Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru (Diwygio) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru (Diwygio) 2005, ISBN 0110911601. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 105, 108, 150 a 152 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[1]: Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. (3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 2003" ("2003 Regulations") yw Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003[2]. Diwygio Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003 2. Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau 2003 rhodder y diffiniad a ganlyn lle bynnag y bo'n briodol —
3.
Mewnosodir y geiriau "yn bartner sifil," ar ôl y geiriau "yn briod," yn rheoliad 4(3)(c), (ch) a (d) o Reoliadau 2003.
5.
Yn Rheoliadau 2003 mewnosoder yr Atodlen fel a geir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn. 1. Budd-dal Treth Gyngor 2. Budd-dal Tai 3. Cymhorthdal Incwm 4. Lwfans Ceisio Gwaith (Ar Sail Incwm) 5. Credyd Pensiwn (Cynilion) 6. Credyd Pensiwn (Gwarant) 7. Credyd Treth Gwaith."
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003 ("Rheoliadau 2003") yn y ddwy ffordd ganlynol. Mewnosodir y term "partner sifil" yn Rheoliadau 2003. O ganlyniad i hynny, mae partner sifil yn gyfartal â phriod, plentyn neu lysblentyn o ran cymhwyster o dan reoliad 4 o Reoliadau 2003. Diffinnir "civil partner" yn adran 1(1) o Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004. Diwygir rheoliad 4(5) o Reoliadau 2003 i wneud personau sy'n cael budd-daliadau neu lwfansau penodedig, neu'u dibynyddion, yn gymwys i gael Cyfrif Dysgu Unigol Cymru, ni waeth pa lefel o addysg y maent wedi'i chyrraedd. Mewnosodir Atodlen yn Rheoliadau 2003 sy'n pennu pa fudd-daliadau a lwfansau sy'n gymwys. Notes: [1] 2000 p.21.back [2] O.S. 2003/918 (Cy.119).back
ISBN 0 11 091160 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 5 July 2005 |