Rheoliadau Tai (Hawl Cynnig Cyntaf) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Tai (Hawl Cynnig Cyntaf) (Cymru) 2005, ISBN 0110911865. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 36A, 156A a 171C o Ddeddf Tai 1985[1], ac adrannau 12A a 17(2) i (5) o Ddeddf Tai 1996[2] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai (Hawl Cynnig Cyntaf) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 28 Medi 2005. (2) Yn y Rheoliadau hyn—
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys os gosodwyd cyfamod hawl cynnig cyntaf mewn perthynas â thŷ annedd a leolir yng Nghymru.
(b) os nad yw'r landlord blaenorol yn dal i fod yn landlord, i'r person y breinir y buddiant mewn rifersiwn ynddo ar hyn o bryd.
Cyflwyno hysbysiad cynnig — eiddo rhydd-ddaliadol
(b) os nad yw'r landlord blaenorol yn dal mewn bodolaeth, i'r awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y lleolir yr eiddo ynddi.
Cydnabod cael hysbysiad cynnig
(b) esbonio effaith rheoliadau 6 i 10, mewn termau syml.
Hysbysiadau derbyn
(b) enwebu person arall i dderbyn y cynnig yn unol â rheoliad 8.
(3) Nid yw cyflwyno hysbysiad derbyn gan unrhyw berson sydd â'r hawl i wneud hynny yn rhoi unrhyw hawl i berchennog yr eiddo i'w gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw brynu'r eiddo oni fydd ac hyd nes y bydd y person hwnnw'n ymrwymo i gontract cyfrwymol i werthu yn unol â rheoliad 10.
(b) enwebu person arall i dderbyn y cynnig yn unol â rheoliad 8.
(2) Rhaid cyflwyno'r hysbysiad gwrthod o fewn 8 wythnos ar ôl y dyddiad y cafwyd yr hysbysiad cynnig.
(b) yn cyflawni'r amod landlord yn adran 80[3] o Ddeddf 1985.
(3) Cyn y gellir enwebu person i dderbyn cynnig penodol, rhaid bod y person hwnnw wedi dangos yn ddiamwys yn ysgrifenedig i'r sawl sy'n cael hysbysiad cynnig ei fod yn dymuno cael ei enwebu i dderbyn y cynnig.
(b) wedi cyflwyno hysbysiad gwrthod,
yna, yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff y perchennog waredu'r eiddo fel y gwêl y perchennog yn dda; ac fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw warediad o'r eiddo ar ôl hynny gan y perchennog.
(b) dim hwyrach na 4 wythnos ar ôl y dyddiad y cafwyd hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth y perchennog fod y perchennog yn barod i gwblhau;
p'un bynnag yw'r diweddaraf.
(b) datgan bod y perchennog yn dymuno gwaredu'r eiddo, gan roi ei gyfeiriad post llawn; (c) datgan bod yna gyfamod sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog gynnig yr eiddo yn gyntaf i'r sawl sy'n cael yr hysbysiad; (ch) o ran yr eiddo y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef—
(ii) pennu nifer yr ystafelloedd gwely; (iii) rhoi manylion y system wresogi; (iv) pennu unrhyw welliannau neu newidiadau strwythurol a wnaed ers y pryniant; a
(d) datgan y cyfeiriad lle gall y sawl sy'n cael yr hysbysiad gyflwyno hysbysiadau i'r perchennog.
(2) Rhaid i hysbysiad derbyn—
(b) dangos yn eglur a yw'r person sy'n rhoi'r hysbysiad—
(ii) yn enwebu person arall i dderbyn y cynnig; ac
(c) rhoi cyfeiriad post llawn a Rhif ffôn unrhyw enwebai.
(3) Rhaid i hysbysiad gwrthod—
(b) datgan bod y person yn gwrthod y cynnig i brynu'r eiddo.
Cyflwyno hysbysiadau
(3) Yn rheoliad 10(3), yn lle "adran 158" rhodder "adran 36B[8]".
