Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 2005, ISBN 0110912004. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 72(1) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac adrannau 34(5) a (6), 210(7) a 214 o Ddeddf Addysg 2002[2], yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Hydref 2005 (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru. Dirymu, arbedion a darpariaethau trosiannol 2. —(1) Mae Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion Newydd wrth Drosi i Fframwaith Newydd) 1998[3] yn cael eu dirymu mewn perthynas â Chymru. (2) Mae Rhannau I i V, VII ac VIII o Reoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999[4] ("Rheoliadau 1999") yn cael eu dirymu heblaw fel y darperir ym mharagraffau (3) a (4). (3) Bydd Rhan I o Reoliadau 1999 yn dal yn effeithiol i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan VI. (4) Bydd Rhannau I i IV o Reoliadau 1999 yn dal yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw gorff llywodraethu dros dro a sefydlir cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym. Dehongli 3. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at ysgol y mae ganddi gyllideb ddirprwyedig i'w dehongli yn unol ag adran 39(2) o Ddeddf 2002.
(b) mae "dros dro" yn cael ei fewnosod ar ôl y geiriau "corff llywodraethu", "llywodraethwr" a "swydd llywodraethwr"; (c) mae cyfeiriadau at gategori penodol o lywodraethwr i'w darllen fel cyfeiriadau at y categorïau cyfatebol o lywodraethwr dros dro sydd wedi'u nodi yn Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn; ac (ch) mae cyfeiriadau at bennaeth i gynnwys person sydd wedi'i benodi'n bennaeth ysgol newydd ond sydd heb ymgymryd â'r swydd eto.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn—
(b) at gorff llywodraethu dros dro yn gyfeiriad at gorff llywodraethu dros dro unrhyw ysgol neu ysgol arfaethedig y mae'r ddarpariaeth yn gymwys mewn perthynas â hi; (c) at lywodraethwr dros dro o gategori penodol i'w ddehongli yn unol â Rhan 3.
(5) Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn—
(b) at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddynt; (c) at is-baragraff â rhif yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y paragraff y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddo.
Cyflwyno hysbysiadau Trefniadau a wneir gan rag-weld y caiff cynigion eu cymeradwyo 5. —(1) Os oes unrhyw gynigion i sefydlu ysgol a gynhelir wedi'u cyhoeddi o dan unrhyw ddeddfiad[9], caiff yr awdurdod addysg lleol wneud trefniadau o dan adran 34 o Ddeddf 2002 gan rag-weld y caiff y cynigion eu cymeradwyo[10] neu gan rag-weld y bydd yr awdurdod yn penderfynu y dylai'r cynigion gael eu rhoi ar waith [11]. (2) Os yw'r cynigion yn gynigion i sefydlu ysgol wirfoddol a reolir, rhaid i'r awdurdod addysg lleol ymgynghori â'r hyrwyddwyr—
(b) os yw'r awdurdod addysg lleol yn bwriadu arfer y pŵer, ynghylch y dyddiad y dylai'r trefniadau gael eu gwneud arno.
(3) Os yw'r cynigion yn gynigion i sefydlu ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol sefydledig, rhaid i'r awdurdod addysg lleol a'r hyrwyddwyr ystyried—
(b) os ydyn nhw'n cytuno y dylai gael ei arfer, ar ba ddyddiad y dylai'r trefniadau gael eu gwneud.
(4) Mewn achos o fewn paragraff (3), os yw'r awdurdod addysg lleol a'r hyrwyddwyr yn methu â chytuno ar y cwestiwn y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) neu'r cwestiwn y cyfeirir ato yn is-baragraff (b), caiff y naill neu'r llall ohonynt gyfeirio'r mater at Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac ar gyfeiriad o dan y paragraff hwn rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi unrhyw gyfarwyddyd y mae'n credu ei fod yn addas.
(b) os caiff y cynigion eu gwrthod o dan baragraff 8 o Atodlen 6 neu baragraff 14 o Atodlen 7 i Ddeddf 1998; (c) yn achos cynigion nad oes angen eu cymeradwyo o dan baragraff 8 o Atodlen 6 i Ddeddf 1998, os yw'r corff neu'r hyrwyddwyr y cyhoeddwyd y cynigion ganddynt yn penderfynu o dan baragraff 9 o Atodlen 6 i Ddeddf 1998 na ddylid eu rhoi ar waith; neu (ch) os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n penderfynu o dan baragraff 10(3) o Atodlen 6 i Ddeddf 1998 na ddylai paragraff 10(1) o'r Atodlen honno fod yn gymwys i'r cynigion mwyach.
