Gorchymyn Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle (Cynllunio Wrth Gefn) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle (Cynllunio Wrth Gefn) (Cymru) 2005, ISBN 0110911954. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan Adran 14A(1)(b) a (8)(c) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn— Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle (Cynllunio Wrth Gefn) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 20 Hydref 2005. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru. Cymhwysedd Adran 14A o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 2. Mae Adran 14A o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (Cynllun cenedlaethol wrth gefn) yn gymwys o ran ffliw adar a chlefyd Newcastle. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 11 Hydref 2005 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod gofynion adran 14A o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (fel y'u mewnosodwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 p.42) yn gymwys i Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle. Mae Adran 14A yn darparu ar gyfer paratoi cynlluniau cenedlaethol wrth gefn sy'n dynodi'r trefniadau y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu eu gosod yn eu lle er mwyn delio â'r clefyd os digwydd. Paratowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Gorchymyn hwn ar gostau busnes a cheir copiau gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Notes: [1] 1981 p.22 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42). Mewnosododd adran 18 o Ddeddf 2002 adran 14A yn Neddf 1981, gan roi pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru. Estynnodd y Gorchymyn Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle (Cymru a Lloegr) 2003 (O.S. 2003/1734) bwerau penodol yn Neddf 1981 y gellir eu harfer o ran clwy'r Traed a'r Genau i ffliw adar a chlefyd Newcastle.back
ISBN 0 11 091195 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 19 October 2005 |