Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2005, ISBN 0110911679. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 270(4)(a), (5)(c), (5)(f) a (7) o Ddeddf Tai 2004[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, dehongli a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2005. (2) Yn y Gorchymyn hwn —
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(b) adran 227; (c) adran 228; (ch) adran 265(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau o Atodlen 15 i Ddeddf 2004 a bennir ym mharagraff (dd) isod; (d) Atodlen 12; ac (dd) yn Atodlen 15 —
(ii) paragraff 7(1), (2), (3)(a), (3)(c), (4)(a) a 5; (iii) paragraff 35; (iv) paragraff 37(1), (2)(a), (2)(b) a (3); (v) paragraff 45(1), (2)(b), (2)(c), (2)(d) a (3); a (vi) paragraff 46
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â ddarpariaethau amrywiol Deddf Tai 2004 ("Deddf 2004") i rym o ran Cymru. Daw darpariaethau Deddf 2004 a restrir o dan erthygl 2 i rym ar 14 Gorffennaf 2005. Maent yn darparu ar gyfer y canlynol:
(b) dileu'r ddyletswydd sydd ar awdurdodau tai lleol o dan adran 167 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i anfon adroddiadau blynyddol at denantiaid (adran 227 o Ddeddf 2004); ac (c) creu swydd Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru (mae adran 228 o Ddeddf 2004 yn mewnosod adrannau 51A, 51B a 51C yn Neddf Tai 1996 ac mae Atodlen 12 o Ddeddf 2004 yn mewnosod Atodlen 2A newydd yn y ddeddf 1996 honno).
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn dod â newidiadau canlyniadol i rym (mae erthygl 2(dd) yn cyfeirio at y rhain). Notes: [1] 2004 p.34.back
[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 3; dylid mewnosod y dyddiad llofnodi i ddarllen fel "5 Gorffennaf 2005"; a back [b] Amended by Correction Slip. Tudalen 3; dylid mewnosod enw'r llofnodwr "D. Elis-Thomas" a'i ganoli islaw'r dyddiad llofnodi. back
ISBN 0 11 091167 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 13 July 2005 |