Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005, ISBN 0110911857. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9, 56 i 64, 140(8), 142(1) a (5) a 144(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[1] a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, gyda chymeradwyaeth y Cofrestrydd Cyffredinol[2] a Changhellor y Trysorlys[3] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:— Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn —
Gwybodaeth sydd i'w chadw am fabwysiad person 3. —(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn rhagnodi, at ddibenion adran 56 o'r Ddeddf, yr wybodaeth y mae'n rhaid i asiantaeth fabwysiadu ei chadw mewn perthynas â pherson a fabwysiedir ar neu ar ôl 30 Rhagfyr 2005 (ac y cyfeirir ati yn y Ddeddf ac yn y Rheoliadau hyn fel "gwybodaeth adran 56")[8]. (2) Pan wneir gorchymyn mabwysiadu mewn perthynas â pherson a fabwysiadwyd ar ôl 30 Rhagfyr 2005 rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu—
(b) y trosglwyddwyd y cofnodion achos mewn perthynas â'r person mabwysiedig iddi,
barhau i gadw'r cofnod achos a luniwyd mewn perthynas â'r person mabwysiedig o dan reoliad12 o'r Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu neu o dan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983[9].
(b) unrhyw wybodaeth a roddwyd gan ofalydd maeth blaenorol y person mabwysiedig, gyda'r bwriad y caiff y person mabwysiedig, os yw'n dymuno hynny, gael yr wybodaeth honno; (c) unrhyw wybodaeth a roddwyd gan y mabwysiadwyr neu bersonau eraill sy'n berthnasol i faterion sy'n codi ar ôl i'r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneud; (ch) unrhyw wybodaeth y gofynnodd y person a fabwysiadwyd iddi gael ei chadw; (d) unrhyw wybodaeth a roddwyd i asiantaeth mewn perthynas â pherson mabwysiedig gan y Cofrestrydd Cyffredinol o dan adran 79(5) o'r Ddeddf (gwybodaeth a fyddai'n galluogi person mabwysiedig i gael copi ardystiedig o gofnod ei eni); (dd) unrhyw wybodaeth a ddatgelwyd i'r asiantaeth fabwysiadu ynghylch cofnod sy'n ymwneud â'r person mabwysiedig yn y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu; (e) unrhyw wybodaeth y mae angen ei chofnodi yn unol â rheoliad 9, 10, 13 neu 16; (f) cofnod o unrhyw gytundeb o dan reoliad 10.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn mae "gwybodaeth" yn cynnwys gwybodaeth ar unrhyw ffurf, gan gynnwys ar bapur neu gofnodion electronig a ffotograffau.
(b) i'r awdurdod lleol y lleolir prif swyddfa'r gymdeithas yn ei ardal; neu (c) yn achos cymdeithas sy'n cyfuno â chymdeithas fabwysiadu gofrestredig arall i ffurfio cymdeithas fabwysiadu gofrestredig newydd, i'r corff newydd.
(2) Rhaid i asiantaeth fabwysiadu sy'n trosglwyddo ei chofnodion i asiantaeth fabwysiadu arall yn rhinwedd paragraff (1), os oedd ei gweithgareddau pennaf yn ardal awdurdod lleol unigol, hysbysu'r awdurdod hwnnw yn ysgrifenedig o'r trosglwyddiad. Datgelu gwybodaeth adran 56 at ddibenion swyddogaethau asiantaeth 7. —(1) Caiff asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth adran 56 nad yw'n wybodaeth a ddiogelir[11] fel y gwêl orau at ddibenion cyflawni ei swyddogaethau fel asiantaeth fabwysiadu. (2) Caiff asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth adran 56 (gan gynnwys gwybodaeth a ddiogelir) i asiantaeth cefnogi mabwysiadu gofrestredig sy'n darparu gwasanaethau i'r asiantaeth fabwysiadu mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan adran 61 neu 62 o'r Ddeddf. (3) Caiff asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth adran 56 (gan gynnwys gwybodaeth a ddiogelir) i berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gael gwybodaeth at ddibenion ymchwil. Datgelu gwybodaeth adran 56 at ddibenion ymholiadau, archwiliadau etc. 8. Rhaid i asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth adran 56 (gan gynnwys gwybodaeth a ddiogelir) yn ôl y gofyn—
(b) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau 74(5) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 i Gomisiynydd Plant Cymru[14] at ddibenion unrhyw archwiliad a gynhelir yn unol â Rhan V o'r Ddeddf honno; (c) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru; (ch) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adrannau 29(7) a 32(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974[15] (ymchwiliadau a datgelu), i'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru at ddibenion ymchwiliad a gynhelir yn unol â Rhan III o'r Ddeddf honno; (d) i unrhyw berson a benodwyd gan yr asiantaeth fabwysiadu at ddibenion ystyriaeth gan yr asiantaeth o unrhyw sylwadau (gan gynnwys cwynion); (dd) i banel a ffurfiwyd o dan adran 12 o'r Ddeddf i ystyried penderfyniad cymhwysol mewn perthynas â datgelu gwybodaeth adran 56; (e) i swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS at ddibenion cyflawni dyletswyddau'r swyddog o dan y Ddeddf; (f) i lys sydd â'r pŵer i wneud gorchymyn o dan y Ddeddf neu o dan Ddeddf Plant 1989.
