Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005, ISBN 0110911946. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pŵerau a roddwyd iddo gan adrannau 62(4) a (5)(g), 63(3)(a), 63(7), 64(3), 69, 72(7), 76(2) a (3) a 77 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("y Ddeddf")[1] a pharagraff 5(2) o Atodlen 4A i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[2] a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 15 Hydref 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(b) cyngor cymuned;
(b) cyrff sy'n cynrychioli buddiannau gwahanol grwpiau hiliol, ethnig neu genedlaethol yn ardal yr ACLl; (c) cyrff sy'n cynrychioli buddiannau gwahanol grwpiau crefyddol yn ardal yr ACLl; (ch) cyrff sy'n cynrychioli buddiannau personau anabl yn ardal yr ACLl; (d) cyrff sy'n cynrychioli buddiannau personau sy'n rhedeg busnes yn ardal yr ACLl; ac (dd) cyrff sy'n cynrychioli buddiannau'r diwylliant Cymreig yn ardal yr ACLl;
(b) Asiantaeth yr Amgylchedd[7], (c) i'r graddau y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn arfer swyddogaethau a oedd yn arferadwy gynt gan yr Awdurdod Rheilffordd Strategol, yr Ysgrifennydd Gwladol. (ch) y Cynulliad Cenedlaethol, (d) awdurdod perthnasol y mae unrhyw ran o'i ardal yn ardal yr ACLl neu'n cyffinio â'r ardal honno, (dd) unrhyw berson—
(ii) sy'n meddu ar offer cyfathrebu electronig sydd wedi'u lleoli mewn unrhyw ran o ardal yr ACLl neu'n rheoli offer o'r fath (lle mae'n wybyddus),
(e) os yw'n arfer swyddogaethau mewn unrhyw ran o ardal yr ACLl—
(ii) person y mae trwydded wedi'i rhoi iddo o dan adran 6(1)(b) neu (c) o Ddeddf Trydan 1989[9], (iii) person y mae trwydded wedi'i rhoi iddo o dan adran 7(2) o Ddeddf Nwy 1986[10], (iv) ymgymerwr carthffosiaeth, (v) ymgymerwr dŵr;
(b) y caiff person a dramgwyddir gan yr CDLl wneud cais i'r Uchel Lys o dan adran 113; ac (c) o'r seiliau y caniateir eu defnyddio i wneud y cais hwnnw, ac o fewn pa amser y caniateir iddo gael ei wneud;
(b) pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu cymeradwyo CDLl, neu gymeradwyo CDLl yn ddarostyngedig i addasiadau, yw datganiad—
(ii) y caiff person a dramgwyddir gan yr CDLl wneud cais i'r Uchel Lys o dan adran 113, a (iii) o'r seiliau y caniateir eu defnyddio i wneud y cais hwnnw, ac o fewn pa amser y caniateir iddo gael ei wneud;
(b) yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd; (c) yr adroddiad ymgynghori cychwynnol; (ch) y dogfennau ategol sy'n berthnasol ym marn yr ACLl i waith paratoi'r CDLl;
(b) y cyfnod y mae rhaid cyflwyno sylwadau ynddo am yr CDLl yn unol â rheoliad 16(2)(a); (c) y cyfeiriad y mae rhaid anfon sylwadau iddo, a phan fo'n briodol, y person y mae rhaid eu hanfon ato (boed ar ffurf cyfathrebiadau electronig neu fel arall) yn unol â rheoliad 18; (ch) datganiad y caniateir i ddeisyfiad fynd gyda'r sylwadau, a hwnnw'n ddeisyfiad am gael hysbysiad mewn cyfeiriad penodedig fod argymhellion y person a benodwyd i gyflawni archwiliad o dan adran 64 wedi'u cyhoeddi neu gael hysbysiad bod yr CDLl wedi'i fabwysiadu neu gael hysbysiad o'r ddau;
(b) y cyfnod y caniateir i sylwadau gael eu cyflwyno ynddo yn unol â rheoliad 16(2)(a); (c) y cyfeiriad, a phan fo'n briodol y person, y mae rhaid i sylwadau gael eu hanfon ato (boed ar ffurf cyfathrebiadau electronig neu fel arall) yn unol â rheoliad 16(2)(b); (ch) datganiad y caniateir i ddeisyfiad fynd gydag unrhyw sylwadau, a hwnnw'n ddeisyfiad yn gofyn am gael hysbysiad mewn cyfeiriad penodedig bod yr CDLl wedi'i gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer archwiliad annibynnol o dan adran 64 a bod yr CDLl wedi'i fabwysiadu;
(b) newid neu ddileu unrhyw bolisi dyrannu safle yn yr CDLl;
(2) Yn y Rheoliadau hyn, oni ddywedir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at adran yn gyfeiriad at yr adran honno o'r Ddeddf ac mae unrhyw gyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at y rheoliad hwnnw yn y Rheoliadau hyn.
