Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005, ISBN 0110912020. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 19(2) a (3), 20(2) a (3), 21(3), 23, 210(7) a 214 (1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002[1], yn gwneud y rheoliadau canlynol— Teitl, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Hydref 2005, ar wahân i baragraff (2) o reoliad 2, a rheoliad 38 ac Atodlen 6, a ddeuant i rym ar 1 Ionawr 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru. Dirymiadau, arbedion a diwygiadau 2. —(1) Dirymir drwy hyn Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Trawsnewid i Fframwaith Newydd) 1998[2]. (2) Dirymir Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) 1999[3] yn effeithiol o 1 Ionawr 2006, ac eithrio'r darpariaethau canlynol sy'n parhau mewn grym yn achos pob ysgol a gynhelir hyd nes y gwneir offeryn llywodraethu newydd i'r ysgol yn unol â rheoliad 33—
Rheoliad 2(1) ar wahân i'r diffiniadau o "the First Transitional Regulations", "new school" "School Organisation Regulations" a "the Second Transitional Regulations"; Rheoliad 2(2) ar wahân i'r diffiniadau o "temporary governing body" a "temporary governors"; Rheoliad 3 ar wahân i'r geiriau "or temporary governing body (however constituted)" ac "or (as the case may be) new school"; Rheoliad 4 ar wahân i'r geiriau mewn cromfachau, ac yn eu lle hwy rhoddir y geiriau "in accordance with the 1998 Act"; Rheoliad 5(1) (a) ar wahân i'r geiriau "or will maintain" ac "or a new school"; ac ar ôl y geiriau "for which an instrument of government has been made" ychwanegir y geiriau "in accordance with the 1998 Act"; Rheoliad 5(2) (i), (iii) a (iv), ar wahân i'r geiriau "and (b)" a'r geiriau "or, in the case of a new school which has not opened, the diocesan authority which will be the appropriate diocesan authority when the school opens"; Rheoliad 6(1) ac Atodlen 1; Rheoliadau 9 i 12 ac Atodlenni 2 i 4; Rheoliad 15 ar wahân i'r geiriau "Subject to Part VIII (transitional provisions), Schedule 6 sets", ac yn eu lle hwy rhoddir "Paragraphs (12) to (16) of Schedule 6 to these Regulations and Schedule 5 to the Government of Maintained Schools (Wales) Regulations 2005 set", a pharagraffau (12) i (16) o Atodlen 6; Rheoliadau 16 a Rheoliadau 17; Rheoliad 18 ac eithrio ym mharagraff (1) y geiriau "and to Part VIII (transitional provisions)"; a Rheoliadau 19 ac 20.
(3) Diwygir paragraff (1) o reoliad 31 o Reoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999[4], drwy roi'r geiriau "Part 5 of the Government of Maintained Schools (Wales) Regulations 2005" yn lle'r geiriau "Schedule 12 to the 1998 Act".
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn—
(b) at lywodraethwr yn gyfeiriad at aelod o gorff llywodraethu unrhyw ysgol y mae'r ddarpariaeth yn berthnasol iddi; (c) at yr awdurdod addysg lleol yn gyfeiriad at yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn—
(b) at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddynt; (c) at is-baragraff â rhif yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y paragraff y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddo.
Rhiant-lywodraethwyr 4. —(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "rhiant-lywodraethwr" ("parent governor") yw—
(b) person a benodir yn rhiant-lywodraethwr yn unol â pharagraffau 10 i 12 o Atodlen 1.
(2) Anghymhwysir person rhag bod yn rhiant-lywodraethwr yn unol â pharagraffau 10 i 12 o Atodlen 1 os yw—
(b) yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod addysg lleol mewn cysylltiad â'i swyddogaethau fel awdurdod addysg lleol; neu (c) yn cael ei dalu i weithio yn yr ysgol am fwy na 500 awr mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis yn dechrau ar 1 Awst ac yn gorffen ar 31 Gorffennaf,
os nad yw'n rhiant i ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol.
(b) sydd ei hun yn athro neu athrawes ysgol o'r fath pan etholir ef neu hi.
(2) Pan fydd yn gorffen gweithio yn yr ysgol anghymhwysir athro-lywodraethwr rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath.
(b) sydd ei hun yn berson a gyflogir yn y cyfryw fodd pan etholir ef;
ac at y diben hwn, ystyr "a gyflogir" ("employed") yw a gyflogir o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau.
(b) sydd ei hun yn berson a gyflogir yn y cyfryw fodd pan etholir ef;
ac at y diben hwn, ystyr "a gyflogir" ("employed") yw a gyflogir o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau.
(b) yn berson sydd, ym marn y corff llywodraethu, yn ymrwymedig i lywodraeth dda a llwyddiant yr ysgol;.
(2) Anghymhwysir person rhag cael ei benodi na pharhau i ddal swydd fel llywodraethwr cymunedol ysgol os yw—
(b) yn gymwys i fod yn athro-lywodraethwr neu'n staff-lywodraethwr i'r ysgol.
(3) Anghymhwysir person rhag cael ei benodi'n llywodraethwr cymunedol ysgol os yw'n aelod etholedig o'r awdurdod addysg lleol.
(b) pan fo ymddiriedolaeth yn ymwneud â'r ysgol, a benodir at ddiben sicrhau y rhedir yr ysgol yn unol â'r ymddiriedolaeth honno, neu (c) pan nad oes gan yr ysgol gymeriad crefyddol a phan nad oes ymddiriedolaeth yn ymwneud â hi, a benodir yn llywodraethwr sefydledig i'r ysgol;
(b) sydd wedi ei ddiswyddo fel llywodraethwr o dan reoliad 27(2), neu (c) os yw'r swydd sy'n rhoi bod i swydd llywodraethwr o'r fath yn wag.
(2) Anghymhwysir llywodraethwr sefydledig ex officio, pan beidia â dal y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr yn deillio ohoni, rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath.
(b) yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol; (c) yn gymwys i fod yn athro-lywodraethwr neu staff-lywodraethwr i'r ysgol; (ch) yn aelod etholedig o'r awdurdod addysg lleol; neu (d) yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod addysg lleol mewn perthynas â'i swyddogaethau fel awdurdod addysg lleol.
Noddwr-lywodraethwyr Ysgolion Cymunedol 13. —(1) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol gymunedol gynnwys y canlynol—
(b) llywodraethwyr ym mhob un o'r categorïau a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl isod, yn y niferoedd a bennir ym mha un bynnag o'r colofnau eraill sy'n berthnasol i'r ysgol. TABL
(2) Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethu llai â chyfansoddiad yn unol â'r trydydd neu'r bumed golofn ar gael—
(b) yn achos ysgol gynradd, pan fo gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig.
(3) Yn achos y dewisiadau a bennir ym mhedwaredd golofn y tabl, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol gynradd y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai pob dewis cyntaf neu bob ail ddewis.
(b) llywodraethwyr ym mhob un o'r categorïau a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl isod, yn y niferoedd a bennir ym mha un bynnag o golofnau 2 neu 3 sy'n berthnasol i'r ysgol. TABL
(2) Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethau llai â chyfansoddiad yn unol â'r trydydd golofn ar gael yn achos ysgol feithrin a gynhelir pan fo gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig.
(b) yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), llywodraethwyr ym mhob un o'r categorïau a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl isod, yn y niferoedd a bennir un ai yn yr ail neu'r trydydd golofn. TABL
(2) Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethu llai â chyfansoddiad yn unol â thrydydd golofn y tabl felly ar gael pa un a oes gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig ai peidio.
(b) Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol,
y mae gan yr ysgol y cysylltiad agosaf ag ef a rhaid i'r corff priodol benodi llywodraethwr cynrychioliadol i gymryd lle un o'r nifer o lywodraethwyr cymunedol a bennir ym mha un bynnag o'r ail neu'r trydydd golofn o'r tabl sy'n gymwys i'r ysgol.
(b) pan fydd sefydliad gwirfoddol priodol wedi ei ddynodi felly, rhaid iddo benodi llywodraethwr cynrychioliadol i gymryd lle un o'r nifer o lywodraethwyr cymunedol a bennir ym mha un bynnag o'r ail neu'r trydydd golofn o'r tabl sy'n gymwys i'r ysgol.
