Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofnodion) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofnodion) (Cymru) 2005, ISBN 0110911652. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 79 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991[1] ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofnodion) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn:
— er mwyn osgoi colled sylweddol i'r ymgymerwr o ran gwasanaeth sy'n bodoli eisoes; neu — er mwyn ailgysylltu cyflenwadau neu wasanaethau pan fyddai'r ymgymerwr o dan atebolrwydd sifil neu droseddol pe câi'r ailgysylltu ei oedi hyd nes ar ôl i'r cyfnod hysbysu priodol ddod i ben;
ac y mae'n cynnwys gwaith na ellir yn rhesymol ei wahanu o'r fath waith;
Ffurf y cofnodion a dull eu cofnodi
(ii) wedi'i baratoi hyd at lefel o gywirdeb sy'n cyfateb o leiaf i raddfa map gan yr Arolwg Ordnans sydd agosaf at raddfa'r cefndir map hwnnw; neu (iii) datganiad o gyfesurynnau'r Grid Cenedlaethol sy'n deillio o system wybodaeth ddaearyddol.
(2) Dim ond i gofnodi'r map o'r lleoliad neu'r llwybr am gyfnod heb fod yn fwy na phum mlynedd o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ("y cyfnod trosiannol") y caniateir defnyddio Mapio Cyfres Siroedd yr Arolwg Ordnans, a rhaid trosglwyddo cofnodion sy'n cael eu gwneud yn y modd hwn i un o'r ffurfiau eraill a ragnodir gan baragraff (1) erbyn diwedd y cyfnod trosiannol fan bellaf.
(ii) gwybodaeth a ardystiwyd gan awdurdod ymgymerwr neu gyda'i awdurdod ef ei bod yn wybodaeth gyfyngedig yn unol â buddiannau masnachol yr ymgymerwr;
(b) i unrhyw gyfarpar a roddwyd gan ymgymerwr yn y stryd o fewn ei gyfarpar presennol lle y cofnodwyd lleoliad y cyfarpar presennol yn barod ar ffurf a ragnodir gan reoliad 3;
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi ffurf y cofnodion o gyfarpar a roddir mewn strydoedd y mae ymgymerwyr i'w cadw yn unol â darpariaethau adran 79 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn darparu bod rhaid cadw'r cofnodion hynny ar ffurf map lleoliad neu fap o'r llwybr neu ddatganiad o'r cyfesurynnau, a chânt fod un ai ar bapur, ar ffurf cofnod electronig neu gyfuniad o'r ddau (rheoliad 3). Maent yn gwneud darpariaethau ar ddefnyddio cofnodion electronig (rheoliad 4). Rhagnodir eithriadau i'r ddyletswydd i gadw cofnod mewn rhai achosion (rheoliad 5). Notes: [1] 1991 p.22.back [2] Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/ 672).back
ISBN 0 11 091165 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 12 July 2005 |