Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005, ISBN 0110911717. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran mesurau sy'n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd sy'n cael ei achosi gan wastraff, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005. (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym fel a ganlyn —
(b) y gweddill, ar 16 Gorffennaf 2005.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(ii) Penderfyniad y Comisiwn 96/350/EC[6]; a (iii) Rheoliad (EC)Rhif 1882/2003[7]; a
(b) ystyr "gwastraff" ("waste") yw unrhyw beth—
(ii) yn ddarostyngedig i reoliad 15, nas gwaharddwyd o rychwant y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 2 o'r Gyfarwyddeb honno.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at amodau'r Gyfarwyddeb Wastraff yn gyfeiriad at yr amodau a osodwyd yn Erthygl 4 o'r Gyfarwyddeb honno, sef, sicrhau bod gwastraff yn cael ei adfer neu ei waredu heb beryglu iechyd dynol a heb ddefnyddio prosesau neu ddulliau a allai niweidio'r amgylchedd ac yn benodol—
(b) heb beri niwsans drwy sŵn neu arogleuon; ac (c) heb effaith andwyol ar gefn gwlad neu fannau o ddiddordeb arbennig.
Y Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus
(ii) Atodlen 2, sy'n nodi Atodiad II (Cyfansoddion gwastraffoedd yn Atodiad I.B sy'n eu gwneud yn beryglus pan fydd ganddynt y nodweddion a ddisgrifir yn Atodiad III); a (iii) Atodlen 3, sy'n nodi Atodiad III (Nodweddion gwastraffoedd sy'n eu gwneud yn beryglus);
(b) mae nodweddion peryglus yn gyfeiriad at y nodweddion a geir ac a nodir yn Atodiad III.
Y Rhestr Wastraffoedd
(2) Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn ynglŷn â'r ffaith bod unrhyw wastraff—
(b) "heb ei restru fel gwastraff peryglus" yn cyfeirio at y ffaith bod y gwastraff hwnnw heb ei restru fel gwastraff peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd, p'un a ydyw wedi'i restru fel gwastraff ai peidio, neu p'un a ydyw fel arall yn wastraff peryglus ai peidio yn unol â'r Rheoliadau hyn;
ac mae ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.
(b) unrhyw ddydd Gwener y Groglith neu unrhyw ddydd Nadolig; (c) unrhyw ddiwrnod sy'n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971[16]; neu (ch) unrhyw ŵyl gyhoeddus arall;
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae gan yr ymadroddion canlynol (sef yr ymadroddion a ddiffinnir yn Erthygl 1(b) i (g) o'r Gyfarwyddeb Wastraff) yr ystyron sydd ganddynt yn y gyfarwyddeb honno, sef —
ac mae ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.
(b) caiff unrhyw ofyniad i wneud neu gadw cofnod neu i ddal gafael ar gofnod neu i gadw cofrestr ei fodloni ar ffurf electronig os oes modd i'r testun hwnnw gael ei gynhyrchu gan y person hwnnw ar ffurf dogfen sy'n weladwy ac yn ddarllenadwy; (c) caiff unrhyw ofyniad i lofnodi hysbysiad, nodyn traddodi, atodlen y cludwyr neu nodyn traddodi amlgasgliad ei fodloni gan lofnod electronig wedi ei ymgorffori yn y ddogfen; ac (ch) ystyr "llofnod electronig" ("electronic signature") yw data ar ffurf electronig sydd wedi'i atodi i ddata electronig arall neu wedi'i gysylltu'n rhesymegol ag ef ac sy'n gweithredu fel dull dilysu.
Gwastraff peryglus 6. Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae gwastraff yn wastraff peryglus os yw—
(b) wedi'i restru mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 62A(1) o Ddeddf 1990; neu (c) yn swp penodol o wastraff y penderfynwyd yn unol â rheoliad 8 ei fod yn wastraff peryglus,
ac mae'r term "peryglus" ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.
(b) swp penodol o wastraff y penderfynwyd yn unol â rheoliad 9 ei fod yn wastraff nad yw'n beryglus,
ac mae'r ymadrodd "nad yw'n beryglus" ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.
(b) nad yw wedi'i restru mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 62A(1) o Ddeddf 1990; neu (c) sy'n cael ei drin, er ei fod o fath sydd wedi'i restru fel gwastraff peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd, fel gwastraff nad yw'n beryglus yn unol â rheoliad 9(2),
yn amlygu un neu ragor o'r nodweddion peryglus, ac felly ei fod i'w drin i bob pwrpas fel gwastraff peryglus.
(b) wedi'i restru mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 62A(1) o Ddeddf 1990; neu (c) sy'n cael ei drin, er ei fod o fath nad yw wedi'i restru fel gwastraff peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd, fel gwastraff peryglus yn unol â rheoliad 8(2),
yn amlygu unrhyw un o'r nodweddion a restrir yn Atodiad III i'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus, ac felly ei fod i'w drin i bob pwrpas fel gwastraff nad yw'n beryglus yng Nghymru.
(b) deiliad y swp penodol o wastraff; ac (c) unrhyw berson arall y mae'n ymddangos iddo—
(ii) yr effeithir arno fel arall yn uniongyrchol gan y penderfyniad.
(3) Rhaid i'r Cynulliad roi hysbysiad o unrhyw benderfyniad a wnaed o dan reoliad 8 neu 9 neu ddirymiad a wnaed o dan reoliad 8 neu 9 i'r canlynol—
(b) deiliad y swp o wastraff penodol o dan sylw; ac (c) unrhyw berson yr ymgynghorodd ag ef yn unol â pharagraff (2)(c).
(4) Rhaid rhoi rhesymau yn yr hysbysiad dros y penderfyniad neu'r dirymiad, yn ôl y digwydd.
(b) SEPA; (c) Yr Ysgrifennydd Gwladol; (ch) Gweithrediaeth yr Alban; (d) Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon[24]; (dd) Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch; ac (e) unrhyw gorff y mae'n ymddangos i'r Cynulliad ei fod yn cynrychioli personau y mae'n debygol yr effeithir arnynt gan y penderfyniad perthnasol neu'r dirymiad perthnasol o benderfyniad, yn ôl y digwydd.
Cymhwyso cyffredinol ar Rannau 4 i 10 12. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff peryglus. (2) Ac eithrio'r darpariaethau yn rheoliad 13 (cymhwyso i wastraff asbestos) ac 14 (cymhwyso i ffracsiynau a gesglir ar wahân), nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff domestig[25] . (3) Nid oes dim sydd yn Rhan 6 o'r Rheoliadau hyn (symud gwastraff peryglus) yn gymwys mewn perthynas â thrawslwytho gwastraff y mae darpariaethau Rheoliad y Cyngor 259/93/EEC[26], heblaw Teitl III o'r rheoliad hwnnw, yn gymwys iddo. (4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff peryglus yng Nghymru er gwaethaf y ffaith bod gwastraff—
(b) yn cael ei gludo, neu i'w gludo, o fangre yng Nghymru i fangre yn un o'r lleoedd hynny.
(5) Er mwyn osgoi amheuaeth, wrth eu cymhwyso—
(b) i ddyfroedd mewnol a môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig sy'n cydffinio â Chymru, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys, heb leihau effaith paragraff (3), i lwyth o wastraff a gludir mewn unrhyw long,
ym mhob achos (p'un a yw'r llong yn llong y Deyrnas Unedig neu fel arall ac, os llong y Deyrnas Unedig ydyw, p'un a gofrestrwyd hi yng Nghymru neu fel arall).
(b) i berson sy'n gweithredu ar ran person o'r fath yn ddi-dâl.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu mewn perthynas â gwastraff asbestos nad yw'n wastraff domestig a gynhyrchir yn ystod unrhyw rai o weithgareddau adeiladu, addasu, trwsio a chynnal a chadw (gan gynnwys gwaith strwythurol) neu ddymchwel mangre ddomestig neu unrhyw ran ohoni, fel y byddant yn trin unrhyw gontractiwr sy'n cael ei gymryd ymlaen gan feddiannydd domestig—
(ii) os nad yw'r contractiwr yn cymryd person arall ymlaen fel traddodwr, fel y traddodwr,
o'r gwastraff asbestos heb gynnwys y meddiannydd.
Ffracsiynau domestig a gasglwyd ar wahân
(b) a gasglwyd o'r fangre lle cynhyrchwyd ef ar wahân i'r casgliad o wastraff arall o'r fangre honno.
(2) At ddibenion paragraff (1), ceir ystyried bod gwastraff peryglus wedi'i gasglu ar wahân i'r casgliad o wastraff arall er gwaethaf y ffaith iddo gael ei gasglu ar yr un pryd neu ar yr un cerbyd neu'r ddau, ar yr amod nad yw'r gwastraff peryglus yn cael ei gymysgu gyda'r gwastraff arall.
(ii) adran 14 (cronni gwastraff ymbelydrol),
o'r Ddeddf honno gan adran 15 o'r Ddeddf honno neu yn unol â hi; a
(2) Er gwaethaf rheoliad 2(1)(b)(ii), trinnir gwastraff ymbelydrol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo fel gwastraff at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac yn unol â hynny trinnir ef fel gwastraff peryglus ac mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r gwastraff hwnnw. Ystyr cymysgu gwastraff peryglus 18. —(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyrir bod gwastraff peryglus o unrhyw ddisgrifiad wedi'i gymysgu os cymysgwyd ef â'r canlynol—
(b) gwastraff nad yw'n beryglus; neu (c) unrhyw sylwedd neu ddeunydd arall.
Gwahardd cymysgu gwastraff peryglus heb drwydded
(b) cynhyrchu gwastraff arall.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i'r graddau y mae'r cymysgu'n rhan o weithrediad gwaredu neu adfer a'i fod wedi'i awdurdodi gan drwydded gwastraff neu esemptiad cofrestredig, ac yn cael ei gyflawni yn unol â gofynion y drwydded honno neu'r esemptiad hwnnw (sut bynnag y mynegir y gofynion hynny).
(b) pan fo'r gwahanu—
(ii) yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio ag amodau'r Gyfarwyddeb Wastraff.
(2) Rhaid i'r deiliad drefnu bod gwaith gwahanu'r gwastraff yn cael ei wneud yn unol â thrwydded gwastraff neu esemptiad cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol. Gofyniad i hysbysu'r fangre 21. —(1) Pan fo gwastraff peryglus yn cael ei gynhyrchu mewn unrhyw fangre heblaw mangre esempt neu'n cael ei symud oddi yno, rhaid hysbysu'r fangre i'r Asiantaeth yn unol â gofynion y Rhan hon. (2) Mae mangre a hysbyswyd yn briodol i'r Asiantaeth yn unol â'r Rhan hon yn fangre a hysbyswyd at ddibenion y Rheoliadau hyn am y cyfnod o ddeuddeg mis ("cyfnod yr hysbysiad") sy'n dechrau ar yr amser effeithiol ac yn dod i ben ar ddiwedd diwrnod olaf y cyfnod hwnnw o ddeuddeg mis. (3) Mae'n ddyletswydd ar gynhyrchydd gwastraff peryglus i hysbysu'r fangre berthnasol yn unol â rheoliadau 24 a 26 os nad yw wedi'i hysbysu fel arall eisoes. (4) Heb leihau effaith paragraff (3), caiff traddodwr, yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn rheoliad 25, hysbysu mangre'r safle yn unol â'r rheoliad hwnnw a rheoliad 26. Gwahardd symud gwastraff peryglus o fangre oni roddwyd hysbysiad neu onid yw'n esempt 22. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb symud, na pheri symud, na chludo gwastraff peryglus o unrhyw fangre, onid yw'r fangre honno, pan symudir y gwastraff, yn fangre a hysbyswyd neu'n fangre esempt. (2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i symud neu gludo gwastraff peryglus o unrhyw fangre os oedd y gwastraff hwnnw wedi'i ddyddodi yn y fangre honno yn groes i adran 33 o Ddeddf 1990 heblaw drwy honni cydymffurfedd â thrwydded rheoli gwastraff neu esemptiad cofrestredig. Esemptiad rhag y gofyniad i hysbysu 23. —(1) Nid oes angen hysbysu mangre esempt i'r Asiantaeth yn unol â'r Rhan hon. (2) Mae mangre o ddisgrifiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3), i'r graddau a bennir yn y paragraff hwnnw, yn fangre esempt am y tro—
(b) os na symudir gwastraff peryglus o'r fangre gan unrhyw berson heblaw—
(ii) cludwr sy'n esempt rhag y gofyniad i gofrestru fel cludwr cofrestredig yn unol â Deddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989[29].