Ysgolion sefydledig
(b) llywodraethwyr ym mhob un o'r categorïau a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl isod, yn y niferoedd a bennir ym mha un bynnag o'r colofnau eraill sy'n berthnasol i'r ysgol. TABL
(2) Pan nad oes gan yr ysgol sefydliad, mae'r cyfeiriad at lywodraethwyr sefydledig yn y golofn gyntaf i'w ddarllen fel cyfeiriad at lywodraethwyr partneriaeth.
(b) yn achos ysgol gynradd, pan fo gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig.
(4) Yn achos y dewisiadau a bennir ym mhedwaredd golofn y tabl, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol gynradd y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai'r ddau ddewis cyntaf neu'r ddau ail ddewis.
(b) llywodraethwyr ym mhob un o'r categorïau a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl isod, yn y niferoedd a bennir un ai yn yr ail neu yn y trydydd golofn. TABL
(2) Pan nad oes gan yr ysgol sefydliad, mae'r cyfeiriad at lywodraethwyr sefydledig yn y golofn gyntaf i'w ddarllen fel cyfeiriad at lywodraethwyr partneriaeth.
(b) llywodraethwyr ym mhob un o'r categorïau a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl isod, yn y niferoedd a bennir ym mha un bynnag o'r colofnau eraill sy'n berthnasol i'r ysgol. TABL
(2) Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethu llai â chyfansoddiad yn unol â'r drydedd neu'r bumed golofn ar gael—
(b) yn achos ysgol gynradd, pan fo gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig.
(3) Yn achos y dewisiadau a bennir yn y bedwaredd golofn, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol gynradd y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai'r ddau ddewis cyntaf neu'r ddau ail ddewis.
(b) llywodraethwyr ym mhob un o'r categorïau a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl isod, niferoedd a bennir ym mha un bynnag o'r colofnau eraill sy'n berthnasol i'r ysgol, ac (c) cynifer o lywodraethwyr sefydledig fel y bydd mwy ohonynt nag o'r llywodraethwyr eraill a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (b)—
(ii) dau yn fwy, yn achos unrhyw ysgol arall. TABL
(2) Mae'r dewis o fod â chorff llywodraethu llai â chyfansoddiad yn unol â'r drydedd neu'r bumed golofn ar gael—
(b) yn achos ysgol gynradd, pan fo gan yr ysgol lai na 100 o ddisgyblion cofrestredig.
(3) Yn achos y dewisiadau a bennir yn y bedwaredd golofn, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu ysgol gynradd y mae'r golofn honno'n gymwys iddi adlewyrchu un ai'r ddau ddewis cyntaf neu'r ddau ail ddewis.
(b) o leiaf ddau lywodraethwr o'r fath yn achos unrhyw ysgol arall.
Ysgolion cynradd a gynhelir
(b) unrhyw ysgol feithrin a gynhelir,
sy'n gwasanaethu ardal sydd ag un neu fwy o gynghorau cymuned.
(b) llywodraethwr AALl; (c) llywodraethwr cymunedol (gan gynnwys llywodraethwr cymunedol ychwanegol); (ch) llywodraethwr cynrychioliadol; (d) noddwr-lywodraethwr; ac (dd) llywodraethwr partneriaeth.
Cyd-benodiadau
(b) os yw'r personau hynny'n methu â chytuno ar benodiad,
bydd y penodiad yn cael ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'n unol â chyfarwyddyd a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol hwnnw. Cymwysterau ac anghymwysiadau 24. Mae Atodlen 5 yn nodi'r amgylchiadau pan fo person yn gymwys neu'n anghymwys i ddal swydd neu i barhau mewn swydd fel llywodraethwr. Cyfnod swydd 25. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (7) bydd llywodraethwr yn dal swydd am gyfnod penodol o bedair blynedd o ddyddiad ei ethol neu ei benodi. (2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr sy'n bennaeth yr ysgol, nac i unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio, a gaiff ddal swydd cyhyd ag y mae'n dal y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr yn deillio ohoni. (3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr sefydledig y pennir cyfnod ei swydd gan y person a'i penododd, hyd at uchafswm o 4 blynedd. (4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr ychwanegol, llywodraethwr sefydledig ychwanegol nac aelod gweithredol interim a benodir o dan adrannau 16[9], 16A[10], 18[11] neu 18A[12] o Ddeddf 1998 y pennir cyfnod ei swydd gan y person a'i penododd, hyd at uchafswm o 4 blynedd. (5) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw riant-lywodraethwr ysgol feithrin a gynhelir a fydd yn dal swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd o ddyddiad ei ethol neu ei benodi. (6) Caiff dirprwy lywodraethwr ddal swydd hyd y cynharaf o'r canlynol—
(b) y dyddiad y bydd y llywodraethwr gwreiddiol (ond yw wedi ei ddiswyddo o dan reoliad 27 (2)) yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu yn nodi y gall weithredu fel llywodraethwr sefydledig a'i fod yn fodlon gwneud hynny; neu (c) y dyddiad y bydd person ar wahân i'r llywodraethwr gwreiddiol yn cymryd y swydd y mae swydd y llywodraethwr sefydledig ex officio yn bodoli o'i herwydd.
(7) Nid yw'r rheoliad hwn yn rhwystro llywodraethwr rhag—
(b) ymddiswyddo yn unol â rheoliad 26(1); (c) cael ei ddiswyddo o dan reoliadau 27 i 29; neu (ch) cael ei anghymhwyso, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, rhag dal neu barhau i ddal swydd.
(8) Yn y rheoliad hwn ystyr "y llywodraethwr gwreiddiol" ("the original governor") yw'r llywodraethwr sefydledig ex officio y penodir y dirprwy lywodraethwr i weithredu yn ei le.
(b) y pennir mater diswyddo'r llywodraethwr fel eitem benodol o fusnes ar agenda'r cyfarfod.
(3) Ar ôl pasio penderfyniad i ddiswyddo llywodraethwr rhaid i'r corff llywodraethu roi gwybod yn ysgrifenedig i'r person a ddiswyddir y rhesymau dros y diswyddo. Dehongli "awdurdod esgobaethol priodol" a "corff crefyddol priodol" 31. Yn y Rhan hon,
Y ddyletswydd i ystyried canllawiau
(b) y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo; (c) enw corff llywodraethu'r ysgol; (ch) y cyfansoddiad a fydd i'r corff llywodraethu yn unol â Rhan 3, gan bennu—
(ii) y categorïau o bersonau, o'u plith neu o blith eu haelodau, yr awdurdodir enwebu unrhyw lywodraethwr cymunedol ychwanegol neu noddwr-lywodraethwr ar gyfer ei benodi gan y Rheoliadau hyn; a (iii) cyfanswm nifer aelodau'r corff llywodraethu;
(d) pan fo cyfnod swydd categori o lywodraethwr i fod yn llai na phedair blynedd, cyfnod y swydd honno;
(ii) manylion unrhyw swydd llywodraethwr sefydledig sydd i'w dal ex officio gan ddeiliad swydd a enwir, a (iii) enw unrhyw un sydd â'r hawl i ddiswyddo unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio a phenodi unrhyw ddirprwy lywodraethwr;
(e) pan fo'r ysgol yn ysgol arbennig gymunedol, enw unrhyw gorff priodol neu sefydliad gwirfoddol priodol sydd â'r hawl i enwebu person i'w benodi'n llywodraethwr cynrychioladol o dan reoliad 15(4) neu (5);
(2) Rhaid i'r ffordd y cyfansoddir y corff llywodraethu, fel y nodir yn unol ag is-baragraff (1) (ch), gydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys i ysgol yn y categori y perthyn yr ysgol iddo.
(b) unrhyw ymddiriedolwyr o unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig â'r ysgol; (c) yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol; ac (ch) yn achos unrhyw ysgol arall a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy'n meddu ar gymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.
(3) Pan geir y drafft rhaid i'r awdurdod addysg lleol ystyried a yw'n cydymffurfio â'r holl ddarpariaethau statudol cymwys, ac—
(b) os oes cytundeb rhyngddo, y corff llywodraethu ac (os oes gan yr ysgol lywodraethwyr sefydledig) y personau a grybwyllir ym mharagraff (2) y dylid diwygio'r drafft i unrhyw raddau a bod y drafft diwygiedig yn cydymffurfio â phob un o'r darpariaethau statudol sy'n gymwys,
rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei wneud ganddo ar ffurf y drafft neu (yn ôl fel y digwydd) ar ffurf y drafft diwygiedig.
