Gorchymyn Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005, ISBN 0110911903. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 40, 43(1)(b), 44(1) a 44(2) o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi a dehongli 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005. 2. —(1) Yn y Gorchymyn hwn—
(2) Yn y Gorchymyn hwn mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir fel arall, yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf ac Atodlenni iddi.
(b) mae'r darpariaethau a bennir yng ngholofn gyntaf y Tabl yn Rhan 2 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn dod i rym at y dibenion a bennir yn ail golofn y Tabl hwnnw.
4.
—(1) Mae adran 35 a'r paragraffau a ganlyn o Atodlen 4 yn dod i rym yn unol â pharagraffau (2) a (3) isod—
(b) 11(a) ac (c) i (e), (c) 14(a), a (ch) 23.
(2) Heblaw fel y darperir ym mharagraff (3) isod, daw'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod i rym ar 12 Hydref 2005 at ddibenion gwneud gorchmynion a rheoliadau (yn ôl y digwydd) yn ymwneud â swyddogaethau'r Ombwdsmon o dan Ran 3 o Ddeddf 2000.
(ii) 53, (iii) 68(1), (3) a (4), (iv) 70(2)(b), a (v) 82.
(b) y diben y cyfeirir ato uchod yw'r diben o wneud gorchmynion a rheoliadau (yn ôl y digwydd) yn ymwneud â swyddogaethau'r Comisiwn neu Gomisiynydd Lleol yng Nghymru o dan Ran 3 o Ddeddf 2000.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2006
(b) mae'r darpariaethau hynny yn parhau i gael effaith yn unol ag is-baragraff (a) uchod yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir yn ail golofn y Tabl yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn.
(3) Nid yw'r darpariaethau a ganlyn yn dod i rym ar 1 Ebrill 2006—
(b) paragraff 15(5) o Atodlen 1.
Cwynion sy'n rhychwantu'r dyddiad cychwyn
(b) os o ran y digwyddiadau a fu cyn 1 Ebrill 2006 gallesid (heblaw am ddarpariaethau eraill y Ddeddf) bod wedi gwneud cwyn wrth un o Ombwdsmyn presennol Cymru o dan y deddfiad presennol perthnasol ond nis gwnaed.
(3) At ddibenion yr erthygl hon nid yw'r Ombwdsmon wedi ei rwystro rhag ymchwilio i fater (neu ran o fater) yn unol â Rhan 2 o'r Ddeddf yn unig am fod y mater yn ymwneud â digwyddiadau a ddigwyddodd cyn 1 Ebrill 2006.
(b) "y deddfiad presennol perthnasol",
yr ystyron sydd i "existing Welsh Ombudsman" a "the relevant existing enactment" yn adran 38(6).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 ("y Ddeddf"), ac eithrio adran 20 a pharagraff 15(5) o Atodlen 1 i'r Ddeddf. Mae erthygl 3 a Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf ar 12 Hydref 2005 at y diben o benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ("yr Ombwdsmon"), yn cynnwys y darpariaethau sy'n ymwneud â phersonau sydd i'w hanghymhwyso rhag dal swydd yr Ombwdsmon. Mae'r darpariaethau hynny hefyd yn dwyn i rym amrywiol bwerau (sydd wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad")) ar 12 Hydref 2005 i wneud gorchmynion a rheoliadau sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Ombwdsmon o dan Ran 2 o'r Ddeddf. Mae erthygl 3 a Rhan 2 o Atodlen 1 yn dwyn i rym ar 12 Hydref 2005 ddarpariaethau'r Ddeddf sy'n symud ymaith gyfrifoldebau Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru a Chomisiynydd Gwasanaeth Iechyd Cymru i baratoi ac i gyflwyno i Gabinet y