(b) y Cynulliad Cenedlaethol
o ran paratoi cynllun datblygu lleol, wedi cymryd unrhyw gam mewn perthynas ag unrhyw reoliad a wnaed o dan ddarpariaethau Rhan 6 o'r Ddeddf, mae'r cam hwnnw i'w ystyried yn gam sydd wedi'i gymryd yn unol â'r dyletswyddau sydd wedi'u gosod ar yr awdurdod cynllunio lleol neu'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y rheoliad hwnnw, p'un a oedd y cam hwnnw wedi'i gymryd cyn, neu ar ôl y diwrnod a bennwyd i'r rheoliad hwnnw ddod i rym.
(ii) hysbysu person arall o unrhyw fater; a
(b) y mae gan y person arall hwnnw gyfeiriad at ddibenion cyfathrebu electronig;
caniateir anfon neu wneud y ddogfen, y copi, neu'r hysbysiad ar ffurf cyfathrebiad electronig.
(b) ar ffurf cyfathrebiadau electronig.
(3) Os bydd—
(b) y cyfathrebiad yn dod i law'r derbynnydd y tu allan i oriau swyddfa arferol y person hwnnw, cymerir ei fod wedi dod i law ar y diwrnod gwaith nesaf; ac, yn y rheoliad hwn, ystyr "diwrnod gwaith" yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, nac yn ddydd Sul, Gŵyl y Banc[15] nac yn unrhyw ŵyl gyhoeddus arall.
Paratoi Cynllun Cynnwys Cymunedau 5. Y personau a fydd yn ymwneud â pharatoi cynllun cynnwys cymunedau at ddibenion adran 63(3)(a) yw'r cyrff ymgynghori cyffredinol hynny y mae'n ymddangos i'r ACLl fod ganddynt fuddiant mewn materion sy'n ymwneud â'r datblygu yn ardal yr ACLl. Cynnwys Cynllun Cynnwys Cymunedau 6. Rhaid i gynllun cynnwys cymunedau gynnwys y materion canlynol—
(b) egwyddorion y strategaeth o gyfranogi yn yr CDLl sydd i'w mabwysiadu gan yr ACLl; (c) y dull a ddefnyddir —
(ii) gan yr ACLl i ymateb i'r broses gyfranogi y cyfeiriwyd ati yn is-baragraff (i);
ac amseriad y cyfranogiad a'r ymatebion hynny.
Paratoi Amserlen
(ii) dyddiadau dangosol hyd at fabwysiadu'r CDLl,
(b) ar gyfer paratoi a chyhoeddi—
(ii) yr adroddiad monitro blynyddol.
Cytundebau Cyflawni
(b) cael ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gytuno arno ar neu cyn y dyddiad a bennir mewn canllawiau a wnaed o dan adran 75.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymateb o fewn pedair wythnos o gael y cytundeb cyflawni, onid yw wedi hysbysu'r ACLl yn ysgrifenedig cyn i'r cyfnod hwnnw ddod i ben, fod arno angen mwy o amser i ystyried y ddogfen.
