Rheoliadau Gwaith Stryd (Rhannu Costau Gwaith) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwaith Stryd (Rhannu Costau Gwaith) (Cymru) 2005, ISBN 0110911598. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 85 a 104(1) a (3) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991[1] ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Rhannu Costau Gwaith) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn:
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn ystyr "costau a ganiateir" ("allowable costs") yw, mewn perthynas â gweithfeydd gwyro, swm yr holl gostau rhesymol a dynnir wrth eu gwneud, ac eithrio —
(b) costau na chaniateir mohonynt o dan reoliad 6(3).
Gweithfeydd gwyro a wneir gan ymgymerwr oherwydd gweithfeydd pwysig awdurdod
(b) mewn achosion eraill lle rhoddir taliad yn unol â rheoliad 8(1), swm sy'n gyfartal i 82 y cant o gostau a ganiateir y gweithfeydd gwyro; (c) ym mhob achos arall, costau a ganiateir y gweithfeydd gwyro.
(2) Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 6.
(ii) sy'n weithfeydd adran 86(3) (a) i (g),
swm sy'n gyfartal i 7.5 y cant o gostau a ganiateir y gweithfeydd gwyro;
(2) Lle y symudir cyfarpar ymgymerwr gan yr awdurdod ar gais yr ymgymerwr a hynny yn unig oherwydd newid yn y math o adeiladu ar gyfer priffyrdd, nad yw'n golygu newid yn nyfnder y gorchudd i ddyfnder sy'n llai neu'n fwy na'r dyfnder derbyniol a grybwyllir yn Atodiad B i'r Cod, rhaid i'r ymgymerwr dalu i'r awdurdod y costau a ganiateir a dynnir gan yr awdurdod wrth symud y cyfarpar.
(b) gan ymgymerwr at ddibenion unrhyw berson o'r fath,
a lle gwneir gweithfeydd gwyro gan awdurdod neu gan yr ymgymerwr.
(b) unrhyw swm y byddai modd ei adennill oddi wrth berson o'r fath pe na bai'r person hwnnw yn awdurdod.
Costau a ganiateir — darpariaethau pellach
(b) gryfder digonol yn y bont,
er mwyn gwneud lle am gyfarpar yr ymgymerwr yn y bont.
(b) darparu lle digonol neu gryfder digonol i wneud lle am gyfarpar a osodir yn y bont ar ôl gwneud gweithfeydd pwysig o'r fath heblaw gosod, disodli neu addasu (heb gynnwys ehangu) cyfarpar a osodid gynt yn y bont cyn i'r gweithfeydd hynny gael eu gwneud.
(3) Wrth gyfrifo costau ymgymerwr a ganiateir rhaid bod costau na chaniateir mohonynt mewn perthynas â chyfarpar a osodir yn y stryd ar ôl i'r awdurdod roi i'r ymgymerwr —
(b) yn achos unrhyw weithfeydd pwysig eraill, hysbysiad o ddim mwy na 5 mlynedd,
am eu bwriad i wneud y gweithfeydd pwysig.
(b) os bydd y mesurau hynny'n arwain at ohirio'r angen i adnewyddu cyfarpar yr ymgymerwr, swm a benderfynir yn unol ag Atodiad E i'r Cod.
(2) At ddibenion y rheoliad rhaid penderfynu ar "gwelliant" yn unol ag Atodiad F i'r Cod.
(b) os bydd yr awdurdod a'r ymgymerwr yn cytuno yn achos gweithfeydd gwyro a fydd yn para, yn ôl yr amcangyfrif, am fwy na thri mis, fesul rhandaliadau o symiau o'r fath, ar y cyfryw adegau yn ystod gwneud y gweithfeydd gwyro, fel y mae'r awdurdod a'r ymgymerwr yn cytuno arno.
(2) Cyn pen 90 diwrnod ar ôl i'r gweithfeydd gwyro gael eu cwblhau, rhaid i'r person y mae unrhyw swm o ran costau a ganiateir yn ddyledus iddo (y credydwr) roi i'r person y mae'r swm yn ddyledus oddi wrtho (y dyledwr) cyfrif o'r swm sy'n ddyledus a chyn pen 35 diwrnod ar ôl i'r cyfrif hwnnw gael ei roi —
(b) rhaid i'r dyledwr mewn unrhyw achos arall dalu i'r credydwr y swm sy'n ddyledus.
(3) Os bydd taliadau a wneir gan awdurdod o dan baragraff (1) yn uwch na'r gyfran berthnasol o'r costau a ganiateir a bennir yn rheoliad 3(1)(a) neu (b), rhaid i'r ymgymerwr, cyn pen 35 diwrnod ar ôl rhoi'r cyfrif a grybwyllir ym mharagraff (2), ad-dalu i'r awdurdod swm y tâl dros ben.
(b) caniatâd o dan adran 61 o'r Ddeddf; (c) cytundeb i gartrefu cyfarpar mewn strwythur pont; neu (ch) cyfarwyddyd i symud neu newid lle'r cyfarpar, yn unol ag adran 62 o'r Ddeddf.