Gofynion sy'n ymwneud â datgelu
(b) y dyddiad y datgelir yr wybodaeth; (c) y person y datgelir yr wybodaeth iddo; (ch) y rheswm dros y datgeliad.
Cytundebau ar gyfer datgelu gwybodaeth a ddiogelir
(b) yw cytundeb a wneir rhwng yr asiantaeth fabwysiadu a phob un o'r personau canlynol o ran datgelu gwybodaeth a ddiogelir amdanynt neu am y person mabwysiedig—
(ii) pob person a oedd, cyn i'r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneund, yn rhiant a chyfrifoldeb rhiant am y person mabwysiedig.
(2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gytundeb o'r fath a rhaid i'r cofnod hwnnw gynnwys —
(b) y dyddiad pan gaiff ei wneud; (c) y rhesymau dros ei wneud; (ch) yr wybodaeth y ceir ei datgelu yn unol â'r cytundeb; (d) unrhyw gyfyngiadau y cytunir arnynt ynghylch yr amgylchiadau pan geir datgelu gwybodaeth.
Dull gwneud cais 11. Rhaid i gais i asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth a ddiogelir o dan adran 61 neu 62 o'r Ddeddf fod yn gais ysgrifenedig a rhaid datgan y rhesymau dros wneud y cais. Dyletswyddau asiantaeth wrth dderbyn cais 12. Pan geir cais i ddatgelu gwybodaeth a ddiogelir o dan adran 61 neu 62 o'r Ddeddf rhaid i asiantaeth fabwysiadu gymryd pob cam rhesymol i —
(b) cadarnhau bod unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran y ceisydd wedi cael ei awdurdodi i wneud hynny; ac (c) sicrhau bod ganddi ddigon o wybodaeth oddi wrth y ceisydd am y rhesymau dros y cais i alluogi'r asiantaeth i gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 61 neu 62 o'r Ddeddf (yn ôl y digwydd).
Cofnodion o sylwadau Gwybodaeth bod cwnsela ar gael 14. —(1) Rhaid i asiantaeth fabwysiadu ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig ynghylch argaeledd cwnsela i unrhyw berson —
(b) yr holwyd am eu sylwadau o ran datgelu gwybodaeth amdanynt o dan adran 61(3) neu 62(3) neu (4) o'r Ddeddf; (c) sy'n ymrwymo, neu'n ystyried ymrwymo, mewn cytundeb â'r asiantaeth o dan reoliad 10.
(2) Rhaid i'r wybodaeth a ddarperir o dan baragraff (1) gynnwys gwybodaeth am y ffioedd y gellir eu codi gan bersonau sy'n darparu cwnsela.
(b) os yw'r person yn yr Alban, asiantaeth fabwysiadu yn yr Alban; (c) os yw'r person yng Ngogledd Iwerddon, cymdeithas fabwysiadu sydd wedi'i chofrestru o dan Erthygl 4 o Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 1987[16] neu unrhyw Fwrdd; neu (ch) os yw'r person y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw berson neu gorff y tua allan i'r Deyrnas Unedig y mae'n ymddangos i'r asiantaeth ei fod yn cyfateb yn ei swyddogaethau i gorff a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c).
