Rheoliadau Addysg (Adolygu Strwythur Staffio) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Adolygu Strwythur Staffio) (Cymru) 2005, ISBN 011091175X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 21(3) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002[1] a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996[2] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Adolygu Strwythur Staffio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 14 Gorffennaf 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn —
(b) o ran ysgol a gynhelir heb gyllideb ddirprwyedig, yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol;
Dyletswydd corff perthnasol i adolygu strwythur staffio ysgol
(b) dyraniad cyfrifoldebau a dyletswyddau i'r holl staff,
yn defnyddio'i adnoddau yn effeithiol.
(b) o ran staff cymorth, y goblygiadau ar gyfer eu graddio a'u talu.
(4) Wrth gynnal yr adolygiad, rhaid i'r corff perthnasol ystyried unrhyw gyngor a roddir gan y pennaeth yn unol â rheoliad 4 isod.
(b) cynrychiolwyr undebau llafur cydnabyddedig; ac (c) personau eraill y mae'r corff perthnasol yn barnu sy'n briodol.
(6) Cyn neu ar 31 Mawrth 2006 rhaid i'r corff perthnasol —
(b) paratoi cynllun ("cynllun gweithredu") sy'n dangos sut y mae'n bwriadu gweithredu unrhyw newidiadau i'r strwythur staffio.
(7) Rhaid i gynllun gweithredu gynnwys —
(b) y dyddiad erbyn pryd y bydd unrhyw newidiadau i'r strwythur staffio wedi cael eu gweithredu'n llawn, ac ni fydd y dyddiad hwnnw'n hwyrach na 31 Rhagfyr 2008.
(8) Os y corff llywodraethu yw'r corff perthnasol, mae'r ddyletswydd i adolygu strwythur staffio'r ysgol heb ragfarnu egwyddorion cyffredinol a rolau a chyfrifoldebau'r cyrff llywodraethu a'r penaethiaid yn eu trefn a nodir yn Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000[5]. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod dyletswydd ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir sydd â chyllideb ddirprwyedig, ac ar awdurdod addysg lleol o ran ysgol sydd heb gyllideb ddirprwyedig neu uned cyfeirio disgyblion, i adolygu'r trefniadau staffio yn yr ysgol neu'r uned cyfeirio disgyblion. Diben yr adolygiad yw sicrhau bod rheoli a lleoli'r holl staff yn yr ysgol (neu'r uned cyfeirio disgyblion) a dyrannu cyfrifoldebau iddynt yn defnyddio adnoddau'n effeithiol. Wrth gynnal yr adolygiad rhaid i'r corff llywodraethu neu'r AALl ystyried y trefniadau cyflog ac amodau cyflogaeth athrawon ysgol a nodir yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau, a hefyd y goblygiadau ar gyfer graddio a thaliadau i staff cymorth. Rhaid penderfynu ar yr adolygiad a pharatoi cynllun gweithredu ar neu cyn 31 Mawrth 2006. Nid yw'r ddyletswydd sydd ar gyrff llywodraethu i gynnal adolygiad o strwythur staffio yn effeithio ar yr egwyddorion cyffredinol a rolau a chyfrifoldebau cyrff llywodraethu a phenaethiaid yn eu trefn a nodir yn Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gosod dyletswydd ar yr un cyrff i roi sylw i'r angen fod y pennaeth, neu'r athro neu'r athrawes â gofal yn achos uned cyfeirio disgyblion, yn mwynhau cydbwysedd rhesymol mewn gwaith a bywyd. Notes: [1] 2002 p.32; i gael ystyr "regulations" gweler adran 212(1).back [3] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.back [4] Y Ddogfen sydd yn effeithiol ar y dyddiad y caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud yw'r un a gyhoeddir gan The Stationery Office Limited (ISBN 0-11-2711-634) ac sy'n dwyn y teitl "School Teachers' Pay and Conditions Document 2004 and Guidance on School Teachers' Pay and Conditions" sydd yn effeithiol yn unol â Gorchymyn Addysg (Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol) (Rhif 2) 2004 (O.S. 2004/2142 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/539 a 2005/1101) a wnaed o dan adran 122 o Ddeddf Addysg 2002.back [5] O.S. 2000/3027 (Cy.195) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1396 (Cy.138).back
ISBN 0 11 091175 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 20 July 2005 |