(b) cyhoeddi'r cytundeb ar ei wefan.
(2) Pan ddaw diwygiad i gytundeb cyflawni yn effeithiol o dan reoliad 9, rhaid trefnu bod yr CDLl, o fewn 2 wythnos o'r amser y daw'n effeithiol, yn ymgorffori'r diwygiad yn y cytundeb a roddwyd ar gael i'w arolygu ac a gyhoeddwyd o dan baragraff (1). Ffurf a chynnwys cynllun datblygu lleol: cyffredinol 11. —(1) Rhaid i CDLl gynnwys—
(ii) dangos mai CDLl ydyw; a
(b) is-deitl y mae rhaid iddo ddangos—
(ii) pan fo'n CDLl sydd wrthi'n ymddangos, y rhan o'r broses gyhoeddi y mae wedi'i chyrraedd a dyddiad ei gyhoeddi.
(2) Rhaid i CDLl gynnwys cyfiawnhad rhesymedig o'r polisïau sydd wedi'u cynnwys ynddo.
(b) cael ei atgynhyrchu o un o fapiau'r Arolwg Ordnans, neu fod wedi'i seilio ar fap o'r fath; ac (c) dangos llinellau a rhifau cyfeirnod y Grid Cenedlaethol.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, mae cynnig yn bolisi sy'n benodol i safle.
(b) unrhyw bolisïau eraill a baratowyd o dan adran 108(1) a (2) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000[16] sy'n effeithio ar unrhyw ran o ardal yr ACLl; (c) amcanion atal damweiniau mawr a chyfyngu ar ganlyniadau damweiniau o'r fath; (ch) yr angen—
(ii) yn achos sefydliadau sy'n bodoli eisoes, am fesurau technegol ychwanegol yn unol ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Cyngor 96/82/EC ar reoli peryglon mawr o ddamweiniau sy'n cynnwys sylweddau peryglus[17] er mwyn peidio â chynyddu'r risgiau i bobl;
(d) Strategaeth Wastraff Cymru; ac
(2) Mae i'r ymadroddion sy'n ymddangos ym mharagraff (1) uchod a'r ymadroddion Saesneg cyfatebol sy'n ymddangos yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 96/82/EC (fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2003/105/EC[18]) yr un ystyr ag ystyr yr ymadroddion Saesneg hynny yn y Gyfarwyddeb honno. Cyfranogi cyn adneuo 14. Cyn bod CDLl yn cydymffurfio â rheoliad 15, rhaid iddo gysylltu â'r cyrff canlynol er mwyn llunio strategaethau ac opsiynau amgen—
(b) y cyrff ymgynghori cyffredinol y mae'r ACLl yn barnu eu bod yn briodol.
Ymgynghori â'r cyhoedd cyn adneuo
(ii) mewn unrhyw le arall o fewn ei ardal y mae'r ACLl yn barnu ei fod yn briodol;
(b) cyhoeddi ar ei wefan—
(ii) y materion cyn-adneuo, (iii) datganiad o'r ffaith bod y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael i'w harolygu ac o'r lleoedd lle gellir eu harolygu a'r amserau y gellir eu harolygu;
(c) anfon at y cyrff hynny a nodwyd o dan reoliad 14(a) a (b)—
(ii) y dogfennau ategol sy'n berthnasol i'r corff y mae'r dogfennau yn cael eu hanfon ato, (iii) hysbysiad o'r materion cyn-adneuo, (iv) y datganiad ym mharagraff (b)(iii); ac
(ch) hysbysu drwy hysbyseb leol—
(ii) y ffaith bod y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael i'w harolygu, y mannau lle gellir eu harolygu a'r amserau y gellir eu harolygu.
Sylwadau Ymgynghoriad â'r Cyhoedd
(b) cael eu hanfon i'r cyfeiriad, a phan fo'n gymwys, at y person a bennir yn unol â rheoliad 15(ch).
