Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005, ISBN 0110911555. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(2), 17(1) a (2), 26(1)(a) a (3), 31a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2] ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 24 Mehefin 2005. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn —
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Erthygl â Rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn Rheoliad 1935/2004. Gorfodi Rheoliad 1935/2004 4. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthygl 27 (trefniadau trosiannol), bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Rheoliad 1935/2004 yn euog o dramgwydd —
(b) Erthygl 4 (gofynion penodedig ar gyfer deunyddiau ac eitemau adweithiol a deallus); (c) Erthygl 11(4) a (5) (darpariaethau sy'n ymwneud ag awdurdodiad y Gymuned); (ch) Erthygl 15(1), (2), (3), (4), (7) ac (8) (labelu); (d) Erthygl 16(1) (datganiad o gydymffurfio); (dd) ar neu ar ôl 27 Hydref 2006, Erthygl 17(2) (gallu olrhain).
Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1935/2004
(b) o ran Eitemau 16(1) a 17(2), yr Asiantaeth a'r awdurdod sy'n gyfrifol am orfodi yn unol â rheoliad 12(1).
Terfynau a therfynau ymfudiad 6. —(1) O ran deunyddiau ac eitemau a weithgynhyrchir gan bolymerau finyl clorid neu gopolymerau —
(b) rhaid iddynt gael eu gweithgynhyrchu yn y fath fodd nad ydynt yn trosglwyddo i fwydydd y maent mewn cysylltiad â hwy unrhyw fesur o finyl clorid sy'n fwy na 0.01 miligram o finyl clorid y cilogram o fwyd fel y'i mesurir drwy'r dull dadansoddi a bennir yn rheoliad 7(2).
(2) Ni chaiff neb —
(b) mewnforio; neu (c) defnyddio wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd,
unrhyw ddeunydd neu eitem o'r fath nad yw'n cydymffurfio â'r rheoliad hwn. Rheolaethau a therfynau 8. —(1) Mae'r Rhan hon yn gymwys i ffilm seliwlos a adfywiwyd —
(b) sy'n rhan o gynnyrch gorffenedig sy'n cynnwys deunyddiau eraill,
ac y bwriedir iddi ddod i gysylltiad â bwyd, neu wrth ei defnyddio i'r diben hwnnw ei bod yn dod i gysylltiad â bwyd.
(ii) ffilm â chaenen os yw'r gaenen yn deillio o seliwlos;
(b) yng ngholofn gyntaf Rhan Gyntaf Atodiad II yn achos ffilm sydd i gael caenen, os ffurfir y gaenen o blastigau;
onid yw'n unol â'r amodau a'r cyfyngiadau a bennir yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn o'r Rhan briodol o Atodiad II, fel y'i darllenir gyda'r rhaglith i'r Atodiad hwnnw.
(b) mewnforio; neu (c) defnyddio wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd,
unrhyw ffilm seliwlos a adfywiwyd a weithgynhyrchwyd yn groes i ofynion paragraff (3) neu (4), neu sy'n methu cydymffurfio â pharagraff (8).
(b) unrhyw ffilm seliwlos a adfywiwyd yn y fath fodd y bydd unrhyw wyneb printiedig o'r ffilm honno'n dod i gysylltiad â'r bwyd.
(8) Rhaid i ddatganiad ysgrifenedig sy'n tystio ei fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth sy'n gymwys ar ei gyfer fynd gydag unrhyw ddeunydd neu eitem a wnaed o ffilm seliwlos a adfywiwyd yn y cyfnod marchnata ac eithrio'r cyfnod adwerthu, onis bwriedir iddo yn amlwg yn ôl ei natur ddod i gysylltiad â bwyd.
(b) sydd â'r gallu i drosglwyddo ei chyfansoddion i fwyd mewn mesurau sy'n fwy na therfyn ymfudiad cyffredinol o 10 miligram y decimetr sgwâr o wyneb y deunydd neu'r eitem mewn cysylltiad â bwyd.
(2) Yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem a wnaed gyda ffilm seliwlos a adfywiwyd gyda chaenen o blastigau —
(b) y gellir ei llenwi a'i bod yn anymarferol i amcangyfrif arwynebedd yr wyneb mewn cysylltiad â bwyd; neu (c) sy'n gap, gasged, caead neu ddyfais debyg ar gyfer selio,
y terfyn ymfudiad cyffredinol fydd 60 miligram o gyfansoddion a drosglwyddir y cilogram o fwyd.
(b) sydd â'r gallu i drosglwyddo eu cyfansoddion i fwyd mewn mesurau sy'n fwy na'r terfynau ymfudiad penodol a nodir yng ngholofn 4 o'r Rhan honno fel y'i darllenir gyda Rhan II o'r Atodlen honno.