Dehongli'r Rhan hon 8. Yn y Rhan hon—
(b) ystyr "yr ail achos" yw achos ysgol newydd sydd neu a fydd yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol sefydledig y cafodd y cynigion ar gyfer ei sefydlu eu cyhoeddi gan hyrwyddwyr.
Rhiant-lywodraethwyr dros dro
(b) gan yr hyrwyddwyr, yn yr ail achos.
(2) Os oes un neu fwy o ysgolion a gynhelir wedi'u cau, neu i'w cau ("yr ysgolion a gaewyd"), ac y disgwylir i ddisgyblion cofrestredig yr ysgol honno neu'r ysgolion hynny, neu nifer sylweddol o'r disgyblion hynny, drosglwyddo i ysgol newydd, fe gaiff
(b) yr hyrwyddwyr, yn yr ail achos,
ddarparu i gorff llywodraethu yr ysgol neu'r ysgolion a gaewyd benodi rhai neu'r cyfan o riant-lywodraethwyr dros dro yr ysgol newydd.
(b) os nad yw'n rhesymol ymarferol penodi person o'r fath, ei fod yn rhiant i blentyn o oedran ysgol gorfodol, neu yn achos ysgol feithrin a gynhelir newydd rhiant i blentyn o oedran neu o dan ysgol gorfodol.
(5) Ni chaniateir i neb gael ei benodi'n rhiant-lywodraethwr dros dro ysgol sydd neu a fydd yn ysgol gymunedol arbennig neu'n ysgol sefydledig arbennig sydd heb gael ei sefydlu mewn ysbyty oni bai ei fod—
(b) yn rhiant i blentyn o oedran ysgol gorfodol sydd ag anghenion addysgol arbennig; (c) yn rhiant i berson o unrhyw oedran sydd ag anghenion addysgol arbennig; neu (ch) yn rhiant i blentyn o ysgol oedran gorfodol.
(6) Dim ond os nad yw'n rhesymol ymarferol penodi person y cyfeirir ato yn y ddarpariaeth yn yr is-baragraff yn union o'i flaen y ceir penodi person y cyfeirir ato yn is-baragraffau (b), (c) neu (ch) o baragraff (5).
(b) yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod addysg lleol mewn cysylltiad â'i swyddogaethau fel awdurdod addysg lleol; neu (c) yn cael ei dalu, neu'n debyg o gael ei dalu, i weithio yn yr ysgol am fwy na 500 o oriau mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau ar 1 Awst ac yn dod i ben ar 31 Gorffennaf.
(8) Nid anghymhwysir person rhag parhau i ddal swydd rhiant-lywodraethwr dros dro pan yw'n peidio â bodloni unrhyw un o'r gofynion a nodwyd ym mharagraffau (5) a (6), oni bai ei fod wedi'i anghymhwyso o dan y Rheoliadau hyn mewn ffordd arall.
(b) penodi staff-lywodraethwr dros dro.
(3) Ni chaniateir i neb gael ei benodi o dan baragraff (2) oni bai ei fod wedi'i gyflogi i weithio mewn ysgol a gynhelir, heblaw fel athro neu athrawes ysgol, ar yr adeg y caiff ei benodi.
(b) yr hyrwyddwyr, yn yr ail achos,
ddarparu i gorff llywodraethu yr ysgol neu'r ysgolion a gaewyd benodi rhai neu'r cyfan o athro-lywodraethwyr dros dro yr ysgol newydd.
(b) yn berson sydd, ym marn y corff llywodraethu dros dro, wedi ymroi i lywodraeth dda a llwyddiant yr ysgol newydd.
(2) Anghymhwysir person rhag cael ei benodi'n llywodraethwr cymunedol dros dro os yw:
(b) yn gymwys i fod yn staff-lywodraethwr dros dro neu'n athro-lywodraethwr dros dro yn yr ysgol newydd; neu (c) yn aelod etholedig o'r awdurdod addysg lleol.
Llywodraethwyr cymunedol ychwanegol dros dro
(b) os oes neu os bydd gan yr ysgol newydd weithred ymddiriedolaeth, wedi'i benodi er mwyn sicrhau bod yr ysgol newydd yn cael ei sefydlu a'i rhedeg yn unol â'r weithred honno; neu (c) os nad oes neu os na fydd gan yr ysgol newydd na chymeriad crefyddol penodol na gweithred ymddiriedolaeth, wedi'i benodi yn llywodraethwr sefydledig dros dro i'r ysgol newydd.
(2) "Llywodraethwr sefydledig dros dro ex officio" yw llywodraethwr sefydledig dros dro sy'n ddeiliaid swydd y mae ganddo hawl i fod yn llywodraethwr sefydledig dros dro yn rhinwedd y swydd honno.