(3) Yn y rheoliad hwn —
Datgelu gwybodaeth at ddibenion cwnsela Holi am wybodaeth gan y Cofrestrydd Cyffredinol 17. —(1) Os bydd —
(b) nad yw'r wybodaeth honno gan yr asiantaeth,
rhaid i'r asiantaeth holi am yr wybodaeth gan y Cofrestrydd Cyffredinol.
(b) enw tad neu fam mabwysiol y person hwnnw; (c) dyddiad y gorchymyn mabwysiadu.
Mae'r Cofrestrydd Cyffredinol i ddatgelu gwybodaeth sy'n ymwneud â'r asiantaeth fabwysiadu briodol a'r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu
(b) datgelu i'r asiantaeth fabwysiadu briodol unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol gan yr asiantaeth o ran cais o dan adran 60, 61 neu 62 o'r Ddeddf, ynghylch unrhyw gofnod sy'n ymwneud â pherson mabwysiedig ar y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu[18].
(2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu dalu unrhyw ffi y dyfarna'r Cofrestrydd Cyffredinol ei bod yn rhesymol ar gyfer datgelu gwybodaeth o dan baragraff (1)(b). Tramgwydd 19. Mae cymdeithas fabwysiadu gofrestredig sy'n datgelu unrhyw wybodaeth yn groes i adran 57 o'r Ddeddf (cyfyngiadau ar ddatgelu etc. gwybodaeth) yn euog o dramgwydd y gellir ei gosbi ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol. Ffioedd a godir gan asiantaethau mabwysiadu 20. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) caiff asiantaeth fabwysiadu godi ffi sydd yn ei barn yn ffi resymol —
(b) am ddarparu cwnsela mewn cysylltiad â datgelu gwybodaeth o dan yr adrannau hynny; neu (c) am wneud trefniadau i sicrhau cwnsela yn unol â rheoliad 16 pan ddarperir y cwnsela gan berson y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
(2) Ni fydd ffi'n daladwy gan berson mabwysiedig o ran unrhyw wybodaeth a ddatgelir iddo o dan adran 60, 61 neu 62 ynghylch unrhyw berthynas iddo neu am unrhyw gwnsela a ddarperir iddo mewn cysylltiad ag unrhyw ddatgeliad o'r fath. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi materion penodol at ddibenion y drefn a nodir yn adrannau 56 i 65 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ("y Ddeddf") (datgelu gwybodaeth mewn perthynas â mabwysiad person). Mae'r drefn yn darparu i asiantaethau mabwysiadu gadw gwybodaeth am bob mabwysiad a darparu gwasanaeth ar gyfer pobl sy'n holi am wybodaeth ynghylch mabwysiad. Nid yw'r drefn yn gymwys ond mewn perthynas â mabwysiad ar neu ar ôl 30 Rhagfyr 2005. O ran personau a fabwysiadwyd cyn y diwrnod hwnnw, bydd Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 (O.S. 1983/1964) yn parhau i fod yn effeithiol. Mae Rhan 2 yn darparu ar gyfer cadw gwybodaeth. Mae rheoliad 3 yn rhagnodi pa wybodaeth y mae'n rhaid ei chadw ("gwybodaeth adran 56"). Mae hyn yn cynnwys cofnod yr achos a sefydlwyd gan yr asiantaeth fabwysiadu mewn perthynas â'r plentyn at ddibenion y mabwysiadu, yr wybodaeth a roddwyd gan y rhieni geni, gwybodaeth a roddwyd gan y Cofrestrydd Cyffredinol, a chofnod o unrhyw ddatgeliad gwybodaeth. Mae Rhan 2 hefyd yn ymdrin â storio a throsglwyddo gwybodaeth adran 56. Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth adran 56 yn cael ei chadw am 100 mlynedd o'r dyddiad mabwysiadu. Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ar gyfer datgelu gwybodaeth adran 56, a all gynnwys gwybodaeth a ddiogelir (sef gwybodaeth sy'n enwi rhywun). O dan reoliad 7 caiff asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth adran 56 nad yw'n wybodaeth a ddiogelir yn ôl yr angen at ddibenion ei swyddogaethau. Caiff hefyd ddatgelu unrhyw wybodaeth adran 56 i bersonau sy'n darparu gwasanaethau mewn perthynas â'i swyddogaethau o dan adran 61 neu 62 (er enghraifft asiantaeth cefnogi mabwysiadu gofrestredig sy'n cyflawni ymholiadau ar ei rhan). Mae rheoliad 8 yn darparu ar gyfer datgelu gwybodaeth i bersonau penodedig gan gynnwys personau sy'n cynnal archwiliadau, Comisiynydd Plant Cymru, swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol cadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw ddatgeliad. Mae rheoliad 10 yn rhagnodi gofynion ar gyfer cytundeb o dan 57(5) o'r Ddeddf (sy'n caniatáu datgelu gwybodaeth a ddiogelir yn unol â chytundeb a ragnodwyd). Mae Rhan 4 yn ymwneud â cheisiadau ar gyfer datgelu gwybodaeth a ddiogelir o dan adran 61 (gwybodaeth am oedolion) a 62 (gwybodaeth am blant). Mae rheoliadau 11 i 13 yn ymdrin â materion gweithdrefnol mewn perthynas â cheisiadau o'r fath. Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cwnsela. Mae rheoliad 14 yn ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau mabwysiadu ddarparu gwybodaeth am y cwnsela sydd ar gael i bersonau sy'n chwilio am wybodaeth ynghylch mabwysiad neu bersonau y ceisir gwybodaeth amdanynt. Mae rheoliad 15 yn ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau mabwysiadu drefnu i sicrhau cwnsela pan fydd personau sy'n chwilio am wybodaeth yn gofyn amdano. Mae Rhan 6 yn ymwneud â'r Cofrestrydd Cyffredinol. Mae gan oedolion a fabwysiadwyd hawl o dan adran 60 o'r Ddeddf i ofyn am wybodaeth ynghylch cofnodion eu geni. Rhaid iddynt yn gyntaf holi'r asiantaeth fabwysiadu briodol, ac yna bydd hi'n gofyn am yr wybodaeth gan y Cofrestrydd Cyffredinol. Mae rheoliad 17 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cofrestrydd ddarparu'r wybodaeth. Mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cofrestrydd Cyffredinol ddatgelu gwybodaeth i unrhyw berson a all gynorthwyo'r person hwnnw gysylltu â'r asiantaeth fabwysiadu sy'n cadw cofnodion ynglŷn â'r mabwysiad hwn. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cofrestrydd Cyffredinol ddatgelu gwybodaeth o'r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu ar gais asiantaeth fabwysiadu. Mae Rhan 7 yn ymdrin â materion amrywiol. Mae'n creu tramgwydd o ddatgelu gwybodaeth yn groes i adran 57 o'r Ddeddf. Mae rheoliad 20 yn rhagnodi ffioedd y gellir eu codi gan asiantaethau mabwysiadu mewn perthynas â datgelu gwybodaeth a chwnsela. Notes: [1] 2002 p.38. Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn adran 144(1) o'r Ddeddf mewn perthynas â Lloegr, fel yr Ysgrifennydd Gwladol, mewn perthynas â Chymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mewn perthynas â Chymru a Lloegr, fel yr Ysgrifennydd Gwladol a Chynulliad Cenedlaethol yn gweithredu ar y cyd.back [2] Mae angen cymeradwyaeth y Cofrestrydd Cyffredinol ar gyfer rheoliad 17(3) yn rhinwedd adran 65(5) o'r Ddeddf.back [3] Mae angen cymeradwyaeth Canghellor y Trysorlys ar gyfer rheoliad 18(2) yn rhinwedd adran 65(4) o'r Ddeddf.back [5] Gweler adran 11 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 p.43.back [8] Cychwynnir adrannau 56 i 64 ond yn unig mewn perthynas â mabwysiadau ar neu ar ôl 1 Medi 2005.back [10] gweler adran 2(2) o'r Ddeddf.back [11] gweler adran 57(3) o'r Ddeddf i gael ystyr "protected information".back [16] O.S. 1987/2203 (G.I. 22).back [17] O.S. 1972/1265 (G.I. 14).back [18] I gael diffiniad o Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu gweler "Adoption Contact Register" yn adran 80 o'r Ddeddf.back
ISBN 0 11 091185 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 5 October 2005 |