(3) Rhaid i ACLl ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir yn unol â pharagraff (2) cyn penderfynu'n derfynol ar gynnwys y cynigion CDLl sydd i'w rhoi ar gael o dan reoliad 17.
(b) cyhoeddi ar ei wefan—
(ii) y materion adneuo, a (iii) datganiad o'r ffaith bod y dogfennau CDLl ar gael i'w harolygu ac o'r mannau lle gellir eu harolygu a'r amserau y gellir eu harolygu;
(c) anfon at bob un o'r cyrff a nodwyd yn rheoliad 14(a) a (b), gopïau o'r canlynol—
(ii) yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd, (iii) yr adroddiad ymgynghori cychwynnol, (iv) rhestr o'r dogfennau ategol sy'n berthnasol ym marn yr ACLl i waith paratoi'r CDLl, (v) hysbysiad o'r materion adneuo, a (vi) y datganiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (b)(iii); ac
(ch) hysbysu drwy hysbyseb leol—
(ii) y ffaith bod y dogfennau CDLl ar gael i'w harolygu ac o'r mannau lle gellir eu harolygu a'r amserau y gellir eu harolygu.
Sylwadau ar gynigion adneuo cynllun datblygu lleol
(b) pan fo'n ymarferol, cyhoeddi ar ei wefan fanylion am yr holl sylwadau a gafwyd ynghyd â datganiad ynghylch sut y gellir eu harolygu yn unol â rheoliad 15(a).
(3) Nid oes angen i ACLl gydymffurfio â pharagraff (2) os cyflwynir y sylw ar ôl y cyfnod a bennir yn rheoliad 18.
(b) cyhoeddi ar ei wefan—
(ii) y materion ym mharagraff (3), (iii) datganiad o'r ffaith bod y sylw ar ddyraniad safle ar gael i'w archwilio ac ynghylch y mannau lle gellir ei archwilio a'r amserau y gellir ei archwilio;
(c) anfon at y cyrff a nodwyd yn rheoliad 14(a) a (b)—
(ii) hysbysiad o'r materion ym mharagraff (3), (iii) datganiad o'r ffaith bod y sylw ar ddyraniad safle ar gael i'w archwilio a'r mannau lle gellir ei archwilio a'r amserau y gellir ei archwilio; ac
(ch) hysbysu drwy hysbyseb leol—
(ii) y ffaith bod y sylw ar y dyraniad safle ar gael i'w archwilio; a'r mannau lle gellir ei archwilio a'r amserau y gellir ei archwilio;
(3) Y materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2 yw—
(b) y cyfeiriad, a phan fo'n briodol, y person y mae rhaid i—
(ii) sylwadau ar ffurf cyfathrebiadau electronig,
gael eu hanfon ato.
Sylwadau am sylw ar ddyraniad safle
(b) pan fo'n ymarferol, cyhoeddi ar ei wefan fanylion am yr holl sylwadau a gafwyd ynghyd â datganiad ynghylch sut y gellir eu harchwilio yn unol â rheoliad 15(a).
(3) Nid oes angen i ACLl gydymffurfio â pharagraff (2) os yw'r sylw wedi'i gyflwyno ar ôl y cyfnod a bennir ym mharagraff 1.