(3) Dyma'r disgrifiadau o fangreoedd—
(b) mangre siop, i'r graddau bod y gwastraff peryglus yn deillio wrth ddefnyddio'r fangre fel siop; (c) mangre sy'n cael ei defnyddio ar gyfer amaethyddiaeth o fewn ystyr Deddf Amaethyddiaeth 1947[30], i'r graddau bod gwastraff peryglus yn deillio wrth ddefnyddio'r fangre ar gyfer amaethyddiaeth; (ch) mangre o ddisgrifiad a restrir—
(ii) yn Atodlen 1 i Reoliadau Gwastraff a Reolir 1992[31],
(d) mangre lle mae cyfarpar gwastraff trydanol ac electronig yn cael ei gasglu, i'r graddau y mae'r fangre yn cael ei defnyddio at y diben hwnnw;
Hysbysiad gan gynhyrchydd
(b) os oedd y fangre berthnasol cyn hynny yn fangre a hysbyswyd, ond bod cyfnod yr hysbysiad wedi dod i ben, cyn y tro nesaf y bydd yn cynhyrchu gwastraff peryglus ar fangre'r safle neu unrhyw un o fangreoedd cysylltiedig, yn ôl gofynion yr achos; (c) pan fo'r fangre yn peidio â bod yn fangre esempt, cyn y tro nesaf y bydd yn cynhyrchu gwastraff peryglus ar y safle honno; neu (ch) os bydd y fangre a hysbyswyd yn peidio â bod yn fangre'r gwasanaeth mewn perthynas ag unrhyw fangre gysylltiedig o ran mynd dros y terfynau cymwys y darperir ar eu cyfer yn rheoliad 30 mewn perthynas â'r fangre gysylltiedig honno, cyn mynd dros y terfynau hynny.
(2) Os na ellir yn rhesymol ragweld y bydd gweithgareddau'r cynhyrchydd yn cynhyrchu gwastraff peryglus, mae paragraff (1) yn gymwys fel pe rhoddid yn lle "cyn" bob tro y mae'n digwydd, "cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedyn".
(b) os na chynhyrchwyd y gwastraff ar y fangre honno.
Darpariaethau cyffredin ynghylch hysbysiadau
(b) cyfeiriad y fangre sy'n cael ei hysbysu; (c) dosbarthiad y fangre yn unol â'r SIC; ac (ch) unrhyw wybodaeth arall y gall yr Asiantaeth yn rhesymol ofyn amdani mewn cysylltiad â'i swyddogaethau monitro symud gwastraff peryglus, neu arolygu yn unol â rheoliad 56 o'r Rheoliadau hyn neu baragraff 13 o Atodlen 4 i Reoliadau 1994.
(5) Os bydd unrhyw newidiadau yn yr wybodaeth sy'n cael ei darparu yn unol â pharagraff (4) yn ystod y cyfnod hysbysu, nid yw'r fangre i'w thrin fel mangre sydd wedi'i hysbysu tan fydd yr Asiantaeth wedi cael yr wybodaeth sydd wedi'i diweddaru yn y fath fodd ag i fodloni gofynion paragraff (4).
(b) nid yw'r Asiantaeth yn gorfod ystyried unrhyw hysbysiad oni chafodd ei wneud yn y model hwnnw a fformadwyd, neu mewn fformat ag effaith sylweddol debyg.
(7) Rhaid i'r person sy'n hysbysu dalu i'r Asiantaeth y ffi berthnasol sy'n daladwy ar gyfer hysbysu'r fangre ar yr un pryd ag y rhoddir yr hysbysiad (ond nid oes unrhyw ffioedd yn daladwy mewn perthynas â gwybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (5)).
(b) os yw'r person sy'n rhoi'r hysbysiad yn gofyn am ddyddiad ar gyfer cychwyn, ar ddechrau'r dyddiad y gofynnwyd amdano; (c) ym mhob achos arall, ar ddechrau'r pedwerydd diwrnod busnes ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.
(2) Ni all hysbysiad ddod yn effeithiol cyn yr amser y bydd yr Asiantaeth yn dyroddi'r cod mangre ar gyfer y cyfnod y mae'r hysbysiad yn ymdrin ag ef.
(b) os gweithredir y gwasanaeth symudol o fwy nag un set o fangreoedd, prif le busnes y cynhyrchydd.
(3) Os yw unrhyw fangre—
(b) yn fangre mewn perthynas â'r gwasanaeth symudol,
caniateir gwneud un hysbysiad unigol.
(b) unrhyw fangre esempt yw bod cyfanswm y gwastraff peryglus a gynhyrchwyd yn y fangre yn llai na 200kg mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis.
(2) Mae gwastraff peryglus a gynhyrchir ar fangre siop gan gwsmeriaid y meddiannydd i'w drin fel pes cynhyrchwyd gan y meddiannydd at ddibenion y Rheoliad hwn.
Safon codio 33. —(1) Dyletswydd yr Asiantaeth o dro i dro yw dynodi safon, ac ar bob adeg gynnal mewn grym ddynodiad ar safon, (y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel "safon codio"), sy'n darparu ar gyfer cyfansoddiad codau traddodi at ddibenion y Rhan hon. (2) Rhaid i'r safon codio alluogi pob llwyth o wastraff peryglus gael cod traddodi unigryw. (3) Rhaid i'r safon ddarparu ar gyfer codau gwahanol i nodiadau traddodi a gwblhawyd mewn perthynas â gwastraff peryglus a symudwyd drwy biblinell yn unol â rheoliad 41, pan fo pibellau yn para am fwy na chwarter. (4) Rhaid i'r safon ddarparu ar gyfer codau traddodi gael eu ffurfio o lythrennau, Rhif au neu symbolau, neu unrhyw gyfuniad o lythrennau, Rhif au a symbolau. Codau traddodi 34. —(1) Dyletswydd—
(ii) gwastraff peryglus sydd i'w symud drwy biblinell o fangre (heblaw llong) mewn achos y mae rheoliad 41 yn gymwys iddo; neu (iii) gwastraff peryglus sydd i'w ddyddodi o fewn cwrtil y fangre lle'i cynhyrchwyd;
(b) meistr y llong, o ran unrhyw wastraff peryglus sy'n cael ei symud o long yn ardal harbwr (gan gynnwys gwastraff a ollyngwyd drwy ddamwain ar dir sy'n gyfagos â'r llong); ac
yw rhoi i'r gwastraff peryglus god unigryw yn unol â'r safon codio sydd mewn grym ar y pryd. Cwblhau nodiadau traddodi 35. —(1) Pan symudir gwastraff peryglus o unrhyw fangre—
(ii) rheoliad 39 (symud gwastraff llong i gyfleusterau derbyn); (iii) rheoliad 40 (symud gwastraff llong heblaw i gyfleusterau derbyn); (iv) rheoliad 41 (symud gwastraff drwy biblinell); neu (v) pan wrthodir y llwyth neu unrhyw ran ohono gan y traddodai, ym mhob achos yn unol â rheoliad 42 a 43;
(b) os bydd rheoliad 37 (Atodlen y cludwyr) yn gymwys, rhaid cwblhau atodlen y cludwyr yn unol â'r rheoliad hwnnw a pharagraff (3) o'r rheoliad hwn; ac
(2) Mae ffurf y nodyn traddodi a geir yn Atodlen 4, neu ffurf sydd yn gofyn am yr un wybodaeth yn yr un fformat ar y cyfan, i gael ei defnyddio a rhaid ei chwblhau fel y bydd yn cynnwys (lle dangosir yn y ffurf) yr holl wybodaeth y darparwyd ar ei chyfer yn yr Atodlen honno sy'n gymwys i'r achos.
(ii) cwblhau Rhannau A a B ar bob copi; a (iii) rhoi pob copi i'r cludwr;
(b) rhaid i'r cludwr gwblhau Rhan C ar bob copi a rhoi pob copi i'r traddodwr;
(ii) os nad y cynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus, yn ôl y digwydd, yw'r traddodwr, rhoi un copi iddo; (iii) cadw un copi; a (iv) rhoi pob copi sy'n weddill i'r cludwr.
(3) Rhaid i'r cludwr sicrhau bod pob copi a dderbyniodd—
(b) yn cael ei roi i'r traddodai pan draddodir y llwyth.
(4) Yn ddarostyngedig i reoliad 42, wrth dderbyn y llwyth, rhaid i'r traddodai—
(b) rhoi un copi i'r cludwr.
Atodlen y cludwyr
(ii) rhoi pob copi i'r cludwr cyntaf;
(b) rhaid i'r cludwr cyntaf sicrhau bod pob copi y mae wedi'i dderbyn yn teithio gyda'r llwyth;
(ii) rhaid i'r cludwr dilynol gwblhau'r dystysgrif berthnasol ar bob copi, rhoi un i'r cludwr blaenorol a rhaid iddo gadw'r copi, a sicrhau bod pob copi sy'n weddill ac y mae wedi'i dderbyn yn teithio gyda'r llwyth; a (iii) pan draddodir llwyth i draddodai, rhaid i'r cludwr gadw un copi o atodlen y cludwyr a rhoi pob copi sy'n weddill i'r traddodai.
(3) Pan fo—
(b) bod newid mewn unrhyw drefniadau o'r fath am unrhyw reswm ar ôl i'r cludo ddechrau,
mae paragraff (2) yn gymwys fel pe bai'r cludwr mewn meddiant o'r llwyth pan wneir trefniadau pellach, yn achos paragraff (a), neu'n effeithiol, yn achos paragraff (b), yn draddodwr a phe bai'r cludwr nesaf yn gludwr cyntaf.
(b) ym mharagraff (2)(a)(i), y cyfeiriad at "y cludwr" yn gyfeiriad at "bob cludwr"; (c) ym mharagraff (2)(a)(iii), 2(b) a (2)(c)(iv), y cyfeiriad at "y cludwr" yn gyfeiriad at "y cludwr cyntaf"; (ch) ym mharagraff (3)(b) mewn perthynas â chludwr nad yw'n gludwr olaf, y cyfeiriad at "y traddodai" yn gyfeiriad at "y cludwr dilynol"; (d) ym mharagraff (4)(b), y cyfeiriad at "y cludwr" yn gyfeiriad at "y cludwr olaf".
Amlgasgliadau
(b) bod pob llwyth yn cael ei gasglu o fangre wahanol (nad yw unrhyw un ohonynt yn llong); (c) bod pob mangre y cesglir ohoni yng Nghymru; ac (ch) bod pob llwyth a gesglir yn cael ei gludo gan y cludwr hwnnw yn ystod y daith at yr un traddodai,
a chyfeirir at daith sy'n bodloni'r amodau hyn yn y Rheoliadau hyn fel "amlgasgliad".
(b) cwblhau Rhannau A a B ar bob copi.
(4) Cyn symud gwastraff o bob set o fangreoedd lle gwneir casgliad—
(b) rhaid i'r traddodwr a'r cludwr lofnodi eu priod ddatganiadau yn yr atodiad i'r nodyn traddodi ar gyfer amlgasgliadau ar bob copi o'r nodyn; ac (c) rhaid i'r cludwr drosglwyddo copi sydd wedi'i gwblhau i'r cynhyrchydd neu'r deiliad ym mhob achos (ac os nad y cynhyrchydd na'r deiliad yw'r traddodwr, i'r traddodwr).
(5) Ar ôl casglu'r llwyth olaf ond cyn ei gyflwyno i'r traddodai, rhaid i'r cludwr gwblhau'r manylion sydd i'w cwblhau gan y cludwr yn adran C ar y ddau gopi sy'n weddill o'r nodyn traddodi.
(b) rhaid i'r traddodai gwblhau'r manylion sydd i'w cwblhau gan y traddodai yn Adran C a chwblhau'r dystysgrif yn rhan D o'r nodyn ar y ddau gopi; ac (c) rhaid i'r traddodai ddychwelyd un copi o'r nodyn sydd wedi'i gwblhau i'r cludwr.
