Rheoliadau Ombwdsmon Tai Cymdeithasol (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ombwdsmon Tai Cymdeithasol (Cymru) 2005, ISBN 0110911687. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 51B o Ddeddf Tai 1996[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ombwdsmon Tai Cymdeithasol (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn —
Materion y caniateir gwneud cwynion amdanynt
(b) methiant honedig gan landlord cymdeithasol i ddarparu gwasanaeth perthnasol; ac (c) methiant honedig mewn gwasanaeth perthnasol a ddarparwyd gan landlord cymdeithasol.
Y seiliau y mae mater yn cael ei eithrio rhag ymchwiliad o'u herwydd
(b) camau a gymerwyd gan y landlord cymdeithasol pan nad oedd y landlord cymdeithasol hwnnw wedi'i gofrestru; (c) materion o ran contract cyflogaeth rhwng y landlord cymdeithasol ac unrhyw berson arall (ond nid gweithdrefnau ar gyfer recriwtio a phenodi); (ch) materion o ran penderfynu swm y rhent; a (d) mater sy'n destun cwyn a wnaed i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn erbyn landlord cymdeithasol cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym oni bai bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno y caiff OTCC ymchwilio i'r mater.
(2) Ni chaiff OTCC ymchwilio i fater os oes neu os oedd rhwymedi gan yr achwynydd drwy reithdrefnau mewn llys cyfraith, oni fydd OTCC wedi'i fodloni, yn yr amgylchiadau penodol, nad yw'n rhesymol disgwyl i'r achwynydd gyrchu, neu ddisgwyl ei fod wedi cyrchu, rhwymedi drwy lys.
(ii) bod y landlord cymdeithasol wedi cael cyfle rhesymol i ymchwilio ac ymateb i'r gŵyn yn unol â gweithdrefn gwyno'r landlord cymdeithasol.
(b) nid yw is-baragraff (a) yn gymwys os yw OTCC wedi'i fodloni ei bod yn rhesymol, serch hynny, iddo ymchwilio i'r mater yn yr amgylchiadau penodol.
(4) Nid yw paragraffau (1) i (3) yn atal OTCC rhag ymchwilio i gamau a gymerwyd gan landlord cymdeithasol i weithredu gweithdrefn a sefydlwyd i ymchwilio i gwynion neu i adolygu penderfyniadau.
(b) person a awdurdodwyd gan yr achwynydd i weithredu ar ei ran; ac (c) os nad yw'r achwynydd yn alluog i awdurdodi person i weithredu ar ei ran, person y mae'n ymddangos i OTCC ei fod yn briodol i gynrychioli achwynydd.
(2) OTCC sydd i benderfynu unrhyw gwestiwn a oes gan berson hawl o dan y rheoliad hwn i gwyno.
(b) cychwyn neu barhau ymchwiliad i gŵyn hyd yn oed os tynnwyd y gŵyn yn ôl.
(6) Os bydd OTCC yn unol â pharagraff (5) yn penderfynu peidio ag ymchwilio neu'n penderfynu dirwyn ymchwiliad i ben, rhaid i OTCC baratoi datganiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros y penderfyniad.
(b) y landlord cymdeithasol; ac (c) unrhyw berson arall y mae OTCC yn barnu ei fod yn briodol.
(8) Os bydd datganiad ysgrifenedig o'r rhesymau a baratowyd o dan baragraff (6) –
(b) yn cynnwys unrhyw fanylion sydd, ym marn OTCC, yn debyg o ddangos pwy yw unrhyw berson o'r fath a'r rheini'n fanylion y gellid eu hepgor, ym marn OTCC, heb amharu ar effeithiolrwydd y datganiad o'r rhesymau,
rhaid peidio â chynnwys yr wybodaeth honno mewn fersiwn o'r datganiad o'r rhesymau a anfonir at berson o dan baragraff (7), a hynny'n ddarostyngedig i baragraff (9).
(b) rhoi cyfle i unrhyw berson arall yr honnir yn y gŵyn ei fod wedi cymryd y camau neu awdurdodi'r camau y cwynir amdanynt wneud sylwadau ar unrhyw honiadau ynglŷn â'r person hwnnw.
(2) Rhaid cynnal ymchwiliad yn unol â'r Rheoliadau hyn yn breifat.
(b) bod dogfennau yn cael eu dangos.
(6) Bydd methu â chydymffurfio â pharagraffau (4) a (5) yn golygu y caiff OTCC ddod i'r casgliadau y bydd yn barnu eu bod yn briodol.
(b) o fewn pa gyfnod y mae'n bwriadu cymryd y camau hynny (os nad yw eisioes wedi'u cymryd).