(b) y cynllun cynnwys cymunedau; (c) adroddiad ymgynghori sy'n nodi—
(ii) crynodeb o'r prif faterion a godwyd yn y cysylltiadau, yr ymgynghoriadau a'r sylwadau hynny, a (iii) sut yr aethpwyd i'r afael â'r prif bynciau hynny yn yr CDLl, (iv) cyfanswm y sylwadau a gafwyd yn unol â phob un o reoliadau 16, 18 ac 21, (v) ei argymhellion ynglŷn â'r ffordd y dylid mynd i'r afael, yn ei farn ef, yn yr CDLl â'r prif faterion a godwyd yn y sylwadau a gafwyd yn unol â rheoliadau 18 a 21, (vi) ei argymhellion ynglŷn â'r ffordd y dylid mynd i'r afael, yn ei farn ef, yn yr CDLl â phob un o'r sylwadau a gafwyd yn unol â rheoliadau 18 a 21, a (vii) unrhyw wyro oddi wrth y cynllun cynnwys cymunedau;
(ch) copi o'r sylwadau a gafwyd yn unol â rheoliadau 18 a 21; a
(3) O'r dogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(a) i (c) a (d)—
(b) rhaid anfon un copi yn electronig, ar yr amod, yn achos y dogfennau a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(d), neu y cyfeiriwyd atynt ynddo, y byddai'n ymarferol gwneud hynny.
(4) O'r dogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2(ch), rhaid anfon un copi o bob un ar ffurf papur.
(b) hysbysu'r ffaith drwy hysbyseb leol; (c) trefnu bod y dogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(c) a (d) ar gael i'w harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15(a); (ch) cyhoeddi ar ei wefan y dogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(c) ac, os yw'n ymarferol, y rhai y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(d); (d) rhoi hysbysiad i'r personau hynny a ofynnodd am gael eu hysbysu pan fyddai'r CDLl wedi'i gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod wedi'i gyflwyno felly.
Archwiliad annibynnol
(b) hysbysu o'r materion hynny unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylw (a heb ei dynnu'n ôl) yn unol â rheoliad 18 neu 21; ac (c) hysbysu drwy hysbyseb leol o'r materion hynny.
(2) Y materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yw—
(b) enw'r person a benodwyd i gyflawni'r archwiliad.
(3) Cyn bod y person a benodwyd i gyflawni'r archwiliad yn cydymffurfio ag adran 64(7), rhaid i'r person hwnnw ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn unol â rheoliadau 18 ac 21.
(b) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 65(1) neu (4) ar ôl i'r person a benodwyd gydymffurfio ag adran 64(7), cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael y cyfarwyddyd.
(2) Pan fydd yr ACLl yn cydymffurfio ag adran 64(8), rhaid iddo—
(b) cyhoeddi ar ei wefan yr argymhellion a'r rhesymau; ac (c) hysbysu'r personau hynny a ofynnodd am gael eu hysbysu o gyhoeddiad argymhellion y person a benodwyd eu bod wedi'u cyhoeddi felly.
Mabwysiadu cynllun datblygu lleol
(ii) datganiad mabwysiadu, a (iii) yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd;
(b) cyhoeddi ar ei wefan y datganiad mabwysiadu;
(ii) y ffaith bod yr CDLl ar gael i'w archwilio; a'r mannau lle gellir archwilio'r ddogfen a'r amserau y gellir ei harchwilio;
(ch) anfon y datganiad mabwysiadu at unrhyw berson sydd wedi gofyn am gael ei hysbysu o fabwysiadu'r CDLl; a
Tynnu cynllun datblygu lleol yn ôl
(b) hysbysu'r ffaith honno drwy hysbyseb leol; (c) hysbysu unrhyw gorff y rhoddwyd hysbysiad iddo o'r ffaith honno o dan reoliad 15(c); (ch) dileu unrhyw gopïau, dogfennau, materion a datganiadau y trefnwyd iddynt fod ar gael neu a gyhoeddwyd o dan reoliadau 15(a) a (b), 17(a) a (b), 19(2)(a) a (b), ac 20(2)(a) a (b); a (d) hysbysu unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylw (a heb ei dynnu'n ôl) yn unol â rheoliad 18 neu 21 o'r ffaith honno.