(b) rhoi cyfle rhesymol i'r corff llywodraethu ddod i gytundeb ag ef ynghylch diwygio'r drafft;
a rhaid iddo wneud yr offeryn llywodraethu naill ai ar ffurf drafft diwygiedig y bydd ef a'r corff llywodraethu yn cytuno yn ei gylch neu (yn niffyg cytundeb o'r fath) ar ffurf fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo.
(b) hysbysu'r awdurdod o dan baragraff (3) ei fod yn fodlon â'r amrywiad a gynigir gan yr awdurdod,
oni fo'r personau a restrir yn rheoliad 34(2) wedi cymeradwyo'r amrywiad a gynigir.
(b) oes cytundeb rhwng yr awdurdod addysg lleol, y corff llywodraethu ac (os oes gan yr ysgol lywodraethwyr sefydledig) y personau eraill a restrir yn rheoliad 34(2) y dylid gwneud rhyw amrywiad arall yn hytrach,
rhaid i'r awdurdod addysg lleol amrywio'r offeryn llywodraethu yn unol â hynny.
(ii) pam y mae'n dymuno mynd ymlaen â'i amrywiad ei hun, a
(b) rhoi cyfle rhesymol i'r corff llywodraethu ddod i gytundeb ag ef mewn perthynas â'r amrywiad;
a rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei amrywio ganddo naill ai yn y modd y cytunwyd arno rhyngddo a'r corff llywodraethu neu (yn niffyg cytundeb o'r fath) mewn modd fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo.
(b) mae rheoliad 33(3) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw amrywiad sy'n ymwneud â'r ffordd y mae'r corff llywodraethu i'w gyfansoddi fel petai'n cyfeirio at y dyddiad y gwneir yr amrywiad yn hytrach na'r dyddiad y gwneir yr offeryn.
Gofynion eraill yn ymwneud ag offerynnau llywodraethu
(b) os gwneir unrhyw amrywiad i offeryn llywodraethu ysgol, fersiwn gyfunol o'r offeryn llywodraethu yn ymgorffori pob amrywiad a wnaed gan yr awdurdod addysg lleol (ac eithrio unrhyw amrywiadau nad ydynt bellach mewn grym).
(2) I'r personau canlynol y dylid darparu'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1)—
(b) y pennaeth, pa un a yw'r pennaeth yn aelod o'r corff llywodraethu ai peidio; (c) ymddiriedolwyr unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig â'r ysgol; (ch) yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol; a (d) yn achos unrhyw ysgol arall a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy'n meddu ar gymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.
Y ddyletswydd i sicrhau bod offerynnau llywodraethu yn cael eu gwneud
(b) ar gyfer pob ysgol arall a gynhelir ganddo, erbyn 31 Awst 2008 fan bellaf.
Darpariaeth drosiannol 38. Mae Atodlen 6 i gael effaith at ddiben parhau cyfnod swydd llywodraethwyr pan newidir i offeryn llywodraethu a wneir yn unol â'r Rheoliadau hyn. Ethol y cadeirydd a'r is-gadeirydd 39. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adran 18 o Ddeddf 1998[13] (Pŵer Cynulliad Cenedlaethol Cymru i benodi llywodraethwyr ychwanegol), rhaid i'r corff llywodraethu ethol cadeirydd ac is-gadeirydd o blith ei aelodau yn flynyddol. (2) Nid yw llywodraethwr y telir iddo am weithio yn yr ysgol neu sy'n ddisgybl yn yr ysgol yn gymwys i fod yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd corff llywodraethu'r ysgol honno. (3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), bydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn dal swydd hyd nes y bydd ei olynydd wedi ei ethol yn unol â pharagraff (1). (4) Caiff y cadeirydd neu'r is-gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu. (5) Daw swydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd i ben—
(b) os telir iddo am weithio yn yr ysgol dan sylw; (c) os diswyddir ef yn unol â rheoliad 41 neu os cymerir ei le gan gadeirydd a enwebwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1998; neu (ch) yn achos yr is-gadeirydd, os etholir ef yn unol â pharagraff (6) i lenwi swydd wag y cadeirydd.
(6) Pan ddaw swydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn wag, rhaid i'r corff llywodraethu yn ei gyfarfod nesaf ethol un o'u plith i lenwi'r swydd honno, yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adran 18 o Ddeddf 1998.
(b) unrhyw ddisgybl yn yr ysgol, neu ei riant; neu (c) person sy'n gweithio yn yr ysgol.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr "oedi" ("delay") yw oedi am gyfnod sy'n ymestyn y tu hwnt i'r dyddiad cynharaf y byddai'n rhesymol ymarferol cynnal cyfarfod o'r corff llywodraethu, neu o bwyllgor y dirprwywyd y swyddogaeth dan sylw iddo.
(b) na fyddai'r cadeirydd (oherwydd bod y swydd yn wag neu am reswm arall) yn gallu arfer y swyddogaeth dan sylw cyn i'r niwed y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw ddigwydd,
darllenir y cyfeiriad at y cadeirydd ym mharagraff (1) fel pe bai'n gyfeiriad at yr is-gadeirydd.
(b) yn aelod nad yw'n llywodraethwr o unrhyw un o bwyllgorau'r corff llywodraethu;
nac
(4) Er gwaethaf paragraff (2) caiff y corff llywodraethu, os metha'r clerc â mynychu un o'u cyfarfodydd, benodi unrhyw un o'u plith (ond nid y pennaeth) i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.
(b) mynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu a sicrhau bod cofnodion y trafodion yn cael eu cynhyrchu yn unol â rheoliad 47(1); (c) cadw cofrestr o aelodau'r corff llywodraethu ac adrodd am unrhyw leoedd gwag wrth y corff llywodraethu; (ch) cadw cofrestr o bresenoldeb llywodraethwyr mewn cyfarfodydd ac adrodd ar unrhyw ddiffyg presenoldeb wrth y corff llywodraethu; (d) rhoi a derbyn hysbysiadau yn unol â
rheoliadau 21 (Hysbysu swyddi gwag a phenodiadau), 26 (Ymddiswyddo), 27 (Diswyddo llywodraethwyr), 39(4) (Ymddiswyddiad y cadeirydd neu'r is-gadeirydd) a 45(4) (cynnull cyfarfodydd) o, a pharagraff 13 o Atodlen 5 (Hysbysiad o anghymhwyso) i, y Rheoliadau hyn.
(e) cyflawni pa swyddogaethau eraill bynnag a benderfynir gan y corff llywodraethu o bryd i'w gilydd.
(2) Caiff clerc y corff llywodraethu ddarparu cyngor iddo ar ei swyddogaethau a gweithdrefnau. Hawl personau i fynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu 44. —Yn ddarostyngedig i reoliad 63 o, ac Atodlen 7 i, y Rheoliadau hyn mae gan y personau canlynol yr hawl i fynychu unrhyw un o gyfarfodydd y corff llywodraethu—
(b) pennaeth yr ysgol, boed yn llywodraethwr neu beidio; (c) clerc y corff llywodraethu; ac (ch) personau eraill y bo'r corff llywodraethu yn penderfynu yn eu cylch.
Cynnull cyfarfodydd y corff llywodraethu
(b) y cadeirydd, i'r graddau nad yw unrhyw gyfarwyddyd o'r fath yn anghyson ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan is-baragraff (a).
(3) Caiff unrhyw dri aelod o'r corff llywodraethu ofyn am gyfarfod drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r clerc sy'n cynnwys crynodeb o'r busnes sydd i'w drafod; a rhaid i'r clerc gynnull cyfarfod cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(b) y pennaeth (boed yn llywodraethwr neu beidio); ac (c) yr awdurdod addysg lleol.
(5) Pan fo'r cadeirydd yn penderfynu hynny, ar y sail bod materion sy'n galw am sylw brys, bydd yn ddigon i'r hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod nodi'r ffaith honno ac i'r hysbysiad, y copi o'r agenda, yr adroddiadau a'r papurau eraill sydd i'w hystyried gael eu rhoi o fewn cyfnod byrrach yn ôl ei gyfarwyddyd.
