Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2005, ISBN 011091158X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1, 3, 5, 15(3) a 20(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967[1], ac a freiniwyd ynddo bellach[2], yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn a dehongli 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2005. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 29 Mehefin 2005. (3) Yn y Gorchymyn hwn mae gan "Cymru" yr un ystyr ag sydd iddo yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3], ac mae "dyfroedd Cymru" yn golygu yr ardaloedd morwrol sydd o fewn Cymru. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn —
Cyfyngu ar y nifer o lusgrwydi cregyn bylchog
(b) ble mae bar tynnu yn 3.8 metr neu lai o hyd, ni ddylsai fod wedi ei wneuthur yn y fath fodd fel y gall gael ei osod i fwy na 4 llusgrwyd cregyn bylchog ar yr un pryd.
(3) Ni chaiff unrhyw gwch pysgota Prydeinig ar unrhyw adeg, yn unrhyw ddarn o ddyfroedd Cymru sydd yn gorwedd mwy na 3 milltir fôr o'r lan, (y pellter yma i gael ei fesur o'r gwaelodlinau), gario neu ddefnyddio bar tynnu onibai fod y bar tynnu hwnnw yn cydymffurfio ag anghenion pharagraff (4);
(b) ble mae'r bar tynnu yn 7.6 metr neu lai o ran hyd, ni ddylsai fod wedi ei wneuthur yn y fath fodd fel y gall gael ei osod i fwy nag 8 llusgrwyd cregyn bylchog ar yr un pryd.
Manyleb llusgrwydi cregyn bylchog
(b) ei bod yn cynnwys bar danheddog sbringlwythog sy'n ateb y diben, yn weithredol ac yn symudol; (c) nad yw'r llusgrwyd yn cynnwys unrhyw atodiadau ar ei chefn, ar ei thop neu y tu mewn iddi; (ch) nad yw'r llusgrwyd yn cynnwys plât plymio neu unrhyw ddyfais debyg arall; a (d) nad yw cyfanswm pwysau'r llusgrwyd yn cynnwys yr holl ffitiadau heb fod yn fwy na 150 cilogram.
(2) Ni chaiff unrhyw gwch pysgota Prydeinig gario neu dynnu llusgrwyd cregyn bylchog o fewn dyfroedd Cymru —
(ii) os yw'r dannedd i gyd yn mesur 12 milimetr neu lai, onid yw'r nifer o ddannedd ar y bar danheddog heb fod yn fwy na 9; (iii) os oes unrhyw un o'r dannedd yn mesur mwy na 12 milimetr, onid yw'r nifer o ddannedd ar y bar danheddog heb fod yn fwy nag 8;
(b) os yw'r llusgrwyd yn llai nag 80 centimetr o led —
(ii) onid yw'r nifer o ddannedd ar y bar danheddog heb fod yn fwy na 6;
(c) onid oes ganddo ddim mwy nag 1 rhes o fodrwyau bol yn hongian o'r naill ochr a'r llall o'r llusgrwyd yn unionsyth at y modrwyau sy'n hongian o'r bar bol; ac
(ii) 12 milimetr lle y mae'r llusgrwyd yn llai na 80 centimetr o led.
(3) Yn yr erthygl hon —
(b) bar bol yw'r bar sydd wedi'i gysylltu â ffrâm y llusgrwyd sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r bar danheddog ac y mae'r modrwyau bol yn hongian wrtho; (c) bar danheddog yw'r bar ac arno ddannedd sydd â'u pennau'n pwyntio i lawr ac y bwriedir iddynt gyffwrdd â gwely'r môr pan yw'r llusgrwyd yn weithredol; (ch) maint dant yw mwyafswm ei led wedi'i fesur yng nghyfeiriad llinell y bar danheddog.
(4) Nid yw modrwyau bol a'r teclynnau sy'n eu cysylltu â'i gilydd ac â'r ffrâm i'w hystyried fel atodiadau at ddibenion paragraff (1)(c).
(ii) caiff fynnu bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn dangos unrhyw ddogfen sydd yng ngwarchodaeth neu ym meddiant y person hwnnw, ac sy'n ymwneud â'r cwch, â'i weithrediadau pysgota neu â gweithrediadau eraill sy'n ategol i hynny, neu â'r personau sydd ar fwrdd y cwch a chaiff gymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath; (iii) at ddibenion canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni tramgwydd o dan y Ddeddf fel y'i darllenir gyda'r Gorchymyn hwn, caiff archwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a mynnu bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sydd ei angen, yn nhyb y swyddog, i hwyluso'r archwiliad; (iv) os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd o'r fath wedi ei gyflawni mewn cysylltiad â'r cwch, yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath, a gyflwynir neu a ddarganfyddir ar y cwch, at ddibenion galluogi'r ddogfen i gael ei defnyddio'n dystiolaeth mewn achos sy'n ymwneud â'r tramgwydd;
(4) Nid oes dim ym mharagraff (3)(iv) yn caniatáu i unrhyw ddogfen, y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, gael ei chipio a'i chadw ac eithrio tra bydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.