Symud gwastraffoedd llongau i gyfleusterau derbyn
(b) drwy biblinell i unrhyw gyfleusterau o'r fath a ddarperir y tu allan i ardal harbwr.
(2) Cyn bod y gwastraff yn cael ei symud o'r llong rhaid i feistr y llong—
(b) cwblhau Rhannau A, B a D ar bob copi; (c) cadw un copi; ac (ch) rhoi un copi i weithredydd y cyfleusterau.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 42, wrth dderbyn llwyth o wastraff peryglus rhaid i weithredydd y cyfleusterau gwblhau Rhan E ar y copi a dderbyniodd.
(ii) cwblhau Rhannau A a B ar bob copi; a (iii) rhoi pob copi i'r cludwr;
(b) rhaid i'r cludwr gwblhau Rhan C ar bob copi;
(ii) cadw un copi; a (iii) rhoi pob copi sy'n weddill i'r cludwr;
(ch) rhaid i'r cludwr sicrhau bod pob copi a dderbyniodd—
(ii) yn cael ei roi i'r traddodai pan draddodir y llwyth.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 42, wrth dderbyn y llwyth, rhaid i'r traddodai—
(b) rhoi un copi i'r cludwr.
Symud gwastraff drwy biblinell
(b) cwblhau Rhannau A, B a D ar bob copi, gyda'r ddarpariaeth bod yn rhaid cofnodi cyfradd y llif cyfartalog yn Rhan B3, ynghyd ag amcangyfrif o gyfanswm cyfaint y gwastraff sydd i'w biblinellu fesul wythnos neu fis calendr.
(3) Rhaid i'r traddodai gwblhau Rhan E ar bob copi gyda'r addasiadau canlynol—
(b) yn Rhan E2, nid oes angen manylion cofrestru'r cerbyd.
(4) Rhaid i'r traddodai gadw un copi a sicrhau bod copi yn cael ei roi i'r traddodwr, ac i gynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus, os yw'n wahanol i'r traddodwr. Dyletswydd traddodai nad yw'n derbyn y llwyth 42. —(1) Mae'r rheoliad hwn a rheoliadau 43 a 44 yn gymwys pan nad yw'r traddodai yn derbyn traddodi llwyth o wastraff peryglus, p'un ai yn gyfan neu'n rhannol. (2) Nid yw gofynion rheoliad 36(4), 38(6)(b) ac (c), 39(3), neu 40(3) (sy'n ymwneud â dyletswyddau'r traddodai wrth dderbyn y llwyth) yn ôl y digwydd, yn gymwys i draddodai mewn perthynas â llwyth, neu ran ohono, a wrthodwyd. (3) Os rhoddwyd copïau o'r nodyn traddodi ynglyn â llwyth a wrthodwyd i'r traddodai, rhaid iddo—
(b) cadw un copi; (c) rhoi un copi i'r cludwr; a (ch) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, anfon copi at y traddodwr, ac (os yw'n wahanol i'r traddodwr) y cynhyrchydd neu'r deiliad, os yw'n hysbys.
(4) Os na roddwyd copïau o'r nodyn traddodi i'r traddodai rhaid iddo—
(b) rhoi'r cyfryw esboniad ysgrifenedig i'r cludwr; (c) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, anfon un copi at y traddodwr, ac (os yw'n wahanol i'r traddodwr) y cynhyrchydd neu'r deiliad, os yw'n hysbys; ac (ch) cadw copi o'i esboniad ysgrifenedig.
(5) Wrth gael ei hysbysu nad yw'r traddodai yn derbyn traddodi'r llwyth neu ran o'r llwyth, rhaid i'r cludwr—
(b) gofyn am gyfarwyddiadau gan gynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus; ac (c) cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y cyfarwyddiadau hynny yn cael eu cyflawni (gan gynnwys cwblhau unrhyw nodyn traddodi ar eu rhan).
(6) Mae'n ddyletswydd ar gynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus, yn ôl y digwydd, a enwir yn y rhan berthnasol o'r nodyn traddodi—
(b) i roi, ar unwaith—
(ii) hysbysiad i'r Asiantaeth o'r trefniadau a'r cyfarwyddiadau.
(7) Mewn unrhyw achos o fewn paragraff (6)(a), os na ellir dod o hyd i unrhyw draddodai amgen o fewn 5 niwrnod busnes, rhaid i gynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus a enwir yn y rhan berthnasol o'r nodyn traddodi wneud trefniadau i ddychwelyd y gwastraff i'r fangre y cafodd ei symud ohoni i'w storio yn unol ag amodau'r Gyfarwyddeb Wastraff hyd nes y deuir o hyd i draddodai addas.
(b) os nad cynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus yw'r traddodwr, y traddodwr; (c) y cludwr; ac (ch) y traddodai newydd.
(3) Rhaid i'r cynhyrchydd neu'r deiliad —
(ii) rhaid rhoi enw a chyfeiriad y traddodai newydd (gan gynnwys y cod post) yn Rhan A4; a (iii) yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid copïo'r wybodaeth berthnasol a geir yn Rhan B o'r nodyn traddodi gwreiddiol (os gwrthodir rhan o'r llwyth, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r rhan honno) i Ran B; a
(b) rhoi pob copi i'r cludwr.
(4) Os yw'r traddodai a wrthododd y llwyth neu ran o'r llwyth yn datgan yn ei esboniad ysgrifenedig bod y disgrifiad o'r gwastraff yn y nodyn traddodi gwreiddiol yn anghywir, rhaid i'r cynhyrchydd neu'r deiliad gynnwys yn lle hynny ddisgrifiad cywir o'r gwastraff yn y nodyn traddodi newydd.
(b) os nad y cynhyrchydd neu'r deiliad yw'r traddodwr, rhoi un copi i'r cynhyrchydd neu'r deiliad yn ôl y digwydd; ac (c) rhoi pob copi sy'n weddill i'r cludwr.
(7) Rhaid i'r cludwr sicrhau bod pob copi o'r nodyn traddodi newydd a dderbyniodd—
(b) yn cael ei roi i'r traddodai newydd pan draddodir y llwyth neu'r rhanlwyth.
(8) Rhaid i'r traddodai newydd—
(b) rhoi un copi i'r cludwr.
(9) Os oes mwy nag un cludwr i fod—
(b) ym mharagraffau (2)(c) a (7) mae cyfeiriadau at y cludwr i'w trin fel cyfeiriadau at bob cludwr; (c) ym mharagraff (7)(b), o ran cludwr nad yw'n gludwr olaf, mae'r cyfeiriad at "y traddodai newydd" i'w drin fel cyfeiriad at "y cludwr dilynol"; ac (ch) ym mharagraff (8)(b) mae'r cyfeiriad at y cludwr i'w drin fel cyfeiriad at y cludwr olaf.
Y weithdrefn ar gyfer llwythi amlgasgliad a wrthodwyd
(ii) cwblhau Rhannau A a B ar bob copi;
(b) cyn symud y gwastraff o'r fangre lle cafodd ei draddodi'n wreiddiol—
(ii) rhaid i'r traddodwr a'r cludwr lofnodi eu priod ddatganiadau i'r atodiad i'r nodyn traddodi amlgasgliad ar bob copi a baratowyd gan y cludwr; (iii) rhaid i'r cludwr drosglwyddo copi sydd wedi'i gwblhau i'r cynhyrchydd neu'r deiliad ym mhob achos (ac os nad y cynhyrchydd yw'r traddodwr, i'r traddodwr).
(c) wrth draddodi'r gwastraff i'r traddodai newydd—
(ii) rhaid i'r cludwr drosglwyddo i'r traddodai bob copi o'r nodyn; (iii) rhaid i'r traddodai gwblhau'r manylion sydd i'w cablhau gan y traddodai yn Adran C a chwblhau'r dystysgrif yn Rhan D o'r nodyn ar bob copi o'r nodyn; a (iv) rhaid i'r traddodai ddychwelyd un copi o'r nodyn a gwblhawyd i'r cludwr.
Dyletswydd i draddodi llwyth yn brydlon Symud trawsffiniol o wastraff peryglus 46. Mae Atodlen 7 yn effeithiol mewn cysylltiad ag adnabod cilyddol ar nodiadau traddodi a symud trawsffiniol o wastraff peryglus rhwng Cymru a Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gibraltar. Cofnodion gwastraff peryglus sydd wedi'i dipio (ei ollwng) 47. —(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n tipio (neu'n gollwng) gwastraff peryglus (p'un ai wrth ei waredu neu ei storio) yn neu ar unrhyw dir gofnodi ac enwi'r gwastraff yn unol â gofynion canlynol y rheoliad hwn a rheoliad 51. (2) Rhaid i gofnod gynnwys naill ai—
(b) cynllun safle â throsgaenau lle dangosir dyddodion y gwastraff sy'n cael ei dipio (ei ollwng) mewn perthynas â chyfuchliniau'r safle.
(3) Mae cofnodion a wneir o dan y rheoliad hwn i'w cadw mewn cofrestr.
(b) y nodyn traddodi sy'n ymwneud â'r gwastraff hwnnw, ac eithrio lle gwaredir gwastraff o fewn cwrtil y fangre lle cynhyrchir ef, pan mae'n rhaid disgrifio'r dyroddion drwy gyfeirio at yr ateb chwarterol a roddir i'r Asiantaeth gan gynhyrchydd y gwastraff peryglus o dan reoliad 53.
(5) Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo wneud neu gadw cofrestr yn unol â'r rheoliad hwn—
(b) cadw'r gofrestr ar y safle lle mae'r tipio'n digwydd; ac (c) cadw'r cofnodion—
(ii) os oes ganddo drwydded gwastraff y gweithredir y safle yn unol â hi, hyd nes y bydd y drwydded honno wedi'i hildio neu wedi'i dirymu.
(6) Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o oriau at ddibenion y rheoliad hwn neu reoliad 48, dim ond y diwrnodau neu oriau unrhyw ddiwrnod busnes sydd i'w cyfrif.
(b) yn adfer gwastraff peryglus yn neu ar dir; neu (c) yn derbyn gwastraff peryglus mewn gorsaf drosglwyddo,
gofnodi ac enwi unrhyw wastraff peryglus a dderbyniwyd yn unol â gofynion canlynol y rheoliad hwn a rheoliad 51.
(b) y nodweddion peryglus perthnasol; (c) pan fo'n gymwys, y dull adfer mewn perthynas â'r gwastraff drwy gyfeirio at y Rhif a'r disgrifiad cymwys yn unol ag Atodiad IIB o'r Gyfarwyddeb Wastraff; a (ch) stocrestr yn dangos y lleoliad penodol lle delir y gwastraff.
(4) Rhaid i gofnodion a wneir o dan y rheoliad hwn gael eu cadw mewn cofrestr.
(b) unrhyw waith adfer neu waredu a wnaed neu ar ôl rhoi unrhyw wastraff peryglus i'w storio yn yr orsaf drosglwyddo, yn ôl y digwydd; neu (c) symud unrhyw wastraff peryglus o'r fangre.
(6) Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo wneud neu gadw cofnodion yn unol â'r rheoliad hwn—
(b) cadw'r cofnodion—
(ii) os oes ganddo drwydded gwastraff y gweithredir y safle yn unol â hi, hyd nes y bydd y drwydded honno wedi'i hildio neu wedi'i dirymu.
Cofnodion cynhyrchwyr, deiliaid a thraddodwyr
(ii) os nad yw'n meddiannu'r fangre honno bellach, yn ei brif le busnes (neu unrhyw gyfeiriad arall y cytunir arno gyda'r Asiantaeth at y diben hwnnw); neu (iii) os na hysbyswyd unrhyw fangre mewn perthynas â'r gwastraff, yn ei brif le busnes (neu unrhyw gyfeiriad arall y cytunir arno gyda'r Asiantaeth at y diben hwnnw).
(b) rhaid i'r gofrestr y mae'n ofynnol i draddodwr heblaw'r cynhyrchydd neu'r deiliad ei chadw gael ei chadw yn ei brif le busnes.
(6) Os yw'r cynhyrchydd neu'r deiliad yn rhoi'r gorau i feddiannu'r fangre a hysbyswyd cyn y daw'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3) i ben, rhaid iddo hysbysu'r Asiantaeth ar unwaith.