(4) Os mynegir y terfyn ymfudiad ar gyfer sylwedd a grybwyllir ym mharagraff (3) mewn miligramau y cilogram, yn achos ffilm seliwlos a adfywiwyd gyda chaenen o blastigau —
(b) na ellir ei llenwi neu ei bod yn anymarferol i amcangyfrif y berthynas rhwng arwynebedd wyneb y ffilm a mesur y bwyd mewn cysylltiad â hi,
rhaid rhannu'r terfyn ymfudiad gan y ffactor trosi 6 er mwyn ei fynegi mewn miligramau o gyfansoddion a drosglwyddwyd fesul decimetr sgwâr o'r deunydd neu'r eitem mewn cysylltiad â bwyd.
(b) na fyddai'r weithred sy'n gwneud y tramgwydd wedi gwneud tramgwydd o dan Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987 yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(3) Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i brofi y bwriadwyd y deunydd neu'r eitem yr honnir bod tramgwydd wedi'i gyflawni yn ei gylch neu yn ei chylch ar gyfer ei allforio neu ei hallforio i wlad y mae ganddi ddeddfwriaeth gydweddol i'r Rheoliadau hyn a bod y deunydd neu'r eitem yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno. Tramgwyddau a chosbau 11. —(1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau rheoliad 6(2), 8(3), (4), (6) neu (7), neu 9(1) neu (3) yn euog o dramgwydd. (2) Bydd unrhyw berson sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) neu o dan reoliad 4 yn agored —
(b) ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na chwe mis, neu'r ddau.
Gorfodi
(b) y Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i'r Asiantaeth hefyd weithredu a gorfodi darpariaethau Erthyglau 16(1) a 17(2).
(b) bod unrhyw fwyd a fu mewn cysylltiad ag unrhyw ddeunydd neu eitem o'r fath,
yn cael eu hanfon at Fferyllydd y Llywodraeth a fydd yn cyflawni'r profion hynny y mae'n barnu eu bod yn briodol a throsglwyddo tystysgrif o'r canlyniad i'r llys, a thelir costau'r profion hynny gan yr erlynydd neu gan y person a gyhuddwyd yn ôl gorchmyniad y llys.
(b) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall); (c) adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy) gyda'r addasiad y bernir yn is-adran (4) bod y cyfeiriadau at "sale" yn cynnwys cyfeiriadau at "placing on the market"; (ch) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol); (d) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3) isod; (dd) adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3) isod; (e) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); (f) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Sgotaidd).
(2) Wrth gymhwyso adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad) at ddibenion y Rheoliadau hyn, dehonglir y cyfeiriadau yn is-adran (1) i'r Ddeddf fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at Reoliad 1935/2004.
(b) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion); (c) adran 33(2) gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (b); (ch) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n ymddwyn yn ddidwyll).
(4) Mae adran 34 o'r Ddeddf (terfyn amser ar gyfer erlyn) yn gymwys i dramgwyddau o dan y Rheoliadau hyn fel y mae'n gymwys i dramgwyddau y gellir eu cosbi o dan adran 35(2) o'r Ddeddf.
(b) ar ôl y diffiniad o "the 1992 Regulations" mewnosoder y diffiniad canlynol —
(3) Ym mharagraff (1)(b) o reoliad 6 (dull o brofi gallu deunyddiau neu eitemau plastig i drosglwyddo cyfansoddion a dulliau dadansoddi) yn lle "regulation 14(2) of the 1987 Regulations" rhodder "regulation 7(2) of the 2005 Regulations".
12. —(1) The following provisions of the Act shall apply for the purposes of these Regulations as they apply for the purposes of the Act —
(b) section 30(8) (relating to documentary evidence); (c) section 44 (protection of officers acting in good faith).
(2) Regulation 13 of the 2005 Regulations shall apply in relation to proceedings taken under these Regulations as it does to proceedings taken under those Regulations.".
Dirymiadau
(b) Rheoliad 3 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Allforio) 1991[14]; (c) Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) 1994[15].
