Gorchymyn Cefnffordd Llundain — Abergwaun (A40) (Troetffordd/Ffordd Feiciau Gyfun, Windyhall, Abergwaun) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Cefnffordd Llundain — Abergwaun (A40) (Troetffordd/Ffordd Feiciau Gyfun, Windyhall, Abergwaun) 2005, ISBN 0110912063. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 10 Priffyrdd 1980[1] a phob pŵer galluogi arall [2]: 1. Daw'r droetffordd/ffordd feiciau newydd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn yr atodlen i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym. 2. Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd. 3. Yn y Gorchymyn hwn:— (1) mesurir pob mesur pellter ar hyd llwybr y briffordd berthnasol; (2)
(ii) ystyr "y gefnffordd newydd"("the new trunk road") yw'r gefnffordd y cyfeirir ati yn Erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn. (iii) ystyr "y plan a adneuwyd" ("the deposited plan") yw'r plan ac arno'r rhif HA10/2 NAFW 5 ac arno'r marc " Gorchymyn Cefnffordd Llundain — Abergwaun (A40) (Troetffordd/Ffordd Feiciau Gyfun, Windyhall, Abergwaun) 2005", a lofnodwyd ar ran y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd ac a adneuwyd yn Uned Storio ac Adfer Cofnodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru (RSRU), Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd.
4.
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 18 Tachwedd 2005 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Llundain — Abergwaun (A40) (Troetffordd/Ffordd feiciau Windyhall, Abergwaun) 2005. Mae llwybr y gefnffordd newydd yn llwybr yn Windyhall, Abergwaun yn Sir Benfro ac mae'n droetffordd/ffordd feiciau gyfun 325 o fetrau o hyd ac sy'n dechrau ar bwynt tua 135 o fetrau i'r gorllewin i gornel ogledd-orllewinol Windyhall House ac sy'n dod i ben ar bwynt tuag 66 o fetrau i'r gogledd-gogledd-ddwyrain i gornel ogledd-ddwyreiniol Windyhall Cottage. Notes: [1] 1980 p.66back [2] Yn rhinwedd O. S. 1999/672 erthygl 2 ac Atodlen 1, mae'r pwerau hyn bellach wedi'u rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.back
ISBN 0 11 091206 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 8 November 2005 |