(b) ateb unrhyw draddodai i'r cynhyrchydd, y deiliad neu'r traddodwr a'i derbyniodd yn unol â rheoliad 54; ac (c) unrhyw atodlen cludwr a roddwyd iddo yn unol â rheoliad 37.
(3) Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo gadw cofrestr neu gadw cofnodion hyd nes y bydd ei drwydded gwastraff wedi'i hildio neu wedi'i dirymu anfon y cofnodion hynny neu'r gofrestr honno i'r Asiantaeth pan ildir neu ddirymir y drwydded.
(b) rhaid eu hanfon gan y person hwnnw ynghyd â'r gofrestr honno os anfonir hi at yr Asiantaeth.
Hawl deiliad blaenorol i gael gwybodaeth
(b) gwastraff peryglus a draddodwyd drwy biblinell os yw rheoliad 41 yn gymwys; ac (c) yn achos amlgasgliadau, pob llwyth unigol a gasglwyd.
(3) Mewn unrhyw chwarter os gwaredir gwastraff peryglus drwy ei ddodi yng nghwrtil y fangre lle'i cynhyrchir, rhaid i'r cynhyrchydd roi ateb mewn perthynas â'r chwarter hwnnw o wybodaeth sy'n ymwneud â'r dyddodi i'r Asiantaeth, yn unol â pharagraff (4).
(5) Caiff yr Asiantaeth ragnodi fformat ar gyfer rhoi atebion o dan y rheoliad hwn ac, os rhagnodir fformat am y tro yn unol â'r paragraff hwn—
(b) nid yw'r Asiantaeth yn gorfod barnu bod ateb wedi'i roi yn briodol at ddibenion y Rheoliadau hyn oni chafodd ei roi yn y fformat hwnnw, neu mewn fformat sylweddol o ran effaith.
(6) Os bydd yr Asiantaeth yn rhagnodi ffi sy'n daladwy gan draddodai drwy gynllun codi tâl a wnaed o dan adran 41 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 fel dull o adennill ei chostau a dynnwyd wrth iddi gyflawni swyddogaethau o ran y llwythi sydd wedi'u cynnwys mewn atebion chwarterol y traddodai, caiff traddodai adennill o draddodwr unrhyw ffioedd a dalwyd o dan y Rheoliadau hyn o ran llwythi a anfonwyd gan y traddodwr hwnnw.
(b) copi o'r nodyn traddodi ynghyd â disgrifiad o'r dull gwaredu neu adfer a ddefnyddiwyd mewn perthynas â'r gwastraff o fewn un mis i ddiwedd y chwarter y cafodd y gwastraff o dan sylw ei dderbyn.
(2) Os traddodwyd gwastraff peryglus drwy biblinell mewn achos y mae rheoliad 41 yn gymwys iddo, mae paragraff (1) yn gymwys fel bod yr ateb sy'n ofynnol o dan is-baragraff (a) neu'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan is-baragraff (b) i'w ddarparu o fewn un mis i ddiwedd y chwarter y rhoddwyd y gwastraff o dan sylw mewn piblinell. Arolygu cynhyrchwyr gwastraff peryglus 56. Dyletswydd yr Asiantaeth yw cyflawni arolygiadau o dro i dro priodol ar gynhyrchwyr gwastraff peryglus. Arolygu gweithrediadau casglu a chludo 57. —(1) Mewn perthynas ag arolygiadau priodol o dro i dro ar weithrediadau casglu a chludo y mae angen eu cynnal yn unol ag Erthygl 13 o'r Gyfarwyddeb Wastraff gan yr Asiantaeth[35], heb leihau yn gyffredinol effaith y gofyniad i gynnal arolygiadau o'r fath, dyletswydd yr Asiantaeth i'r graddau y mae'r arolygiadau'n ymwneud â gwastraff peryglus yw cynnal yr arolygiadau fel eu bod yn ymwneud yn benodol â tharddiad a chyrchfan y gwastraff peryglus. (2) Ym mharagraff (1), mae "gweithrediadau casglu a chludo" yn cynnwys gweithrediadau lle cludir y gwastraff peryglus ar ôl ei drosglwyddo rhwng gwahanol gludwyr. Asiantaeth i gadw cofrestrau etc 58. Rhaid i'r Asiantaeth gadw cofrestrau a anfonwyd ati ac unrhyw gofnodion sy'n dod gyda'r cofrestrau hynny yn unol â rheoliad 51(3), am gyfnod nad yw'n llai na thair blynedd ac sy'n dechrau pan dderbynnir hwy gan yr Asiantaeth. Ffioedd 59. —(1) Diwygir adran 41 o Ddeddf 1995 (pŵer i wneud cynlluniau sy'n gosod taliadau) fel a ganlyn. (2) Yn lle is-adran (1)(c) rhodder—
(3) Mae Atodlen 9 yn effeithiol i wneud darpariaeth mewn perthynas â ffioedd sydd i'w codi gan yr Asiantaeth mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn nes y daw cynllun codi tâl o dan adran 41 o Ddeddf 1995 i adennill y costau a dynnir gan yr Asianaeth wrth iddi gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn yn effeithiol.
(b) y dull a ddefnyddir i drin gwastraff; ac (c) y mathau a'r meintiau o wastraff y gellir eu trin.
(2) Rhaid i'r Asiantaeth ddarparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan baragraff (1) yn y fformat a ddarperir yn unol â phedwerydd paragraff Erthygl 8(3) o'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus. Cyffredinol 61. —(1) Mae'r Rhan hon yn effeithiol at ddibenion gwneud darpariaeth ar gyfer argyfwng neu berygl difrifol. (2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae "argyfwng neu berygl difrifol" yn sefyllfa bresennol neu sefyllfa a fygythir sy'n codi o sylwedd neu wrthrych sydd yn wastraff peryglus, neu fod sail resymol dros gredu hynny, ac mae'r sefyllfa yn fygythiad i'r boblogaeth neu'r amgylchedd yn unrhyw le. Dyletswyddau cyffredinol y deiliad os bydd argyfwng neu berygl difrifol 62. —(1) Mewn achosion o argyfwng neu berygl difrifol, rhaid i ddeiliad gwastraff peryglus—
(b) os nad yw'n rhesymol ymarferol i gydymffurfio â pharagraff (a), cymryd pob cam cyfreithlon a rhesymol i liniaru'r argyfwng neu berygl difrifol.
(2) At ddibenion paragraff (1), gellid ystyried gweithred neu anweithred yn gyfreithlon er y byddai, heblaw am y rheoliad hwn, yn ffurfio toriad yn y Rheoliadau hyn. Gorfodi 64. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dyletswydd yr Asiantaeth yw gorfodi'r Rheoliadau hyn. (2) Nid yw paragraff (1) yn rhagfarnu unrhyw hawl i ddwyn achos a all fod gan unrhyw berson sy'n codi ar wahân i'r Rheoliadau hyn, neu unrhyw hawl, pŵer neu ddyletswydd arall gan unrhyw berson naill ai yn y gyfraith neu'n codi yn unol ag unrhyw gytundeb neu drefniad (yn ddatganedig neu ymhlyg) neu o ganlyniad i unrhyw weithred neu anweithred. Tramgwyddau 65. Mae'n dramgwydd i berson fethu â chydymffurfio â gofyniad a osodwyd ar y person hwnnw gan neu o dan y darpariaethau canlynol o'r Rheoliadau hyn—
(b) rheoliadau 21, 22, 24, 25 a 26; (c) rheoliadau 34 i 44; (ch) rheoliadau 46 ac Atodlen 7; (d) Rhan 7 (ac eithrio rheoliad 52); ac (dd) rheoliad 62.
Amddiffyniadau
(ii) i sicrhau cydymffurfedd â'r ddarpariaeth o dan sylw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y digwyddiad; neu
(b) os nad oes unrhyw argyfwng neu berygl difrifol, ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac arfer diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni tramgwydd.
Atebolrwydd personau heblaw'r prif dramgwyddwr
(b) rheoliad 22 (gwahardd symud gwastraff o fangre oni roddwyd hysbysiad neu onid yw'n esempt); (c) rheoliadau 24 i 26 (hysbysiadau); (ch) rheoliad 34 (codau traddodi); (d) rheoliadau 35 i 44 (nodiadau traddodi); (dd) rheoliad 46 ac Atodlen 7 (llwythi trawsffiniol); (e) rheoliad 53 (atebion chwarterol traddodai ac atebion hunanwaredu chwarterol); (f) rheoliad 54 (atebion y traddodai i'r cynhyrchydd, y deiliad neu'r traddodwr); neu (ff) rheoliad 55 (dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth),
yn atebol, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu'r ddau.
Cosbau penodedig
(b) gwneud datganiad anwir neu gamarweiniol gan honni cydymffurfio ag unrhyw un o'r rheoliadau a restrir yn rheoliad 69(1)(a) i (ff).
(3) Os rhoddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â thramgwydd—
(b) ni cheir ei gollfarnu o'r tramgwydd hwnnw os yw'n talu'r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(4) Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn roi'r manylion hynny am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn golygu tramgwydd fel sy'n angenrheidiol ar gyfer rhoi gwybodaeth resymol am y tramgwydd a rhaid iddo ddatgan—
(b) swm y gosb benodedig; ac (c) enw'r person y telir y gosb benodedig iddo a'r cyfeiriad lle gellir talu.
(5) Heb leihau effaith talu drwy unrhyw ddull arall, ceir talu cosb benodedig drwy anfon llythyr y talwyd amdano ymlaen llaw a'i bostio at y person hwnnw yn y cyfeiriad hwnnw sy'n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall).
(b) sy'n datgan y daeth neu na ddaeth taliad o gosb benodedig i law ai peidio erbyn y dyddiad a bennwyd yn y dystysgrif,
yn dystiolaeth o'r ffeithiau a ddatganwyd. Arbedion i freintiau penodol 71. —(1) Ni ddylid ystyried bod dim yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson i ddangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion pe byddai hawl ganddo i wrthod dangos y dogfennau neu'r cofnodion hynny yn unrhyw achos mewn unrhyw lys ar y sail eu bod yn destun braint broffesiynol gyfreithiol, neu'n awdurdodi unrhyw berson i gymryd meddiant o unrhyw ddogfennau neu gofnodion sydd ym meddiant person a fyddai â'r hawl honno. (2) Ac eithrio fel a ddarperir ym mharagraff (3), ni ddylid dehongli dim yn y Rheoliadau hyn fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth pe byddai gwneud hynny'n argyhuddo'r person hwnnw neu briod y person hwnnw. (3) Rhaid i berson gydymffurfio â chais gan yr Asiantaeth i roi gwybodaeth yn unol â rheoliad 55(2), er y byddai gwneud hynny'n argyhuddo'r person hwnnw neu briod y person hwnnw, ond ni chaniateir i wybodaeth a roddir yn ymateb i gais o'r fath gael ei chyflwyno yn dystiolaeth mewn unrhyw achos troseddol yn erbyn y person hwnnw neu briod y person hwnnw. Dirymiadau ac arbedion 72. —(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, dirymir Rheoliadau 1996. (2) Os symudwyd llwyth o fangre cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, a bod nodyn traddodi wedi'i godi mewn perthynas â'r llwyth hwnnw o dan Reoliadau 1996, yna—
(ii) nid yw darpariaethau'r Rheoliadau hyn (heblaw am reoliad 62 (dyletswyddau cyffredinol y deiliad ar achlysur argyfwng neu berygl difrifol)) yn gymwys i'r llwyth hwnnw yn ystod y cyfnod hwnnw;
(b) ar ôl hynny—
(ii) mae'r gofyniad i'r traddodai anfon copi o'r nodyn traddodi a anfonwyd i'r Asiantaeth yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw lwyth a anfonwyd yn unol â Rheoliadau 1996.
