Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (A470) (Gwelliant Blaenau Ffestiniog i Gancoed) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (A470) (Gwelliant Blaenau Ffestiniog i Gancoed) 2005, ISBN 0110911830. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 10 o Ddeddf Priffyrdd 1980[1] a phob pŵer galluogi arall[2]:— 1. Daw'r briffordd newydd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu ei adeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r gorchymyn hwn i rym. 2. Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd. 3. Bydd y darn o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog bras ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd a chaiff ei dosbarthu fel ffordd annosbarthedig o'r dyddiad y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru'n hysbysu Cyngor Gwynedd fod y gefnffordd newydd ar agor i draffig drwodd. 4. Yn y Gorchymyn hwn:—
(b) ystyr "y gefnffordd" ("the trunk road") yw Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (A470).
5.
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2005 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (A470) (Gwelliant Blaenau Ffestiniog i Gancoed) 2005. Llwybr sydd wedi'i leoli rhwng Blaenau Ffestiniog yn Sir Gwynedd a Chancoed ym Mwrdeistref Sirol Conwy, tua 0.212 km o hyd, gan ddechrau o bwynt ar y gefnffordd bresennol 38 metr i'r dwyrain o'r eiddo a adweinir fel Tŷ Mawr (a Tal y Waenydd House) ac yna yn mynd tua'r gogledd hyd at bwynt rhyw 38 metr i'r gogledd o'r eiddo a adweinir fel Rhif 18 Rhesdai Oakeley. Y darn hwnnw o'r gefnffordd sy'n dechrau o bwynt ar y gefnffordd bresennol 19 metr i'r de-ddwyrain o gornel dde-ddwyreiniol yr eiddo a adweinir fel Rhif 1 Rhesdai Oakeley ac yna'n mynd tua'r gogledd-ddwyrain am tua 0.14 kilometr hyd at bwynt ar y gefnffordd bresennol tua 19 metr i'r gogledd o gornel ogledd-ddwyreiniol yr eiddo a adweinir fel Rhif 18 Rhesdai Oakeley. Notes: [1] 1980 p.66.back [2] Yn rhinwedd O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, rhoddwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.back
ISBN 0 11 091183 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 22 August 2005 |