Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005, ISBN 011091189X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(6), 9, 98 a 144(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[1] a chyda chymeradwyaeth Canghellor y Trysorlys i'r graddau y mae'n ofynnol o dan adran 98(6), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn. Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn—
Asiantaethau sy'n cael darparu gwasanaethau cyfryngol 3. —(1) Caiff asiantaeth cymorth mabwysiadu gofrestredig neu asiantaeth fabwysiadu ddarparu gwasanaeth cyfryngol mewn cysylltiad â phersonau a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005. (2) Ni chaniateir darparu gwasanaeth cyfryngol ond mewn cysylltiad â phersonau a fabwysiadwyd ac a gyrhaeddodd 18 oed. (3) Rhaid darparu'r gwasanaeth yn unol â'r Rheoliadau hyn. (4) Mae gwasanaeth cyfryngol yn wasanaeth cymorth mabwysiadu at ddibenion adran 2(6) o Ddeddf 2002. Ystyr "gwasanaeth cyfryngol" ac "asiantaeth gyfryngol" 4. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) mae gwasanaeth cyfryngol yn wasanaeth a ddarperir at ddibenion—
(b) hwyluso cyswllt rhwng y personau hynny a'u perthnasau.
(2) Cyfeirir at asiantaeth cymorth mabwysiadu gofrestredig neu asiantaeth fabwysiadu sy'n darparu gwasanaeth cyfryngol yn y Rheoliadau hyn fel "asiantaeth gyfryngol". Blaenoriaeth i fabwysiadau cyn 1976 5. —(1) Caiff asiantaeth gyfryngol, mewn perthynas â mabwysiad ar 30 Rhagfyr 2005, neu cyn hynny, dderbyn cais —
(b) oddi wrth berthynas y person mabwysiedig am gynorthwy i gysylltu â'r person hwnnw.
(2) Caiff asiantaeth gyfryngol dderbyn cais mewn perthynas â mabwysiad ar 12 Tachwedd 1975 neu ar ôl hynny, ond rhaid iddi roi blaenoriaeth i geisiadau mewn cysylltiad â mabwysiadau cyn y dyddiad hwnnw.
(ii) y gwrthrych; a (iii) unrhyw bersonau eraill y mae'n bosibl eu hadnabod neu eu heffeithio o ganlyniad i'r cais;
(b) unrhyw farn gan yr asiantaeth fabwysiadu briodol a gafwyd o dan reoliad 12;
a holl amgylchiadau eraill yr achos.
(b) pan fo'r person hwnnw wedi hysbysu'r asiantaeth fabwysiadu briodol yn ysgrifenedig—
(ii) nad yw ond yn dymuno bod cyswllt yn cael ei wneud ag ef o dan amgylchiadau penodedig neu gan bersonau penodedig.
(2) Pan hysbysir yr asiantaeth fabwysiadu briodol am feto o dan baragraff (1) rhaid iddi gadw cofnod ohono a sicrhau ei bod yn hysbys i unrhyw asiantaeth gyfryngol sy'n cysylltu â hi mewn perthynas â chais o dan y Rheoliadau hyn.
(b) sy'n wrthrych cais o'r fath ac sy'n ystyried cydsynio i ddatgelu gwybodaeth amdano i'r ceisydd.
(2) Rhaid i'r wybodaeth a roddir o dan baragraff (1) gynnwys—
(b) y ffioedd y gellir eu codi gan y personau hynny.
(3) Os yw person a grybwyllir ym mharagraff (1) yn gofyn am gael cwnsela, rhaid i'r asiantaeth gyfryngol sicrhau bod gwasanaethau cwnsela yn cael eu darparu i'r person hwnnw.
(b) os yw'r person yn yr Alban, asiantaeth fabwysiadu Albanaidd; (c) os yw'r person yng Ngogledd Iwerddon, cymdeithas fabwysiadu a gofrestrwyd o dan Erthygl 4 o Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 1987[3] neu oddi wrth unrhyw Fwrdd; neu (ch) os yw'r person y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw berson neu gorff y tu allan i'r Deyrnas Unedig y mae'n ymddangos i'r asiantaeth ei fod yn cyfateb o ran ei swyddogaethau i gorff a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c).