Dogfennau i'w darparu i'r Cynulliad Cenedlaethol 27. Rhaid i ACLl ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol gopi o bob hysbysiad a gyhoeddwyd gan yr ACLl yn unol â'r Rheoliadau hyn pan gaiff yr hysbysiad ei gyhoeddi gyntaf, ynghyd â chopi o bob dogfen y trefnwyd iddi fod ar gael i'w harolygu yn unol â'r Rheoliadau hyn. Cyfarwyddyd i beidio â mabwysiadu cynllun datblygu lleol 28. —(1) Os, mewn perthynas ag CDLl, y mae'r person a benodwyd i gyflawni archwiliad o dan adran 64 wedi cydymffurfio ag is-adran (7) o'r adran honno, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo'r ACLl ar unrhyw adeg i beidio â mabwysiadu'r CDLl hwnnw nes bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu a ddylid rhoi cyfarwyddyd o dan adran 65(1) neu (4). (2) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi cyfarwyddyd o'r fath, rhaid i'r ACLl—
(b) cyhoeddi'r cyfarwyddyd ar ei wefan; (c) peidio â mabwysiadu'r CDLl nes bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi hysbysu'r ACLl o'i benderfyniad o dan baragraff (1).
Cyfarwyddyd i addasu cynllun datblygu lleol
(b) cyhoeddi'r cyfarwyddyd ar ei wefan; ac (c) ar yr adeg y mae'n cydymffurfio â rheoliad 25, cyhoeddi a rhoi ar gael i'w archwilio yn unol â'r rheoliad hwnnw—
(ii) hysbysiad y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 65(2)(b).
Cyfarwyddiadau Adran 65(4) (galw i mewn)
(b) rhaid i'r ACLl—
(ii) cyhoeddi'r cyfarwyddyd ar ei wefan; a (iii) yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol, a pharagraff 4, cydymffurfio â'r rheoliadau a enwir ym mharagraff (3) fel petai'n paratoi'r CDLl.
(3) Y rheoliadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(b)(iii) yw rheoliadau 15 i 21 a rheoliad 24 ac eithrio paragraff (1) o'r rheoliad hwnnw.
(b) ei resymau dros wneud hynny.
(2) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gydymffurfio â pharagraff (1), rhaid i'r ACLl—
(b) cyhoeddi ar ei wefan—
(ii) y materion ym mharagraff (3), (iii) datganiad o'r ffaith bod y newidiadau a'r rhesymau ar gael i'w harchwilio a'r mannau lle gellir eu harchwilio a'r amserau y gellir eu harchwilio;
(c) anfon copïau o'r newidiadau a'r rhesymau at y cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) a hysbysu'r cyrff hynny o'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3); a
(ii) y ffaith bod y newidiadau a'r rhesymau ar gael i'w harchwilio; a'r mannau lle gellir eu harchwilio a'r amserau y gellir eu harchwilio.
(3) Dyma'r materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2) —
(b) y cyfeiriad yn y Cynulliad Cenedlaethol y mae rhaid anfon sylwadau iddo, a phan fo'n briodol, y person y mae rhaid eu hanfon ato (boed ar ffurf cyfathrebiadau electronig neu fel arall); ac (c) datganiad y caniateir i ddeisyfiad fynd gydag unrhyw sylwadau, a hwnnw'n ddeisyfiad am gael hysbysiad mewn cyfeiriad penodedig o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 65(9)(a).
(4) Y cyrff y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(c) yw—
(b) y cyrff ymgynghori cyffredinol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu eu bod yn briodol.
Sylwadau ar newidiadau arfaethedig (galw i mewn)
(b) cyhoeddi ar ei wefan yr argymhellion a'r rhesymau.
Penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol ar ôl cyfarwyddyd adran 65(4) (galw i mewn)
(ii) datganiad penderfynu;
(b) cyhoeddi ar ei wefan y datganiad penderfynu;
(ii) y ffaith bod yr CDLl a rhesymau'r Cynulliad Cenedlaethol ar gael i'w harolygu a'r mannau lle gellir arolygu'r ddogfen a'r rhesymau a'r amserau pryd y gellir eu harolygu; ac
(ch) anfon y datganiad penderfynu at unrhyw berson sydd wedi gofyn am gael ei hysbysu o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 65(9)(a).