(b) atal unrhyw lywodraethwr, (c) diswyddo llywodraethwr cymunedol neu noddwr-lywodraethwr, neu (ch) penderfyniad i gyflwyno hysbysiad i ddirwyn yr ysgol i ben o dan adran 30 o Ddeddf 1998
i gael ei ystyried.
(b) nid yw pŵer y cadeirydd i roi cyfarwyddyd i gynnal cyfarfod o fewn cyfnod byrrach yn gymwys.
(8) Caiff yr is-gadeirydd arfer swyddogaethau'r cadeirydd yn y rheoliad hwn yn absenoldeb y cadeirydd neu os bydd swydd y cadeirydd yn wag.
(b) oni roddir hysbysiad o'r ail gyfarfod yn unol â rheoliad 45(7).
(5) Ni chaiff trafodion corff llywodraethu ysgol eu hannilysu gan—
(b) unrhyw ddiffyg wrth ethol, penodi nac enwebu unrhyw lywodraethwr; (c) unrhyw ddiffyg wrth benodi'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd; neu (ch) y ffaith bod gan yr ysgol fwy o lywodraethwyr o gategori arbennig nag y darperir ar eu cyfer gan yr offeryn llywodraethu[15].
Cofnodion a phapurau
(b) cofnodion wedi'u llofnodi o bob cyfarfod o'r fath; (c) unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o'r fath; ac (ch) cofnodion drafft unrhyw gyfarfod, os cymeradwywyd hwy gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd y cyfarfod hwnnw.
(2) Caiff y corff llywodraethu dynnu allan o unrhyw eitem y mae angen trefnu iddi fod ar gael yn unol â pharagraff (1) unrhyw ddeunydd yn ymwneud ag—
(b) disgybl yn yr ysgol sy'n cael ei enwi, neu un sy'n gwneud cais am le yn yr ysgol; neu (c) unrhyw fater arall y mae'r corff llywodraethu yn fodlon y dylai aros yn gyfrinachol oherwydd ei natur.
(3) Rhaid i bob tudalen o gopïau a gyhoeddir o unrhyw gofnodion drafft o drafodion cyfarfodydd a gymeradwywyd gan y cadeirydd nodi eu bod yn gofnodion drafft.
(b) bod y llywodraethwr yn destun achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys, y gallai ei ganlyniad olygu y caiff ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o dan Atodlen 5; (c) bod y llywodraethwr wedi gweithredu mewn modd sy'n anghyson ag ethos neu gymeriad crefyddol yr ysgol ac wedi dwyn neu'n debygol o ddwyn anfri ar yr ysgol neu ar y corff llywodraethu neu ar ei swydd; neu (ch) bod y llywodraethwr wedi torri ei ddyletswydd o gyfrinachedd i'r ysgol neu i unrhyw aelod o'r staff neu i unrhyw ddisgybl yn yr ysgol.
(2) Ni fydd penderfyniad i atal llywodraethwr o'i swydd yn effeithiol oni fo'r mater wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod, y rhoddwyd hysbysiad ohono yn unol â rheoliad 45(7).
(b) i fynychu cyfarfod o'r corff llywodraethu a gynullir yn unol â rheoliad 30 i ystyried ei ddiswyddo
yn ystod cyfnod ei ataliad.
(b) unrhyw lywodraethwr; neu (c) y pennaeth (boed lywodraethwr neu beidio).
(2) Pan fo corff llywodraethu wedi dirprwyo swyddogaethau ni fydd hyn yn rhwystro'r corff llywodraethu rhag arfer y swyddogaethau hynny.
(b) y rhai hynny yn Rhan 3 (cyfansoddiad cyrff llywodraethu); (c) y rhai hynny yn Rhan 4 (diswyddo llywodraethwyr); (ch) y rhai hynny yn Rhan 5 (offerynnau llywodraethu); (d) rheoliadau 39 a 41 (ethol a diswyddo cadeirydd ac is-gadeirydd); (dd) rheoliad 42 (penodi a diswyddo clerc y corff llywodraethu); (e) rheoliad 49 (atal llywodraethwyr); (f) rheoliad 50 (dirprwyo swyddogaethau); (ff) rheoliad 54 (sefydlu pwyllgorau)
ac ni chaiff ychwaith ddirprwyo ei swyddogaethau mewn perthynas â phanelau dethol pennaeth a dirprwy pennaeth o dan baragraff 6 o Atodlen 16 a pharagraffau 7 a 30 o Atodlen 17 i Ddeddf 1998.
(ii) adrannau 28[18] a 31 o Ddeddf 1998 fel y maent yn effeithiol yn rhinwedd Rheoliadau a wnaed o dan Atodlen 8 i Ddeddf 1998 mewn perthynas â chynigion o dan yr Atodlen honno (Newid categori ysgolion a gynhelir); (iii) cynllun a wnaed gan yr awdurdod lleol o dan adran 48(1) o Ddeddf 1998, i'r graddau y mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu gymeradwyo cynllun cyllideb ffurfiol cyntaf y flwyddyn ariannol; (iv) adran 61(1) i (3) o Ddeddf 1998 (polisïau disgyblaeth ysgolion); (v) adrannau 88, 89[19], 89A[20] 90(8) a 91 o Ddeddf 1998 (sy'n ymwneud â phenderfynu ar drefniadau derbyn i ysgolion), adran 90(1) o Ddeddf 1998 (sy'n ymwneud â chyfeirio gwrthwynebiadau ynghylch trefniadau derbyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru), adran 93 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 23 iddi (sy'n ymwneud â phennu niferoedd derbyn ac amrywio niferoedd safonol), neu adran 94[21] o Ddeddf 1998 i'r graddau y mae'n ymwneud â phenderfynu ynghylch trefniadau apêl gan y corff llywodraethu; (vi) adran 63 o Ddeddf 1998 (targedau mynychu ysgol); (vii) adran 439(7) o Ddeddf 1996 (gorchmynion mynychu ysgol); (viii) adran 95(2) a 97(3) o Ddeddf 1998 (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod addysg lleol i dderbyn plentyn a chyfeiriad i'r Cynulliad mewn cysylltiad â chyfarwyddyd a wneir gan awdurdod addysg lleol i dderbyn plentyn); na'r
(b) swyddogaethau y mae'n rhaid eu dirprwyo i'r pwyllgorau a enwir yn rheoliadau 55 i 57.
Adrodd wrth y corff llywodraethu yn dilyn arfer swyddogaethau dirprwyedig
(b) y pennaeth (boed yn llywodraethwr neu beidio); neu (c) pwyllgor.
(2) Rhaid i unrhyw unigolyn neu bwyllgor y dirprwywyd swyddogaeth corff llywodraethu iddo neu sydd fel arall wedi arfer swyddogaeth corff llywodraethu, adrodd wrth y corff llywodraethu ynghylch unrhyw gam a gymerwyd neu benderfyniad a wnaed mewn perthynas ag arfer y swyddogaeth honno. Cymhwyso'r Rhan hon 53. Nid yw'r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â phanelau dethol penaethiaid a dirprwy benaethiaid a sefydlwyd o dan Atodlen 16 neu 17 i Ddeddf 1998. Sefydlu pwyllgorau'r corff llywodraethu 54. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bwyllgorau'r corff llywodraethu yn ddarostyngedig i reoliadau 55, 56 a 57. (2) Y corff llywodraethu sydd i benderfynu beth fydd cyfansoddiad, aelodaeth a chylch gwaith unrhyw bwyllgor y penderfyna ei sefydlu a'u hadolygu'n flynyddol. (3) Rhaid i'r corff llywodraethu benodi cadeirydd yn flynyddol ar bob pwyllgor neu raid i'r pwyllgor ei ethol, yn ôl penderfyniad y corff llywodraethu. (4) Rhaid i bwyllgor ethol aelod o'r pwyllgor hwnnw i weithredu fel cadeirydd yn absenoldeb y cadeirydd a benodwyd o dan baragraff (3). (5) Ni chaiff unrhyw un a gyflogir i weithio yn yr ysgol, na'r un o ddisgyblion cofrestredig yr ysgol, weithredu fel cadeirydd pwyllgor. (6) Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo cadeirydd unrhyw bwyllgor ar unrhyw adeg. (7) Caiff aelodaeth pwyllgor gynnwys personau nad ydynt yn llywodraethwyr a'r corff llywodraethu bydd yn penderfynu i ba raddau y bydd gan aelodau o'r fath hawl i bleidleisio. (8) Rhaid i fwyafrif yr aelodau ar unrhyw bwyllgor fod yn llywodraethwyr. Y pwyllgor disgyblu a diswyddo staff a'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo 55. —(1) Rhaid i swyddogaethau canlynol corff llywodraethu ysgol gael eu dirprwyo i bwyllgor, a elwir yn bwyllgor disgyblu a diswyddo staff—
(ii) mewn ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol arbennig sefydledig, y penderfyniad cychwynnol y dylid terfynu contract cyflogaeth person a gyflogir i weithio yn yr ysgol â'r corff llywodraethu neu na ddylid adnewyddu ei gontract (ac eithrio pan fo'r diswyddo yn unol â chyfarwyddyd yr awdurdod addysg lleol o dan adran 55(5) o Ddeddf 1998); a (iii) gwrando ar sylwadau mewn perthynas â phenderfyniad y mae'n rhaid ei ddirprwyo o dan y paragraff hwn.
