Rheoliadau Priffyrdd (Ysgolion) (Gorchmynion Dileu Arbennig a Gwyro Arbennig) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Priffyrdd (Ysgolion) (Gorchmynion Dileu Arbennig a Gwyro Arbennig) (Cymru) 2005, ISBN 0110911822. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 28(2) (fel y'i cymhwysir gan adran 121(2)), 118B(9) a (10) a 119B(12) a (13) o Ddeddf Priffyrdd 1980 ("y Ddeddf")[1] a pharagraffau 1(1) a (3)(b)(iv), 3(1), (2) a (3)(b), 4(1) a 6 o Atodlen 6 iddi, sef pwerau sydd bob un yn awr yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[2], a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Priffyrdd (Ysgolion) (Gorchmynion Dileu Arbennig a Gwyro Arbennig) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
(b) gorchymyn gwyro arbennig[4]; neu (c) gorchymyn sy'n amrywio neu'n dirymu gorchymyn o fath a bennir yn (a) neu (b); ac
mae cyfeiriad at ffurf neu hysbysiad a ragnodir gan y Rheoliadau hyn yn cynnwys cyfeiriad at y ffurf honno neu'r hysbysiad hwnnw yn Gymraeg neu yn Saesneg (neu yn y ddwy iaith) ac at ffurf neu hysbysiad sy'n sylweddol yr un fath â'r rhai a ragnodir o ran ei heffaith neu ei effaith.
(b) gael ei gwyro at ddiben a bennir yn adran 119B(1)(b) o'r Ddeddf gan orchymyn gwyro arbennig, rhaid i'r gorchymyn fod ar y ffurf a geir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i'r map y mae'n ofynnol ei gynnwys mewn gorchymyn fod ar raddfa nad yw'n llai nag 1/2,500 neu, os nad oes map o'r fath ar gael, fod ar y raddfa fwyaf sydd ar gael.
(b) copi o'r hysbysiad a roddir o dan baragraff 1(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf; (c) unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau sy'n ymwneud â'r gorchymyn, a wnaed yn briodol ac na chawsant eu tynnu'n ôl; (ch) unrhyw sylwadau sydd gan yr Awdurdod ar y sylwadau neu'r gwrthwynebiadau hynny; a (d) datganiad yn nodi ar ba seiliau, ym marn yr Awdurdod, y dylid cadarnhau'r gorchymyn.
(3) Caniateir cynnal unrhyw drafodion sy'n rhagarweiniol i gadarnhau gorchymyn dileu arbennig ar yr un pryd ag unrhyw drafodion sy'n rhagarweiniol i gadarnhau gorchymyn creu llwybr cyhoeddus[7], gorchymyn gwyro llwybr cyhoeddus[8], gorchymyn gwyro croesfan reilffordd[9] neu orchymyn gwyro arbennig. DEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN 118B [ENW'R AWDURDOD] [ENW'R GORCHYMYN] Gwneir y Gorchymyn hwn gan [mewnosoder enw'r Awdurdod] ("yr Awdurdod") o dan adran 118B(4) o Ddeddf Priffyrdd 1980 ("Deddf 1980") oherwydd ei bod yn ymddangos i'r Awdurdod, o ran y briffordd berthnasol [gweler troednodyn 1] a ddisgrifir yn erthygl 1 isod ("y briffordd"),—
(b) bod y briffordd yn croesi tir sy'n cael ei feddiannu at ddibenion ysgol; a (c) ei bod yn hwylus at ddiben amddiffyn y disgyblion neu'r staff rhag—
(ii) harasio, (iii) braw neu ofid sy'n deillio o weithgaredd anghyfreithlon, neu (iv) unrhyw risg arall i'w hiechyd neu i'w diogelwch sy'n deillio o weithgaredd o'r fath,
fod y briffordd yn cael ei chau.
Ymgynghorwyd â'r awdurdod heddlu [mewnosoder enw'r awdurdod heddlu] ar gyfer yr ardal lle y mae'r briffordd wedi'i lleoli fel sy'n ofynnol gan adran 118B(6) o Ddeddf 1980.
