Rheoliadau Adolygu Dyfarniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Adolygu Dyfarniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2005, ISBN 0110911709. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(1), (2) a (4) a 12(1) i (3) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[1], ar ôl ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol, drwy hyn yn gwneud y rheoliadau canlynol:— Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adolygu Dyfarniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. (3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn achosion pan fydd panel mabwysiadu, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2006, yn ystyried am y tro cyntaf neu'n adolygu pa mor addas yw'r darpar fabwysiadwr i fod yn rhiant mabwysiadol. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn —
(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad—
(b) mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y Rhif hwnnw; (c) mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r Rhif hwnnw.
Dyfarniadau o gymhwyster
(b) pan fydd yr asiantaeth yn ystyried nad yw darpar fabwysiadwr bellach yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol yn dilyn adolygiad o dan reoliad 30 o Reoliadau 2005.
Cyfansoddiad a swyddogaethau panelau 4. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar gais darpar fabwysiadwr, ffurfio panel at ddiben adolygu dyfarniad o gymhwyster mewn perthynas â'r darpar fabwysiadwr. (2) Rhaid i aelodau'r panel gael eu dewis oddi ar restr o bersonau sydd wedi'u penodi'n aelodau panelau asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru ac sy'n gwasanaethu fel aelodau panelau asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru (y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel "y rhestr ganolog") ac y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried eu bod yn addas yn rhinwedd eu sgiliau, eu cymwysterau neu eu profiad i fod yn aelodau panel. Cedwir y rhestr gan y Cynulliad Cenedlaethol. (3) Rhaid i banel a sefydlir o dan baragraff (1) —
(b) yn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y dyfarniad o gymhwyster ynghylch pa un a yw darpar fabwysiadwr yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol ai peidio.
Aelodaeth panelau
(b) person wedi'i fabwysiadu sydd wedi cyrraedd 18 oed.
(2) Rhaid i'r panel gael cyngor gan:
(b) ymarferydd meddygol cofrestredig ag arbenigedd mewn gwaith mabwysiadu; ac (c) pan fo'r panel yn ystyried hynny'n briodol, cynghorydd cyfreithiol â gwybodaeth o ddeddfwriaeth fabwysiadu ac arbenigedd ynddi.
(3) Ni fydd unrhyw berson yn cael ei benodi naill ai'n aelod o banel neu'n gynghorydd i banel a gaiff ei gynnull i adolygu dyfarniad o gymhwyster a wnaed gan asiantaeth fabwysiadu a fu'n cyflogi'r person hwnnw ar unrhyw adeg yn ystod y ddwy flynedd cyn y dyddiad pryd yr atgyfeirir yr achos at y panel.
(ii) â'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol ar gyfer cadeirio panel; a
(b) un o aelodau'r panel yn is-gadeirydd i weithredu fel cadeirydd os bydd y person a benodwyd i gadeirio'r panel yn absennol neu os yw ei swydd yn wag.
Gweinyddu panelau
(b) sicrhau bod cofnodion o'r fath yn cael eu cadw o dan amodau sy'n briodol o ddiogel.
Cais gan ddarpar fabwysiadwr am i ddyfarniad o gymhwyster gael ei adolygu 11. —(1) Caiff darpar fabwysiadwr, o fewn 20 o ddiwrnodau gwaith i'r dyddiad y bydd yr asiantaeth fabwysiadu'n anfon hysbysiad ynghylch y dyfarniad o gymhwyster mewn cysylltiad ag ef, wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am i banel gael ei ffurfio i adolygu'r dyfarniad hwnnw'n unol â rheoliad 4. (2) Rhaid i gais o dan baragraff (1)—
(b) datgan y rheswm dros y cais.
Cydnabod cais
(b) y darpar fabwysiadwr.
Gorchymyn i dalu costau (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r rheoliadau hyn yn sefydlu panelau adolygu annibynnol. Adolygu'r dyfarniadau canlynol a wnaed gan banelau asiantaethau mabwysiadu yw swyddogaeth y panelau: a) penderfyniad i beidio â chymeradwyo ceiswyr fel rhai sy'n addas i fod yn rhieni mabwysiadol i blant mewn perthynas â mabwysiadu o fewn ffiniau gwlad a b) penderfyniad nad yw darpar fabwysiadwr bellach yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol. Ni all y panel adolygu wyrdroi dyfarniad asiantaeth fabwysiadu. Gall adolygu'r wybodaeth a fu gerbron yr asiantaeth fabwysiadu a gofyn am fwy o wybodaeth. Yna gall wneud argymhelliad i'r panel asiantaeth fabwysiadu ynghylch pa mor addas yw'r darpar fabwysiadwyr. Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried argymhelliad y panel adolygu pan fydd yn gwneud ei phenderfyniad terfynol ynghylch pa mor addas yw'r darpar fabwysiadwyr. Notes: [1] 2002 p.38. Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn adran 144 o'r Ddeddf o ran Lloegr, fel yr Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac o ran Cymru a Lloegr, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol yn gweithredu ar y cyd.back [3] O.S. 2005/1313 (Cy.95).back [4] 2000 p.14. Yn rhinwedd adran 55(2)(a) a (4) o Ddeddf Safonau Gofal 2000, person sy'n ymgymryd â gwaith cymdeithasol y mae ei angen mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaethau iechyd, addysg neu wasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan unrhyw berson yw gweithiwr cymdeithasol at ddibenion Rhan IV o'r Ddeddf honno.back
ISBN 0 11 091170 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 13 July 2005 |