Rheoliadau Cyfarfod Blynyddol Rhieni (Esemptiadau) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cyfarfod Blynyddol Rhieni (Esemptiadau) (Cymru) 2005, ISBN 0110911989. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 33(3) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002[1], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfarfod Blynyddol Rhieni (Esemptiadau) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Hydref 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dirymu 2. Dirymir Rheoliadadau Addysg (Cyfarfodydd Blynyddol Rhieni) (Cymru) 1999[2]. Dehongli 3. —(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Deddf 2002" ("the 2002 Act") yw Deddf Addysg 2002. (2) Mae unrhyw gyfeiriad mewn darpariaeth yn y Rheoliadau hyn—
(b) at riant yn gyfeiriad at riant i ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol y mae'r ddarpariaeth yn gymwys iddi; (c) at ysgol yn gyfeiriad at ysgol a gynhelir o fewn ystyr "maintained school" yn adran 39(1) o Ddeddf 2002.
Esemptiad ar gyfer ysgolion arbennig ysbytai ac ysgolion byrddio.
(b) os yw'r ysgol yn ysgol a gynhelir heblaw un o fewn paragraff (a), a bod y corff llywodraethu o'r farn y byddai'n anymarferol cynnal cyfarfod o'r fath yn y flwyddyn ysgol honno, a bod o leiaf 50% o ddisgyblion cofrestredig yr ysgol yn ddisgyblion byrddio ar yr adeg y ffurfir y farn honno gan y corff llywodraethol.
Esemptiad i ysgolion sy'n cynnal cyfarfod ar ôl arolygiad
(b) os yw'r corff llywodraethu, o fewn y cyfnod a ragnodwyd yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru)1998[4] ar gyfer paratoi cynllun gweithredu, wedi cynnal cyfarfod y cafodd pob rhiant wahoddiad iddo i drafod adroddiad yr arolygydd cofrestredig.
Esemptiad i ysgolion sy'n cynnal cyfarfodydd eraill
(b) rhieni yn cael cyfle yn y cyfarfod neu ym mhob un o'r gyfres o gyfarfodydd (yn ôl y digwydd) i drafod y dull y cafodd yr ysgol ei rhedeg, a'r dull y bydd yn cael ei rhedeg, a pherfformiad yr ysgol, ac (c) tri neu fwy o lywodraethwyr yn mynychu'r cyfarfod neu bob cyfarfod yn y gyfres (yn ôl y digwydd),
mae'r corff llywodraethu yn esempt rhag y rhwymedigaeth a osodir dan adran 33(1) o Ddeddf 2002 i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni ar gyfer y flwyddyn ysgol y cynhelir y cyfarfod neu (yn ôl y digwydd) gyfres y cyfarfodydd ynddi.
(b) os yw'r corff llywodraethu, cyn 31 Mai yn y flwyddyn ysgol honno, yn cael cais ysgrifenedig gan rieni dim llai na 5% o'r disgyblion cofrestredig i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sydd wedi'u gwneud o dan adran 33(3) o Deddf Addysg 2002, yn darparu ar gyfer esemptio cyrff llywodraethu ysgolion rhag y gofyniad cyffredinol i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni mewn amgylchiadau penodol. Mae'r Rheoliadau yn dod i rym ar 31 Hydref 2005. Mae rheoliad 2 yn dirymu y Rheoliadau Addysg (Cyfarfodydd Blynyddol Rhieni) (Cymru) 1999. Dyma'r amgylchiadau y bydd corff llywodraethu yn esempt rhag y gofyniad i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni danynt: Rheoliad 4— os, yn achos ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig, yw'r ysgol wedi ei sefydlu mewn ysbyty neu os yw'r ysgol yn ysgol fyrddio a gynhelir a bod y corff llywodraethu o'r farn y byddai'n anymarferol i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni; Rheoliad 5— os cafodd yr ysgol ei harolygu gan Estyn ac y cafodd cyfarfod rhieni ei gynnal i drafod adroddiad yr arolygydd cyn bod y corff llywodraethu yn llunio'i gynllun gweithredu; Rheoliad 6— os yw'r corff llywodraethu wedi cynnal cyfarfod neu gyfres o gyfarfodydd y cafodd pob rhiant wahoddiad iddo neu iddynt ac a gafodd ei fynychu neu eu mynychu (yn ôl y digwydd) gan dri neu fwy o lywodraethwyr ac os yw'r rhieni wedi cael cyfle i drafod rhedeg yr ysgol yn y gorffennol ac yn y dyfodol; Rheoliad 7— os yw'r corff llywodraethu yn rhoi i rieni gyda'i Adroddiad hysbysiad yn gofyn i rieni ymateb o fewn dim llai na 7 niwrnod os ydynt yn dymuno i'r corff llywodraethu gynnal y cyfarfod blynyddol rhieni ac os yw rhieni llai na 5% o'r disgyblion yn ymateb. Mae rheoliad 8 yn datgymhwyso'r esemptiadau yn rheoliadau 5, 6 a 7 os na chynhaliwyd cyfarfod blynyddol rhieni yn y flwyddyn flaenorol neu os yw'r corff llywodraethu yn cael cais ysgrifenedig oddi wrth rieni 5% neu fwy o'r disgyblion cofrestredig i gynnal cyfarfod o'r fath. Cafodd arfarniad rheoliadol ei baratoi a'i roi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Rheolaeth Ysgolion Llywodraeth Cynulliad Cymru, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Notes: [1] 2002 p. 32. I gael diffiniad "regulations" gweler adran 212.back [4] O.S. 1998/1866. Diwygiwyd rheoliad 8(1) gan O.S. 2004/784 (Cy. 81).back
ISBN 0 11 091198 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 24 October 2005 |