(b) unrhyw briffordd a ddangosir ar fap diffiniol ac mewn datganiad fel llwybr troed, llwybr ceffylau, neu gilffordd gyfyngedig, ac y mae gan y cyhoedd hawl dramwy drosti ar gyfer cerbydau a phob math arall o draffig; neu (c) unrhyw briffordd a ddangosir ar fap diffiniol ac mewn datganiad fel cilffordd sydd ar agor i bob traffig,
ond nid yw'n cynnwys priffordd sy'n gefnffordd neu'n ffordd arbennig. DEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN 119B [ENW'R AWDURDOD] [ENW'R GORCHYMYN] Gwneir y Gorchymyn hwn gan [mewnosoder enw'r Awdurdod] ("yr Awdurdod") o dan adran 119B(4) o Ddeddf Priffyrdd 1980 ("Deddf 1980") oherwydd ei bod yn ymddangos i'r Awdurdod, o ran y briffordd berthnasol [gweler troednodyn 1] a ddisgrifir yn erthygl 1 isod ("y briffordd"),—
(b) bod y briffordd yn croesi tir sy'n cael ei feddiannu at ddibenion ysgol; (c) ei bod yn hwylus, at ddiben amddiffyn y disgyblion neu'r staff rhag—
(ii) harasio, (iii) braw neu ofid sy'n deillio o weithgaredd anghyfreithlon, neu (iv) unrhyw risg arall i'w hiechyd neu i'w diogelwch sy'n deillio o weithgaredd o'r fath,
bod llinell y briffordd, neu ran o'r llinell honno, yn cael ei gwyro; ac
Ymgynghorwyd â'r awdurdod heddlu [mewnosoder enw'r awdurdod heddlu] ar gyfer yr ardal lle y mae'r briffordd wedi'i lleoli fel sy'n ofynnol gan adran 119B(6) o Ddeddf 1980. [Dylid disgrifio lleoliad, hyd a lled y briffordd fesul rhan, e.e. A-B, B-C ac yn y blaen, fel a ddangosir ar y map] [Dylid disgrifio lleoliad, hyd a lled y ffordd newydd fesul rhan, e.e. C-D, D-E ac yn y blaen, fel a ddangosir ar y map] [Dylid pennu unrhyw gyfyngiadau ac amodau sydd i fod yn gymwys — gweler troednodyn 5. Dileer y Rhan hon os nad oes cyfyngiadau ac amodau'n cael eu pennu yn y Gorchymyn hwn] Y Troednodiadau 1. Diffinnir "relevant highway" ("priffordd berthnasol") yn adran 119B(2) o Ddeddf 1980 fel—
(b) unrhyw briffordd a ddangosir ar fap diffiniol ac mewn datganiad fel llwybr troed, llwybr ceffylau, neu gilffordd gyfyngedig, ac y mae gan y cyhoedd hawl dramwy drosti ar gyfer cerbydau a phob math arall o draffig; neu (c) unrhyw briffordd a ddangosir ar fap diffiniol ac mewn datganiad fel cilffordd sydd ar agor i bob traffig,
ond nid yw'n cynnwys priffordd sy'n gefnffordd neu'n ffordd arbennig.