(b) mewn unrhyw achos arall, person sydd wedi'i enwebu yn llywodraethwr o'r fath gan yr hyrwyddwyr ac wedi'i benodi'n llywodraethwr o'r fath gan yr awdurdod addysg lleol.
(2) Rhaid i berson sy'n enwebu person i'w benodi'n llywodraethwr partneriaeth dros dro, neu sy'n penodi person yn llywodraethwr partneriaeth dros dro fod wedi'i fodloni ei bod yn ymddangos bod y sawl sydd wedi'i enwebu neu wedi'i benodi—
(b) wedi ymroi i lywodraeth dda a llwyddiant yr ysgol.
(3) Anghymhwysir person rhag cael ei enwebu neu ei benodi'n llywodraethwr partneriaeth dros dro ysgol newydd os yw:
(b) yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol newydd neu'n debyg o ddod yn ddisgybl cofrestredig ynddi; (c) yn gymwys i fod yn staff-lywodraethwr dros dro neu'n athro-lywodraethwr dros dro yn yr ysgol newydd; (ch) yn aelod etholedig o'r awdurdod addysg lleol; neu (d) wedi'i gyflogi gan yr awdurdod addysg lleol mewn cysylltiad â'i swyddogaethau fel awdurdod addysg lleol.
Llywodraethwyr cynrychioliadol dros dro
(b) unrhyw berson arall (nad yw fel arall wedi'i gynrychioli ar y corff llywodraethu) sy'n rhoi neu sydd wedi rhoi gwasanaethau sylweddol i'r ysgol.
(3) Os oes gan ysgol newydd un neu fwy o noddwyr, caiff y corff llywodraethu dros dro benodi un neu ddau o noddwr-lywodraethwyr dros dro, wedi'u henwebu yn unol â pharagraff (4).
(b) mewn achos lle disgwylir i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol sydd wedi'i chau neu sydd i'w chau drosglwyddo i ysgol newydd y mae'r penodiad yn ymwneud â hi, os yw wedi gwasanaethu fel llywodraethwr neu lywodraethwr dros dro yn yr ysgol sydd wedi'i chau neu sydd i'w chau.
Cyd-benodi Cymhwyso'r Rheoliadau Llywodraethu 21. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd gael ei gyfansoddi yn unol â'r rhai hynny o reoliadau 13 i 20 o'r Rheoliadau Llywodraethu sy'n gymwys, o roi sylw i gategori'r ysgol neu'r ysgol arfaethedig, ac eithrio bod dim ond angen cynnwys staff-lywodraethwyr ar gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd os yw'r awdurdod addysg lleol neu'r hyrwyddwyr, yn ôl fel y digwydd, wedi penderfynu felly yn unol â rheoliad 10(2)(a). (2) Os yw'r rhai hynny o reoliadau 13 i 20 o'r Rheoliadau Llywodraethu, fel sy'n gymwys, yn darparu ar gyfer disgresiwn ynghylch nifer y llywodraethwyr o gategori penodol sydd i'w cynnwys ar gorff llywodraethu, rhaid i nifer y llywodraethwyr dros dro o'r categori cyfatebol sydd i'w cynnwys ar y corff llywodraethu dros dro fod y nifer isaf a ganiateir o dan y darpariaethau hynny. (3) At ddibenion cyfrifo nifer y llywodraethwyr sefydledig dros dro y mae eu hangen mewn ysgol wirfoddol a gynorthwyir rhaid cymryd bod pennaeth wedi'i benodi ac yn aelod o'r corff llywodraethu dros dro. (4) Er mwyn cyfansoddi corff llywodraethu dros dro, mae'r Rheoliadau Llywodraethu yn gymwys yn ddarostyngedig i'r addasiadau cyffredinol a'r addasiadau canlynol—
(b) mae'r cyfeiriad yn rheoliad 15(5) o'r Rheoliadau Llywodraethu at "materion y trefnir yr ysgol yn arbennig ar eu cyfer" i'w drin fel cyfeiriad at y materion y bwriedir i'r ysgol gael ei threfnu'n arbennig ar eu cyfer; (c) nid yw rheoliad 19(4) o'r Rheoliadau Llywodraethu yn gymwys; ac (ch) mewn perthynas â chyfansoddiad corff llywodraethu dros dro ysgol newydd, caiff yr ysgol newydd ei thrin fel pe bai ganddi fel disgyblion cofrestredig y nifer hwnnw o ddisgyblion sydd wedi'i bennu ar sail y cynigion ar gyfer sefydlu'r ysgol.
