Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 3) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 3) 2005, ISBN 0110911806. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 73 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi a dehongli 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 3) 2005. (2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. (3) Mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf ac Atodlenni iddi. Darpariaethau sy'n dod i rym ar 20 Gorffennaf 2005 2. Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym at bob diben ar 20 Gorffennaf 2005. Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 12 Gorffennaf 2005 Is-adrannau (1) i (5) o adran 54[3]. Adran 54A[4]. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau hynny yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 ("y Ddeddf") nad ydynt eisoes mewn grym i rym ar 20 Gorffennaf 2005 yng Nghymru a Lloegr. Y darpariaethau yw is-adrannau (1) i (5) o adran 54, ac adran 54A o'r Ddeddf. Mae adrannau 54 a 54A ill dwy yn rheoleiddio datgelu gwybodaeth. Mae adran 54 o'r Ddeddf yn gymwys i bersonau nad ydynt yn awdurdodau cyhoeddus at ddibenion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ("Deddf 2000"), ac nad ydynt yn gweithredu ar eu rhan. Mae'n cyfyngu ar yr amgylchiadau pryd y caiff y personau hynny ddatgelu gwybodaeth benodol a geir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu archwilydd a benodir ganddo o dan adran 13 o'r Ddeddf ("archwilydd"). Yr wybodaeth dan sylw yw gwybodaeth a geir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu archwilydd, wrth arfer ei swyddogaethau o dan:
Mae'r cyfyngiadau yn adran 54 yn gweithredu drwy waharddiad cyffredinol ar ddatgelu, yn ddarostyngedig i eithriadau eang iawn, a roddir yn is-adran (2). Datgelu at ddibenion unrhyw swyddogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu archwilydd, o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yw un o'r eithriadau. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn ) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi'u dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Notes: [1] 2004 p.23.back [3] Diwygiwyd adran 54 gan Orchymyn Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Llacio'r Cyfyngiad ar Ddatgelu) 2005 (O.S. 2005/1018), sydd, o dan erthygl 1(2) ohono, yn dod i rym yn syth cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.back [4] Mewnosodwyd adran 54A yn y Ddeddf gan Orchymyn Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Llacio'r Cyfyngiad ar Ddatgelu) 2005 (O.S. 2005/1018), sydd, o dan erthygl 1(2) ohono, yn dod i rym yn syth cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.back
ISBN 0 11 091180 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 19 July 2005 |