2001/2627 (Cy.216), O.S. 2001/2198 (Cy.158) O.S. 2002/129 (Cy.17) ac O.S. 2002/1476 (Cy.148).back [11] O.S. 1994/3082, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/539, O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/3205, O.S. 1996/1499, O.S. 1999/683, O.S. 2000/656, O.S. 2000/1885 (Cy.131), O.S. 2000/2257 (Cy.150) ac O.S. 2001/2198 (Cy.158) .back [12] O.S. 1995/3205, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3124, O.S. 2000/656, O.S. 2000/1885 (Cy.131) ac O.S. 2000/2257 (Cy.150).back [14] Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.back [15] Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu.back [16] Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.back [17] Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), Atodlen 5, paragraff 16.back [18] O.S. 1995/614, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/1955, O.S. 1996/3124, O.S. 1997/2073, O.S. 2000/656, O.S. 2002/1472 (Cy.146), ac O.S. 2003/1849 (Cy.199).back [19] O.S. 2002/1461 (Cy.141), a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/2756 (Cy.267), O.S. 2004/2735 (Cy. 242), O.S. 2005/1392 (Cy.106) ac O.S. 2005/2902 (Cy.205).back [20] O.S. 1996/2097 a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/2522, O.S. 2000/656 ac O.S. 2000/3388 (Cy.225).back
ISBN 0 11 091211 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 9 November 2005 |