(b) mewn achos pan fydd y briffordd sy'n cael ei gwyro'n dod o fewn (b) neu (c) o droednodyn 1 uchod, priffordd newydd o'r fath y mae gan y cyhoedd hawl dramwy drosti ar gyfer cerbydau a mathau eraill o draffig,
y mae'n ymddangos i'r cyngor ei bod yn ofynnol ar gyfer gweithredu'r gwyriad (gweler adran 119B(4)(a) o Ddeddf 1980). [ENW'R AWDURDOD] [ENW'R GORCHYMYN] [I [mewnosoder enw'r person yr anfonir yr hysbysiad hwn ato] o [mewnosoder ei gyfeiriad] [gweler troednodyn 1]. Gwnaed y Gorchymyn uchod ar [mewnosoder dyddiad] o dan adran [118B] [119B] o Ddeddf Priffyrdd 1980. Bydd y Gorchymyn yn [dileu][gwyro] yr hawl dramwy gyhoeddus [mewnosoder disgrifiad o effaith o Gorchymyn]. Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn, ynghyd â'r map a gynhwysir ynddo, yn rhad ac am ddim yn [ym] [yng] [mewnosoder lleoliad] o [mewnosoder amser] a.m. hyd [mewnosoder amser] p.m. ar [mewnosoder dyddiad(au)]. Gellir prynu yno gopïau o'r Gorchymyn a'r map am [mewnosoder swm] [gweler troednodyn 2]. [Mae digollediad am ddibrisiant yng ngwerth buddiant yn y tir, neu am aflonyddwch o ran ei fwynhau, sy'n deillio o ganlyniad i'r ffaith bod y Gorchymyn hwn yn dod i rym, yn daladwy o dan adran 28 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (fel y'i cymhwysir gan adran 121(2) o'r Ddeddf honno). Mae copïau o'r adrannau hyn, ac o adran 120(3) o'r Ddeddf honno (y mae adran 121(2) yn cyfeirio ati), yn atodedig] [gweler troednodyn 1]. Gellir anfon unrhyw sylwadau ynghylch y Gorchymyn, neu unrhyw wrthwynebiadau i'r Gorchymyn, yn ysgrifenedig at [mewnosoder teitl swydd y swyddog priodol ac enw a chyfeiriad yr Awdurdod] a hynny heb fod yn hwyrach na [mewnosoder dyddiad] [gweler troednodyn 3]. Os gweler yn dda, noder ar ba sail y'u gwneir. Os na wneir sylwadau neu wrthwynebiadau o'r fath yn briodol, neu os tynnir yn ôl unrhyw rai a wneir felly, caiff [mewnosoder enw'r Awdurdod] gadarnhau'r Gorchymyn fel gorchymyn nad oes iddo wrthwynebiad. Os anfonir y Gorchymyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i'w gadarnhau, bydd unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau na chawsant eu tynnu'n ôl yn cael eu hanfon gyda'r Gorchymyn. [mewnosoder y dyddiad] Llofnodwyd [mewnosoder llofnod] [safle o fewn yr Awdurdod] [enw'r Awdurdod] Y Troednodiadau 1. Mewnosoder yn unig mewn hysbysiadau sydd i'w cyflwyno i berson a bennir ym mharagraff 1(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980 neu o dan y paragraff hwnnw. Os yw paragraff 1(3)(b) o'r Atodlen honno yn ei gwneud yn ofynnol i'r hysbysiad hwn gael ei gyflwyno i berchennog, meddiannydd neu lesddeiliad tir yr effeithir arno gan y Gorchymyn neu ei gyflwyno i bersonau penodol eraill, rhaid cynnwys copi o'r Gorchymyn hwnnw gyda'r hysbysiad hwn (paragraff 1(4B) o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980). 2. Rhaid i'r Awdurdod sicrhau bod y Gorchymyn a'r map ar gael i'w harchwilio ar bob adeg resymol ac y gellir cael copïau o'r Gorchymyn a'r map am bris rhesymol (paragraff 1(1)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980). 