(2) Rhaid dirprwyo gwrandawiad unrhyw apêl mewn perthynas â phenderfyniad y mae'n rhaid ei ddirprwyo o dan baragraff (1) i bwyllgor, a elwir yn bwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.
(b) pan fo'n ymddangos i'r cadeirydd na fyddai'n ymarferol cynnal cyfarfod â chworwm o'r pwyllgor at unrhyw ddiben y cyfeirir ato mewn rheoliadau o'r fath cyn y deuai'r amser i'r disgybl sefyll yr arholiad hwnnw.
Pwyllgor derbyniadau
(b) o leiaf ddau lywodraethwr arall
(3) Yn achos ysgol sydd â mwy nag un pennaeth, dehongler y cyfeiriad ym mharagraff (2)(a) at y pennaeth fel cyfeiriad at un o'r penaethiaid.
(b) mynychu cyfarfodydd y pwyllgor a sicrhau y llunnir cofnodion o'r trafodion; ac (c) cyflawni pa swyddogaethau eraill bynnag mewn perthynas â'r pwyllgor hwnnw a benderfynir gan y corff llywodraethu o bryd i'w gilydd.
Hawl personau i fynychu cyfarfodydd pwyllgorau
(b) pennaeth yr ysgol, pa un a yw'n aelod o'r pwyllgor ai peidio; (c) clerc y pwyllgor; ac (ch) personau eraill y bo'r corff llywodraethu neu'r pwyllgor yn penderfynu yn eu cylch.
(2) Caiff pwyllgor wahardd aelod nad yw'n llywodraethwr o unrhyw ran o'i gyfarfod y mae ganddo fel arall hawl i'w fynychu pan fo'r busnes o dan ystyriaeth yn ymwneud ag aelod unigol o'r staff neu â disgybl.
(b) cadeirydd y pwyllgor hwnnw, i'r graddau nad yw unrhyw gyfarwyddyd o'r fath yn anghyson ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan is-baragraff (a).
(2) Oni phenodwyd clerc, rhaid i'r cadeirydd gynnull cyfarfodydd pwyllgorau a mae'n rhaid iddo, wrth arfer y swyddogaeth hon, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan y corff llywodraethu.
(b) copi o agenda'r cyfarfod, ac (c) unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill sydd i'w hystyried yn y cyfarfod;
ond bydd yn ddigon pan fo cadeirydd y pwyllgor yn penderfynu hynny, ar y sail bod materion sy'n galw am sylw brys, i'r hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod nodi'r ffaith honno ac i'r hysbysiad, yr agenda, a'r adroddiadau neu'r papurau eraill sydd i'w hystyried yn y cyfarfod gael eu rhoi o fewn cyfnod byrrach yn ôl ei gyfarwyddyd neu ei benderfyniad ef (yn ôl fel y digwydd).
(b) unrhyw ddiffyg wrth benodi unrhyw aelod o'r pwyllgor.
(5) Yn ddarostyngedig i reoliadau 55(5), 56(3) a 57(4), y cworwm ar gyfer cyfarfod o bwyllgor ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o'r fath yw hanner (wedi ei dalgrynnu i fyny i rif cyfan) aelodaeth y pwyllgor heb gynnwys unrhyw leoedd gwag.
(b) cofnodion wedi'u llofnodi o bob cyfarfod o'r fath; ac (c) unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o'r fath.
(2) Caiff y pwyllgor dynnu allan o unrhyw eitem y mae angen trefnu ei fod ar gael yn unol â pharagraff (1) unrhyw ddeunydd yn ymwneud ag—
(b) disgybl yn yr ysgol sy'n cael ei enwi, neu un sy'n gwneud cais am le yn yr ysgol; (c) unrhyw fater arall y mae'r pwyllgor yn fodlon y dylai aros yn gyfrinachol oherwydd ei natur.
Cyfyngiadau ar bersonau rhag cymryd rhan mewn trafodion 63. —(1) Yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 7—
(b) mae unrhyw gyfeiriad at "gyfarfod o'r ysgol" ("meeting of the school") yn gyfeiriad at gyfarfod o'r corff llywodraethu neu o bwyllgor, gan gynnwys panel dethol a sefydlwyd o dan Atodlenni 16 neu 17 i Ddeddf 1998.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4)—
(b) pan fo angen gwrandawiad teg a phan fo unrhyw amheuaeth resymol am allu person perthnasol i weithredu'n ddiduedd mewn perthynas ag unrhyw fater; neu (c) pan fo i berson perthnasol fuddiant ariannol mewn unrhyw fater;
rhaid i'r person hwnnw, os yw'n bresennol mewn cyfarfod o'r ysgol lle mae'r mater yn cael ei ystyried, ddatgelu'r buddiant sydd iddo, mynd allan o'r cyfarfod a pheidio â phleidleisio ar y mater dan sylw.
(ii) clywed sylwadau gan berson perthnasol sy'n gweithredu mewn swyddogaeth ar wahân i swyddogaeth person perthnasol; neu
(b) person perthnasol rhag ymrwymo i gontract â'r corff llywodraethu y mae ganddo hawl i elwa oddi wrtho.
(4) Ni fydd yn ofynnol i berson sy'n gweithredu fel clerc i gyfarfod o'r ysgol fynd allan o gyfarfod yn rhinwedd y rheoliad hwn nac Atodlen 7 oni fo ei benodiad i swydd, ei dâl neu achos disgyblu yn ei erbyn o dan ystyriaeth, ond pe bai'r rheoliad hwn neu Atodlen 7 fel arall wedi ei gwneud yn ofynnol iddo fynd allan, ni chaiff weithredu mewn unrhyw swyddogaeth ac eithrio swyddogaeth clerc. 1. Yn yr Atodlen hon ystyr "awdurdod priodol" ("appropriate authority") yw—
(b) yn ddarostyngedig i baragraff 3, mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig, y corff llywodraethu.
2.
Os yr awdurdod addysg lleol yw'r awdurdod priodol mewn perthynas ag ysgol, caiff yr awdurdod hwnnw ddirprwyo i bennaeth yr ysgol unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan yr Atodlen hon.
(b) mae'n cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ynghylch dyddiadau cymhwyso.
7.
Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir drwy bleidlais gudd.
(b) yn cael gwybod bod ganddo hawl i sefyll fel ymgeisydd a phleidleisio yn yr etholiad; ac (c) yn cael cyfle i wneud hynny.
10.
Rhaid sicrhau'r nifer o riant-lywodraethwyr sy'n ofynnol drwy ychwanegu rhiant-lywodraethwyr a benodir gan y corff llywodraethu, os daw un neu ragor o lefydd ar gyfer rhiant-lywodraethwyr yn wag a naill ai—
(b) bod o leiaf 50 y cant o'r disgyblion cofrestredig yn yr ysgol yn lletywyr ac y byddai, ym marn yr awdurdod priodol, yn anymarferol ethol rhiant-lywodraethwyr; neu (c) yn achos ysgol sy'n ysgol arbennig gymunedol neu'n ysgol arbennig a sefydlwyd mewn ysbyty, y byddai, ym marn yr awdurdod priodol, yn anymarferol ethol rhiant-lywodraethwyr.
11.
—(1) Ac eithrio pan fo paragraff 12 yn gymwys, rhaid i'r corff llywodraethu benodi'n rhiant-lywodraethwr—
(b) pan nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, rhiant plentyn sydd o oedran ysgol gorfodol, neu yn achos ysgol feithrin a gynhelir, sydd o oedran neu o dan oedran ysgol gorfodol.