Diwygiadau Canlyniadol ANNEX I.A. Wastes displaying any of the properties listed in Annex III and which consist of: 1. anatomical substances; hospital and other clinical wastes; 2. pharmaceuticals, medicines and veterinary compounds; 3. wood preservatives; 4. biocides and phyto-pharmaceutical substances; 5. residue from substances employed as solvents; 6. halogenated organic substances not employed as solvents excluding inert polymerized materials; 7. tempering salts containing cyanides; 8. mineral oils and oily substances (e.g. cutting sludges, etc.); 9. oil/water, hydrocarbon/water mixtures, emulsions; 10. substances containing PCBs and/or PCTs (e.g. dielectrics etc.); 11. tarry materials arising from refining, distillation and any pyrolytic treatment(e.g. still bottoms, etc.); 12. inks, dyes, pigments, paints, lacquers, varnishes; 13. resins, latex, plasticizers, glues/adhesives; 14. chemical substances arising from research and development or teaching activities which are not identified and/or are new and whose effects on man and/or the environment are not known (e.g. laboratory residues, etc.); 15. pyrotechnics and other explosive materials; 16. photographic chemicals and processing materials; 17. any material contaminated with any congener of polychlorinated dibenzo-furan; 18. any material contaminated with any congener of polychlorinated dibenzo-p-dioxin. ANNEX I.B. Wastes which contain any of the constituents listed in Annex II and having any of the properties listed in Annex III and consisting of: 19. animal or vegetable soaps, fats, waxes; 20. non-halogenated organic substances not employed as solvents; 21. inorganic substances without metals or metal compounds; 22. ashes and/or cinders; 23. soil, sand, clay including dredging spoils; 24. non-cyanidic tempering salts; 25. Metallic dust, powder; 26. Spent catalyst materials; 27. liquids or sludges containing metals or metal compounds; 28. residue from pollution control operations (e.g. baghouse dusts, etc.) except (29), (30) and (33); 29. scrubber sludges; 30. sludges from water purification plants; 31. decarbonization residue; 32. ion-exchange column residue; 33. sewage sludges, untreated or unsuitable for use in agriculture; 34. residue from cleaning of tanks and/or equipment; 35. contaminated equipment; 36. contaminated containers (e.g. packaging, gas cylinders, etc.) whose contents included one or more of the constituents listed in Annex II; 37. batteries and other electrical cells; 38. vegetable oils; 39. materials resulting from selective waste collections from households and which exhibit any of the characteristics listed in Annex III; 40. any other wastes which contain any of the constituents listed in Annex II and any of the properties listed in Annex III.".
(*) Certain duplications of entries found in Annex II are intentional. Wastes having as constituents:
Notes 1. Attribution of the hazard properties "toxic" (and "very toxic"), "harmful", "corrosive" and "irritant" is made on the basis of the criteria laid down by Annex VI, part I A and part II B, of Council Directive 67/548/EEC of 27 June 1967 of the approximation of laws, regulations and administrative provisions relating to the classification, packaging and labelling of dangerous substances [37], in the version as amended by Council Directive 79/831/EEC [38]. 2. With regard to attribution of the properties "carcinogenic", "teratogenic" and "mutagenic", and reflecting the most recent findings, additional criteria are contained in the Guide to the classification and labelling of dangerous substances and preparations of Annex VI (part II D) to Directive 67/548/EEC in the version as amended by Commission Directive 83/467/EEC [39]. Test methods The test methods serve to give specific meaning to the definitions given in Annex III. The methods to be used are those described in Annex V to Directive 67/548/EEC,in the version as amended by Commission Directive 84/449/EEC [40], or by subsequent Commission Directives adapting Directive 67/548/EEC to technical progress. These methods are themselves based on the work and recommendations of the competent international bodies, in particular the OECD. Part A NOTIFICATION DETAILS Rhan A MANYLION HYSBYSU Sheet/Dalen __________ of/o______________________ 1. Consignment Note Code/Cod Nodyn Traddodi:______________________________________ 2. The waste described below is to be removed from (name, address, postcode, telephone, e-mail, facsimile)/ Mae'r gwastraff a ddisgrifir isod i'w gludo o (enw, cyfeiriad, cod post, ffôn, e-bost, ffacs): 3. Premises Code (where applicable)/Cod y Fangre: (os yw'n gymwys): 4. The waste will be taken to (address & postcode)/Cludir y gwastraff i (cyfeiriad a chod post): 5. The waste producer was (if different from 2) (name, address, postcode, telephone, e-mail, facsimile)/ Cynhyrchydd y gwastraff oedd (os yw'n wahanol i 2) (enw, cyfeiriad, cod post, ffôn, e-bost, ffacs): Part B DESCRIPTION OF THE WASTE Rhan B DISGRIFIAD O'R GWASTRAFF 1. The process giving rise to the waste(s) was/ Y broses a roes fod i'r gwastraff(oedd) oedd: 2. SIC for the process giving rise to the waste/ SIC am y broses a roes fod i'r gwastraff: WASTE DETAILS (where more than one waste type is collected all of the information given below must be completed for each EWC identified). MANYLION AM Y GWASTRAFF (os cesglir mwy nag un math o wastraff rhaid cwblhau'r holl wybodaeth a nodir isod ar gyfer pob EWC a ddynodwyd). 3. The waste(s) is/are Dyma'r gwastraff(oedd):
The information given below is to be completed for each EWC identified Mae'r wybodaeth a roddir isod i'w chwblhau ar gyfer pob EWC a ddynodwyd 1. Packing Group(s)/ Grwp neu grwpiau pecynnu 2. UN identification number(s)/ Rhif neu rifau adnabod UN 3. Proper Shipping Name(s)/ Enw(au) priodol y llwyth 4. UN class(es)/ Dosbarth(au) UN 5. Special handling requirements/ Gofynion trafod arbennig PART C CARRIER'S CERTIFICATE (If more than one carrier is used, please attach Schedule for subsequent carriers) RHAN C TYSTYSGRIF Y CLUDWR (Os defnyddir mwy nag un cludwr, amgaewch Atodlen ar gyfer cludwyr dilynol)
I certify that I today collected the consignment and that the details in A2, A4, and B3 are correct and I have been advised of any specific handling requirements. Yr wyf yn ardystio fy mod heddiw wedi casglu'r llwyth a bod y manylion yn A2, A4 a B3 yn gywir a fy mod wedi cael fy hysbysu o unrhyw ofynion trafod arbennig. 1. Carrier name Enw'r cludwr On behalf of (company)(name, address & postcode, telephone, e-mail, facsimile) Ar ran (cwmni)(enw, cyfeiriad a chod post, ffôn, e-bost, ffacs) 2. Carrier registration no/reason for exemption/ Rhif cofrestru'r cludwr /rheswm dros esemptiad 3. Vehicle registration no (or mode of transport if not road) Rhif cofrestru'r cerbyd (neu'r cyfrwng cludo os nad ar ffordd) Signature/Llofnod Date/Dyddiad at/am hrs/o'r gloch. ___________________________________________________________________ PART D CONSIGNOR'S CERTIFICATE RHAN D TYSTYSGRIF Y TRADDODWR I certify that the information in A, B and C above are correct, that the carrier is registered or exempt and was advised of the appropriate precautionary measures. All of the waste is packaged and labelled correctly and the carrier has been advised of any special handling requirements. Yr wyf yn ardystio bod yr wybodaeth yn A, B ac C uchod yn gywir, bod y cludwr wedi'i gofrestru neu'n esempt a'i fod wedi cael ei hysbysu o'r mesurau rhagofalu priodol. Cafodd yr holl wastraff ei becynnu a'i labelu yn gywir a chafodd y cludwr ei hysbysu o unrhyw ofynion trafod arbennig. Name/Enw On behalf of (company name, address, postcode, telephone, e-mail, and facsimile) Ar ran (enw'r cwmni, cyfeiriad, cod post, ffôn, e-bost, a ffacs) Signature/Llofnod Date/Dyddiad at/am hrs/o'r gloch ___________________________________________________________________ PART E CONSIGNEE'S CERTIFICATE RHAN E TYSTYSGRIF Y TRADDODAI Where more than one waste type is collected all of the information given below must be completed for each EWC. Os cesglir mwy nag un math o wastraff rhaid cwblhau'r holl wybodaeth a roddir isod ar gyfer pob EWC. Individual EWC code(s) received/ Cod(au) EWC unigol a dderbyniwyd Quantity of each EWC code received (kg)/ Cyfaint pob cod EWC a dderbyniwyd (kg) EWC code accepted/rejected/ Cod EWC a dderbyniwyd/a wrthodwyd Waste management operation (R or D code)/ Gweithrediad rheoli gwastraff (cod R neu D) 1. I received this waste at the address given in A4 on at hrs Daeth y gwastraff hwn i law yn y cyfeiriad a roddir yn A4 ar am o'r gloch 2. Vehicle registration no/ Rhif cofrestru'r cerbyd: 3. Where waste is rejected, please provide details below/ Os gwrthodir y gwastraff, rhowch y manylion isod: I certify that waste management licence/permit/authorised exemption no(s) given below authorise(s) the management of the waste described in B at the address given in A4/ Yr wyf yn ardystio bod y drwydded rheoli gwastraff/ caniatâd/ esemptiad a awdurdodwyd sy'n dwyn y Rhif a roddir isod yn awdurdodi rheoli'r gwastraff a ddisgrifir yn B at y cyfeiriad a roddir yn A4: Name/Enw: On behalf of (company name, address, postcode, telephone, e-mail, facsimile)/ Ar ran (enw'r cwmni, cyfeiriad, cod post, ffôn, e-bost, ffacs): Signature/Llofnod Date/Dyddiad at/am hrs/o'r gloch. SECOND CARRIER'S CERTIFICATE/ TYSTYSGRIF YR AIL GLUDWR I certify that the following carrier/ Yr wyf yn ardystio bod y cludwr [enter details as appropriate/rhowch y manylion priodol]: transferred the waste identified in B3 to me today for onward transportation to (delete as appropriate below): wedi trosglwyddo'r gwastraff a enwir yn B3 i mi heddiw i'w gludo ymlaen i (dileer fel y bo'n briodol isod):
b) the consignee listed in A4/ y traddodai a restrir yn A4
The quantity transferred is/Dyma'r cyfaint a drosglwyddwyd:
b) the consignee listed in A4/ y traddodai a restrir yn A4
The quantity transferred is/Dyma'r cyfaint a drosglwyddwyd:
b) the consignee listed in A4/ y traddodai a restrir yn A4
The quantity transferred is/Dyma'r cyfaint a drosglwyddwyd: HAZARDOUS WASTE (WALES) REGULATIONS 2005 RHEOLIADAU GWASTRAFF PERYGLUS (CYMRU) 2005 Sheet/Dalen __________ of/o____________________ Part A/Rhan A CONSIGNEE DETAILS/ MANYLION Y TRADDODAI The waste will be taken to (address & postcode)/ Cludir y gwastraff i (cyfeiriad a chod post): Part B/Rhan B CARRIER DETAILS/ MANYLION Y CLUDWR Carrier name/ Enw'r cludwr: On behalf of (company)(name, address & postcode, telephone, e-mail, facsimile)/Ar ran (cwmni)(enw, cyfeiriad a chod post, ffôn, e-bost, ffacs): Carrier registration no/reason for exemption/ Rhif cofrestru'r cludwr/rheswm dros yr esemptiad: Vehicle registration no (or mode of transport if not road)/ Rhif cofrestru'r cerbyd (neu'r cyfrwng cludo os nad ar ffordd): Signature/Llofnod: Date/Dyddiad: at/am hrs/o'r gloch. ___________________________________________________________________ Part C/Rhan C SUMMARY OF MULTIPLE CONSIGNMENTS/ CRYNODEB O AMLDRADDODI Enter every EWC code collected from each collection point and the quantity of each EWC code collected from that collection point. The table below provides 3 EWC codes on each of 6 consignments. This should be amended to appropriately identify the number of EWC codes on each consignment. Rhowch bob cod EWC a gasglwyd o bob pwynt casglu a chyfaint pob cod EWC a gasglwyd o'r pwynt casglu hwnnw. Mae'r tabl isod yn rhoddi 3 chod EWC ar bob un o 6 llwyth. Dylid diwygio hyn er mwyn dynodi'n briodol nifer y codau EWC ar bob llwyth.