Ymddiswyddo 22. —(1) Caiff unrhyw aelod o gorff llywodraethu dros dro ymddiswyddo o'i swydd llywodraethwr drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc corff llywodraethu dros dro yr ysgol. (2) Caiff llywodraethwr sefydledig dros dro ex officio ymddiswyddo fel llywodraethwr dros dro naill ai'n barhaol neu dros dro ond ni fydd ei ymddiswyddiad yn rhagfarnu swydd llywodraethwr dros dro ei olynydd yn y swydd y mae'r swydd llywodraethwr dros dro ex officio yn deillio ohoni. (3) Caiff y pennaeth dynnu ei ymddiswyddiad yn ôl unrhyw bryd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu dros dro. Diswyddo 23. —(1) Caniateir i unrhyw lywodraethwr dros dro ysgol newydd gael ei ddiswyddo gan y person neu'r personau a'i penododd (2) Yn achos diswyddo llywodraethwr dros dro a grybwyllir yn rheoliad 24(1), rhaid i'r corff llywodraethu ddilyn y weithdrefn a nodir yn y rheoliad hwnnw, ac ym mhob achos arall rhaid i'r person sy'n diswyddo'r llywodraethwr dros dro roi hysbysiad ysgrifenedig ynglŷn â hynny i glerc y corff llywodraethu dros dro ac i'r llywodraethwr sy'n cael ei ddiswyddo fel hyn. Y weithdrefn ar gyfer diswyddo llywodraethwyr dros dro gan y corff llywodraethu dros dro 24. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â diswyddo:
(b) athro-lywodraethwr dros dro sydd wedi'i benodi gan y corff llywodraethu dros dro, neu (c) noddwr-lywodraethwr dros dro.
(2) Ni fydd penderfyniad i ddiswyddo llywodraethwr dros dro sy'n cael ei basio yn un o gyfarfodydd y corff llywodraethu dros dro yn effeithiol oni bai—
(b) bod mater diswyddo'r llywodraethwr dros dro wedi'i bennu fel eitem o fusnes ar agenda'r cyfarfod.
(3) Ar ôl i benderfyniad i ddiswyddo llywodraethwr gael ei basio, rhaid i'r corff llywodraethu dros dro roi gwybod mewn ysgrifen i'r person sydd wedi'i ddiswyddo am y rhesymau dros y diswyddo. Dehongli Rhan 6 a'i chymhwyso 28. Yn y Rhan hon, ystyr "ysgol arfaethedig" yw ysgol nad yw wedi agor eto ac y mae corff llywodraethu dros dro ar ei chyfer wedi'i gyfansoddi yn unol â threfniadau o dan adran 34 o Ddeddf 2002. 29. Nid yw'r Rhan hon yn gymwys i unrhyw bwyllgor sydd wedi'i sefydlu gan y corff llywodraethu dros dro i arfer swyddogaethau sy'n ymwneud â phenodi, cwynion, ymddygiad a disgyblaeth, gallu, atal neu ddiswyddo aelodau unigol o staff yr ysgol. Rhedeg yr ysgol cyn dyddiad agor yr ysgol 30. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae adran 61 o Ddeddf 1998 ac adrannau 27 a 28 o Ddeddf 2002, ac Atodlen 1 iddi yn gymwys mewn perthynas ag ysgol arfaethedig[13] gyda'r addasiadau canlynol—
(b) mae cyfeiriadau at ysgol a gynhelir i'w trin fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad at ysgol a gynhelir arfaethedig; (c) mae cyfeiriadau at yr offeryn llywodraethu i'w trin fel cyfeiriadau at yr offeryn llywodraeth p'un a yw wedi dod yn effeithiol neu beidio; ac (ch) nid yw adrannau 61(3)(b) a (7) o Ddeddf 1998 a pharagraff 2(2) a (3) o Atodlen 1 i Ddeddf 2002 yn gymwys.
(2) Ni chaiff corff llywodraethu dros dro ysgol arfaethedig nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig arfer unrhyw rai o'r pwerau a nodir ym mharagraff 3 (3)(b) i (f) o Atodlen 1 i Ddeddf 2002 (fel y'i haddaswyd) heb yn gyntaf cael cytundeb ysgrifenedig—
(b) yr hyrwyddwyr yn achos ysgol arfaethedig a fydd yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol sefydledig y cafodd y cynigion ar gyfer ei sefydlu eu cyhoeddi gan hyrwyddwyr.
Rhedeg yr ysgol ar neu ar ôl dyddiad agor yr ysgol
(b) sy'n dod i ben gyda'r amser y caiff y corff llywodraethu ei gyfansoddi ar gyfer yr ysgol o dan offeryn llywodraethu,
mae Atodlen 1 i Ddeddf 2002 yn gymwys[14] gyda'r addasiadau sydd wedi'u nodi ym mharagraff (2).
(b) ym mharagraff 2(1) o Atodlen 1 i Ddeddf 2002, hepgorer y geiriau "as for the time being set out in the school's instrument of government"; ac (c) nid yw paragraff 2(2) a (3) o Atodlen 1 i Ddeddf 2002 yn gymwys.