(3) Os na fydd OTCC wedi cael yr hysbysiad sy'n ofynnol o dan baragraff (2) cyn diwedd y cyfnod a bennir yn y paragraff hwnnw, neu os bydd wedi cael yr hysbysiad ond nad yw'n fodlon naill ai:
(b) ar hyd y cyfnod y mae'n bwriadu cymryd y camau hynny o'i fewn, (c) bod y landlord cymdeithasol wedi cymryd y camau yr oedd yn bwriadu eu cymryd o fewn y cyfnod perthnasol,
caiff OTCC baratoi adroddiad arbennig yn unol â pharagraff (4).
(b) ymateb y landlord cymdeithasol i'r penderfyniad hwnnw; ac (c) unrhyw argymhellion, os oes rhai, y gwêl OTCC yn dda eu gwneud o ran y camau y dylai'r landlord cymdeithasol eu cymryd ym marn OTCC:
(ii) i atal anghyfiawnder neu galedi tebyg rhag cael ei achosi yn y dyfodol.
(5) Os yw penderfyniad neu adroddiad arbennig –
(b) yn cynnwys unrhyw fanylion sydd, ym marn OTCC, yn debyg o ddangos pwy yw unrhyw berson o'r fath a'r rheini'n fanylion y gellid eu hepgor, ym marn OTCC, heb amharu ar effeithiolrwydd y penderfyniad neu'r adroddiad arbennig,
rhaid peidio â chynnwys yr wybodaeth honno mewn fersiwn o'r penderfyniad neu'r adroddiad arbennig a anfonir at berson o dan reoliad 11(1), neu a gyhoeddir o dan reoliad 11(2), a hynny'n ddarostyngedig i baragraff (6).
(b) y landlord cymdeithasol, neu unrhyw berson arall yr honnir yn y gŵyn ei fod wedi cymryd y camau y cwynir amdanynt neu ei fod wedi'u hawdurdodi; (c) Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac (ch) unrhyw berson arall neu bersonau eraill y mae OTCC yn ystyried sy'n briodol.
(2) Caiff OTCC gyhoeddi penderfyniad neu adroddiad arbennig ar unrhyw gŵyn, naill ai yn ei gyfanrwydd neu'n rhannol, os yw OTCC o'r farn, ar ôl pwyso a mesur buddiannau'r achwynydd a buddiannau unrhyw berson arall y mae OTCC yn ystyried sy'n briodol, ei fod er lles y cyhoedd i wneud hynny. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae adran 228 o Ddeddf Tai 2004 yn mewnosod adran 51B (Ymchwilio i gwynion) yn Neddf Tai 1996 ("Deddf 1996"). Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 51B o Ddeddf 1996 ac maent yn gwneud darpariaeth ynglyn ag ymchwiliadau gan Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru ("OTCC") i gwynion a wnaed yn erbyn landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru fel y diffinnir "social landlords in Wales"; yn adran 51C(1) o Ddeddf 1996. Yn rhinwedd adran 51A (Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru) o Ddeddf 1996 y person sydd yn Gomisiynydd Lleol Cymru yw OTCC hefyd. Mae rheoliad 3 yn nodi'r materion y caniateir gwneud cwynion amdanynt. Mae rheoliad 4 yn nodi ar ba sail y caniateir eithrio mater rhag ymchwiliad. Mae rheoliad 5 yn pennu unigolion a gaiff gwyno. Mae rheoliad 6 yn nodi pŵer OTCC i ymchwilio i gŵyn. Ymdrinnir â'r weithdrefn sydd i'w dilyn wrth gynnal ymchwiliadau yn rheoliad 7. Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i OTCC wneud penderfyniad ysgrifenedig o ran cwyn. Mae rheoliad 9 yn cynnwys darpariaeth i OTCC atgyfeirio cwynion at ddull amgen priodol i ddatrys anghydfod. Mae rheoliad 10 yn ymdrin ag ymgynghori a chydweithredu â phersonau eraill. Mae rheoliad 11 yn nodi dull cyfathrebu a chyhoeddi penderfyniadau ac adroddiadau arbennig. Notes: [1] 1996 p.52. Mewnosodwyd adran 51B gan adran 228 o Ddeddf Tai 2004 (p.34). Daw adran 51B i rym ar 14 Mehefin 2005 drwy O.S. 2005/1814 (Cy.144)(C.75)[a].back [2] 1996 p. 52. Gweler adran 51C(1)back [3] Gweler adran 51A (Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru) o Ddeddf Tai 1996 (p.52) — bydd y person sydd yn Gomisiynydd Lleol Cymru hefyd yn Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru.back
[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 2, troednodyn (1); dylai'r ail frawddeg ddarllen fel "Daw adran 228 o Ddeddf Tai 2004 i rym ar 14 Gorffennaf 2005 drwy O.S. 2005/1814 (Cy.144) (C.75).". back
ISBN 0 11 091168 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 13 July 2005 |