12.
—(1) Pan fo'r ysgol yn ysgol arbennig gymunedol neu'n ysgol arbennig sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu benodi—
(b) rhiant plentyn sydd o oedran ysgol gorfodol ac sydd ag anghenion addysgol arbennig; neu (c) rhiant person o unrhyw oedran sydd ag anghenion addysgol arbennig; neu (ch) rhiant plentyn o oedran ysgol gorfodol.
(2) Dim ond os nad yw'n rhesymol ymarferol penodi person y cyfeirir ato yn yr is-baragraff sy'n union o'i flaen y caiff y corff llywodraethu benodi person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) (b), (c) neu (ch). 1. Yn yr Atodlen hon mae'r un ystyr i "awdurdod priodol" ("appropriate authority") ag yn Atodlen 1. 2. Os bydd awdurdod addysg lleol yn awdurdod priodol mewn perthynas ag ysgol, caiff yr awdurdod hwnnw ddirprwyo i bennaeth yr ysgol unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan yr Atodlen hon. 3. Yn ddarostyngedig i baragraffau 4 i 6 rhaid i'r awdurdod priodol wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i ethol athro-lywodraethwyr a staff-lywodraethwyr. 4. Yr awdurdod priodol sydd i benderfynu at ddibenion ethol athro-lywodraethwyr neu staff-lywodraethwyr a yw person yn athro neu athrawes ysgol neu'n cael ei gyflogi fel arall i weithio yn yr ysgol. 5. Yn achos y pŵer a roddir gan baragraff 3—
(b) mae'n cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ynghylch dyddiadau cymhwyso, mae'n cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ynghylch dyddiadau cymhwyso.
6.
Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir drwy bleidlais gudd. 1. Pan fo angen llywodraethwr partneriaeth, rhaid i'r corff llywodraethu geisio enwebiadau gan rieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol, a chan bersonau eraill yn y gymuned a wasanaethir gan yr ysgol y credant eu bod yn briodol. 2. Ni chaiff unrhyw berson enwebu i'w benodi, na phenodi, person yn llywodraethwr partneriaeth oni fyddai'r person hwnnw'n gymwys i'w benodi gan y corff llywodraethu yn llywodraethwr cymunedol. 3. —(1) Yn achos ysgol arbennig sefydledig heb sefydliad, rhaid i'r corff llywodraethu benodi o leiaf un person sydd â phrofiad o addysg i blant ag anghenion addysgol arbennig yn llywodraethwr partneriaeth, onid oes diffyg enwebai cymwys sydd â phrofiad o'r fath. (2) Wrth geisio enwebiadau ar gyfer llywodraethwr partneriaeth mewn ysgolion arbennig sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu gymryd camau i sicrhau bod personau sy'n gwneud enwebiadau yn ymwybodol o'r gofyniad ym mharagraff (1). 4. Yn ddarostyngedig i baragraff 5(2), ni chaiff unrhyw lywodraethwr enwebu person i'w benodi'n llywodraethwr partneriaeth. 5. —(1) Rhaid i'r corff llywodraethu benodi'r nifer o lywodraethwyr partneriaeth sydd eu hangen yn ôl yr offeryn llywodraethu o blith enwebeion cymwys. (2) Os yw'r nifer o enwebeion cymwys yn llai na'r nifer o leoedd gwag, ceir cwblhau'r nifer o lywodraethwyr partneriaeth sydd eu hangen â phobl a ddetholir gan y corff llywodraethu. 6. Pan fo'r corff llywodraethu yn gwneud penodiad o dan baragraff 5(2), ar ôl gwrthod unrhyw berson a enwebwyd o dan baragraff 1, rhaid iddo roi rhesymau ysgrifenedig dros ei benderfyniad i'r awdurdod addysg lleol ac i'r person a wrthodwyd. 7. Rhaid i'r corff llywodraethu wneud pob trefniant angenrheidiol ar gyfer enwebu a phenodi llywodraethwyr partneriaeth a phenderfynu ynghylch pob mater arall yn ymwneud â'u henwebu a'u penodi. 1. Yn yr Atodlen hon, ystyr "noddwr" ("sponsor") mewn perthynas ag ysgol yw—
(b) unrhyw berson arall (nad yw wedi ei gynrychioli fel arall ar y corff llywodraethu) sy'n darparu neu sydd wedi darparu gwasanaethau sylweddol i'r ysgol.
2.
Pan fo gan yr ysgol un neu ragor o noddwyr, caiff y corff llywodraethu benderfynu y bydd yr offeryn llywodraethu yn darparu i'r corff llywodraethu benodi'r nifer hwnnw o noddwr-lywodraethwyr, heb fod yn fwy na dau, a enwebir yn unol â pharagraff 3. Cyffredinol 1. Nid yw unrhyw berson yn gymwys i fod yn llywodraethwr onid yw'n 18 oed neu drosodd ar ddyddiad ei ethol neu ei benodi. 2. Ni chaiff unrhyw berson ar unrhyw adeg ddal mwy nag un swydd llywodraethwr yn yr un ysgol. 3. Ac eithrio fel y darperir fel arall yn y rheoliadau hyn, nid yw'r ffaith bod person yn gymwys i'w ethol neu ei benodi'n llywodraethwr o gategori arbennig mewn ysgol yn ei anghymhwyso rhag cael ei ethol neu ei benodi neu rhag parhau'n llywodraethwr o unrhyw gategori arall yn yr ysgol honno. Anhwylder meddyliol 4. Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr ysgol ar unrhyw adeg pan fo'n agored i gael ei gadw'n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983[24] neu o dan unrhyw ail-ddeddfiad neu addasiad deddfwriaethol o'r Ddeddf honno sydd mewn grym o bryd i'w gilydd. Diffyg mynychu cyfarfodydd 5. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw lywodraethwr nad yw'n llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd. (2) Os bydd llywodraethwr heb ganiatâd y corff llywodraethu, wedi methu â mynychu cyfarfodydd y corff am gyfnod di-dor o chwe mis yn cychwyn ar ddyddiad y cyfarfod cyntaf o'i fath y methodd â'i fynychu, bydd y llywodraethwr hwnnw, pan ddaw'r cyfnod hwnnw i ben, wedi ei anghymwyso rhag parhau i ddal swydd llywodraethwr yn yr ysgol honno. (3) Pan fo llywodraethwr wedi anfon ymddiheuriad at glerc y corff llywodraethu cyn cyfarfod nad yw'n bwriadu ei fynychu, rhaid i gofnodion y cyfarfod gofnodi a oedd y corff llywodraethu wedi cytuno i'r absenoldeb ai beidio, a rhaid anfon copi o'r cofnodion at y llywodraethwr dan sylw i'w breswylfa arferol. (4) Nid yw llywodraethwr a anghymhwyswyd rhag bod yn llywodraethwr ysgol o dan is-baragraff (2) yn gymwys i'w enwebu, i'w ethol neu i'w benodi yn llywodraethwr o unrhyw gategori yn yr ysgol honno yn ystod y deuddeg mis cyntaf ar ôl ei anghymwyso o dan is-baragraff (2). Methdalu 6. Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr mewn ysgol—
(b) os yw wedi gwneud compownd neu drefniant â'i gredydwyr, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedaeth i'w gredydwyr, ac yntau heb ei ryddhau mewn perthynas â hynny.
Anghymwyso cyfarwyddwyr cwmnïau
(b) gorchymyn anghymwyso o dan Rhan 2 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1989[26], (c) ymgymeriad anghymwyso a dderbyniwyd o dan Orchymyn Anghymwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 2002[27], (ch) gorchymyn a wnaed o dan adran 429(2)(b) o Ddeddf Methdaliad 1986[28] (methu â thalu o dan orchymyn gweinyddu llys sirol).
Anghymwyso ymddiriedolwyr elusennau
(b) os yw wedi ei ddiswyddo, o dan adran 7 o Ddeddf Diwygio'r Gyfraith (Darpariaethau Amrywiol) (Yr Alban) 1990[29] (pwerau'r Llys Sesiwn i ymdrin â rheoli elusennau), rhag ymwneud â rheoli neu reolaeth ar unrhyw gorff.