Dirymu a darpariaeth drosiannol (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli ac yn dirymu (o ran Cymru) Rheoliadau Gwaith Stryd (Rhannu Costau Gwaith) 1992 (O.S. 1992/1690) ("Rheoliadau 1992"), sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer rhannu costau rhwng yr awdurdod priffyrdd, pontydd neu drafnidiaeth ("yr awdurdod") a'r ymgymerwr lle mae gwaith priffyrdd pwysig, gwaith pontydd pwysig neu weithfeydd trafnidiaeth pwysig ("gweithfeydd pwysig") yn effeithio ar gyfarpar ymgymerwr mewn stryd a lle mae angen mesurau ("gweithfeydd gwyro") i ddiogelu'r cyfarpar hwnnw. Y prif newid y mae'r Rheoliadau'n rhoi effaith iddo yw bod cyfran yr ymgymerwr o gostau'r gweithfeydd gwyro y mae eu hangen yn achos rhai gweithfeydd trafnidiaeth pwysig bellach yn 7.5 y cant yn hytrach na'r 18 y cant y darperir ar ei gyfer gan Reoliadau 1992. Hefyd ceir rhai mân newidiadau a newidiadau drafftio. Lle mae gweithfeydd gwyro yn cael eu gwneud gan ymgymerwr oherwydd gweithfeydd pwysig a gychwynnir gan awdurdod, rhaid i'r awdurdod dalu 82 y cant o'r costau a ganiateir (fel y'u diffinnir yn rheoliad 2(2)) o'r gweithfeydd gwyro hynny, ar yr amod bod 75 y cant o'r costau hynny'n cael eu talu gan yr awdurdod yn y dull y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 8. Lle mae'r gweithfeydd pwysig yn weithfeydd trafnidiaeth pwysig (heblaw gwaith sy'n weithfeydd pontydd pwysig neu'n weithfeydd priffyrdd pwysig penodol), mae'r awdurdod yn talu 92.5 y cant o'r costau: rheoliad 3. Lle mae gweithfeydd gwyro yn cael eu gwneud gan awdurdod oherwydd gweithfeydd pwysig yr awdurdod hwnnw, rhaid i'r ymgymerwr dalu 18 y cant neu 7.5 y cant (yn ôl y digwydd) o'r costau a ganiateir i'r awdurdod: rheoliad 4. Lle mae'r ymgymerwr yn gofyn i'r awdurdod symud ei gyfarpar yn unig oherwydd newid yn y math o adeiladu ar gyfer priffyrdd, fel rheol mae'n ofynnol iddo dalu'r cyfan o'r costau a ganiateir: rheoliad 4(2). Yn achos gweithfeydd a gychwynnir gan berson heblaw awdurdod yn rhinwedd ei swydd fel y cyfryw neu gan ymgymerwr, mae'r rheolau uchod yn gymwys i weithfeydd gwyro yn dibynnu a ydynt yn cael eu gwneud gan yr awdurdod neu gan yr ymgymerwr, ond rhaid caniatáu yn llawn am unrhyw gyfraniad at gostau'r gweithfeydd gwyro hynny sydd i'w hadfer gan y person y cychwynnwyd y gweithfeydd ar ei ran: rheoliad 5. Nid yw ymgymerwr yn atebol am gostau a ganiateir mewn perthynas â darparu lle mewn pont neu gryfhau pont er mwyn gwneud lle am ei gyfarpar (rheoliad 6(1)) ac ni all adfer ei gostau lle mae wedi gosod ei gyfarpar yn y stryd ar ôl i'r awdurdod roi ei hysbysiad statudol o'i fwriad i wneud gweithfeydd pwysig: rheoliad 6(3). Gwneir darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ymgymerwr roi credyd am unrhyw elw y mae'n ei gael yn sgil gwella ei gyfarpar neu ohirio'r angen i adnewyddu ei gyfarpar yn deillio o fesurau diogelu: rheoliad 7. Ceir darpariaeth o ran amseru a dull talu (rheoliad 8) ac am eithriadau (rheoliad 9). Mae Rheoliad 10 yn dirymu Rheoliadau 1992 mewn perthynas â Chymru, yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn gymwys lle rhoddir hysbysiad o fwriad i wneud gweithfeydd pwysig ar y dyddiad y deuant i rym neu ar ôl hynny a bod Rheoliadau 1992 yn parhau i fod yn gymwys lle y rhoddir hysbysiad o'r fath cyn y dyddiad hwnnw. Cyhoeddir y Cod Ymarfer o dan y teitl; "Measures Necessary where Appparatus is affected by Major Works (Diversionary Works)" (1992) (ISBN 0-11-551149-0) gan y Llyfrfa a gellir ei gael oddi wrth eu siopau llyfrau hwy neu drwy'r post, ffacs neu ffôn oddi wrth PO Box 29, Norwich NR3 1GN (ffôn. 0870 6005522/ffacs 0870 6005533) neu dros e-bost oddi wrth book.orders@theso.co.uk. Notes: [1] 1991 c.22.back [2] Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] Mae i "ymgymerwr" yr ystyr a ragnodir i "undertaker" yn adran 48 o'r Ddeddf.back [4] O.S. 1992/1690. Dirymwyd y Reoliadau hyn mewn perthynas â Lloegr gan O.S. 2000/3314.back
ISBN 0 11 091159 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 5 July 2005 |