Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.
Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.
Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.
Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2005, ISBN 0110911970. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.
I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 2910 (Cy.207) (C.124)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2005
Wedi'i wneud
18 Hydref 2005
Yn dod i rym
31 Hydref 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 216(4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cymhwyso a dehongli 1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2005.
2.
Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.
3.
Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.
Diwrnod penodedig 4.
31 Hydref 2005 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2].
Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995[4], Yn Atodlen 4A, yn y Tabl ym mharagraff 1, paragraff 3;
Deddf Addysg 1996[5], adran 29(6), yn adran 316A (11)(b) y geiriau "a maintained nursery school or", yn adran 317 is-adran (3)(b) a'r gair "and" sy'n dod o'i blaen, yn adran 329A (13)(a), y geiriau "a maintained nursery school or";
Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996[6], yn adran 11(5), paragraff (b), yn adran 15(4)(c) y geiriau "except where the school is a maintained nursery school", yn adran 21, yn is-adran (3)(b) y geiriau "except in the case of a maintained nursery school", yn Atodlen 3, yn y diffiniad o "appropriate authority" ym mharagraff 1, paragraff (b);
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[7], adrannau 36 a 37 adran 43, adran 44, yn adran 63, yn is-adrannau (1) a (3) y gair "unauthorised" ac, yn is-adran (4), y diffiniad o "unauthorised absence", adran 127(6)(h), yn adran 138, yn is-adran (2)(b), y geiriau "paragraph 3(5) or 4 of Schedule 10", Atodlenni 9 a 10, Atodlen 11 i'r graddau nad yw eisoes wedi'i diddymu, Atodlen 12.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 31 Hydref 2005 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.
Yn achos darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn ac sy'n diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, mae'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau hynny i'w darllen, o ran Cymru, fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru— gweler adran 211.
Mae effaith y darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn fel a ganlyn—
Mae adrannau 19, 20, 23, 33, 34, 39 ac Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth o ran llywodraethu ysgolion a gynhelir, gan ddisodli amryw o ddarpariaethau Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ("Deddf 1998"). Mae adran 19 ac Atodlen 1 yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a gynhelir gael corff llywodraethu. Bydd rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn nodi'r gofynion sy'n ymwneud ag aelodaeth o gyrff llywodraethu a gweithdrefnau'r cyrff hynny.
Mae adran 20 yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a gynhelir feddu ar offeryn llywodraethu sy'n pennu cyfansoddiad y corff llywodraethu a materion eraill ynglŷn â'r ysgol. Bydd Rheoliadau gan y Cynulliad Cenedlaethol yn nodi'r gofynion o ran gwneud offerynnau llywodraethu a chynnwys yr offerynnau hynny.
Mae adran 23 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau sy'n caniatáu i gyrff llywodraethu gydweithio drwy gyflawni eu swyddogaethau ar y cyd neu drwy gydbwyllgorau.
O dan adran 33 rhaid i gorff llywodraethu gynnal cyfarfod blynyddol rhieni. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau sy'n nodi o dan ba amgylchiadau y mae corff llywodraethu yn esempt rhag cynnal cyfarfod.
Mae adran 34 yn nodi'r trefniadau ar gyfer llywodraethu ysgolion newydd. Mae'n ofynnol i'r AALl sefydlu corff llywodraethu dros dro. Nodir y manylion ynglŷn â'r trefniadau mewn rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae adran 39 yn cynnwys diffiniadau. Yn benodol mae'r diffiniad o 'maintained school' yn cynnwys 'maintained nursery school'. Effaith hyn yw bod ysgolion meithrin a gynhelir i gael cyrff llywodraethu.
Mae cychwyn adran 52(11) yn golygu bod y darpariaethau ynghylch gwahardd disgyblion o ysgolion a gynhwysir yn adran 52 yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir.
Mae adran 53 yn diwygio adran 63 o Ddeddf 1998 er mwyn caniatáu i'r Cynulliad gynnwys absenoldebau awdurdodedig yn y targedau y gellir ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu eu pennu drwy reoliadau.
NODYN AM ORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym o ran Cymru drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) ac (8)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 14, paragraffau 1 i 7
1 Medi 2004
2004/1728 (Cy.172)
Atodlen 16, paragraffau 1 i 3
1 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
Paragraffau 4 i 9
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 17, paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 8
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5 a 7,
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Paragraff 8 (yn rhannol),
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 13 i 15,
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 2, 3, 6, 8 (yn llawn), 9 i 12 ac 16 i 18
1 Medi 2003
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 19
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Atodlen 20
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Atodlen 21 (yn rhannol)
1 Hydref 2002
2002/2439
(yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
1 Awst 2003
2003/1667
(yn rhannol)
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)
4 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
1 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
9 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2004
2004/912 (Cy.95)
(yn rhannol)
1 Awst 2004
2004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol)
1 Medi 2004
2004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol)
31 Mai 2005
2005/1395 (Cy.109)
Atodlen 22 (yn rhannol)
1 Hydref 2002
2002/2439
(yn rhannol)
9 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
1 Awst 2003
2003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)
1 Medi 2003
2002/3185 (Cy.301), 2003/1718 (Cy.185) a 2003/1667
(yn rhannol)
4 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
1 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
9 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2004
2004/912 (Cy.95)
(yn rhannol)
1 Awst 2004
2004/912 (Cy.95)
(yn rhannol)
1 Medi 2004
2004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol)
31 Mai 2005
2005/1395 (Cy.109)
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym o ran Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2002/2002 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2018), O.S. 2002/2439 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/606 (wedi'i ddirymu) a 2003/2992), O.S. 2002/2952, O.S. 2003/124, O.S. 2003/1115, O.S. 2003/1667, O.S. 2003/2071 ac O.S. 2004/1318.