3. Ni chaniateir i'r dyddiad hwn fod yn gynharach na 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad gyntaf (paragraff 1(1)(c) o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980). Dylid dileu'r dewisiadau mewn cromfachau sgwâr a llenwi'r bylchau fel y bo'n briodol. [ENW'R AWDURDOD] [ENW'R GORCHYMYN] [I [mewnosoder enw'r person yr anfonir yr hysbysiad hwn ato] o [mewnosoder ei gyfeiriad] [gweler troednodyn 1] [Ar [mewnosoder dyddiad], cadarnhawyd [gydag] [heb] addasiadau, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, y Gorchymyn uchod, a wnaed o dan adran [118B] [119B] o Ddeddf Priffyrdd 1980] [Ar [mewnosoder dyddiad], cadarnhawyd heb addasiad, gan [mewnosoder enw'r Awdurdod], y Gorchymyn uchod a wnaed o dan adran [118B] [119B] o Ddeddf Priffyrdd 1980]. Effaith y Gorchymyn fel y'i cadarnhawyd yw [dileu] [gwyro] yr hawl dramwy gyhoeddus [mewnosoder disgrifiad o effaith y Gorchymyn]. Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn fel y'i cadarnhawyd, a'r map a gynhwysir ynddo, yn rhad ac am ddim yn [ym] [yng] [mewnosoder lleoliad] o [mewnosoder amser] a.m. hyd [mewnosoder amser] p.m. ar [mewnosoder dyddiad(au)]. Gellir prynu yno gopïau o'r Gorchymyn a'r map am [mewnosoder swm] [gweler troednodyn 2]. [Rhaid i unrhyw berson sy'n dymuno hawlio am gael ei ddigolledu, o dan adran 28 o Ddeddf Priffyrdd 1980, fel y'i cymhwysir gan adran 121(2) o'r Ddeddf honno, am ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir, neu am aflonyddwch o ran ei fwynhau, a hynny o ganlyniad i'r ffaith bod y Gorchymyn yn dod i rym, wneud hawliad yn ysgrifenedig a'i gyfeirio at [mewnosoder teitl swydd y swyddog priodol ac enw a chyfeiriad yr Awdurdod] a'i gyflwyno drwy ei ddanfon, neu ei anfon yn rhagdaledig drwy'r post, i'r cyfeiriad uchod a hynny heb fod yn hwyrach na [mewnosoder dyddiad]. Mae copïau o'r adrannau hyn ac o adran 120(3) o'r Ddeddf honno (y mae adran 121(2) yn cyfeirio ati) yn atodedig [gweler troednodyn 1]. Mae'r hawl dramwy gyhoeddus a gaiff ei dileu gan y Gorchymyn yn cael ei dileu ar ôl [dylid cwblhau'n unol â thelerau erthygl 1 o'r Gorchymyn]. Daw'r hawl dramwy gyhoeddus a gaiff ei chreu gan y Gorchymyn i fodolaeth ar ddiwedd [dylid cwblhau'n unol â thelerau erthygl 3 o'r Gorchymyn yn achos gorchymyn gwyro arbennig neu ddileu yn achos gorchymyn dileu arbennig]. Os bydd person y mae'r Gorchymyn yn ei dramgwyddo yn dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn, neu unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir ynddo, a hynny ar y sail nad yw o fewn pwerau Deddf Priffyrdd 1980, neu ar y sail na chydymffurfiwyd, mewn perthynas â'r Gorchymyn, ag unrhyw un o ofynion y Ddeddf honno, neu ag unrhyw reoliadau a wneir oddi tani, caiff y person hwnnw, o dan baragraff 2 o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno (fel y'i cymhwysir gan baragraff 5 o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno), wneud cais i'r Uchel Lys, a hynny o fewn chwe wythnos i [mewnosoder y dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad hwn gyntaf]. [mewnosoder y dyddiad] Llofnodwyd [mewnosoder llofnod] [safle o fewn yr Awdurdod] [enw'r Awdurdod] Y Troednodiadau 1. Mewnosoder yn unig mewn hysbysiadau sydd i'w cyflwyno i berson a bennir ym mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980. Os yw paragraff 4(1)(a) o'r Atodlen honno'n ei gwneud yn ofynnol i'r hysbysiad hwn gael ei gyflwyno i berchennog, meddiannydd neu lesddeiliad tir yr effeithir arno gan y Gorchymyn, neu ei gyflwyno i bersonau penodol eraill, rhaid cynnwys copi o'r Gorchymyn hwnnw gyda'r hysbysiad hwn (paragraff 4(2) o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980). 