Extra Rows should be added for more consignments/ Dylid ychwanegu rhesi ar gyfer mwy o lwythi THESE CONSIGNMENTS ARE DESCRIBED IN DETAIL IN THE ANNEX/ DISGRIFIR Y LLWYTHI HYN YN FANWL YN YR ATODIAD Part D/Rhan D CONSIGNEE'S CERTIFICATE/ TYSTYSGRIF Y TRADDODAI 1. I received all of the consignments described in Part C at the address given in Part A on: Derbyniais bob llwyth a ddisgrifir yn Rhan B yn y cyfeiriad a roddir yn Rhan A ar: [date/dyddiad] at/am hrs/o'r gloch. 2 Vehicle registration no./ Rhif cofrestru'r cerbyd: 3 Where waste is rejected, please provide details below/Os gwrthodir y gwastraff, rhowch y manylion isod: I certify that waste permit no(s)/Yr wyf yn ardystio bod Rhif (au) caniatáu gwastraff: authorises the management of the consignments as described in Part B at the address given in Part A/ yn awdurdodi rheoli'r llwythi a ddisgrifir yn Rhan B yn y cyfeiriad a roddir yn Rhan A Name/Enw On behalf of (company name, address, postcode, telephone, e-mail, facsimile)/ Ar ran (enw'r cwmni, cyfeiriad, cod post, ffôn, e-bost, ffacs) Signature/Llofnod Date/Dyddiad: at/am hrs/o'r gloch ANNEX TO MULTIPLE COLLECTION CONSIGNMENT NOTE/ ATODIAD I'R NODYN TRADDODI AMLGASGLIAD HAZARDOUS WASTE (WALES) REGULATIONS 2005 RHEOLIADAU GWASTRAFF PERYGLUS (CYMRU) 2005 Sheet /Dalen__________of/o______________________ ______________________________________________________________ CONSIGNMENT DETAILS/ MANYLION Y LLWYTH: COLLECTION No (i.e. 1st, 2nd etc)/ Rhif CASGLU (h.y. 1, 2 etc) I. Notification Details/ Manylion hysbysu I. Consignment Note Code/ Cod Nodyn Traddodi: 2. The waste described below is to be removed from (name, address & postcode, telephone, e-mail, facsimile)/ Mae'r gwastraff a ddisgrifir isod i'w gludo o (enw, cyfeiriad a chod post, ffôn, e-bost, ffacs): 3. Premises Code (where applicable)/ Cod y Fangre (os yw'n gymwys): 4. The waste producer was (if different from above) (name, address, postcode, telephone, e-mail, facsimile)/ Cynhyrchydd y gwastraff oedd (os yw'n wahanol i'r uchod) (enw, cyfeiriad, cod post, ffôn, e-bost, ffacs): II. Description of the waste/ Disgrifiad o'r gwastraff I. The process giving rise to the waste(s) was/ Y broses a roes fod i'r gwastraff(oedd) oedd: 2. SIC for the process giving rise to the waste/ SIC am y broses a roes fod i'r gwastraff: 3. WASTE DETAILS/ MANYLION AM Y GWASTRAFF where more than one waste type is collected all of the information given below must be completed for each EWC identified/ os cesglir mwy nag un math o wastraff rhaid cwblhau'r holl wybodaeth a roddir isod ar gyfer pob EWC a ddynodwyd. The waste(s) is/are: Dyma'r gwastraff(oedd):
Extra rows should be added for more EWC codes collected/ Dylid ychwanegu rhesi ar gyfer mwy o godau EWC a gasglwyd. Additional carriage information (the information given below must be completed for each EWC identified)/ Gwybodaeth ychwanegol am y cludo (rhaid cwblhau'r holl wybodaeth a roddir isod ar gyfer pob EWC a ddynodwyd). 4. Packing Group(s)/ Grwp neu grwpiau pecynnu 5. UN identification number(s)/ Rhif neu rifau adnabod UN 6. Proper Shipping Name(s)/ Enw(au) priodol y llwyth 7. UN class(es)/ Dosbarth(au) UN 8. Special handling requirements/ Gofynion trafod arbennig CONSIGNOR'S DECLARATION: I certify that the information provided for my consignment is correct, that the carrier is registered or exempt and was advised of the appropriate precautionary measures. All of the waste is packaged and labelled correctly and the carrier has been informed of any specific handling requirements. DATGANIAD Y TRADDODWR: Yr wyf ardystio bod yr wybodaeth a roddwyd ar gyfer fy llwyth yn gywir, bod y cludwr wedi'i gofrestru neu'n esempt a'i fod wedi cael ei hysbysu o'r mesurau rhagofalu priodol. Cafodd yr holl wastraff ei becynnu a'i labelu yn gywir a chafodd y cludwr ei hysbysu o unrhyw ofynion trafod arbennig. Name (Consignor)/Enw (Traddodwr): Signature/ Llofnod: Date/Dyddiad: at/am hrs/o'r gloch. CARRIER'S DECLARATION: I certify that today I collected the quantity of waste given on this part of the form from the address given on this part of the form and will take it to the address given in Part A. DATGANIAD Y CLUDWR : Yr wyf yn ardystio fy mod heddiw wedi casglu'r maint o wastraff a roddir ar y rhan hon o'r ffurflen o'r cyfeiriad a roddir ar y rhan hon o'r ffurflen ac y byddaf yn ei gludo i'r cyfeiriad a roddir yn Rhan A. Name (Carrier)/Enw (Cludwr): Signature/Llofnod: Date/Dyddiad: at/am hrs/o'r gloch. Adnabod nodiadau traddodi trawsffiniol y DU 1. Yn ddarostyngedig i baragraff 4 a pharagraff 7, os yw gwastraff peryglus yn cael ei symud o fangre yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Gibraltar a'i gludo i Gymru ("nodyn traddodi trawsffiniol i Gymru"), ni fydd unrhyw ofyniad i nodyn traddodi fynd gyda'r gwastraff o dan Ran 6 yn gymwys—
(b) os yw'r nodyn yn cynnwys yr wybodaeth sy'n ofynnol gan y nodyn traddodi safonol a welir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 94/774 dyddiedig 24 Tachwedd 1994[41] ("nodyn traddodi trawsffiniol").
2.
Caiff unrhyw ofyniad yn Rhan 6 i gwblhau nodyn traddodi ar gyfer llwyth trawsffiniol ei fodloni drwy gynnwys yr wybodaeth —
(b) lle nad yw hynny'n bosibl, ar ffurflen ar wahân a baratowyd at y diben hwnnw.
3.
Caiff unrhyw ofyniad i gadw copi o nodyn traddodi ar gyfer llwyth trawsffiniol neu i roi copi o'r nodyn i berson arall ei fodloni drwy gadw copi o'r nodyn traddodi trawsffiniol neu roi copi o'r nodyn i'r person arall hwnnw.
(b) cadw copi o'r nodyn neu'r cofnod; (c) rhoi copi i'r cludwr; ac (ch) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, anfon copi at y traddodwr, ac (os yw'n wahanol i'r traddodwr) y cynhyrchydd neu'r deiliad sydd wedi'i nodi ar y nodyn traddodi trawsffiniol.
(2) Wrth gael ei hysbysu nad yw'r traddodai yn derbyn traddodi'r llwyth trawsffiniol i mewn i Gymru neu ran o'r llwyth, rhaid i'r cludwr—
(b) gofyn am gyfarwyddiadau gan gynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus y mae ei enw wedi'i nodi ar y nodyn traddodi trawsffiniol a chymryd pob cam rhesymol i sicrhau y cânt eu bodloni.
(3) Cyn bod llwyth trawsffiniol i mewn i Gymru sydd wedi'i wrthod yn cael ei symud o'r gyrchfan draddodi wreiddiol, rhaid i'r cludwr sicrhau—
(b) bod copi o'r nodyn traddodi yn cael ei anfon at SEPA (os cludir y gwastraff o'r Alban) neu at Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon (os traddodir y gwastraff o Ogledd Iwerddon).
(4) Os derbynnir llwyth trawsffiniol i mewn i Gymru o'r Alban neu Ogledd Iwerddon, rhaid i'r traddodwr anfon copi o'r nodyn traddodi trawsffiniol at SEPA (os traddodir y gwastraff o'r Alban) neu at Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon (os traddodir y gwastraff o Ogledd Iwerddon).
(ii) bod copi ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer y traddodai.
(b) rhaid i'r copïau o'r nodyn traddodi perthnasol a baratowyd yn unol â pharagraff (a) gael eu cwblhau yn unol â Rhan 6; ac
(3) Rhaid i'r cludwr sicrhau bod y copi ychwanegol o'r nodyn a baratowyd ar gyfer traddodai yn teithio gyda'r llwyth ac yn cael ei roi i'r traddodai wrth draddodi'r llwyth. Hazardous waste producer returns form Ffurflen atebion cynhyrchydd gwastraff peryglus 1. Consignee details/ Manylion y traddodai
2. Waste return/ Atebion ynglyn â gwastraff
(1) Date of submission of the return by the consignee/ Dyddiad cyflwyno'r ateb gan y traddodai (2) Where relevant/ Pan fo'n briodol (3) There may be more than one waste stream for each consignment note. All relevant EWC Codes must be recorded./ Gall fod mwy nag un ffrwd wastraff ar gyfer pob nodyn traddodi. Rhaid cofnodi pob cod EWC sy'n berthnasol. (4) Hazard: each individual EWC code may have more than one hazard. Each appropriate hazard for a particular EWC code must be entered. Choose all of the appropriate hazards for the particular waste: Perygl: gall pob cod EWC unigol gwmpasu mwy nag un perygl. Rhaid cofnodi pob perygl priodol ar gyfer cod EWC penodol. Dewiser pob un o'r peryglon priodol ar gyfer y gwastraff penodol:
(5) Physical form: Choose one option from the list as appropriate. Ffurf ffisegol: Dewiswch un opsiwn o'r rhestr fel y bo'n briodol.
(6) Mode of disposal/recovery or rejected : use the appropriate Rxx/Dxx code for the operation performed on the waste or insert REJ if the waste has been rejected
Recovery operation/ Gweithrediad adfer
1. Mae'r paragraffau canlynol yn effeithiol mewn perthynas â'r ffioedd sy'n daladwy i'r Asiantaeth o dan y Rheoliadau hyn. 2. Y ffi sydd i'w thalu wrth roi hysbysiad am fangre yn unol â rheoliad 26 yw—
(b) £23 am bob set o fangreoedd a hysbysir dros y ffôn; ac (c) £18 am bob set o fangreoedd a hysbysir ar ffurf electronig.
3.
Mae'r ffi sydd i'w thalu gan draddodai mewn perthynas ag unrhyw atebion chwarterol traddodai a roddir yn unol â rheoliad 53 fel a ganlyn—
(ii) £19 am unrhyw lwyth arall; a
(b) am unrhyw ateb a roddir ar ffurf electronig, swm y meintiau canlynol ar gyfer pob llwyth a dderbyniwyd gan y traddodai yn ystod y chwarter—
(ii) £10 am unrhyw lwyth arall.
4.
Y ffi sydd i'w thalu gan gynhyrchydd mewn perthynas ag unrhyw ateb hunanwaredu a wneir yn unol â rheoliad 53 yw—
(b) am unrhyw ateb a roddir ar ffurf electronig, £10.
5.
Yr amser i dalu'r ffi sy'n ofynnol o dan baragraff 3 a 4 yw'r dyddiad diweddaraf o'r 30 niwrnod sy'n dilyn —
(b) y dyddiad y cyflwynwyd yr ateb yn unol â rheoliad 53.
6.