Cyflawni dogfennau gan y corff llywodraethu dros dro
(b) rhaid i'r corff llywodraethu dros dro benderfynu amserau sesiynau'r ysgol ar ôl ymgynghori â'r awdurdod addysg lleol.
(2) Yn achos ysgol arfaethedig a fydd yn ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol arbennig sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu dros dro benderfynu—
(b) ar amserau sesiynau'r ysgol.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr "amserau sesiynau'r ysgol" yw'r amserau y mae pob un o sesiynau'r ysgol (neu, os nad oes ond un, y mae sesiwn yr ysgol) i ddechrau ac i ddod i ben ar unrhyw ddiwrnod.
(b) rhaid i'r pennaeth roi copi i'r corff llywodraethu dros dro o unrhyw adroddiad a wneir ganddo wrth gydymffurfio â'r gofyniad.
Ymgynghori ar wariant awdurdod addysg lleol Penodi swyddogion, eu swyddogaethau a'u diswyddo 37. Mae Rhan 7 o'r Rheoliadau Llywodraethu yn gymwys i ysgolion newydd yn ddarostyngedig i'r addasiadau cyffredinol a rheoliadau 38 a 39. 38. —(1) Yr awdurdod addysg lleol sydd i benodi clerc cyntaf corff llywodraethu dros dro ysgol newydd a fydd yn ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir, neu ysgol arbennig gymunedol, neu ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig y cafodd y cynigion i'w sefydlu eu cyhoeddi gan yr awdurdod addysg lleol. (2) Hyrwyddwyr yr ysgol sydd i benodi clerc cyntaf corff llywodraethu dros dro ysgol newydd a fydd yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu'n ysgol sefydledig neu'n ysgol arbennig sefydledig y cafodd y cynigion i'w sefydlu eu cyhoeddi gan hyrwyddwyr. 39. —(1) Y clerc sydd i alw cyfarfod cyntaf corff llywodraethu dros dro. (2) Rhaid i'r corff llywodraethu dros dro ethol cadeirydd ac is-gadeirydd yn y cyfarfod cyntaf hwnnw. (3) Os yw'r clerc yn methu â galw cyfarfod o fewn unrhyw gyfnod sy'n rhesymol ym marn yr awdurdod addysg lleol, rhaid i'r awdurdod addysg lleol ei alw. Cyfarfodydd a thrafodion cyrff llywodraethu dros dro 40. —(1) Mae Rhan 8 o'r Rheoliadau Llywodraethu yn gymwys i ysgolion newydd yn ddarostyngedig i'r addasiadau cyffredinol ac i baragraff (2). (2) Os yw dwy neu fwy o ysgolion i'w cau ("yr ysgolion sydd i'w cau") a disgwylir y bydd y disgyblion cofrestredig yn yr ysgolion hynny, neu nifer sylweddol ohonynt, yn trosglwyddo i ysgol newydd, mae gan benaethiaid yr ysgolion hynny sydd i'w cau yr hawl i fynychu unrhyw gyfarfod corff llywodraethu dros dro'r ysgol newydd hyd nes y penodir pennaeth newydd ar gyfer yr ysgol honno. Pwyllgorau cyrff llywodraethu dros dro 41. —(1) Mae Rhan 9 o'r Rheoliadau Llywodraethu yn gymwys i ysgolion newydd yn ddarostyngedig i'r addasiadau cyffredinol ac i baragraff (2). (2) Os yw dwy neu fwy o ysgolion i'w cau ("yr ysgolion sydd i'w cau") a disgwylir y bydd y disgyblion cofrestredig yn yr ysgolion hynny, neu nifer sylweddol ohonynt, yn trosglwyddo i ysgol newydd, mae gan benaethiaid yr ysgolion hynny sydd i'w cau yr hawl i fynychu unrhyw gyfarfod o bwyllgor i gorff llywodraethu dros dro'r ysgol newydd hyd nes y penodir pennaeth newydd ar gyfer yr ysgol honno. Cyfyngiadau ar bersonau sy'n cymryd rhan mewn trafodion 42. Mae Rhan 10 o'r Rheoliadau Llywodraethu yn gymwys i ysgolion newydd yn ddarostyngedig i'r addasiadau cyffredinol. Gwneud offeryn llywodraethu a chyfansoddiad y corff