(3) Yn rheoliad 10(3), yn lle "adran 158 o Ddeddf 1985" rhodder "adran 12B[10] o Ddeddf Tai 1996". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'n ofynnol i landlordiaid tenantiaid diogel sy'n prynu eu cartrefi o dan y cynllun Hawl i Brynu (y nodir ei delerau yn Rhan 5 o Ddeddf Tai 1985 ("Deddf 1985")), gan adran 156A o Ddeddf 1985 osod cyfamod mewn trawsgludiadau a lesoedd i'r perwyl, am gyfnod o ddeng mlynedd ar ôl i'r eiddo gael ei drosglwyddo i'r tenant o dan y cynllun Hawl i Brynu, na fydd gwaredu perthnasol nad yw'n waredu esempt (diffinnir y termau "relevant disposal" ac "exempted disposal" yn adrannau 159 a 160 o Ddeddf 1985 yn eu trefn), oni chafodd yr amodau rhagnodedig eu bodloni ("cyfamod hawl cynnig cyntaf"). Mae'r offeryn hwn yn cynnwys yr amodau rhagnodedig. Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol bod perchenogion eiddo y mae'r cyfamod ynghlwm wrtho sy'n dymuno gwneud gwarediad perthnasol nad yw'n warediad esempt, yn gyntaf yn gorfod cynnig yr eiddo i'r landlord blaenorol i'w brynu, ei olynydd yn y teitl neu berson a enwebwyd ganddo. O ran eiddo lesddaliadol, rhaid cyflwyno'r hysbysiad i'r landlord blaenorol, neu'r landlord cyfredol o dan y les os nad ef yw'r landlord blaenorol (rheoliad 5). Os yw'r eiddo yn rhydd-ddaliadol, rhaid cyflwyno'r hysbysiad i'r landlord blaenorol os yw'r person hwnnw yn dal mewn bodolaeth, neu fel arall i'r awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y lleolir yr eiddo ynddi (rheoliad 4). Mae gan y sawl sy'n cael hysbysiad cynnig gyfnod o 8 wythnos naill ai i dderbyn y cynnig ei hunan, neu i enwebu person arall i dderbyn y cynnig (rheoliad 6). Os nad yw'r sawl sy'n cael hysbysiad cynnig yn dymuno derbyn y cynnig ei hunan, nac yn dymuno enwebu landlord cymdeithasol arall, yna rhaid iddo gyflwyno hysbysiad gwrthod i'r perchennog (rheoliad 7). Yr unig bersonau y gellir eu henwebu i dderbyn cynnig yw'r landlordiaid cymdeithasol a bennir yn rheoliad 8. Cyn y gellir enwebu landlord cymdeithasol, rhaid ei fod wedi cadarnhau'n ysgrifenedig ei fod yn dymuno derbyn y cynnig drwy enwebiad. Os na fydd unrhyw landlord cymdeithasol yn derbyn y cynnig o fewn y terfyn amser o 8 wythnos, yna mae'r perchennog yn rhydd i waredu'r eiddo fel y gwêl y perchennog yn dda. Er hynny, os na fydd y perchennog wedi gwneud hynny o fewn 12 mis, ac yna y mae wedyn yn dymuno gwaredu'r eiddo, rhaid cyflwyno hysbysiad cynnig newydd (rheoliad 9). Rhaid i'r landlord cymdeithasol ymrwymo i gontract cyfrwymol i brynu'r eiddo naill ai o fewn 12 wythnos ar ôl derbyn y cynnig, neu o fewn 4 wythnos ar ôl derbyn hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth y perchennog sy'n dweud bod y perchennog yn barod i gwblhau'r trafodiad, p'un bynnag yw'r hiraf. Os na chydymffurfir â'r terfyn amser, yna mae'r perchennog yn rhydd i waredu'r eiddo fel y gwêl y perchennog yn dda (rheoliad 10). Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gymwys i gyfamodau hawl cynnig cyntaf a osodwyd o ran eiddo a brynwyd gan denantiaid sicr o dan y cynllun Hawl i Brynu a Ddiogelwyd (gweler adrannau 171A-H o Ddeddf 1985), y cynllun Hawl i Gaffael (gweler adrannau 16 a 17 o Ddeddf Tai 1996), ac eiddo a werthwyd yn wirfoddol ar ddisgownt gan awdurdodau lleol (gweler adran 32 o Ddeddf 1985) a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (gweler adran 8 o Ddeddf Tai 1996). Mae eiddo a gaiff ei brynu o dan unrhyw un o'r cynlluniau hyn yn gyffredinol yn ddarostyngedig i gyfamod hawl cynnig cyntaf. Mae rheoliadau 16 a 17 yn cynnwys yr addasiadau angenrheidiol yn achos gwerthu eiddo a gaffaelwyd o ganlyniad i'r gwaredu gwirfoddol hwn. Wrth gymhwyso rheoliadau 16 a 17 caiff y termau "relevant disposal" ac "exempted disposal" eu diffinio yn Rhan 1 o Ddeddf 1985 ac adran 15 o Ddeddf Tai 1996 yn eu trefn. Notes: [1] 1985 p.68. Mewnosodwyd adran 36A gan adran 197 o Ddeddf Tai 2004 (p.34) a mewnosodwyd adran 156A gan adran 188 o'r Ddeddf honno. Mewnosodwyd adran 171C gan adran 8(1), (3) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p.63) ac fe'i diwygiwyd gan adran 127(2), (3) o Ddeddf Tai 1988 (p.50), a chan baragraff 19 o Atodlen 21 i Ddeddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p.28), ac a ddiddymwyd yn rhannol gan Atodlen 22 i Ddeddf 1993. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 171C, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 36A a 156A yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru yn rhinwedd adran 267 o Ddeddf Tai 2004 ac O.S. 1999/672.back [2] 1996 p.52. Mewnosodwyd adran 12A gan adran 200 o Ddeddf Tai 2004. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 17(2)-(5), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 12A yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o ran Cymru, yn rhinwedd adran 267 o Ddeddf Tai 2004 ac O.S. 1999/672.back [3] Diwygiwyd adran 80 gan baragraff 26 o Atodlen 5 i Ddeddf Tai a Chynllunio 1986, adrannau 83(2) a 140 o Ddeddf Tai 1988 ac Atodlen 18 iddi, adrannau 140 a 152 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac Atodlenni 16 a 18 iddi, ac O.S. 1996/2325.back [5] Mewnosodwyd adran 171A gan adran 8(1), (3) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986.back [6] Diwygiwyd adran 16 gan adran 140 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac Atodlen 16 iddi, adran 406(1) o Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p.21) ac Atodlen 17 iddi ac adran 202(1), (2) o Ddeddf Tai 2004.back [7] Diwygiwyd adran 32 gan O.S. 1997/74.back [8] Mewnosodwyd adran 36B gan adran 197 o Ddeddf Tai 2004.back [9] Diwygiwyd adran 9 gan adrannau 140 a 152 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac Atodlenni 16 ac 18 iddi.back [10] Mewnosodwyd adran 12B gan adran 200 o Ddeddf Tai 2004.back
ISBN 0 11 091186 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 6 October 2005 |