Pŵer diofyn y Cynulliad Cenedlaethol
(ii) fel petai'r cyfeiriadau yn y darpariaethau hynny yn y CDLl yn gyfeiriadau at y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b) mae rheoliadau 31 i 35 yn gymwys, yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol ac fel petai cyfeiriadau at ACLl yn gyfeiriadau at y Cynulliad Cenedlaethol.
Cydgynllun datblygu lleol: cynlluniau cyfatebol 36. —(1) O ran cytundeb a grybwyllwyd yn adran 72(1), tri mis yw'r cyfnod a ragnodir at ddibenion adran 72(7), gan ddechrau ar y diwrnod y mae unrhyw ACLl sy'n barti i'r cytundeb yn tynnu'n ôl o'r cytundeb hwnnw. (2) Mae CDLl cyfatebol at ddibenion adran 72(5) yn CDLl—
(b) y mae ei effaith, o ran ardaloedd yr ACLl a'i baratôdd, yn sylweddol yr un fath ag effaith y cydgynllun gwreiddiol.
(3) Ym mharagraff (2)(b), ystyr "cydgynllun gwreiddiol" yw cydgynllun datblygu lleol a baratowyd yn unol â chytundeb a grybwyllwyd ym mharagraff (1). Yr adroddiad monitro blynyddol 37. —(1) Rhaid i ACLl gyhoeddi ei adroddiad monitro blynyddol ar ei wefan a'i gyflwyno hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol ar neu cyn y dyddiad a bennwyd mewn canllawiau a wnaed o dan adran 75. (2) Pan nad yw polisi a bennwyd mewn CDLl yn cael ei weithredu, rhaid i'r adroddiad monitro blynyddol enwi'r polisi hwnnw. (3) Pan fo adroddiad monitro blynyddol yn enwi polisi yn unol â pharagraff (2), rhaid i'r adroddiad hwnnw gynnwys datganiad—
(b) y camau (os o gwbl) y mae'r ACLl yn bwriadu eu cymryd i sicrhau y caiff y polisi ei weithredu; ac (c) ynghylch a yw'r ACLl yn bwriadu paratoi diwygiad o'r CDLl i ddisodli neu ddiwygio'r polisi.
(4) Rhaid i'r adroddiad monitro blynyddol bennu—
(b) y nifer (os o gwbl) o anheddau fforddiadwy ychwanegol net ac anheddau'r farchnad gyffredinol net a adeiladwyd yn ardal yr ACLl
yn y cyfnod y gwnaed yr adroddiad ar ei gyfer; ac ers i'r CDLl gael ei fabwysiadu neu ei gymeradwyo am y tro cyntaf. Argaeledd dogfennau at ddiben eu harchwilio: cyffredinol 38. —(1) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i CDLl na diwygiad y trefnwyd iddo fod ar gael neu a gyhoeddwyd o dan reoliad 39. (2) Caniateir i ddogfennau, sylwadau, cyfarwyddiadau, materion, hysbysiadau neu ddatganiadau—
(b) a gyhoeddwyd ar wefan ACLl,
o dan y Rheoliadau hyn gael eu dileu ar yr adeg a bennir ym mharagraff (3).
(b) cyhoeddi'r CDLl ar ei wefan.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo ACLl yn mabwysiadu, neu'r Cynulliad Cenedlaethol yn cymeradwyo, diwygiad o CDLl.
(b) dileu'r copi o'r CDLl y trefnwyd iddo fod ar gael i'w archwilio ac a gyhoeddwyd o dan baragraff (2); (c) cymryd unrhyw gamau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol i dynnu dirymiad yr CDLl at sylw personau sy'n byw neu'n gweithio yn ei ardal; ac (ch) hysbysu dirymiad yr CDLl drwy hysbyseb leol.