(b) cadw'r cwch yn y porthladd, neu fynnu bod y meistr yn ei gadw yno;
a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch neu yn ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn cael ei gadw, rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y caiff y cwch ei gadw neu ei bod yn ofynnol ei gadw hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn sydd yn gymwys o ran Cymru, yn rheoleiddio pysgota am gregyn bylchog yn "nyfroedd Cymru". Ar gyfer pwrpasau y Gorchymyn hwn diffinir "dyfroedd Cymru" fel yr ardaloedd morwrol sydd o fewn Cymru fel y diffinir gan adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Mae Erthygl 3 y Gorchymyn hwn yn cyfyngu ar y nifer o lusgrwydi cregyn bylchog y caiff cychod pysgota Prydeinig eu tynnu. Mae Erthygl 4 yn pennu y cyfyngiadau ar hyd barau tynnu y gellir eu cario neu eu defnyddio gan gychod pysgota Prydeinig. Mae Erthygl 5 yn pennu manyleb y llusgrwydi cregyn bylchog y caniateir eu cario neu eu tynnu. Mae Erthygl 6 yn pennu beth fydd isafswm maint y gragen fylchog y caniateir i gwch pysgota Prydeinig ei chario, a hefyd yn darparu ar gyfer tymor caeëdig mewn perthynas â physgota cregyn bylchog, sef y cyfnod sydd yn dechrau fel yn 2005 ar 30 Mehefin, ac ymhob un o'r blynyddoedd dilynol ar 1 Mehefin, gan ddod i ben ar 31 Hydref. Mae Erthygl 7 yn darparu y dull y mae cregyn bylchog i gael eu mesur ar gyfer pwrpasau Erthygl 6. Mae Erthygl 8 yn darparu bod gan swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig bwerau penodol i fynd ar fwrdd cychod pysgota Prydeinig, i'w harchwilio a'u cadw ac i archwilio, copïo a chadw dogfennau. Mae Erthygl 9 yn dirymu Gorchymyn Cregyn Bylchog Rhy Fach eu Maint (yr Arfordir Gorllewinol) 1984, Gorchymyn Cregyn Bylchog (Môr Iwerddon) (Gwahardd Pysgota) 1984 a Gorchymyn Cregyn Bylchog (Môr Iwerddon) (Gwahardd Pysgota) (Amrywio) 1986 cyn belled â bod y Gorchmynion yma yn gymwys o ran Cymru. Mae Arfarniad Rheoliadol wedi ei baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn a gellir ei archwilio yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Notes: [1] 1967 p.84. Amnewidiwyd adran 1 gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29), adran 19(1) a Deddf Llongau Masnachol 1995 (p.21), Atodlen 13, paragraff 38(a) a Gorchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820), Atodlen 2, paragraff 43(1), (2) a (3). Diwygiwyd adran 3 gan Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p.86), Atodlen 2, paragraff 16(1), Deddf Pysgota Gyda'r Lan (yr Alban) 1984 (p.26), Atodlen 1 ac O.S. 1999/1820, Atodlen 2, paragraff 43(1), (2) a (4). Amnewidiwyd adran 15(3) gan Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77), Atodlen 1, paragraff 38(3) ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p.86), Atodlen 2, paragraff 16(1) ac O.S. 1999/1820, Atodlen 2, paragraff 43(2)(b). Gweler adran 22(2)(a) i gael y diffiniadau o "the Ministers" at ddibenion adran 3 a 15(3); diwygiwyd adran 22(2) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29), adrannau 19(2)(d) a 45(b) a (c) a chan O.S. 1999/1820, Atodlen 2, paragraff 43(12).back [2] Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) trosglwyddwyd y swyddogaethau a oedd yn arferadwy o dan adrannau 1, 3, 5, 15(3) a 20 o Ddeddf 1967 i'r Cynulliad Cenedlaethol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru (sydd, yn ôl y diffiniad yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), yn cynnwys "y môr yn gyfagos â Chymru ac allan i'r môr hyd at ffin y môr tiriogaethol").back [6] OJ Rhif L125, 27.4.1998, t.1.back [7] OJ Rhif L097, 1.4..2004, t.30.back
ISBN 0 11 091158 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 5 July 2005 |