llywodraethu 43. —(1) Rhaid i'r awdurdod addysg lleol sicrhau bod offeryn llywodraethu wedi'i wneud ar gyfer pob ysgol newydd yn unol â rheoliadau 32 i 34 o'r Rheoliadau Llywodraethu cyn dyddiad agor yr ysgol. (2) Bydd yr offeryn llywodraethu yn effeithiol o'r dyddiad y mae'n cael ei wneud er mwyn cyfansoddi'r corff llywodraethu ond nid yw'n effeithio ar gyfansoddiad neu enw'r corff llywodraethu dros dro sy'n rhedeg yr ysgol newydd. (3) At ddibenion y Rhan hon, mewn perthynas ag unrhyw ysgol newydd, y dyddiad ymgorffori yw'r dyddiad y mae'r awdurdod lleol yn hysbysu'r corff llywodraethu'n ysgrifenedig, a rhaid iddo fod yn ddyddiad cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl dyddiad agor yr ysgol ond pa fodd bynnag heb fod yn hwyrach na diwrnod olaf y tymor y mae'r ysgol yn derbyn disgyblion am y tro cyntaf ynddo. (4) Rhaid i'r awdurdod addysg lleol sicrhau bod penodiadau neu etholiadau llywodraethwyr sy'n ofynnol o dan offeryn llywodraethu ysgol newydd yn cael eu cynnal yn unol â'r offeryn hwnnw cyn y dyddiad ymgorffori a'u bod yn effeithiol o'r dyddiad hwnnw ymlaen. (5) At bob diben arall, bydd yr offeryn llywodraethu yn effeithiol o'r dyddiad ymgorffori. (6) Ar y dyddiad ymgorffori, rhaid i gorff llywodraethu ysgol newydd fod wedi'i gyfansoddi o dan yr offeryn llywodraethu. (7) Rhaid i'r corff llywodraethu dros dro arfer ei swyddogaethau o dan Ddeddf 1998, Deddf 2002 a'r Rheoliadau hyn mewn modd y bwriedir iddo alluogi'r awdurdod addysg lleol i gyflawni ei ddyletswyddau o dan y rheoliad hwn. Llywodraethwyr newydd 44. —(1) Yn achos penodiad unrhyw lywodraethwr y cyfeirir ato yn rheoliad 43(4), rhaid i'r awdurdod addysg lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person sydd i wneud y penodiad o dan yr offeryn llywodraethu, oni bai bod y person hwnnw eisoes wedi hysbysu'r awdurdod addysg lleol ynglyn â phenodiad i lenwi'r swydd wag. (2) Os bydd unrhyw berson yn gwneud penodiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig ynglŷn â'r penodiad i'r awdurdod addysg lleol ac i glerc y corff llywodraethu dros dro, gan bennu enw a phreswylfa arferol y person sydd wedi'i benodi. Penodi llywodraethwyr newydd neu eu hethol 45. —(1) Mae'r paragraffau canlynol yn gymwys mewn perthynas â phenodi neu ethol y llywodraethwyr y mae eu hangen i gyfansoddi'r corff llywodraethu yn unol â rheoliad 43(4). (2) Rhaid i unrhyw riant-lywodraethwr gael naill ai—
(b) ei benodi (ar ôl dyddiad agor yr ysgol) yn unol ag Atodlen 1 i'r Rheoliadau Llywodraethu.
(3) Ar ôl dyddiad agor yr ysgol—
(b) rhaid i unrhyw lywodraethwr partneriaeth fod yn berson sydd wedi'i enwebu ac wedi'i benodi yn unol â rheoliad 10 o'r Rheoliadau Llywodraethu ac Atodlen 3 iddynt (c) rhaid i unrhyw lywodraethwr cymunedol neu lywodraethwr cymunedol ychwanegol gael ei ethol yn unol â rheoliadau 8 a 20 o'r Rheoliadau Llywodraethu.
(4) Os—
(b) os yw'r personau hynny'n methu â chytuno ar benodiad,
rhaid i'r penodiad gael ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'n unol â chyfarwyddyd a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol hwnnw.
(b) holl hawliau a rhwymedigaethau'r corff llywodraethu dros dro a oedd yn bodoli yn union cyn y dyddiad hwnnw,
i'r corff llywodraethu sydd wedi'i gyfansoddi o dan yr offeryn llywodraethu, a'u breinio ynddo.
