Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) (Diwygio) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) (Diwygio) 2005, ISBN 0110911784. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd[2], o ran rheoli a rheoleiddio gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, eu rhoi ar y farchnad a'u symud ar draws ffiniau, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol— Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) (Diwygio) 2005, deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru. Diwygio Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002 2. —(1) Diwygir Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002[3] yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliad hwn. (2) Yn rheoliad 2—
(b) bwyd a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig, neu sy'n cynnwys cynhwysion a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig; neu (c) organeddau a addaswyd yn enetig i'w defnyddio yn fwyd;";
(b) organeddau a addaswyd yn enetig i'w defnyddio yn fwyd anifeiliaid;
(3) Yn rheoliad 16—
(b) Rhodder y paragraff canlynol yn lle paragraff (dd)—
(c) Rhodder y paragraff canlynol ar ôl paragraff (dd)—
(4) Mewnosoder y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 18—
18A. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd marchnata olion o organedd a addaswyd yn enetig neu gyfuniad o organeddau a addaswyd yn enetig mewn cynhyrchion y bwriedir ar gyfer eu defnyddio'n uniongyrchol yn fwyd neu'n fwyd anifeiliaid neu ar gyfer eu prosesu yn esempt rhag gofynion adran 108(1)(a) o'r Ddeddf (cynnal asesiad risg) ac adran 111(1)(a) o'r Ddeddf (cael cydsyniad) cyhyd ag y bodlonir yr amodau a osodir yn erthygl 47 o'r Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid. (2) Bydd paragraff (1) yn peidio â bod yn effeithiol ar 18 Ebrill 2007.".
(5) Rhodder y paragraff canlynol yn lle paragraff (2) o reoliad 22—
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002 (Rheoliadau 2002). Mae'r diwygiadau i Reoliadau 2002 yn rhoi effaith yng Nghymru i'r diwygiadau canlyniadol a wnaed i Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/18/EC (OJ Rhif L106, 17.4.02, t.1) ar ollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol i'r amgylchedd (y "Gyfarwyddeb Gollwng yn Fwriadol") gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1830/2003 (OJ Rhif L286, 18.10.03, t.1) ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig (y "Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid"). Mae'r Rheoliadau diwygio hyn—
(b) yn darparu, pan fo cynhyrchion wedi'u cymeradwyo yn unol â darpariaethau deddfwriaethol heblaw'r rhai sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau 2002, bod y cynhyrchion hynny yn esempt rhag gofynion adrannau 108(1)(a) a 111(1)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ond os ydynt wedi'u marchnata yn unol ag unrhyw amodau neu gyfyngiadau a osodwyd ar y cydsyniad a ddyroddwyd o ran y cynnyrch hwnnw (rheoliad 2(3)(a)); (c) yn darparu ar gyfer marchnata bwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig ac sydd wedi'u hawdurdodi o dan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid heb yr angen am gydsyniad marchnata o dan adran 111(1)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ("y Ddeddf"), neu asesiad risg ychwanegol o dan adran 108(1)(a) o'r Ddeddf (rheoliad 2(3)(c)); ac (ch) yn darparu, tan 18 Ebrill 2007, y bydd gosod ar y farchnad olion organedd a addaswyd yn enetig neu gyfuniad o organeddau a addaswyd yn enetig mewn cynhyrchion sydd wedi'u bwriadu ar gyfer eu defnyddio'n uniongyrchol fel bwyd neu fwyd anifeiliaid neu ar gyfer eu prosesu yn esempt rhag gofynion adran 111(1)(a) o'r Ddeddf (cael cydsyniad marchnata) ac adran 108(1)(a) o'r Ddeddf (cynnal asesiad risg) cyhyd ag y bodlonir yr amodau a bennir yn erthygl 47 o'r Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (rheoliad 2(4)). (d) egluro bod rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beidio â rhoi na gwrthod caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig cyn diwedd y dyddiad diweddaraf pryd y caniateir gwneud y sylwadau a grybwyllir yn rheoliadau 21(c) ac (dd) o Reoliadau 2002 (rheoliad 2(5)).
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i bartoi ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael gafael ar gopïau o'r is — adran Datblygu Bwyd a'r Farchnad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Notes: [1] O.S. 2003/2901.back [4] OJ Rhif L106, 17.4.2001, t.1.back [5] OJ Rhif L268, 18.10.2003, t.24.back [6] OJ Rhif L258, 18.10.2003, t.1.back [7] OJ Rhif L43, 14.2.1997, t.1.back [8] OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1.back
ISBN 0 11 091178 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 19 July 2005 |