Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2005, ISBN 0110911849. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau'n arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 30 a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[1] ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Medi 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau am grant a wneir ar 30 Medi 2005 neu wedi hynny i Awdurdodau Tai Lleol yng Nghymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "Rheoliadau 1996" ("the 1996 Regulations") yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996[2]. Diwygio Rheoliadau 1996 3. —(1) Diwygir Rheoliadau 1996 fel a ganlyn: (2) Yn lle rheoliad 5 rhodder y canlynol—
5. —(1) Subject to paragraph (2), in respect of any application for a grant a relevant person is any person who—
(b) is the partner, or a partner, of the disabled occupant or of one of the disabled occupants and is not a child or young person; and
is not the parent or guardian of a disabled child who lives or intends to live in the dwelling or, as the case may be, a flat in the building.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 ("Rheoliadau 1996") sy'n nodi'r prawf moddion ar gyfer penderfynu swm y grant y caiff awdurdodau tai lleol ei dalu o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996. Mae rheoliad 5 o Reoliadau 1996 yn diffinio person perthnasol. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o berson perthnasol fel na wneir prawf moddion ar y rhai sy'n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc anabl. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau a wneir ar 30 Medi 2005 neu wedi hynny i Awdurdodau Tai Lleol yng Nghymru. Notes: [1] 1996 p.53. Trosglwyddir swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 30 a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
ISBN 0 11 091184 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 26 September 2005 |