Copïau o ddogfennau
(b) nad yw'r ddogfen honno wedi'i chyhoeddi yn unol ag un o ofynion Rhan 6 o'r Ddeddf; ac (c) y gofynnir i'r person hwnnw gan berson arall am gopi o'r ddogfen honno,
rhaid i'r person a grybwyllwyd yn gyntaf ddarparu copi o'r ddogfen i'r person arall hwnnw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael deisyfiad y person arall hwnnw.
(b) o unrhyw ddogfen yn unol â gofyniad o dan Rhan 6 o'r Ddeddf,
godi tâl rhesymol am y copi. Adolygu cynllun datblygu lleol 41. Rhaid i ACLl gychwyn adolygiad llawn o'i CDLl bob pedair blynedd o ddyddiad ei fabwysiadu'n gyntaf, yn unol â rheoliad 3(1). Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[19]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 11 Hydref 2005 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("y Ddeddf") yn sefydlu system newydd o gynlluniau datblygu lleol ("CDLl") yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithredu'r system honno. Mae'r Rheoliadau yn rhagnodi ffurf a chynnwys CDLl (sydd i'w paratoi gan yr awdurdodau cynllunio lleol ("ACLl")) (Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn wrth eu paratoi (Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn). Y prif gamau yn y weithdrefn o wneud CDLl yw—
(b) cyfranogi cyn adneuo (rheoliad 14); (c) ymgynghori â'r cyhoedd cyn adneuo (rheoliad 15); (ch) cyflwyno sylwadau a'u hystyried (rheoliad 16); (d) adneuo'r cynigion (rheoliad 17); (dd) cyflwyno ac ystyried sylwadau ar y cynigion (rheoliadau 18 i 20); (e) sylwadau am sylwadau ar ddyraniad safle (rheoliad 21); (f) cyflwyno CDLl sydd wedi'i adneuo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") ei archwilio (rheoliadau 22 a 23); (ff) cyhoeddi argymhellion y person a benodwyd i gyflawni'r archwiliad (rheoliad 24); ac (g) mabwysiadu'r CDLl gan yr ACLl (rheoliad25).
Mae darpariaethau hefyd ynglŷn â sut y dylid ymdrin â gwahanol ffurfiau o sylwadau ar CDLl (rheoliadau 19 ac 20), ynghylch tynnu CDLl yn ôl (rheoliad 26) ac ynglŷn ag ymyriad y Cynulliad Cenedlaethol yn y broses o baratoi CDLl (gan gynnwys darpariaethau ynghylch CDLl y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyfarwyddo bod rhaid eu cyflwyno iddo ef eu pwyso a'u mesur) (Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn). Notes: [1] 2004 p.5. O ran pwerau i ragnodi, gweler adran 122(1).back [2] 1990 p.8. Mewnosodwyd Atodlen 4A gan Atodlen 1 i Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.back [6] Gweler adran 1(1) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (p.97), fel y'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43), adran 130 ac Atodlen 8, paragraff 1 ac fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/416.back [7] Gweler adran 1(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25).back [8] Gweler adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49).back [9] 1989 (p.29); amnewidiwyd adran 6 gan Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p.27), adran 30.back [10] 1986 (p.44); amnewidiwyd adran 7 gan Ddeddf Nwy 1995 (p.45) a diwygiwyd adran 7(2) gan Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p.27), adrannau 3(2), 76(1) a (3) ac Atodlen 6, paragraffau 1 a 4.back [11] Mae'r diffiniad o "electronic communications apparatus" wedi'i fewnosod ym mharagraff 1(1) o'r cod cyfathrebu electronig gan baragraff 2(2) o Atodlen 3 i Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p.21).back [13] Yn Gall Gyda Gwastraff: Strategaeth Wastraff Genedlaethol Cymru, Mehefin 2002 .back [15] Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (p.80), adran 1(1) ac atodlen 1, paragraff 1.back [17] O.J. Rhif L10, 14.1.1997, t.13.back [18] O.J. Rhif L345, 31.12.2003, t.0097-0105.back
ISBN 0 11 091194 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 19 October 2005 |