2. Rhaid i'r Awdurdod sicrhau bod y Gorchymyn a gadarnhawyd a'r map ar gael i'w harchwilio ar bob adeg resymol a gellir cael copïau o'r Gorchymyn a'r map am bris rhesymol (paragraff 4(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980). Dylid dileu'r dewisiadau mewn cromfachau sgwâr a llenwi'r bylchau fel y bo'n briodol. [ENW'R GORCHYMYN] [I [mewnosoder enw'r person y mae'r hysbysiad hwn i'w anfon ato] o [mewnosoder ei gyfeiriad] [gweler troednodyn 1]. Ar [mewnosoder y dyddiad], gwnaed y Gorchymyn uchod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 120(3) o Ddeddf Priffyrdd 1980. Effaith y Gorchymyn yw [dileu] [gwyro] yr hawl dramwy gyhoeddus [mewnosoder disgrifiad o effaith y Gorchymyn]. Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn fel y'i cadarnhawyd, a'r map a gynhwysir ynddo, yn rhad ac am ddim yn [ym] [yng] [mewnosoder lleoliad] o [mewnosoder amser] a.m. hyd [mewnosoder amser] p.m. ar [mewnosoder dyddiad]. Gellir prynu yno gopïau o'r Gorchymyn a'r map am [mewnosoder swm] [gweler troednodyn 2]. [Rhaid i unrhyw berson sy'n dymuno hawlio am gael ei ddigolledu, o dan adran 28 o Ddeddf Priffyrdd 1980, fel y'i cymhwysir gan adran 121(2) o'r Ddeddf honno, am ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir, neu am aflonyddwch o ran ei fwynhau, a hynny o ganlyniad i'r ffaith bod y Gorchymyn yn dod i rym, wneud hawliad yn ysgrifenedig a'i gyfeirio at [mewnosoder teitl swydd y swyddog priodol ac enw a chyfeiriad yr Awdurdod] a'i gyflwyno drwy ei ddanfon, neu ei anfon yn rhagdaledig drwy'r post, i'r cyfeiriad uchod a hynny heb fod yn hwyrach na [mewnosoder dyddiad]. Mae copïau o'r adrannau hyn ac o adran 120(3) o'r Ddeddf honno (y mae adran 121(2) yn cyfeirio ati) yn atodedig [gweler troednodyn 1]. Mae'r hawl dramwy gyhoeddus a gaiff ei dileu gan y Gorchymyn yn cael ei dileu ar ôl [dylid cwblhau'n unol â thermau erthygl 1 o'r Gorchymyn]. Daw'r hawl dramwy gyhoeddus a gaiff ei chreu gan y Gorchymyn i fodolaeth ar ddiwedd [dylid cwblhau'n unol â thelerau erthygl 3 o'r Gorchymyn yn achos gorchymyn gwyro arbennig neu ddileu yn achos gorchymyn dileu arbennig]. Os bydd unrhyw berson y mae'r Gorchymyn yn ei dramgwyddo yn dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn, neu unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir ynddo, a hynny ar y sail nad yw o fewn pwerau Deddf Priffyrdd 1980, neu ar y sail na chydymffurfiwyd, mewn perthynas â'r Gorchymyn, ag unrhyw un o ofynion y Ddeddf honno, neu ag unrhyw reoliadau a wneir oddi tani, caiff y person hwnnw, o dan baragraff 2 o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno (fel y'i cymhwysir gan baragraff 5 o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno), wneud cais i'r Uchel Lys, a hynny o fewn chwe wythnos i [mewnosoder y dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad hwn gyntaf]. [mewnosoder y dyddiad] Llofnodwyd [mewnosoder llofnod] Awdurdodwyd i lofnodi ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Troednodiadau 1. Mewnosoder yn unig mewn hysbysiadau sydd i'w cyflwyno i berson a bennir ym mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980. Os yw paragraff 4(1)(a) o'r Atodlen honno'n ei gwneud yn ofynnol i'r hysbysiad hwn gael ei gyflwyno i berchennog, meddiannydd neu lesddeiliad tir yr effeithir arno gan y Gorchymyn, neu i bersonau penodol eraill, rhaid cynnwys copi o'r Gorchymyn hwnnw gyda'r hysbysiad hwn (paragraff 4(2) o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980). 