Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005, ISBN 0110911881. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 121(5) a 122(3)(b) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("y Ddeddf")[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005. Y diwrnod penodedig 2. —(1) Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym, sef—
(b) adran 64 (archwiliad annibynnol); (c) adran 65 (ymyrraeth gan y Cynulliad); (ch) adran 66 (tynnu cynllun datblygu lleol yn ôl); (d) adran 67 (mabwysiadu cynllun datblygu lleol); (dd) adran 68 (dirymu cynllun datblygu lleol); (e) adran 69 (adolygu cynllun datblygu lleol); (f) adran 70 (diwygio cynllun datblygu lleol); (ff) adran 71 (pŵer diofyn y Cynulliad); (g) adran 74 (corfforaethau datblygu trefol); ac (ng) adran 76 (yr adroddiad monitro blynyddol), i'r graddau nad yw eisoes mewn grym,
yw, at ddiben gwneud rheoliadau, 5 Hydref 2005, ac ymmhob achos arall, 15 Hydref 2005.
Notes (1) Relevant public functions are—
(b) the establishment or running by a public telecommunications operator of a telecommunications system.
(2) For the purposes of this paragraph a local development plan is—
(b) a revision of a local development plan in pursuance of section 70 of the 2004 Act which is adopted or approved for purposes of Part 6 of the 2004 Act; (c) a local development plan which has been submitted to the National Assembly for independent examination under section 64(1) of the 2004 Act; (d) a revision of a local development plan in pursuance of section 70 of the 2004 Act if the plan has been submitted to the National Assembly for independent examination under section 64(1) of that Act.
(3) But Note (2)(c) and (d) does not apply if the plan is withdrawn under section 66 of the 2004 Act at any time after it has been submitted for independent examination.
(5) Ym mharagraff 5, yn lle "any such functions as are mentioned in paragraph 1(a)(i) or (ii)" rhodder "relevant public functions (within the meaning of paragraph 1A or 1B)".
(ii) statws cynllun datblygu cyfredol yr awdurdod ar gyfer ei ardal, a
(b) 4 wythnos, gyhoeddi ar ei wefan yr wybodaeth sy'n ofynnol gan baragraff (a).
Arbedion Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot Cyngor Dinas a Sir Abertawe Cyngor Dinas Casnewydd Cyngor Sir Caerfyrddin Cyngor Sir Ceredigion Cyngor Sir Fynwy Cyngor Sir y Fflint Cyngor Sir Gwynedd Cyngor Sir Penfro Cyngor Sir Powys Cyngor Sir Ynys Môn (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â gweddill darpariaethau Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("y Ddeddf") i rym ar 15 Hydref 2005, sef adrannau 61, 64 i 71, 74 a 76 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym), ac eithrio'r darpariaethau o fewn yr adrannau hynny ar gyfer gwneud rheoliadau ac sy'n dod i rym ar 5 Hydref 2005. Mae Rhan 6 o'r Ddeddf (adrannau 60 i 78) yn gymwys o ran Cymru ac mae'n sefydlu system o gynlluniau datblygu lleol (CDLlau) yn lle'r cynlluniau datblygu unedol sy'n ofynnol o dan Bennod 1 o Ran II o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (Deddf 1990). Mae hefyd yn darparu ar gyfer Cynllun Gofodol Cymru. Daw'r holl ddarpariaethau a gynhwysir yn erthyglau 3 i 7 o'r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Hydref 2005. Mae'r Gorchymyn hwn yn mewnosod paragraff 1B yn Atodlen 13 o'r Ddeddf er mwyn darparu ar gyfer CDLlau ac mae'n gwneud trefniadau trosiannol ar gyfer cynlluniau datblygu sydd eisoes yn bod. Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn dod â'r trefniadau trosiannol i ben a wnaed o dan Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1229) (Cy.87) (C.56). O dan y trefniadau hynny daeth rhai o ddarpariaethau Rhan 6 o'r Ddeddf, sef y darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol i gychwyn ar baratoi'u CDLlau, yn effeithiol o ran awdurdodau penodol yn unig, sef—
Felly, effaith y Gorchymyn hwn fydd gwneud y system o GDLlau yn effeithiol yng Nghymru. Ond ni fydd yr awdurdodau cynllunio lleol a grybwyllir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn o dan ddyletswydd i baratoi CDLl hyd nes y gwneir gorchymyn pellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Daeth darpariaethau Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a geir yn y Tabl isod i rym ar y dyddiadau a ddangosir yn rhinwedd Gorchmynion a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Notes: [1] 2004 p.5.back [4] O.S. 1991/2794 fel a ddiwygiwyd gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu) (Diwygio) 1997 (O.S. 1997/531) a Rheoliadau Cynllunio (Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr) 1999 (O.S. 1999/981).back [5] Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Gorchymyn Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 O.S. 2005/2847 (C.118).back
ISBN 0 11 091188 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 17 October 2005 |