Cynulliad amcangyfrifon o incwm ac o wariant y naill swydd a'r llall am y flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2007. Mae'r darpariaethau hynny hefyd yn dwyn i rym ar 12 Hydref 2005 y darpariaethau yn y Ddeddf sy'n symud ymaith ddyletswydd y Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru i baratoi ac i gyflwyno i'r Cynulliad amcangyfrif o'r treuliau y bydd yn eu tynnu am y flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2007. Er bod paragraff 7(1) o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru gyflwyno ei amcangyfrif i'r Ysgrifennydd Gwladol, mae erthygl 2(a) i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999 Rhif 672) ac Atodlen 1 iddo yn cael effaith fel bod rhaid i'r Comisiwn yn hytrach gyflwyno'r amcangyfrif i'r Cynulliad. Mae Atodlen 4 yn diwygio Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("Deddf 2000") sy'n ymwneud ag ymddygiad aelodau a chyflogeion llywodraeth leol. Yn hyn o beth mae Atodlen 4 yn gwneud y diwygiadau sy'n angenrheidiol i beri bod Rhan 3 o Ddeddf 2000 yn cydweddu'n llawn â'r Ddeddf. Yn ei hanfod, pan ddaw Atodlen 4 i rym yn llawn, bydd swyddogaethau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru ("y Comisiwn") a swyddogaethau'r Comisiynydd Lleol yng Nghymru ("y Comisiynydd") o dan Ran 3 o Ddeddf 2000 yn dod yn swyddogaethau'r Ombwdsmon. A siarad yn fras, o ran awdurdodau perthnasol yn Lloegr (fel y'u diffinir yn Neddf 2000) ac awdurdodau heddluoedd yng Nghymru mae'r pwerau yn Rhan 3 o Ddeddf 2000 i wneud gorchmynion a rheoliadau sy'n ymwneud â chyrff o'r fath wedi eu breinio yn yr Ysgrifennydd Gwladol. O ran awdurdodau perthnasol yng Nghymru (heblaw awdurdodau heddluoedd yng Nghymru) mae'r pwerau hynny wedi eu breinio yn y Cynulliad. Mae'r pwerau i wneud gorchmynion a rheoliadau sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Comisiwn a'r Comisiynydd o dan Ran 3 o Ddeddf 2000 wedi eu breinio yn y Cynulliad. Mae erthyglau 4(1) a (2) o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 12 Hydref 2005 y darpariaethau hynny o Atodlen 4 sy'n diwygio'r pwerau yn rhan 3 o Ddeddf 2000 i wneud gorchmynion a rheoliadau (yn ôl y digwydd) mewn cysylltiad ag ymddygiad aelodau a chyflogeion awdurdodau perthnasol (o fewn ystyr Rhan 3 o Ddeddf 2000) gan beri bod y darpariaethau hynny, lle bo angen, yn cydweddu'n llawn â'r Ddeddf. Hyd nes daw adran 35 ac Atodlen 4 i rym yn llawn ar 1 Ebrill 2006 nid oes gan yr Ombwdsmon unrhyw swyddogaethau dan Ran 3 o Ddeddf 2000. Er hynny mae erthyglau 4(1) a (2) o'r Gorchymyn hwn yn galluogi gwneud gorchmynion a rheoliadau i baratoi ar gyfer yr adeg, ar 1 Ebrill 2006, pryd y bydd yr Ombwdsmon yn cymryd drosodd swyddogaethau'r Comisiwn a'r Comisiynydd o dan y Rhan honno o'r Ddeddf honno. Er hynny, hyd nes daw adran 35 ac Atodlen 4 i rym yn llawn ar 1 Ebrill 2006, bydd y Comisiwn a'r Comisiynydd yn parhau i fod â swyddogaethau o dan y Rhan honno o'r Ddeddf honno. Mae erthygl 4(3) o'r Gorchymyn hwn, felly, yn darparu bod darpariaethau Rhan 3 o Ddeddf 2000 a fyddai fel arall yn cael eu heffeithio gan y diwygiadau a wnaed gan ddarpariaethau'r Ddeddf a ddygwyd i rym gan erthygl 4(1) a (2) o'r Gorchymyn hwn yn parhau i gael effaith (fel pe na baent wedi cael eu diwygio felly) at y diben o wneud