Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2005, ISBN 0110911911. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2] ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[3] sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2005; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 25 Tachwedd 2005. Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 2. Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996[4] (i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru) yn unol â rheoliadau 3 i 7. 3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o "Directive 2000/13", yn lle'r geiriau o "and Commission Directive 2002/67/EC" hyd at y diwedd rhodder y geiriau "Commission Directive 2002/67/EC[5] on the labelling of foodstuffs containing quinine, and of foodstuffs containing caffeine and Commission Directive 2005/26/EC[6] establishing a list of food ingredients or substances provisionally excluded from Annex IIIa of Directive 2000/13/EC". 4. Yn rheoliad 13(8)(c) (trefn y rhestr gynhwysion) mewnosoder ar y diwedd y geiriau "other than, until 25 November 2007, ingredients which originate from an allergenic ingredient and are listed in column 2 of Schedule 2A in relation to that allergenic ingredient". 5. Yn rheoliad 34B (bwydydd sy'n cynnwys cynhwysion alergenig neu gynhwysion sy'n dod o gynhwysion alergenig)—
(b) ym mharagraff (2)(b) mewnosoder ar y dechrau y geiriau "subject to paragraph (3) of this regulation"; (c) mewnosoder ar y diwedd y paragraff canlynol—
6.
Yn rheoliad 50(12)(b)(iii) (darpariaeth drosiannol) mewnosoder ar ôl y rhif "12" y geiriau "(as read with regulation 5 of the Food Labelling (Amendment) (Wales) (No. 2) Regulations 2005)".
Note 1 And their products, in so far as the process that they have undergone is not likely to increase the level of allergenicity assessed by the European Food Safety Authority for the relevant product from which they originated."
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Labelu Bwyd 1996 ("y prif Reoliadau") i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Mae'r Rheoliadau hynny'n rhychwantu Prydain Fawr i gyd. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/26/EC sy'n llunio rhestr o gynhwysion bwyd neu sylweddau a eithriwyd dros dro o Atodiad IIIa o Gyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L75, 22.3.2005, t.33). 2. Mae'r Rheoliadau hyn—
(b) yn gwneud rhai diwygiadau canlyniadol (rheoliadau 4 a 6) ac yn diweddaru'r diffiniad o "Directive 2000/13" (rheoliad 3).
3.
Paratowyd arfarniad rheoleiddiol ar yr effaith y bydd y Rheoliadau hyn yn ei chael ar gostau busnes ac fe'i gosodwyd yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y trosir prif elfennau Cyfarwyddeb 2005/26/EC yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p.16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990; diwygiwyd adran 53(2) gan Atodlen 6 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p. 28) ac O.S. 2004/2990.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Secretary of State" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back [4] O.S. 1996/1499; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1398, 1999/747, 1136, 1483, 2003/832 (Cy.104), 2004/249 (Cy.26), 2004/3022 (Cy.261).back [5] OJ Rhif L191, 19.7.2002, t.20.back [6] OJ Rhif L75, 22.3.2005, t.33.back
ISBN 0 11 091191 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 19 October 2005 |