(b) heb ragfarnu paragraff (a), bernir o'r dyddiad hwnnw ymlaen fod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan neu mewn perthynas â'r corff llywodraethu dros dro mewn perthynas â'r contract hwnnw neu'r cyflogai wedi'i wneud gan neu mewn perthynas â'r corff llywodraethu sydd wedi'i gyfansoddi o dan yr offeryn llywodraethu,
ond ni fydd unrhyw hawl i'r cyflogai derfynu ei gontract cyflogaeth os caiff newid sylweddol ei wneud ar ei draul yn ei amodau gwaith yn codi dim ond oherwydd y newid cyflogwr sydd wedi'i beri gan y rheoliad hwnnw. Diwygio Rheoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) 1998 49. —(1) Diwygir rheoliad 9 o Reoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Dynodi) 1998 mewn perthynas â Chymru fel a nodir ym mharagraffau (2) a (3). (2) Ym mharagraff (2) o reoliad 9, o flaen y geiriau "Church of England", mewnosodir y geiriau "new school which is intended to be a". (3) Ym mharagraff (6)(a) o reoliad 9, yn lle "(within the meaning of Part III of the Education (New Schools) (Wales) Regulations 1999 or the 1996 Act, as the case may be)" rhodder "within the meaning of Part 3 of the New Maintained Schools (Wales) Regulations 2005". Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[15] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 18 Hydref 2005 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â llywodraethu ysgolion a gynhelir newydd yng Nghymru. Mae Rhan 1 yn darparu i'r Rheoliadau ddod i rym, yn nodi'r Rheoliadau hynny sydd i'w dirymu neu i'w diwygio ac yn cynnwys darpariaethau ar gyfer dehongli. Mae'n ymdrin hefyd â chyflwyno hysbysiadau. Mae Rhan 2 yn ymwneud â gwneud trefniadau ar gyfer cyrff llywodraethu dros dro. Mae rheoliad 5 yn caniatáu i drefniadau gael eu gwneud gan rag-weld y caiff cynigion eu cymeradwyo ac mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol sicrhau bod hyrwyddwyr yn cytuno â threfniadau sy'n ymwneud â llywodraethwyr sefydledig dros dro. Mae Rhan 3 yn disgrifio'r amrywiol gategorïau o lywodraethwyr dros dro. Mae rheoliad 9 yn ymdrin â phenodi rhiant-lywodraethwyr dros dro gan naill ai'r awdurdod addysg lleol neu hyrwyddwyr ysgol newydd. Mae rheoliad 10 yn ymdrin â staff-lywodraethwyr dros dro, sy'n cynnwys staff nad ydynt yn addysgu yn unig. Mae rheoliad 11 yn ymwneud ag athro-lywodraethwyr. Mae'r pennaeth yn llywodraethwr dros dro yn rhinwedd ei swydd ond caiff ymddiswyddo o'i swydd fel llywodraethwr dros dro (neu dynnu ei ymddiswyddiad yn ôl) ar unrhyw adeg. Mae rheoliad 12 yn ymdrin â phenodi llywodraethwyr AALl dros dro. Mae rheoliadau 13 a 14 yn gymwys i lywodraethwyr cymunedol dros dro ac i lywodraethwyr cymunedol ychwanegol dros dro. Mae rheoliad 15 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â phenodi llywodraethwyr sefydledig dros dro, gan gynnwys llywodraethwyr dros dro ex officio ac mae rheoliad 16 yn ymdrin ag enwebu a phenodi llywodraethwyr partneriaeth dros dro. Mae rheoliad 17 yn gymwys i lywodraethwyr cynrychioliadol dros dro mewn ysgolion arbennig cymunedol. Mae rheoliad 18 yn gwneud darpariaeth ar gyfer noddwr-lywodraethwyr dros dro, y gellir dewis eu penodi neu beidio. Mae rheoliad 19 yn pennu'r profiad sy'n angenrheidiol i lywodraethwyr dros dro ac mae rheoliad 20 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyd-benodi. Mae Rhan 4 yn ymdrin â chyfansoddiad cyrff llywodraethu dros dro drwy gymhwyso rheoliadau 13 i 20 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 ("y Rheoliadau Llywodraethu") at gyrff llywodraethu dros dro gyda rhai addasiadau. Mae Rhan 5 yn ymdrin â deiliadaeth swyddi a chymwysterau llywodraethwyr dros dro. Mae rheoliad 22 yn nodi sut y gall llywodraethwr dros dro ymddiswyddo ac mae rheoliadau 23 a 24 yn ymdrin â diswyddo llywodraethwyr dros dro. Mae rheoliad 25 yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau lle mae llywodraethwr dros dro yn cael ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n llywodraethwr dros dro neu rhag parhau'n llywodraethwr dros dro drwy gymhwyso Atodlen 5 i'r Rheoliadau Llywodraethu, gydag addasiadau. Mae Rhan 5 hefyd yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â'r treuliau