gorchmynion a rheoliadau sy'n ymwneud â swyddogaethau sydd eisioes yn mynd rhagddynt y Comisiwn a'r Comisiynydd o dan Ran 3 o Ddeddf 2000. Mae erthygl 5(1) yn dwyn gweddill darpariaethau'r Ddeddf (ac eithrio adran 20 a pharagraff 15(5) o Atodlen 1) i rym ar 1 Ebrill 2006. Mae erthygl 5(2) ac Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau arbedol. Mae'r darpariaethau hyn yn ymwneud â chyfrifon ac adnoddau Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru, Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd Cymru ac Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru. Yr un person sydd ar hyn o bryd yn dal pob un o'r swyddi hyn. Effaith y darpariaethau hyn, am y flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006, yw bod y gofynion sy'n ymwneud â'r swyddi hyn i baratoi cyfrifon ac i gael archwiliad o'r cyfrifon hynny etc. yn parhau yn gymwys. Yn gymaint â bod y darpariaethau hynny yn dal yn gymwys, caiff yr Ombwdsman ei ystyried yn swyddog cyfrifyddu o ran pob un o'r swyddi hynny, er enghraifft, at ddibenion llofnodi'r cyfrifon. Mae erthygl 6 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth o ran unrhyw gwyn a wneir neu a gyfeirir yn briodol at yr Ombwdsmon ynglŷn â mater sy'n ymwneud â digwyddiadau a ddigwyddodd cyn 1 Ebrill 2006 ac ynglŷn â digwyddiadau a ddigwyddodd ar ôl y dyddiad hwnnw. Dim ond os yw'r weithred yr achwynir o'i phlegid wedi digwydd cyn 1 Ebrill 2006 y bydd Adran 38 (cwynion heb benderfyniad arnynt) yn gymwys. Os yw cwyn yn ymwneud â gweithred sy'n digwydd ar y dyddiad hwnnw neu ar ei ôl bydd darpariaethau Rhan 2 yn gymwys i'r gwyn honno. At ddibenion erthygl 6 ni waherddir yr Ombwdsmon rhag ymchwilio i fater yn unig oherwydd bod y mater yn ymwneud â digwyddiadau a ddigwyddodd cyn 1 Ebrill 2006 (erthygl 6(3)). Er hynny, at ddibenion erthygl 6 dim ond os bydd amodau penodol wedi cael eu bodloni (erthygl 6(2)) y caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i fater o'r fath yn gymaint â'i fod yn ymwneud â digwyddiadau a ddigwyddodd cyn y dyddiad hwnnw. Dyma'r amodau hynny:
(b) gallesid (heblaw am ddarpariaethau eraill y Ddeddf) bod wedi gwneud y gŵyn parthed y digwyddiadau a ddigwyddodd cyn 1 Ebrill 2006 i Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru, Comisiynydd Lleol Cymru, Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd Cymru neu Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru ("ombwdsmyn presennol Cymru") ond ni wnaed hynny.
Er enghraifft, os, ar ôl 1 Ebrill 2006, ychwanegir corff i Atodlen 3 (awdurdodau rhestredig) gan orchymyn y Cynulliad o dan adran 28(2) ond nad yw'n gorff sydd, cyn y dyddiad hwnnw, o fewn awdurdodaeth un o ombwdsmyn presennol Cymru yna ni fydd erthygl 6 yn gymwys. Dim ond os yw'r mater yn rhychwantu 1 Ebrill 2006 ac os yw'r corff dan sylw, ar ôl y dyddiad hwnnw, o fewn awdurdodaeth yr Ombwdsmon a chyn y dyddiad hwnnw o fewn awdurdodaeth un o ombwdsmyn presennol Cymru, y bydd erthygl 6 yn gymwys. Notes: [1] 2005 p. 10.back
[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 1, uwchben y pennawd pwnc yn y fersiwn Gymraeg yn unig, dylai rhif ac is-rifau'r OS ddarllen fel: "2005 Rhif 2800 (Cy.199) (C.116)". back
ISBN 0 11 091190 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 19 October 2005 |