Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2005, ISBN 0110911997. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn— Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2005; deuant i rym ar 20 Hydref 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru. Darparu gwybodaeth ar brisiau cynhyrchion llaeth 2. —(1) Rhaid i broseswr llaeth ddarparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wybodaeth ynglŷn â phrisiau cynhyrchion llaeth y bydd y Cynulliad yn gofyn amdani drwy hysbysiad at ddibenion Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 562/2005 sy'n gosod rheolau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/1999 o ran cyfathrebiadau rhwng yr Aelod-wladwriaethau a'r Comisiwn yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth[3]. (2) Caiff yr hysbysiad y cyfeirir ato o dan baragraff (1) ei gwneud yn ofynnol i'r proseswr llaeth ddarparu'r wybodaeth ofynnol yn wythnosol, a chaiff bennu'r amser a'r diwrnod erbyn pryd y bydd rhaid darparu'r wybodaeth a ffurf yr wybodaeth. Tramgwydd 3. Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 2(1) yn euog o dramgwydd, ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 19 Hydref 2005 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 20 Hydref 2005, yn gwneud darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweithredu erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 562/2005 (OJ Rhif L95, 14.4.2005, t.11) sy'n gosod rheolau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/1999 o ran cyfathrebiadau rhwng yr Aelod-wladwriaethau a'r Comisiwn yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth. Mae Rheoliad 2 yn ei gwneud yn ofynnol i broseswyr llaeth ddarparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru unrhyw wybodaeth y bydd y Cynulliad yn gofyn amdani drwy hysbysiad ynglŷn â phrisiau cynhyrchion llaeth penodol. Mae methu cydymffurfio â gofyniad o'r fath yn dramgwydd sy'n dwyn cosb ar gollfarn ddiannod o ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol (rheoliad 3). Cafodd arfarniad rheoliadol llawn ar yr effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes ei baratoi a gellir cael copïau oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Notes: [1] O.S. 2005/1971.back [3] OJ Rhif. L95, 14.4.2005, t.11.back
ISBN 0 11 091199 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 25 October 2005 |