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987 (O.S. 1987/1523, fel y'i diwygiwyd) ("Rheoliadau 1987") i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, ac yn ailddeddfu neu'n ailddeddfu gyda diwygiadau ddarpariaethau penodol a geir yn y Rheoliadau hynny. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac yn diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC ("Rheoliad 1935/2004"). 2. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddeunyddiau neu eitemau y tu allan i gwmpas Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 3). Y deunyddiau a ddynodir yn y Rheoliad hwnnw fel rhai sydd y tu allan i'w gwmpas yw deunyddiau ac eitemau a gyflenwir fel hynafolion, deunyddiau sy'n orchudd neu'n gaenen ac sy'n ffurfio rhan o'r bwyd ac y gellir eu bwyta gyda'r bwyd, a chyfarpar sefydlog cyhoeddus neu breifat i gyflenwi dŵr. 3. Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gorfodi Rheoliad 1935/2004, (rheoliad 4). Mae Rheoliad 1935/2004 yn Rheoliad fframwaith ar ddeunyddiau ac eitemau mewn cysylltiad â bwyd, ac mae'n disodli Cyfarwyddebau 80/590/EEC ac 89/109/EEC, a weithredwyd gan Reoliadau 1987. Mae'r Rhan hon hefyd yn darparu ar gyfer dynodi'r awdurdodau cymwys at yr amrywiol ddibenion a ddynodir yn Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 5). 4. Mae Rhan 3 yn cynnwys rheoliadau sy'n ailddeddfu, heb ddiwygio'n sylweddol, ddarpariaethau Rheoliadau 1987 sy'n ymwneud â finyl clorid (rheoliadau 6 & 7). 5. Mae Rhan 4 yn cynnwys rheoliadau sy'n ailddeddfu darpariaethau Rheoliadau 1987 sy'n ymwneud â ffilm seliwlos a adfywiwyd ("RCF"), fel y'i diwygiwyd yn ôl yr angen i weithredu gofynion Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 93/10/EC (rheoliadau 8 & 9). 6. Yn benodol mae rheoliad 8 o'r Rheoliadau hyn —
(b) yn rheoleiddio pa sylweddau y ceir eu defnyddio i weithgynhyrchu caenennau plastig ar gyfer RCF, ac o dan ba amodau (paragraff (4)); (c) yn creu rhanddirymiad amodol o baragraff (3) o ran sylweddau y ceir eu defnyddio fel lliwyddion neu ludyddion wrth weithgynhyrchu RCF heb gaenen blastig (paragraff (5)); (ch) yn creu tramgwyddau o ran gwerthu, mewnforio neu ddefnydd busnes o RCF nad yw'n cydymffurfio â'r rheoliadau (paragraffau (6) & (7)); a (d) yn creu gofyniad amodol bod datganiad o gydymffurfedd deddfwriaethol gyda'r RCF pan gaiff ei marchnata cyn y cyfnod adwerthu (paragraff (8)).
7.
Mae rheoliad 9 yn cymhwyso i RCF â chaenen blastig y rheolaethau sy'n bodoli (sy'n deillio o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72 ac a weithredwyd gan Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998, O.S. 1998/1376 fel y'i diwygiwyd) ar ymfudiad o gyfansoddion o ddeunyddiau ac eitemau plastig i fwyd, yn benodol drwy —
(b) cymhwyso i RCF â chaenen blastig y terfynau ymfudiad penodedig sy'n gymwys i sylweddau penodol a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu deunyddiau ac eitemau plastig (paragraffau (3) & (4)); ac (c) cymhwyso'r dulliau a'r gweithdrefnau a ragnodwyd ar gyfer archwilio cydymffurfedd â therfynau ymfudiad (paragraffau (5) & (6)).
8.
Mae rheoliad 10 yn cynnwys arbedion a darpariaethau trosiannol —
(b) sy'n creu amddiffyniad o ran RCF a weithgynhyrchwyd yn y Gymuned Ewropeaidd neu a fewnforiwyd iddi cyn 29 Ionawr 2006; (c) sy'n darparu amddiffyniad o ran allforion.
9.
Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau gweinyddol a gorfodi cyffredinol —
(b) sy'n dynodi awdurdodau gorfodi (rheoliad 12); (c) sy'n darparu y caiff y llysoedd gyfarwyddo y dylid cyflwyno sylweddau i Fferyllydd y Llywodraeth er mwyn eu dadansoddi (rheoliad 13); (ch) sy'n cymhwyso darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 14). (d) sy'n gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998 (O.S. 1998/1376, fel y'i diwygiwyd) (rheoliad 15); (dd) sy'n dirymu Rheoliadau 1987 a deddfwriaeth ddiwygio ddilynol (rheoliad 16).
10.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC wedi cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Southgate House, Stryd Wood, Caerdydd CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p. 16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990.back [2] Mae'r swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Ministers" (sef, o ran Cymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol a oedd yn eu trefn yn ymwneud ag iechyd yn Lloegr a bwyd a iechyd yng Nghymru ac, o ran yr Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol) bellach yn arferadwy o ran Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28) ac mae paragraffau 12 a 21 o'r Atodlen honno yn diwygio yn eu trefn adrannau 17(2) a 48 o Ddeddf 1990. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan Reoliadau Deddf Diogelwch Bwyd (Diwygio) 2004 (O.S. 2004/2990). Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999 a throsglwyddwyd y swyddogaethau hynny, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran yr Alban, i Weinidogion yr Alban gan adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (1998 p. 46) fel y'i darllenir gydag adran 40(2) o Ddeddf 1999.back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back [4] OJ Rhif L93, 17.4.93, t.27, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC (OJ Rhif L27, 30.1.2004, t.48).back [5] OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/19/EC (OJ Rhif L71, 10.3.2004, t.8).back [6] OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4.back [7] O.S. 1998/1376, fel y'i diwygiwyd o ran Cymru gan O.S. 2000/3162, O.S. 2002/2364, O.S. 2004/3113 ac O.S. 2005/325.back [8] OJ Rhif L213, 16.8.90, t.42.back [9] OJ Rhif L167, 24.6.81, t.6.back [10] O.S. 1987/1523, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/1476 ac O.S. 1994/979.back [11] O.S. 2005/1647 (Cy.128).back [12] OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4.back
ISBN 0 11 091155 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 28 June 2005 |