Caiff traddodai adennill o draddodwr unrhyw ffioedd a dalwyd o dan baragraff 3 o ran llwythi a anfonwyd gan y traddodwr hwnnw. HAZARDOUS WASTE (WALES) REGULATIONS 2005, SCHEDULE 10 RHEOLIADAU GWASTRAFF PERYGLUS (CYMRU) 2005, ATODLEN 10 Notice Number/ Rhif Hysbysiad: Name of alleged offender/ Enw'r tramgwyddwr honedig: Address/ Cyfeiriad: I, /Mae gennyf fi ______________________ (1) an authorised person acting on behalf of the Environment Agency, / sy'n berson awdurdodedig sy'n gweithredu ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd, have reason to believe that on or between/ le i gredu eich bod ar neu rhwng __________________ (2), you committed the offence of/ wedi cyflawni tramgwydd, sef ___________________________________(3). This notice offers you the opportunity of discharging any liability to conviction for that offence by payment of a fixed penalty. Mae'r hysbysiad hwn yn rhoi cyfle i chi fodloni unrhyw atebolrwydd i gollfarn am y tramgwydd hwnnw drwy dalu cosb benodedig. The circumstances alleged to constitute the offence are as follows/ Mae'r amgylchiadau yr honnir eu bod yn creu'r tramgwydd fel a ganlyn: No proceedings will be taken for this offence before the expiration of 28 days from the date of this notice. You will not be liable to conviction for the offence if you pay the fixed penalty during that period of 28 days. Ni ddygir achos am y tramgwydd hwnnw cyn pen 28 niwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwn. Ni fyddwch yn agored i gollfarn am y tramgwydd os byddwch yn talu'r gosb benodedig yn ystod y cyfnod hwnnw o 28 niwrnod. The amount of the fixed penalty is £300. /£300 yw swm y gosb benodedig. It may be paid to/ Gellir ei dalu i__________________________________________(4) at the following address/ yn y cyfeiriad canlynol: ________________________________________ (5). Payment may be made by pre-paying and posting to/ Gellir gwneud y taliad drwy ragdalu ac anfon at:________________________________________ (4) at the address shown above a letter containing the amount of the penalty/ yn y cyfeiriad a welir uchod lythyr yn cynnwys swm y gosb. Payment may also be made by cash, or by cheque, postal order or money order made payable to/ Gellir talu hefyd ag arian parod, neu â siec, archeb bost neu archeb arian yn daladwy i:_______________________________ (4). If you are sending cash, you are advised to send it by registered post. Payment made in this way will be regarded as having been made at the time at which the letter would be delivered in the ordinary course of post. Alternatively, payment may be made in person or by any other method. Os byddwch yn anfon arian parod, fe'ch cynghorir i'w anfon drwy'r post cofrestredig. Bernir bod taliad a wnaed fel hyn wedi'i wneud ar yr amser y byddid yn traddodi'r llythyr hwnnw yn nhrefn arferol y post. Fel arall, gellir talu'n bersonol neu drwy unrhyw ddull arall. Signature of authorised person/ Llofnod y person awdurdodedig: ____________________________________ Date of notice/ Dyddiad yr hsbysiad:_______________________________________ Notes/ Nodiadau: (1) Insert name of authorised person/ Mewnosoder enw'r person awdurdodedig. (2) Insert date on or dates between which offence is alleged to have taken place.
(3) Insert regulation of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005 which is alleged to have been contravened Mewnosoder y rheoliad yn Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 yr honnir ei fod wedi'i dorri. Letter which may be used for payment by post Llythyr y gellir ei ddefnyddio i dalu drwy'r post I enclose with this letter the amount of £300 being the fixed penalty for the offence described in Fixed Penalty Notice number/ Yr wyf yn amgáu gyda'r llythyr hwn y swm o £300 sef y gosb benodedig am y tramgwydd a ddisgrifir yn Hysbysiad Cosb Benodedig Rhif :___________________________________________________ (1) under Schedule 10 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005/ o dan Atodlen 10 i Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005. Signature/Llofnod:________________________________________________________________________________ ___________________________________________________________ Name in capitals/ Enw mewn priflythrennau:______________________________________________________ Address/Cyfeiriad:___________________________________________________________________________ Notes/ Nodiadau: (1) Insert Notice number that appears in the fixed penalty notice above/Mewnosoder Rhif yr Hysbysiad sy'n ymddangos yn yr hysbysiad cosb benodedig uchod. 1. Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn cael ei diwygio fel a ganlyn. 2. Yn adran 75 (fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru a Lloegr) 2005[42]—
(b) mae is-adran (8B) yn cael ei hepgor.
3.
Mae Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003[43] yn cael ei diwygio fel a ganlyn. 5. Mae Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cofrestru Cludwyr ac Atafaelu Cerbydau) 1991[44] yn cael eu diwygio fel a ganlyn. 6. Ar ddiwedd Atodlen 1 mewnosoder "The Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005". 7. Mae Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991[45] yn cael eu diwygio fel a ganlyn. 8. Yn rheoliad 2(3), yn lle "special waste" rhodder "hazardous waste", ac yn lle "Special Waste Regulations 1996" rhodder "Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005". 9. Mae Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Prosesau a Sylweddau Rhagnodedig) 1991[46] yn cael eu diwygio fel a ganlyn. 10. Yn Adran 5.1 o Bennod 5 o Atodlen 1—
(ii) ym mharagraff (iii) yn lle "Annex III to Directive 91/689/EEC on hazardous waste" rhodder "Schedule 3 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005";
(b) yn y diffiniad o "hazardous waste"—
(ii) yn is-baragraff (i)(b) a pharagraff (v), yn lle "in Annex II to Directive 91/689/EEC" rhodder "in Schedule 2 to the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005".
11.
Mae Rheoliadau 1994 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
13.
Yn rheoliad 3, ar y diwedd ychwaneger "(q) the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005".
and any estimate under paragraph 4 of the total quantities of the different types of waste dealt with at the site shall, in particular, differentiate between biodegradable waste, non-biodegradable waste and hazardous waste.".
19.
Ym mharagraff 2(1) o Atodlen 1A, yn lle'r diffiniad o wastraff peryglus rhodder ""hazardous waste" means such waste as defined in Regulation 6 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005."
25.
Yn lle paragraff 14(8) o Atodlen 4, rhodder—
26. Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999[47] yn cael eu diwygio fel a ganlyn. 27. Ym mharagraff 9 o Atodlen 1, yn lle "hazardous waste (that is to say, waste to which Council Directive 91/689/EEC applies)." rhodder "hazardous waste as defined in regulation 6 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005.". 28. Mae Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Gwaredu Deuffenylau Polyclorineiddiedig a Sylweddau Peryglus) (Cymru a Lloegr) 2000[48] yn cael eu diwygio fel a ganlyn. 29. Yn lle rheoliad 11(3), rhodder y canlynol—
(b) quarterly returns specifying that information are furnished to it under regulation 53 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005,
and which in either case have been furnished by a person in the course of a business concerned with the disposal of PCBs."
30. Mae Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000[49] (sy'n rhychwantu Cymru a Lloegr) yn cael eu diwygio fel a ganlyn. 31. Ym mhennod 5 o Atodlen 1—
(ii) ym mharagraff (a)(ii) yn lle "Annex II to Directive 91/689/EEC on hazardous waste" rhodder "Schedule 2 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005";
(b) ym mharagraff 1 o'r paragraff yn Adran 5.3 sy'n dwyn y pennawd "Interpretation of Part A(1)" yn lle'r diffiniad o "hazardous waste", rhodder ""hazardous waste" means any waste as defined for the time being in regulation 6 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005."; ac
32. Mae Rheoliadau Cemegion (Gwybodaeth am Beryglon a Phecynnu ar gyfer Cyflenwi) 2002[50] yn cael eu diwygio fel a ganlyn. 33. Yn rheoliad 3(3)(e), yn lle "Special Waste Regulations 1996" rhodder "Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005". 34. Mae Rheoliadau Tirlenwi (Cymru a Lloegr) 2002[51] yn cael eu diwygio fel a ganlyn. 35. Yn Rheoliad 7(2) yn lle "Hazardous waste means any waste as defined in Article 1(4) of Directive 91/689/EEC (hazardous waste)." rhodder "Hazardous waste means any waste as defined in regulation 6 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005.". 36. Yn lle paragraff 2(a) o Atodlen 1, rhodder "(a) it is a hazardous waste as defined in the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005; and". 37. Yn lle paragraff 3(1)(a) o Atodlen 1, rhodder "(a) it is a hazardous waste as defined in the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005; and". 38. Yn lle paragraff 3(1)(b) o Atodlen 1, rhodder "(b) it is a non-hazardous waste as defined in the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005.". 39. Yn lle paragraff 5(1)(g) o Atodlen 1, rhodder—
40.
Mae Rheoliadau Pecynnu (Gofynion Hanfodol) 2003[52] yn cael eu diwygio fel a ganlyn. 1. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw hysbysiad o fangre a roddir at ddibenion y Rheoliadau hyn o'r diwrnod ar ôl diwrnod gwneud y Rheoliadau hyn a chyn 16 Gorffennaf 2005. (2) Pan fwriedir symud gwastraff o unrhyw fangre ar ôl 16 Gorffennaf 2005, caiff cynhyrchydd, ac, o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer yn rheoliad 25, traddodwr, hysbysu mangre i'r Asiantaeth ymlaen llaw yn unol â rheoliad 26. (3) Ni chaiff yr amser effeithiol fod ar ddyddiad sy'n gynharach nag 16 Gorffennaf 2005 nac ar ddyddiad sy'n hwyrach nag 16 Medi 2005. (4) Rhaid i'r Asiantaeth, pan fydd hysbysiad wedi'i roi'n briodol yn unol â'r paragraff hwn, ddyroddi cod mangre yn unol â rheoliad 27. (5) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y paragraff hwn yr un ystyron ag yn Rhan 5. 2. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gamau a gymerwyd gan gynhyrchydd neu draddodwr cyn i'r paragraff hwn ddod i rym ond a fyddai, pe baent wedi'u cymryd ar ôl iddo ddod i rym, wedi bod yn hysbysiad a oedd yn cydymffurfio â rheoliad 26 ("rhaghysbysiad"). (2) Mae rhaghysbysiad i'w ystyried yn hysbysiad a roddir pan fydd y paragraff hwn wedi dod i rym. (3) Nid yw rheoliad 28(1) yn gymwys i hysbysiad sy'n codi o raghysbysiad a daw'r hysbysiad hwnnw'n effeithiol, yn lle hynny:
(b) os na chafodd unrhyw gais o'r fath ei wneud, ar ddechrau'r pedwerydd diwrnod ar ôl y diwrnod y digwyddodd y rhaghysbysu; (c) pan fydd y taliad o'r ffi berthnasol wedi'i dderbyn gan yr Asiantaeth; (ch) pan fydd y paragraff hwn wedi dod i rym;