Personau y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi
(b) yn destun cyfarwyddyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf 2002; (c) wedi ei anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan adrannau 28 a 29 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000[31]; neu (ch) yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan adran 470 neu adran 471 o Ddeddf 1996[32], wedi ei anghymhwyso rhag bod yn berchennog unrhyw ysgol annibynnol neu rhag bod yn athro neu'n weithiwr cyflog mewn unrhyw ysgol.
Collfarnau troseddol
(b) ers ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr neu, yn ôl fel y digwydd, ers iddo ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd,
wedi ei gael yn euog, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar (pa un a yw'r ddedfryd yn ataliedig ai peidio) am gyfnod nad yw'n llai na thri mis heb fod dewis talu dirwy.
(b) ers ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr neu, yn ôl fel y digwydd, ers iddo ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd,
wedi ei gael yn euog o dan adran 547 o Ddeddf 1996[33] neu o dan adran 85A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[34] (niwsans neu aflonyddwch ar safle addysgol) o drosedd ac wedi ei ddedfrydu i dalu dirwy.
(b) mae'n llywodraethwr neu bwriedir ei fod yn llywodraethwr,
rhaid iddo roi gwybod i glerc y corff llywodraethu am y ffaith honno. 1. Yn yr Atodlen hon—
2.
Ar y dyddiad y daw offeryn llywodraethu a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn yn effeithiol, neu ar ôl y dyddiad hwnnw, bydd llywodraethwr cyfredol yn parhau'n llywodraethwr yn y categori cyfatebol o lywodraethwr sy'n ofynnol o dan yr offeryn llywodraethu, fel pe bai wedi'i benodi neu ei ethol i gategori o'r fath yn unol â'r Rheoliadau hyn, hyd yn oed os nad yw'n cydymffurfio â'r gofynion perthnasol a osodir gan y Rheoliadau hyn ar gyfer llywodraethwr yn y categori hwnnw.
4. Bydd llywodraethwr cyfredol yn dal swydd llywodraethwr yn y categori cyfatebol o lywodraethwr o dan y Rheoliadau hyn hyd nes—
(b) y bydd yn ymddiswyddo, (c) y caiff ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr o dan y Rheoliadau hyn, neu (ch) 31 Awst 2008
pa un bynnag yw'r cynharaf.
(b) cael ei ddiswyddo o dan reoliadau 27 i 29.
6.
Wrth gyfrifo'r nifer o lywodraethwyr sy'n ofynnol ym mhob categori o dan yr offeryn llywodraethu, rhaid cynnwys llywodraethwr cyfredol a fydd yn parhau'n llywodraethwr wedi i offeryn llywodraethu a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn ddod i rym. Buddiannau ariannol 1. —(1) At ddibenion rheoliad 63(2), mae buddiant ariannol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall yn cynnwys achos—
(b) pan fo person perthnasol yn bartner i berson y gwnaed y contract ag ef neu y bwriedir gwneud y contract ag ef; neu (c) pan fo gan berthynas i berson perthnasol (gan gynnwys ei briod, ei bartner sifil o fewn ystyr "civil partner" yn Neddf Partneriaethau Sifil 2004[37] neu rywun sy'n byw gyda'r person hwnnw fel petai'n briod neu'n bartner sifil iddo), a'r person hwnnw'n gwybod hynny, fuddiant o'r fath neu y câi ei drin fel petai ganddo fuddiant o'r fath.
(2) At ddibenion rheoliad 63(2) ni chaiff person perthnasol ei drin fel petai iddo fuddiant ariannol mewn unrhyw fater—
(b) yn unig oherwydd iddo gael ei enwebu neu ei benodi i'r swydd gan unrhyw gorff cyhoeddus, neu ei fod yn aelod o gorff o'r fath, neu'n cael ei gyflogi gan gorff o'r fath; neu (c) yn unig oherwydd ei fod yn aelod o gorfforaeth neu gorff arall os nad oes iddo unrhyw fuddiant ariannol mewn unrhyw warantau o eiddo'r gorfforaeth honno neu gorff arall.
(3) Ni rwystrir llywodraethwr, oherwydd ei fuddiant ariannol yn y mater, rhag ystyried a phleidleisio ynghylch cynigion i'r corff llywodraethu gymryd yswiriant i ddiogelu'r aelodau rhag rhwymedigaethau yr ânt iddynt sy'n deillio o'u swydd, ac ni rwystrir y corff llywodraethu, oherwydd buddiannau ariannol ei aelodau, rhag sicrhau yswiriant o'r fath a thalu'r premiymau.
(b) ei benodiad neu ei ddiswyddiad ei hun fel clerc, cadeirydd neu is-gadeirydd y corff llywodraethu neu fel clerc neu gadeirydd pwyllgor; (c) os yw'n noddwr-lywodraethwr, unrhyw benderfyniad o dan baragraff 2 o Atodlen 4 ynghylch y ddarpariaeth yn yr offeryn llywodraethu ar gyfer noddwr-lywodraethwyr.
(2) Mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, ymdrinir â buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 63(2) fel pe baent yn gwrthdaro â buddiannau'r corff llywodraethu. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r trefniadau newydd ar gyfer cyfansoddiad cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, gan gynnwys ysgolion meithrin a gynhelir, yng Nghymru. Ar ôl 31 Hydref 2005, rhaid i gyfansoddiad corff llywodraethu pob ysgol newydd gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Ar ôl 1 Medi 2008, rhaid i gyfansoddiad pob corff llywodraethu sy'n bodoli eisoes gydymffurfio â'r rheoliadau hyn, ond tan y dyddiad hwnnw gallant ddewis naill ai cadw eu hofferynnau llywodraethu presennol ynteu fabwysiadu offeryn llywodraethu newydd yn unol â'r Rheoliadau hyn. Mae Rhan 1 yn darparu i'r Rheoliadau ddod i rym ar 31 Hydref 2005 a 1 Ionawr 2006, yn nodi'r Rheoliadau sydd i gael eu dirymu neu eu diwygio (yn bennaf Rhannau I i III a Rhan VIII o Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) OS 1999/2242 (Cy. 2)) ac yn cynnwys y darpariaethau dehongli. Mae Rhan 2 yn disgrifio'r gwahanol gategorïau o lywodraethwyr. Mae rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn ymdrin â rhiant-lywodraethwyr ac yn nodi ar ba sail y gall unigolyn fod yn gymwys i sefyll i'w ethol ac i bleidleisio dros riant-lywodraethwr neu gael ei benodi'n rhiant-lywodraethwr. Mae rheoliad 5 yn ymdrin ag athro-lywodraethwyr a rheoliad 6 â staff-lywodraethwyr nad ydynt yn athrawon. Mae'r pennaeth yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd ond gall ymddiswyddo o fod yn llywodraethwr (neu dynnu ei ymddiswyddiad yn ôl) ar unrhyw adeg. Mae Atodlen 2 yn ymdrin â'r broses o ethol athro-lywodraethwyr a staff-lywodraethwyr. Mae rheoliad 7 yn ymdrin â phenodi llywodraethwyr AALl. Mae rheoliad 8 yn nodi pwy sy'n gymwys i gael ei benodi'n llywodraethwr cymunedol. Mae rheoliad 9 yn ymdrin â phenodi llywodraethwyr sefydledig, gan gynnwys llywodraethwyr sefydledig ex officio a dirprwy lywodraethwyr. Mae rheoliad 10 ac Atodlen 3 yn ymdrin â'r broses enwebu ar gyfer llywodraethwyr partneriaeth, ac â'u penodi. Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer penodi noddwr-lywodraethwyr ac Atodlen 4 yn ymdrin â'r broses ar gyfer eu penodi. Mae rheoliad 12 a pharagraffau (4) a (5) o reoliad 15 yn darparu ar gyfer llywodraethwyr cynrychioliadol mewn ysgolion arbennig cymunedol. Mae Rhan 3 yn nodi'r egwyddorion cyffredinol a fydd yn penderfynu maint ag aelodaeth cyrff llywodraethu ysgolion. Mae rheoliadau 13 hyd 19 yn nodi'r gofynion penodol ar gyfer cyfansoddiad cyrff llywodraethu pob categori o ysgol. Mae rheoliad 20 yn gwneud darpariaeth ar gyfer llywodraethwyr cymunedol ychwanegol ar gyfer ysgolion cynradd cymunedol a gwirfoddol ac ysgolion meithrin a gynhelir sy'n gwasanaethu ardaloedd lle ceir un neu ragor o gynghorau cymuned. Mae rheoliad 21 yn nodi'r gofynion y mae'n rhaid i berson sy'n dymuno arfer y pŵer o enwebu neu benodi llywodraethwr eu dilyn. Os bydd unrhyw anghydfod rhwng personau y mae ganddynt hawl ar y cyd i enwebu neu benodi llywodraethwr, gwneir y penodiad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru dan reoliad 22. Mae rheoliad 23 yn gwneud darpariaeth ar gyfer diswyddo llywodraethwyr pan fydd gormod ohonynt. Mae Rhan 4 yn ymdrin â chymwysterau a chyfnod swyddi. Mae rheoliad 24 ac Atodlen 5 yn nodi'r amgylchiadau pan fydd llywodraethwr yn cael ei anghymwyso rhag sefyll i'w ethol, cael ei benodi neu barhau mewn swydd fel llywodraethwr. Mae rheoliad 25 yn darparu mai 4 blynedd fydd uchafswm cyfnod swydd llywodraethwr (â rhai eithriadau). Os digwydd bod llywodraethwr sefydledig ex officio yn methu ag ymgymryd â'i swydd neu'n anfodlon gwneud hynny, gellir penodi dirprwy lywodraethwr. Mae rheoliad 26 yn nodi'r weithdrefn ar gyfer ymddiswyddo fel llywodraethwr. Mae rheoliadau 27 i 29 yn darparu ar gyfer diswyddo llywodraethwyr sydd wedi eu penodi (yn hytrach na'u hethol) i'w swyddi. Mae Rhan 5 yn ymdrin â'r weithdrefn ar gyfer gwneud, adolygu ac amrywio offerynnau llywodraethu a chynnwys offerynnau. Bydd offeryn llywodraethu cyntaf ysgol feithrin a gynhelir yn cael ei baratoi a'i wneud gan yr AALl. Mae rheoliad 32 yn nodi'r ddyletswydd i ystyried canllawiau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn hyn o beth. Mae rheoliad 36 yn nodi'r ddyletswydd i ddarparu copïau o'r offeryn llywodraethu i bob aelod o'r corff llywodraethu, y pennaeth, ymddiriedolwyr yr ysgol (os oes rhai) a'r awdurdod esgobaethol neu gorff crefyddol priodol arall (yn achos ysgolion ffydd). Mae rheoliad 37 yn gosod dyletswydd ar AALl i sicrhau bod gan bob ysgol a gynhelir ganddynt offeryn llywodraethu sy'n cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn erbyn 31 Mawrth 2006 yn achos ysgol feithrin a 31 Awst 2008 yn achos ysgolion eraill. Mae Rhan 6 ac Atodlen 6 yn galluogi llywodraethwyr a benodwyd neu a etholwyd i'w swyddi cyn neu ar 31 Hydref 2005 i barhau mewn swydd pan ddaw offeryn llywodraethu a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn i rym. Mae Rhan 7 yn ymdrin â phenodi a diswyddo swyddogion y corff llywodraethu, ac â'u swyddogaethau. Mae rheoliad 40 yn ymdrin â dirprwyo swyddogaethau i'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd mewn achosion brys. O dan reoliad 42 mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu benodi clerc i'r corff llywodraethu, ac mae gan y corff llywodraethu y pwer i ddiswyddo'r clerc ar unrhyw adeg. Mae rheoliad 43 yn nodi swyddogaethau clerc y corff llywodraethu. Mae Rhan 8 yn darparu ar gyfer cyfarfodydd a thrafodion y corff llywodraethu. Mae'r Rhan hon yn cynnwys darpariaethau ar gyfer mynediad i gyfarfodydd, cynnull cyfarfodydd, cworwm, cofnodion a chyhoeddi cofnodion. Rhaid i benderfyniadau ar bob mater gael eu gwneud drwy bleidlais mwyafrif y llywodraethwyr. Mae rheoliad 49 yn nodi'r amgylchiadau y gellir atal llywodraethwr rhag dod i gyfarfodydd am hyd at 6 mis. Mae rheoliadau 50 hyd 52 yn ymwneud â dirprwyo swyddogaethau corff llywodraethu. Mae Rhan 9 yn ymdrin â sefydlu pwyllgorau cyrff llywodraethu ac â thrafodion pwyllgorau o'r fath, gan gynnwys trefniadau clercio, cynnull cyfarfodydd, cworwm, pleidleisio a chyhoeddi cofnodion. Mae Rhan 10 ac Atodlen 7 yn ymdrin â gwrthdaro rhwng buddiannau a'r amgylchiadau pan fo'n rhaid i lywodraethwyr ac eraill sydd fel arall â hawl i fynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu neu ei bwyllgorau fynd allan a pheidio â phleidleisio. Yr egwyddor gyffredinol yw pan fo gwrthdaro rhwng buddiannau person o'r fath a buddiannau'r corff llywodraethu, neu pan fo egwyddorion cyfiawnder naturiol yn mynnu gwrandawiad teg a phan fo unrhyw amheuaeth resymol ynghylch gallu'r person hwnnw i weithredu'n ddiduedd, y dylai fynd allan o'r cyfarfod a pheidio â phleidleisio. Paratowyd arfarniad rheoliadol o'r Rheoliadau hyn a gellir ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Mae modd cael copïau o Is-adran Rheolaeth Ysgolion yr Adran Hyfforddiant ac Addysg, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Notes: [1] 2002 p..32.back [2] O.S. 1998/2763, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/362, 1999/2242 (Cy.2), 2001/2263 (Cy.164).back [3] O.S. 1999/2242 (Cy. 2) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/2263 (Cy.164) .back [4] O.S. 1999/2243; diwygir y rheoliad hwn hefyd gan reoliad 8 yn Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol etc (Cymru) 2005, O.S. 2005/2913 (Cy. 210).back [8] Fel y dynodir drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998. Gweler Gorchymyn Dynodi Ysgolion sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 1999, O.S. 1999/1814 a Gorchymyn Dynodi Ysgolion sydd â Chymeriad Crefyddol a Diwygiadau (Cymru) 2004, O.S. 2004/1734 (Cy. 177).back [9] Diwygiwyd gan adran 56 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 5 iddi.back [10] Rhoddwyd i mewn yn rhagolygol gan adran 57 o Ddeddf 2002.back [11] Diwygiwyd gan adran 56 o Ddeddf 2002.back [12] Rhoddwyd i mewn yn rhagolygol gan adran 58 o Ddeddf 2002.back [13] Diwygiwyd gan adran 56 o Ddeddf 2002.back [14] Gweler adran 39(2) o Ddeddf 2002.back [15] Gweler adran 20(1) o Ddeddf 2002 a rheoliad 22.back [16] O.S. 1998/2535 fel y'i diwygiwyd mewn perthynas â Chymru gan O.S. 1999/2243.back [17] O.S. 2000/3027 (Cy. 195) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1396 (Cy. 138).back [18] Diwygiwyd gan adran 154 o Ddeddf 2002.back [19] Diwygiwyd gan baragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf 2002.back [20] Rhoddwyd i mewn gan adran 47(2) o Ddeddf 2002. Noder hefyd y diddymir adran 93 o, ac Atodlen 23 i, Ddeddf 1998 gan Ddeddf 2002.back [21] Diwygiwyd gan adran 50 o, a pharagraff 8 o Atodlen 4 i, Ddeddf 2002.back [22] Gweler y Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003, O.S. 2003/3227 (Cy. 308) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1805 (Cy. 193).back [29] 1990 p.40; trosglwyddwyd swyddogaethau'r Arglwydd Adfocad o dan yr adran hon i'r Ysgrifennydd Gwladol drwy Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (yr Arglwydd Adfocad a'r Ysgrifennydd Gwladol) 1999 (O.S. 1999/678).back [30] 1999 p.14; fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (2000 p.14).back [32] Wedi'i diddymu gan Ddeddf 2002.back [33] Fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1998 a chan adran 206 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 20 iddi.back [34] 1992 p.13; a roddwyd i mewn gan adran 206 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 20 iddi.back [35] O.S. 2005/2912 (Cy. 209).back [36] 1997 c.50; fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Amddiffyn Plant 1999, Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf 2002.back [38] O.S. 2005/2915 (Cy. 212).back
ISBN 0 11 091202 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 31 October 2005 |