Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Penodi Ymgynghorwyr) (Cymru) (Diwygio) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Penodi Ymgynghorwyr) (Cymru) (Diwygio) 2005, ISBN 0110912101. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ("Deddf 1977")[1] a pharagraffau 10(1) a 12(b) o Atodlen 5 iddi a pharagraffau 6(1)(d), 9(2) a (3) o Atodlen 5B iddi, ac adran 5(7)(f) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 ("Deddf 1990")[2] a pharagraffau 16(4) a 16(5) o Atodlen 2 iddi, ac ar ôl ymgynghori yn unol â pharagraff 11(1) o Atodlen 5, a pharagraff 9(4) o Atodlen 5B, i Ddeddf 1977 a pharagraff 16(6) o Atodlen 2 i Ddeddf 1990, â chyrff y mae'n eu cydnabod fel rhai sy'n cynrychioli personau y mae'n debyg yr effeithir arnynt, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Penodi Ymgynghorwyr) (Cymru) (Diwygio) 2005 ac maent yn dod i rym ar 2 Tachwedd 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. (3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Penodi Ymgynghorwyr) (Cymru) 1996[3]. Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau 2. —(1) Mae rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) wedi'i ddiwygio fel a ganlyn. (2) O flaen y diffiniad o "application" mewnosoder y diffiniad canlynol—
(b) a person whose name is included in the register of specialists maintained by the General Medical Council pursuant to article 13 of the General and Specialist Medical Practice (Education, Training and Qualifications) Order 2003 (the specialist register),
where that person has either been appointed as a consultant by an Armed Services Consultant Appointment Board or appointed to a consultant post with an Authority;".
(3) Yn y diffiniad o "Authority", ar ôl "Special Health Authority," mewnosoder "an NHS trust, a Local Health Board".
(5) Yn y diffiniad o "lay member" dileer "or NHS trust".
(b) ar ôl paragraff (f) mewnosoder "(ff) the Royal College of Physicians and Surgeons of Glasgow,"; (c) ym mharagraff (g) dileer y gair "or"; (ch) ym mharagraff (h) ar ôl y gair "Radiologists," mewnosoder y gair "or"; a (d) ar ôl paragraff (h) mewnosoder "(i) the Royal College of Surgeons of Edinburgh,".
(7) Yn lle'r diffiniad o "relevant University" rhodder y canlynol—
(b) for an appointment to an NHS trust,
(ii) in all other cases, any University with a department which teaches the relevant specialty;".
Diwygio rheoliad 5 o'r prif Reoliadau
(b) yn lle "or that Board" rhodder "or Agency".
(5) Ar ôl paragraff (1)(g) mewnosoder—
(i) a person whose last employment by an Authority was in post as a consultant, the termination of which employment was by reason of retirement and who is appointed to a consultant post in the same Authority without any significant alteration in the duties of the post.".
Diwygio rheoliad 6 o'r prif Reoliadau
(ib) in the case of an NHS Trust, a practitioner employed by the trust making the appointment, or".
(4) Ym mharagraff 3, hepgorer "substantial".
(b) where more than two Authorities act together as a single Authority, the Authorities are to each select and appoint at least one member meeting the requirements of each of paragraphs 2(c), (d) and (e); (c) where two Authorities act together as a single Authority, one of the Authorities is to select and appoint two members, and the other is to select and appoint one member, meeting the requirements respectively of each of paragraphs 2(c), (d) and (e).".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Penodi Ymgynghorwyr) (Cymru) 1996 ("Rheoliadau 1996"). Mae Rheoliadau 2, 3 a 5 yn gwneud nifer o ddiwygiadau sy'n cymhwyso darpariaethau Rheoliadau 1996 i ymddiriedolaethau'r GIG, ynghyd â nifer o fân ddiwygiadau eraill. Mae Rheoliad 3(5) yn creu dau esemptiad newydd rhag y gofyniad bod rhaid cynnal Pwyllgor Ymgynghorol ar Benodiadau i benodi ymgynghorydd. Mae'r esemptiad cyntaf yn gymwys i berson sydd wedi bod mewn swydd fel ymgynghorydd gyda gwasanaethau meddygol y fyddin, y llynges neu'r llu awyr ac sy'n cael ei benodi i swydd ymgynghorydd yn un o'r cyrff y mae Rheoliadau 1996 yn gymwys iddynt a hynny heb symud ei leoliad a heb fod y dyletswyddau sydd ynghlwm wrth y swydd yn newid mewn unrhyw ffordd sydd o bwys. Mae'r ail esemptiad yn gymwys i ymgynghorydd sy'n ymddeol ond sydd wedyn yn dychwelyd i swydd debyg iawn yn yr un corff, er y gall telerau ei gyflogaeth fod wedi'u newid. Mae Rheoliad 4 yn caniatáu i un o'r hysbysebion ar gyfer penodi ymgynghorydd fod ar ffurf electronig. Mae Rheoliad 5 yn nodi'r union ofynion ar gyfer aelodaeth Pwyllgor Ymgynghorol ar Benodiadau pan fo dau gorff neu fwy y mae Rheoliadau 1996 yn gymwys iddynt yn cydweithredu i sefydlu Cyd-bwyllgor Ymgynghorol ar Benodiadau. Notes: [1] 1977 (p.49). Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 65(1) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999") a pharagraffau 4 a 37 o Atodlen 4 iddi, adran 67(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15) ("Deddf 2001") a pharagraffau 5 a 13 o Ran 1 o Atodlen 5 iddi, ac adran 6(3)(c) a 37(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17) ("Deddf 2002"). Diwygiwyd paragraff 10(1) o Atodlen 5 gan adran 14 o Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p.41) a pharagraff 3 o Atodlen 6 iddi, adrannau 5 a 24 o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) a Rhan I o Atodlen 8 iddi, adran 2(1) o Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995") a pharagraff 60(c) o Atodlen 1 iddi, ac adrannau 6(1)(a) a (b) o Ddeddf 2001. Diwygiwyd paragraff 12(b) o Atodlen 5 gan adran 1 o Ddeddf 1990, a pharagraff 9 o Ran III o Atodlen 1 iddi, adrannau 2(1) a 5(1) o Ddeddf 1995 a pharagraff 60(e) o Atodlen 1 iddi, ac Atodlen 3 iddi, ac adran 65(1) o Ddeddf 1999, a pharagraffau 4, 39(1) a (4)(b) o Atodlen 4 iddi. Mewnosodwyd Atodlen 5B gan adran 6(2) o Ddeddf 2002 ac Atodlen 4 iddi. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y darpariaethau hyn, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999).back [2] 1990 (p.19). Diwygiwyd adran 5(7) gan adran 2(1) o Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) a pharagraff 69(d) o Atodlen 1 iddi. Mewnosodwyd paragraffau 16(4)-(6) o Atodlen 2 gan adran 6(3)(b) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15).back [3] O.S. 1996/1313 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/1250.back
ISBN 0 11 091210 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 9 November 2005 |