sy'n codi mewn perthynas â chyrff llywodraethu dros dro a darparu gwybodaeth ar gyfer llywodraethwyr dros dro. Mae Rhan 6 yn ymdrin â rhedeg ysgolion newydd sydd â chyrff llywodraethu dros dro, gan roi pwerau a dyletswyddau cyffredinol i gyrff llywodraethu dros dro. Hefyd, mae rheoliad 33 yn darparu ar gyfer cyflawni dogfennau gan y corff llywodraethu dros dro. Mae rheoliad 33 yn ei gwneud yn ofynnol i'r pennaeth ymgynghori â'r corff llywodraethu dros dro a'r awdurdod addysg lleol ynghylch y cwricwlwm ac mae rheoliad 34 yn darparu ar gyfer penderfynu ar ddyddiadau tymhorau a gwyliau'r ysgol ac amserau sesiynau'r ysgol. Mae rheoliad 35 yn ymdrin â'r adroddiadau a'r wybodaeth sydd i'w rhoi i AALl ac mae rheoliad 36 yn ymwneud ag ymgynghori gan AALl mewn perthynas â gwariant os nad oes gan gyrff llywodraethu dros dro gyllidebau dirprwyedig. Mae Rhan 7 yn ymdrin â phenodi, swyddogaethau a diswyddo swyddogion, cyfarfodydd a thrafodion cyrff llywodraethu dros dro, pwyllgorau cyrff llywodraethu dros dro a gwrthdrawiadau buddiannau. Mae darpariaethau perthnasol y Rheoliadau Llywodraethu yn cael eu cymhwyso at ysgolion newydd gydag addasiadau. Mae Rhan 8 yn ymdrin â'r cyfnod trosiannol rhwng y corff llywodraethu dros dro a'r corff llywodraethu parhaol sy'n cael ei gyfansoddi o dan offeryn llywodraethu. Rhaid i'r awdurdod addysg lleol sicrhau bod offeryn llywodraethu yn cael ei wneud cyn dyddiad agor yr ysgol. Yr awdurdod addysg lleol sy'n pennu'r dyddiad y caiff y corff llywodraethu ei gyfansoddi o dan yr offeryn llywodraethu. Dyma'r dyddiad ymgorffori, sy'n gorfod bod cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad agor ond heb fod yn hwyrach na dyddiad olaf y tymor cyntaf. Mae rheoliadau 44 a 45 yn ymdrin â phenodi ac ethol y llywodraethwyr sy'n angenrheidiol o dan yr offeryn llywodraethu. Mae rheoliadau 46 i 48 yn darparu ar gyfer trosglwyddo eiddo, staff a hawliau a rhwymedigaethau eraill o'r corff llywodraethu dros dro i'r corff llywodraethu parhaol, ac ar gyfer paratoi adroddiad gan y corff llywodraethu dros dro. Mae Rhan 9 yn gwneud rhai diwygiadau sy'n ymwneud ag ysgolion newydd i Reoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) 1998. Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ac wedi'i osod ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Rheolaeth Ysgolion Llywodraeth Cynulliad Cymru, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Notes: [1] 1998 p.31. Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol a roddwyd gan y darpariaethau hyn yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back [2] Yn rhinwedd adran 212(2) o Ddeddf 2002 mae'r pwerau a roddwyd gan y darpariaethau hyn yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru yn unig.back [4] O.S. 1999/2243 (Cy.3).back [7] Diwygiwyd adran 3 gan baragraff 34 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.back [8] O.S. 2005/2914 (W.211).back [9] Gall cynigion gael eu cyhoeddi o dan adran 28 neu 31 o Ddeddf 1998, neu baragraff 5 o Atodlen 7 iddi neu adran 113A o Ddeddf 2000.back [10] O dan baragraff 8 o Atodlen 6 neu baragraff 13 o Atodlen 7 i Ddeddf 1998 neu adran 113A(5)(a) o Ddeddf 2000.back [11] O dan baragraff 9 o Atodlen 6 i Ddeddf 1998.back [12] Gweler Rheoliadau Lwfansau Llywodraethwyr (Cymru) 2005, O.S. 2005/2915 (Cy.212).back [13] At ddibenion adran 30(3) o'r Ddeddf honno ac adrannau 495 i 498 o Ddeddf 1996, mae adran 34(7) o Ddeddf 2002 yn darparu bod y corff llywodraethu dros dro i gael ei drin fel pe bai'n gorff llywodraethu ar unrhyw adeg cyn dyddiad agor yr ysgol.back [14] O dan adran 34(7) o Ddeddf 2002, mae corff llywodraethu dros dro ysgol i'w drin at ddibenion y Deddfau Addysg fel pe baent yn gorff llywodraethu yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad agor yr ysgol ac sy'n dod i ben gyda'r amser y caiff y corff llywodraethu ei gyfansoddi o dan offeryn llywodraethu; yn ddarostyngedig i adran 34(8), nad yw Atodlen 1 yn gymwys odani i gyrff llywodraethu dros dro oni bai y darperir hynny mewn rheoliadau sydd wedi'u gwneud o dan adran 34(5).back
ISBN 0 11 091200 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 25 October 2005 |