p'un bynnag yw'r diweddaraf. 4. —(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr Atodlen hon, mae cyfeiriad mewn trwydded gwastraff at wastraff arbennig, neu at wastraff arbennig o unrhyw ddisgrifiad (sut bynnag y mae wedi'i lunio), yn gyfeiriad at wastraff peryglus, neu wastraff peryglus o'r disgrifiad hwnnw, yn ôl y digwydd. 5. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â gwastraff nad oedd yn wastraff arbennig yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym os bydd y gwastraff hwnnw yn dod yn wastraff peryglus o ganlyniad i'r Rheoliadau hyn ("gwastraff y mae ei statws wedi'i newid"). (2) Nid yw unrhyw waharddiad cyffredinol neu gyfyngiad cyffredinol sydd wedi'i gynnwys mewn trwydded gwastraff sy'n ymwneud â gwaredu neu adfer gwastraff arbennig o dan y drwydded honno yn union cyn i'r Rheoliadau hynny ddod i rym yn gymwys i waredu neu adfer gwastraff y mae ei statws wedi'i newid i'r graddau y mae'r drwydded yn benodol yn awdurdodi gwaredu neu adfer y math hwnnw o wastraff. (3) Caiff deiliad trwydded gwastraff na fyddai wedi'i awdurdodi mwyach i barhau i waredu neu adfer y gwastraff hwnnw o dan ei drwydded oherwydd y newid yn statws y gwastraff hwnnw, barhau i waredu neu adfer y gwastraff hwnnw yn unol â'r drwydded er gwaethaf y newid mewn statws tan y dyddiad rhagnodedig. (4) Nid yw rheoliad 17(3) o Reoliadau 1994 yn gymwys i gynnal gweithgaredd esempt sy'n ymwneud â gwastraff y mae ei statws wedi'i newid yn unrhyw le gan berson a oedd yn cynnal y gweithgaredd hwnnw yn y lle hwnnw cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym ("person esempt o ran gwastraff y mae ei statws wedi'i newid"). (5) Caiff person esempt o ran gwastraff y mae ei statws wedi'i newid, a hwnnw'n berson na fyddai wedi'i awdurdodi mwyach i gynnal gweithgaredd esempt sy'n cynnwys gwastraff o'r fath oherwydd y newid yn ei statws, barhau i gynnal y gweithgaredd hwnnw yn y lle hwnnw yn unol â Rheoliadau 1994 er gwaethaf y newid mewn statws tan y dyddiad rhagnodedig. (6) Y dyddiad rhagnodedig—
(b) mewn unrhyw achos arall, yw 16 Gorffennaf 2006.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r gyfundrefn ar gyfer rheoli ac olrhain gwaith symud gwastraff peryglus at ddibenion gweithredu'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus (Cyfarwyddeb 91/689/EC). Mae'r Rheoliadau yn gymwys o ran Cymru. Gwastraff Peryglus Mae'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff (Cyfarwyddeb 75/442/EEC) yn rheoleiddio, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol, y broses o reoli pob math o wastraff ("gwastraff y Gyfarwyddeb"). Mae'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus yn ategu'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff drwy osod gofynion ychwanegol o ran gwastraff y Gyfarwyddeb sy'n amlygu nodweddion peryglus penodol. Mae'r gofynion hyn wedi'u trosi o'r blaen gan Reoliadau Gwastraff Arbennig 1996, drwy reolaethau ar "wastraff arbennig". Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu Rheoliadau Gwastraff Arbennig 1996 ac yn rhoi'r term "gwastraff peryglus" ("hazardous waste") yn lle'r term "gwastraff arbennig" ("special waste"). Mae Rhannau 1 i 3 o'r Rheoliadau yn diffinio gwastraff peryglus ac yn nodi sut mae'r Rheoliadau yn gymwys i'r gwastraff hwnnw. Mae'r diffiniad o wastraff peryglus yn rheoliad 6 yn cyfeirio at y rhestr o wastraffoedd peryglus a nodir yn Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1820 (Cy.148)) sy'n cael eu gwneud ar yr un dyddiad â'r Rheoliadau hyn. Mae eithriad rhag y rheolaethau hyn ar gyfer gwastraff domestig sy'n amlygu nodweddion peryglus ond nid os yw wedi'i ffurfio o wastraff asbestos neu'n cael ei gasglu ar wahân. Yn y naill achos a'r llall, nid yw'r rheoliadau yn gosod rhwymedigaethau yn uniongyrchol ar ddeiliaid tai. Gwahardd Cymysgu Mae Rhan 4 yn gwahardd cymysgu gwastraff peryglus onid yw wedi'i ganiatáu fel rhan o weithrediad gwaredu neu adfer yn unol â'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff. Mae'n gosod dyletswydd hefyd i wahanu gwahanol gategorïau o Wastraff Peryglus pan fo hynny'n dechnegol ddichonadwy. Hysbysu Mae Rhan 5 yn ei gwneud yn dramgwydd i symud gwastraff peryglus o fangre na hysbyswyd Asiantaeth yr Amgylchedd ohoni, onid yw'n fangre esempt neu onid yw'r gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon. Rhaid i gynhyrchydd y gwastraff neu'r traddodwr (y person sy'n trefnu ar gyfer symud y gwastraff) hysbysu pob mangre lle mae gwastraff peryglus yn cael ei gynhyrchu neu ei symud. Mae hysbysiad yn para 12 mis ac ar ôl hynny rhaid hysbysu'r fangre eto. Mae ffi yn daladwy i Asiantaeth yr Amgylchedd pan hysbysir mangre. Symud Gwastraff Peryglus Mae Rhan 6 yn ei gwneud yn ofynnol i ddogfennau gael eu cwblhau pryd bynnag y mae gwastraff peryglus yn cael ei symud o fangre (sy'n cynnwys ei symud o longau a'i symud drwy biblinell). Mae'r amrywiol fathau o ffurflen i'w gweld yn Atodlenni 4 i 6. Diben hyn yw sicrhau bod disgrifiad cywir o lwythi gwastraff yn mynd gyda hwy pryd bynnag y byddant yn symud. Mae hyn yn ychwanegol at unrhyw ofynion i sicrhau bod gwastraff peryglus yn cael ei becynnu a'i labelu'n briodol (gweler yn benodol Reoliadau Pecynnu (Gofynion Hanfodol) 2003 (O.S. 2003/1941). Mae'n ofynnol i gynhyrchwyr, deiliaid, cludwyr, traddodwyr a thraddodeion gwblhau gwahanol rannau o'r ffurflenni. Os bydd y traddodai yn gwrthod y gwastraff, rhaid gwneud trefniadau amgen addas. Mae Atodlen 7 yn ymdrin â throsglwyddiadau trawsffiniol o fewn y Deyrnas Unedig a Gibraltar. Cofnodion ac Atebion Mae Rhan 7 yn ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr, deiliaid, cludwyr, traddodwyr a thraddodeion gadw cofnodion. Rhaid iddynt gael eu cadw am 3 blynedd o leiaf ac eithrio yn achos cludwyr pan fo'r cyfnod yn gyfnod o 12 mis. Mae'n ofynnol i draddodeion roi i Asiantaeth yr Amgylchedd atebion chwarterol sy'n nodi'r llwythi y maent wedi'u cael yn ystod y cyfnod hwnnw. Gall fod yn ofynnol i draddodeion dalu ffi i Asiantaeth yr Amgylchedd ond rhoddir hawl iddynt ei hadennill oddi wrth y traddodwyr a anfonodd y gwastraff atynt. Mae'n ofynnol hefyd iddynt anfon ateb at y cynhyrchwyr neu'r deiliaid a anfonodd wastraff atynt. Mae Atodlen 9 yn nodi cynllun trosiannol ar gyfer ffioedd. Swyddogaethau'r Asiantaeth Mae Rhan 8 yn nodi swyddogaethau'r Asiantaeth. Yn benodol, mae'n ofynnol i'r Asiantaeth arolygu cynhyrchwyr gwastraff peryglus o bryd i'w gilydd a chadw unrhyw gofnodion a anfonwyd ati yn unol â Rhan 7 am 3 blynedd o leiaf. Argyfyngau a Pherygl Difrifol Mae Rhan 9 yn gosod dyletswyddau ar ddeiliaid gwastraff peryglus ac Asiantaeth yr Amgylchedd os bydd argyfwng neu berygl difrifol sy'n deillio o wastraff peryglus. Gorfodi Mae Rhan 10 yn ei gwneud yn dramgwydd i fethu â chydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn. Lefel 5 ar y raddfa safonol (£5000 ar hyn o bryd) yw'r gosb uchaf am fethu â chydymffurfio â gofyniad a osodwyd gan neu o dan y rheoliadau a nodir yn rheoliad 69(1). Caiff yr Asiantaeth ddyroddi hysbysiadau cosbau penodedig o £300 yn lle ceisio sicrhau collfarniad am dramgwyddau o'r fath. Mae tramgwyddau eraill o dan y Rheoliadau (gan gynnwys darparu gwybodaeth anwir) yn ddarostyngedig i'r ddirwy uchaf, sef lefel 5, os ydynt yn destun prawf diannod, ac yn ddarostyngedig i ddirwyon uwch a charchariad hefyd os ydynt yn destun prawf ar dditiad. Diwygiadau i reoliadau eraill Mae Atodlen 11 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliadau fel bod cyfeiriadau at wastraff arbennig yn cael eu hepgor a bod cyfeiriadau at wastraff peryglus yn cael eu diweddaru i fod yn gyson â'r Rheoliadau hyn. Darpariaeth drosiannol Mae Atodlen 12 yn gwneud darpariaeth drosiannol. Mae'n darparu ar gyfer hysbysu cyn bod y rheoliadau yn llwyr ddod i rym. Mae'n gwneud darpariaeth drosiannol hefyd ar gyfer yr achosion hynny lle byddai'r newid i wastraff peryglus o wastraff arbennig yn golygu na fyddai person wedi'i awdurdodi mwyach i waredu neu adfer gwastraff. Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau o Is-adran yr Amgylchedd — Diogelu ac Ansawdd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Mae'r gyfrol sy'n dwyn y teitl "Indexes to the United Kingdom Standard Industrial Classification of Economic Activities 2003", ac y cyfeirir ati yn y diffiniad o "SIC", ar gael oddi wrth y Stationery Office Limited drwy ffonio 0870 600 552. Notes: [1] S.I. 2005/850.back [3] OJ Rhif L 194, 25.7.1975, t.39.back [4] OJ Rhif L 78, 26.3.1991, t.32.back [5] OJ Rhif L 377, 31.12.1991, t.48 (fel y'i diwygiwyd drwy Gorigendwm, OJ Rhif L 146, 13.6.2003, t.52).back [6] OJ. Rhif L 135, 6.6.1996, t.32.back [7] OJ Rhif L 284, 31.10.2003, t.1.back [8] Mae Erthygl 1(a) o'r Gyfarwyddeb Wastraff yn diffinio "waste" fel unrhyw sylwedd neu eitem yn y categorïau a nodir yn Atodlen I (Categorïau o Wastraff) i'r Gyfarwyddeb honno y mae'r deiliad yn cael gwared arno neu arni neu'n bwriadu gwneud hynny neu y mae'n ofynnol iddo gael gwared arno neu arni.back [9] OJ Rhif L 377, 31.12.1991, t.20 (fel y'i cywirwyd drwy Gorigendwm i Gyfarwyddeb 91/689/EC (OJ Rhif L 23, 30.1.1998 t.39).back [10] OJ Rhif L 168, 2.7.1994, t.28.back [11] OJ Rhif L 226, 6.9.2000, t.3.back [12] O.S. 2005/1820 (Cy.148).back [13] O.S. 1987/37, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [19] O dan Erthygl 5(3) mae'n ofynnol i'r nodyn traddodi gynnwys y manylion a bennir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 94/774/EC (OJ Rhif L 310, 3/12/1994 t. 70; disgwylir y caiff y penderfyniad hwn ei newid ym Mehefin 2005). Ceir y gofynion perthnasol yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.back [20] O.S. 1994/1056. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1994/1137; 1995/288, 1995/1950, 1996/634, 1996/972, 1996/1279, 1997/2203, 1998/606, 1998/2746, 2000/1973, 2001/503, 2002/674, 2002/1559 a 2005/883.back [21] O.S. 1996/972 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1996/2019, 1997/251, 2001/3148.back [22] Dehonglwyd ystyron "gwaredu" ("disposal") ac "adfer" ("recovery") gan Lys Cyfiawnder Ewrop yn C-6/00. Dyfarnodd y Llys (ym mharagraff 60 o'r dyfarniad) fel a ganlyn: "…the intention of Annexes II A and II B to the Directive is to list the most common disposal and recovery operations and not precisely and exhaustively to specify all the disposal and recovery operations covered by the Directive.".back [23] Mae gwastraffoedd a restrir yn wastraffoedd peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd yn cael eu hystyried yn beryglus yn unol ag indent cyntaf Erthygl 1.4 o'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus.back [24] Mae Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon yn cynnwys ei hasiantaeth weithredol, y Gwasanaeth Treftadaeth Amgylcheddol.back [25] Mae Erthygl 1(5) o'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus wedi darparu ar gyfer rheolau penodol sydd i'w gwneud gan y Gymuned Ewropeaidd gan ystyried natur benodol gwastraff domestig; ni chafodd y cyfryw reolau, ar ddyddiad gwneud y Rheoliadau hyn, eu mabwysiadu.back [26] OJ Rhif L 30, 6.2.1993, t.1.back [28] 1947 p.48 (gweler adran 109(3)).back [31] O.S. 1992/588. Diwygiwyd rheoliad 2 gan reoliad 24(3) o O.S. 1994/1056; mae diwygiadau eraill i O.S. 1992/588 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [34] OJ Rhif L 037, 13.12.2003, t.24.back [35] Gweler paragraff 13 o Atodlen 4 i'r Rheoliadau.back [37] O.S. 2000/1043, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [38] O.S. 2000/1973; mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud gan O.S. 2002/2980.back [39] O.S. 2002/1689, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [40] O.S. 2002/1959; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1375.back [41] OJ No L 196, 16. 8. 1967, p. 1.back [42] OJ No L 259, 15. 10. 1979, p. 10.back [43] OJ No L 257, 16.9.1983, p.1.back [44] OJ No L 251, 19.9.1984, p.1.back [45] OJ Rhif L310, 03.12.1994, t.70.back [48] O.S. 1991/1624; diwygiwyd Atodlen gan O.S. 1994/1137, 1996/972, 2000/1973.back [49] O.S. 1991/2839; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1559, 2003/63.back [50] O.S. 1991/472; mae diwygiadau perthnasol wedi'u cynnwys yn O.S. 1998/767.back [51] O.S. 1999/293, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [52] O.S. 2000/1043, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
ISBN 0 11091171 7
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 15 July 2005 |