Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005, ISBN 0110911768. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 77, 83, 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraff 1 o Atodlen 12 iddi[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005 a deuant i rym ar 1 Awst 2005, ac eithrio rheoliadau 2 a 7 a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. (3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001[2]. Diwygio symiau a bennir yn y prif Reoliadau 2. Am bob swm a bennir yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, pan fydd y swm hwnnw'n ymddangos yn narpariaeth y prif Reoliadau, a honno'n ddarpariaeth a bennir mewn perthynas â'r swm hwnnw yng ngholofn (1) (ac y gwelir yng ngholofn (2) beth yw ei phwnc), rhodder yn lle'r swm hwnnw y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (4). Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau 3. Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli)—
(c) hepgorer yr ail ddiffiniad o "swp-ddyroddiad" ("batch issue"); (ch) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
(b) presgripsiwn amlroddadwy Cymreig; neu (c) presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol;";
(dd) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
(f) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
(ng) yn y diffiniad o "rhagnodydd atodol" ("supplementary prescriber"), ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—
(ch) y rhan o'r gofrestr a gynhelir gan Gyngor Proffesiynau Iechyd yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001[6] sy'n ymwneud â'r canlynol—
(ii) ffysiotherapyddion, neu (iii) radiograffyddion: diagnostig neu therapiwtig,";
(h) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
(b) ffurflen bresgripsiwn gyfatebol; neu (c) presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol,
ac at ddibenion y diffiniad hwn—
(b) sy'n dangos y ceir darparu'r cyffuriau neu'r cyfarpar a orchmynnir ar y ffurflen fwy nag unwaith, ac sy'n pennu sawl gwaith y ceir eu darparu";
Amnewid rheoliad 3 o'r prif Reoliadau
3. —(1) Rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau fferyllol i glaf, yn ddarostyngedig i baragraff (6), godi ac adennill taliad gan y claf—
(ii) am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, ffi o £4.00;
(b) os yw'r claf yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn gyfatebol—
(ii) am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 3(1)(b) o Reoliadau Ffioedd 2000.
(2) Os telir ffi o dan baragraff (1), rhaid i'r person sy'n talu, bryd hynny lofnodi datganiad yn ysgrifenedig ar y ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol bod y ffi berthnasol wedi cael ei thalu.
(ii) am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, ffi o £4.00;
(b) o ran pob swp-ddyroddiad cyfatebol—
(ii) am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 3(1A)(b)(ii) o Reoliadau Ffioedd 2000.
(4) Os telir ffi o dan baragraff (3), rhaid i'r person sy'n talu, bryd hynny lofnodi datganiad yn ysgrifenedig ar y swp-ddyroddiad neu'r swp-ddyroddiad cyfatebol bod y ffi berthnasol wedi cael ei thalu.
(b) os cyflenwir cyffur a orchmynnir ar ffurflen bresgripsiwn gyfatebol sengl fesul cyfrannau, rhaid i'r ffi a bennir yn rheoliad 3(4) o Reoliadau Ffioedd 2000 gael ei thalu pan gyflenwir y gyfran gyntaf.
(6) Ni chaniateir codi nac adennill ffioedd o dan baragraffau (1), (3) neu (5) yn yr amgylchiadau canlynol—
(ii) mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn gyfatebol, ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol, (iii) mewn achosion sy'n dod o fewn paragraff (3), ar y swp-ddyroddiad o ran y presgripsiwn amlroddadwy Cymreig neu, ar y swp-ddyroddiad cyfatebol o ran y presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol, ar yr adeg y cyflenwir y cyffur neu'r cyfarpar;
(b) pan fydd hawl i beidio â thalu'r ffi o dan reoliad 3 o Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl a datganiad o hawl i beidio â thalu wedi'i gwblhau'n briodol gan neu ar ran y claf—
(ii) mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn gyfatebol, ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol, (iii) mewn achosion sy'n dod o fewn paragraff (3), ar y swp-ddyroddiad o ran y presgripsiwn amlroddadwy Cymreig neu, ar y swp-ddyroddiad cyfatebol o ran y presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol, ar yr adeg y cyflenwir y cyffur neu'r cyfarpar; neu
(c) pan fydd y claf yn preswylio mewn ysgol neu sefydliad y mewnosodwyd ei henw neu ei enw ar y ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol gan ragnodydd yn unol â theler contract gwasanaethau meddygol cyffredinol sy'n rhoi effaith i baragraff 44(2) o Atodlen 6 i Reoliadau Contractau GMS neu drefniadau eraill ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol a wnaed o dan adran 16CC(2) o'r Ddeddf.
(7) Ni fydd fferyllydd, beth bynnag fo telerau ei wasanaeth, o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol o ran gorchymyn ar—
(b) ffurflen bresgripsiwn gyfatebol, (c) presgripsiwn amlroddadwy Cymreig, neu (ch) presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol,
oni thelir yn gyntaf iddo gan y claf unrhyw ffi y mae'n ofynnol ei chodi a'i hadennill gan baragraff (1), (3), neu (5) o ran y gorchymyn hwnnw.
Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau
(ii) am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, ffi o £4.00;
(b) os yw'r claf yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn gyfatebol—
(ii) am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 4(1)(b) o Reoliadau Ffioedd 2000.".
(3) Ym mharagraff (2) yn lle'r geiriau "ffurflen bresgripsiwn" rhodder "ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol".
(b) yn lle "£6.00" rhodder "£4.00".
Diwygio rheoliad 8 o'r Prif Reoliadau
(b) presgripsiwn amlroddadwy Cymreig; (c) ffurflen bresgripsiwn gyfatebol; neu (ch) presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol,
a bod dyddiad geni'r person wedi'i argraffu drwy gyfrwng cyfrifiadur ar y ffurflen berthnasol .".
Mewnosod rheoliad 8A yn y prif Reoliadau
8A. Nid yw carcharor yn atebol i dalu unrhyw ffioedd o dan y Rheoliadau hyn.".
Diwygio rheoliad 11 o'r prif Reoliadau
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 ("y prif Reoliadau") sy'n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am gyffuriau a chyfarpar sy'n cael eu cyflenwi o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae rheoliad 2 a'r Atodlen yn gostwng y ffi am eitemau ar bresgripsiwn a gyflenwir i gleifion o £4.00 i £3.00. Gostyngir y ffi am hosanau elastig o £4.00 i £3.00 (o £8.00 i £6.00 y pâr) a'r ffi am deits o £8.00 i £6.00. Gostyngir y symiau a ragnodir i roi tystysgrifau rhagdalu o £20.93 i £15.69 am dystysgrif pedwar mis ac o £57.46 i £43.09 am dystysgrif deuddeg mis. Mae diwygiadau a wneir gan reoliadau 4 a 5 yn darparu ar gyfer cymhwyso ffioedd ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol a ragnodir gan y prif Reoliadau o ran "presgripsiynau Cymreig" yn unig, sef y presgripsiynau hynny a ddyroddir ac a weinyddir yng Nghymru. Cymhwysir ffioedd ar gyfer presgripsiynau a ddyroddir o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ("presgripsiynau cyfatebol") yn ôl y cyfraddau a ragnodir gan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 2000. Mae rheoliad 6 yn tynnu'r gofyniad bod yn rhaid i bersonau o dan 25 oed, a phersonau 60 oed neu drosodd, sy'n esempt rhag talu ffioedd o dan y prif Reoliadau yn rhinwedd eu hoedran, ac y nodir eu dyddiad geni ar ffurflenni presgripsiwn Cymreig, presgripsiynau amlroddadwy Cymreig, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ddatgan eu bod yn esempt oherwydd eu hoedran pan gyflenwir hwy â chyffuriau neu gyfarpar gan fferyllwyr o dan reoliad 3 o'r prif Reoliadau neu gan feddygon o dan reoliad 4 o'r prif Reoliadau. Mae rheoliad 7 yn mewnosod rheoliad newydd yn y prif Reoliadau sy'n darparu na fydd carcharorion mewn carcharau penodol yn atebol i dalu unrhyw ffioedd o dan y prif Reoliadau. Dim ond tra byddant yn y carchar mewn gwirionedd y bydd carcharorion yn cael cyffuriau a chyfarpar yn ddi-dâl ac felly ni fydd angen iddynt brofi eu hawl i esemptiad rhag talu'r ffioedd. Daw'r newid hwn o ganlyniad i drosglwyddo cyfrifoldeb dros ddarparu gofal iechyd o'r Swyddfa Gartref i Fyrddau Iechyd Lleol sy'n effeithiol o Ebrill 2006. Notes: [1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd adran 83 gan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 39 a chan O.S. 2000/90, erthygl 3(1) ac Atodlen 1, paragraff 13(1) a (4). Mewnosodwyd adran 83A gan Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ("Deddf 1988"), adran 14(1); ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1990, adran 66(1) ac Atodlen 9, paragraff 18(5)(a) a (b); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 25 ac Atodlen 2, paragraff 6; gan O.S.1998/2385, erthygl 2 a chan Ddeddf 1995, adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 40. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a Deddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6). Diwygiwyd paragraff 1 o Atodlen 12 gan Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adran 25(2) ac Atodlen 5, paragraff 1; gan Ddeddf 1988, adran 16 ac Atodlen 5; gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), adran 41(10) ac Atodlen 2, paragraff 31 a chan Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), adran 184 ac Atodlen 11, paragraffau 7 a 44. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 77, 83, 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraff 1 o Atodlen 12 iddi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(4), Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), adran 68(1), Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 40(1) a Deddf 2003, adran 197(1).back [2] O.S. 2001/1358 (Cy.86). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2001/2359 (Cy.196), O.S. 2004/1018 a 2004/1605 (Cy.164) ac O.S. 2005/427 (Cy.44).back
ISBN 0 11 091176 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 19 July 2005 |