2. Rhaid i'r Awdurdod sicrhau bod y Gorchymyn a gadarnhawyd a'r map ar gael i'w archwilio ar bob adeg resymol. Ni chaniateir codi tâl uwch na thâl rhesymol am gopïau (paragraff 4(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980). Dylid dileu'r dewisiadau mewn cromfachau sgwâr a llenwi'r bylchau fel y bo'n briodol. ACU Motorcycling GB Yr awdurdod sy'n cyflawni swyddogaethau awdurdod tân o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ar gyfer yr ardal lle y mae'r tir y mae'r Gorchymyn yn ymwneud ag ef wedi'i leoli British Horse Society Byways and Bridleways Trust Cyclists Touring Club Open Spaces Society Cymdeithas y Cerddwyr Cynghorau tref a chynghorau cymuned ar gyfer yr ardal lle y mae'r tir y mae'r gorchymyn yn ymwneud ag ef wedi'i leoli (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mewnosodwyd adrannau 118B a 119B o Ddeddf Priffyrdd 1980 ("Deddf 1980") gan baragraffau 8 a 12 o Atodlen 6 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn y drefn honno. Maent yn galluogi gorchmynion i gael eu gwneud i gau (drwy gyfrwng "gorchymyn dileu arbennig") a gwyro (drwy gyfrwng "gorchymyn gwyro arbennig") briffyrdd penodol at ddibenion atal troseddu neu er mwyn amddiffyn disgyblion neu staff ysgolion. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 15 Gorffennaf 2005, yn rhagnodi'r ffurfiau a'r hysbysiadau, ac yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn, ar gyfer gorchmynion dileu arbennig a gorchmynion gwyro arbennig sy'n ymwneud â phriffyrdd sy'n croesi tir sy'n cael ei feddiannu at ddibenion ysgol, ac sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn disgyblion neu staff. Bydd cymhwyso'r mathau hyn o orchmynion at ddibenion atal troseddu yn dod yn weithredol yn nes ymlaen. Mae rheoliad 3 ac Atodlenni 1 a 2 yn rhagnodi ffurf gorchymyn dileu arbennig a gorchymyn gwyro arbennig yn y drefn honno. Mae rheoliad 4(1) i (3) ac Atodlen 3 yn rhagnodi ffurf yr hysbysiadau sydd—
(b) i'w cyflwyno unwaith y bydd gorchymyn wedi'i gadarnhau; ac (c) i'w cyflwyno unwaith y bydd gorchymyn wedi'i wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae rheoliad 4(4) ac Atodlen 4 yn rhagnodi personau ychwanegol y mae'r hysbysiadau a bennir yn y rheoliad hwnnw i'w cyflwyno iddynt. Notes: [1] 1980 p.66; mewnosodwyd adrannau 118B a 119B gan baragraffau 8 a 12 o Atodlen 6 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37); diwygiwyd adran 121(2) gan baragraff 14(3) o Atodlen 6 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37); gwnaed diwygiadau perthnasol i Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980 gan baragraff 23 o Atodlen 6 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i hestynnwyd gan adran 99 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.back [3] Gweler adran 118B(5) o'r Ddeddf.back [4] Gweler adran 119B(5) o'r Ddeddf.back [5] Amnewidiwyd paragraff 1(3)(b) gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p.69), Atodlen 16, paragraff 6.back [6] Amnewidiwyd paragraff 4(1)(a) gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, Atodlen 16, paragraff 8.back [7] Gweler adran 26(1) o'r Ddeddf.back [8] Gweler adran 119(1) o'r Ddeddf.back [9] Gweler adran 119A(3) o'r Ddeddf.back [10] Diwygiwyd adran 121(2) o'r Ddeddf gan Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p.42), Atodlen 2, paragraff 6 a chan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37), Atodlen 6, paragraff 14.back
ISBN 0 11 091182 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 26 July 2005 |