(5) Yn y rheoliad hwn—
(6) Pan nad yw gwasanaethau cwnsela ar gael i wrthrych heblaw gwasanaethau y mae'n rhaid talu amdanynt ac mae'r gwrthrych yn dewis peidio â'u defnyddio, er hynny rhaid i'r asiantaeth gyfryngol ddarparu cymorth a chynorthwy i'r gwrthrych wrth iddo benderfynu ynghylch cydsynio i ddatgelu gwybodaeth. Y weithdrefn pan geir cais 11. Pan gaiff asiantaeth gyfryngol gais o dan y Rheoliadau hyn, rhaid iddi gymryd camau rhesymol i gadarnhau—
(b) bod unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran y ceisydd wedi'i awdurdodi i wneud hynny; ac (c) yn achos cais gan berthynas i'r person mabwysiedig bod y ceisydd yn perthyn i'r person hwnnw.
Cysylltu â'r asiantaeth fabwysiadu briodol
(b) os bydd y Cofrestrydd Cyffredinol yn ardystio nad yw'r wybodaeth honno ganddo, gofyn amdani yn ysgrifenedig i'r llys a wnaeth y gorchymyn mabwysiadu; ac (c) holi'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle digwyddodd y mabwysiad.
(3) Os cafodd yr asiantaeth fabwysiadu briodol ei hadnabod, rhaid i'r asiantaeth gyfryngol gysylltu â'r asiantaeth honno er mwyn gwybod a oes feto o dan reoliad 8 yn bodoli.
(b) cael gwybod beth yw barn yr asiantaeth ynghylch priodoldeb y cais (gan ystyried y ffactorau a grybwyllir yn rheoliad 6); a (c) ceisio unrhyw wybodaeth arall sy'n ofynnol at ddibenion—
(ii) galluogi'r gwrthrych i wneud penderfyniad deallus ynghylch cydsynio i ddatgelu gwybodaeth amdano'i hun neu ar gyfer cyswllt â'r ceisydd; (iii) cwnsela'r gwrthrych mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw; neu (iv) cwnsela'r ceisydd.
(5) Onibai bod feto y cyfeirir ato yn rheoliad 8 yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu briodol gymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â chais oddi wrth asiantaeth gyfryngol o dan baragraff (3) a chaiff ddatgelu i'r asiantaeth gyfryngol unrhyw wybodaeth (gan gynnwys gwybodaeth adnabod) sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw.
(b) gwybodaeth o'r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu.
(2) Yr achosion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yw—
(b) pan fo'r asiantaeth gyfryngol yn cysylltu â'r asiantaeth fabwysiadu briodol ac yn cael gwybod nad oes ganddi'r wybodaeth angenrheidiol.
(3) Pan fo'r asiantaeth gyfryngol yn asiantaeth fabwysiadu briodol ac nad oes ganddi ddigon o wybodaeth at y dibenion a grybwyllir yn rheoliad 12(4)(c) caiff ofyn i'r Cofrestrydd Cyffredinol am unrhyw wybodaeth a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) a(b) a all ei chynorthwyo at y dibenion hynny.
(b) i'r asiantaeth fabwysiadu briodol at ddiben cael gwybod ei barn neu geisio gwybodaeth o dan reoliad 12; (c) i'r gwrthrych i'w alluogi i wneud penderfyniad deallus o dan reoliad 7; ac (ch) i berson sy'n darparu gwasanaethau cwnsela mewn cysylltiad â chais o dan y Rheoliadau hyn.
Tramgwydd 17. Mae asiantaeth gyfryngol sy'n datgelu gwybodaeth yn groes i reoliad 7 heb esgus rhesymol yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol. Ffioedd 18. —(1) Caiff asiantaeth gyfryngol godi unrhyw ffi ar geisydd y mae'n penderfynu ei bod yn rhesymol mewn cysylltiad â phrosesu cais o dan y Rheoliadau hyn. (2) Caiff asiantaeth gyfryngol godi ffi ar berson a grybwyllir yn rheoliad 10(1) y mae'n penderfynu ei bod yn rhesymol o ran darparu gwasanaethau cwnsela i'r person hwnnw. (3) Caiff y Cofrestrydd Cyffredinol godi £10 am ddarparu gwybodaeth o dan reoliad 13. (4) Caiff asiantaeth fabwysiadu godi ffi ar asiantaeth gyfryngol y mae'n penderfynu ei bod yn rhesymol ar gyfer darparu gwybodaeth neu roi ei barn yn unol â chais o dan reoliad 12. (5) Caiff llys godi £20 ar asiantaeth gyfryngol am ddarparu gwybodaeth o dan reoliad 15. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 27 Medi 2005 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth o dan adran 98 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ("y Ddeddf") at ddibenion cynorthwyo pobl a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005 i gael gwybodaeth am eu mabwysiadu ac i hwyluso cysylltiad rhwng y bobl hynny a'u perthnasau geni drwy wasanaeth cyfryngol. Nodir y drefn ar gyfer datgelu gwybodaeth am fabwysiadau ar ôl 30 Rhagfyr 2005 yn adrannau 56 i 65 o'r Ddeddf. Bydd asiantaeth sy'n ymdrin â dim ond cais am wybodaeth am fabwysiad yr oedd yn asiantaeth fabwysiadu ynghlwm ag ef yn parhau i ymdrin ag ef o dan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983. Mae Rhan 1 yn rhoi swyddogaethau newydd i asiantaethau cymorth mabwysiadu cofrestredig ac asiantaethau mabwysiadu ("asiantaethau cyfryngol") sy'n fodlon darparu gwasanaeth cyfryngol o ran mabwysiadau cyn 30 Rhagfyr 2005. Mae Rhan 2 yn ymdrin yn gyffredinol â cheisiadau am wasanaeth cyfryngol. Caiff asiantaeth gyfryngol gael cais am wasanaeth cyfryngol oddi wrth berson mabwysiedig neu berthynas person mabwysiedig. Caniateir derbyn ceisiadau o ran mabwysiadau ar ôl 12 Tachwedd 1975 ond rhaid rhoi blaenoriaeth i geisiadau mewn perthynas â mabwysiadau cyn y dyddiad hwnnw. Nid yw'n ofynnol i'r asiantaeth gyfryngol fwrw ymlaen â chais os yw o'r farn na fyddai'n briodol gwneud hynny. Mae rheoliad 6 yn nodi'r ffactorau y dylai'r asiantaeth gyfryngol eu hystyried wrth wneud y penderfyniad hwnnw. Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth gyfryngol gael cydsyniad deallus gwrthrych y cais cyn datgelu gwybodaeth amdano a fyddai'n dangos i'r ceisydd pwy ydyw neu a fyddai'n galluogi'r ceisydd i olrhain y gwrthrych hwnnw. Mae rheoliad 8 yn galluogi'r person mabwysiedig i gofrestru feto gyda'r asiantaeth fabwysiadu briodol mewn perthynas â chais o dan y Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth gyfryngol ddarparu gwybodaeth am wasanaethau cwnsela a sicrhau gwasanaethau cwnsela mewn perthynas â cheisiadau am wasanaethau cyfryngol. Rhaid i asiantaethau cyfryngol eu hunain roi cymorth a chynorthwy i berson sy'n wrthrych cais os bydd y person yn dewis peidio â thalu am wasanaeth cwnsela. Mae Rhan 3 yn nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan yr asiantaeth gyfryngol wrth brosesu cais. Mae'r camau cyntaf yn cynnwys cadarnhau oedran a hunaniaeth y ceisydd a sefydlu ei fod yn perthyn i'r gwrthrych. Yna, dylai'r asiantaeth gyfryngol nodi'r asiantaeth fabwysiadu sy'n dal y cofnodion sy'n ymwneud â'r mabwysiad, gan geisio cynorthwy pan fo'n briodol oddi wrth y Cofrestrydd Cyffredinol a'r llys. Yna, dylai gysylltu â'r asiantaeth i gael gwybod a gofrestrwyd feto ac i geisio ei barn ar y cais ac i geisio unrhyw wybodaeth sy'n angenrheidiol i olrhain gwrthrych y cais (rheoliad 12). Os na fu asiantaeth fabwysiadu ynghlwm, caiff yr asiantaeth gyfryngol ofyn am ar yr wybodaeth honno oddi wrth y Cofrestrydd Cyffredinol a allai fod o gymorth wrth brosesu'r cais (rheoliad 13). Mae rheoliadau 14 a 15 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cofrestrydd Cyffredinol ac i'r llys ddarparu gwybodaeth pan ofynnir iddynt amdani. Mae rheoliad 16 yn awdurdodi datgeliadau penodol at ddibenion prosesu cais o dan y Rheoliadau hyn. Mae Rhan 5 yn ymwneud â materion amrywiol. Mae rheoliad 17 yn creu tramgwydd o ddatgelu gwybodaeth yn groes i reoliad 8. Mae rheoliad 18 yn darparu ar gyfer ffioedd y gellir eu codi gan asiantaethau cyfryngol, asiantaethau mabwysiadu a'r Cofrestrydd Cyffredinol mewn perthynas â cheisiadau o dan y Rheoliadau hyn. Notes: [1] 2002 p.38. Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn adran 144(1) o'r Ddeddf o ran Lloegr, fel yr Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac o ran Cymru a Lloegr, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol yn gweithredu ar y cyd.back [3] O.S. 1987/2203 (G.I. 22).back [4] O.S. 1972/1265 (G.I. 14).back
ISBN 0 11 091189 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 19 October 2005 |