Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2005, ISBN 0110911539. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 38, 78(1), 83A and 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2005. (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Mehefin 2005. (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. (4) Yn y Rheoliadau hyn—
Diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986
(b) yn lle "£17.82" rhodder "£18.39".
Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997
(b) ym mharagraff (3), yn lle "£12.10" rhodder "£12.40".
Diwygio'r Atodlenni i Reoliadau 1997
(2) Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1997 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectol fach a sbectol arbennig, a theclynnau cymhleth) —
(b) ym mharagraff 1(1)(b) yn lle "£12.50" rhodder "£12.80"; (c) ym mharagraff 1(1)(c), yn lle "£3.50" rhodder "£3.60"; (ch) ym mharagraff 1(1)(d), yn lle "£4.00" rhodder "£4.10"; (d) ym mharagraff 1(1)(e), yn lle "£52.80", "£46.80" a "£25.40" rhodder "£54.10", "£48.00" a "£26.00" yn eu trefn; (dd) ym mharagraff 1(1)(g), yn lle "£52.80" rhodder "£54.10"; (e) ym mharagraff 2(a), yn lle "£12.10" rhodder "£12.40"; ac (f) ym mharagraff 2(b), yn lle "£30.50" rhodder "£31.30".
(3) Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau — trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("Rheoliadau 1997") a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 ("Rheoliadau 1986"). Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefnu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986 er mwyn cynyddu'r swm a ddefnyddir fel sail ar gyfer cyfrifo hawl i brawf golwg di-dâl o dan y Rheoliadau hynny. Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau sydd i'w gwneud drwy gyfrwng system dalebau o ran costau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol. Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 1 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu ffi prawf golwg y GIG. Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu'r swm a ddefnyddir fel sail ar gyfer cyfrifo hawl am gyfraniad tuag at gost teclyn optegol o dan y Rheoliadau hynny. Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth adbrynu taleb a ddyroddir tuag at y gost o ailosod un lens gyffwrdd, a chynyddu mwyafswm y cyfraniad drwy daleb at gost trwsio ffrâm sbectol. Mae rheoliad 6 a'r Atodlen yn diwygio Atodlenni Rheoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth talebau a ddyroddir tuag at gostau cyflenwi ac ailosod sbectol a lensys cyffwrdd, cynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a chategorïau arbennig o declynnau a chynyddu gwerth y talebau a ddyroddir at drwsio ac ailosod teclynnau optegol. Tua 2.5% yw graddfa'r cynnydd yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn. Notes: [1] 1977 p.49. Diwygiwyd Adran 38 gan adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) a pharagraff 51 o Atodlen 1 iddi, adran 1(3) o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("y Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol"), erthygl 7(11) o O.S. 1985/39, adran 13(1) o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) ("y Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau"), paragraff 27 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("y Ddeddf Awdurdodau Iechyd"). Diwygiwyd adran 78(1) gan adran 25 o'r Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau ac Atodlen 3 iddi. Mewnosodwyd adran 83A gan adran 14(1) o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 6 o Atodlen 2 i'r Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau, gan baragraff 18(5) o Atodlen 9 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p.19) ("Deddf 1990") a chan baragraff 40 o Atodlen 1 i'r Ddeddf Awdurdodau Iechyd. Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990, a chan adran 65(1) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) a paragraffau 37(1) a (6) o Atodlen 4 iddi ("Deddf 1999"), gan adran 67(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15) a paragraffau 5 a 13 o Atodlen 5 iddi, gan adran 6(3)(c) a 37(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), a chan adrannau 184 a 196 o Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43) a pharagraffau 7 a 38 o Atodlen 11 iddi a Rhan 4 o Atodlen 14 iddi. Amnewidiwyd paragraff 2(1) o Atodlen 12 gan baragraff 8 o Atodlen 2 i'r Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau. Mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Atodlen 1, paragraff 3 o'r Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol a'i ddiwygio gan adran 13(2) a (3) o'r Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y pwerau a grybwyllir uchod i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672), fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back [2] O.S. 1997/818; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/499, 1999/609 a 2841 (Cy.21), 2000/978 (Cy.48), 2001/1362 (Cy.90), 1423 (Cy.98) a 3323 (Cy.276), 2003/301 (Cy.43) a 955 (Cy.129), 2004/1014 (Cy.111), 1659 (Cy.171) a 1042 (Cy.124).back [3] O.S. 1986/975; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/693 a 2841 (Cy.21), 2001/1362 (Cy.90), 1423 (Cy.98) a 3323 (Cy.276), 2002/1883 (Cy.192), 2003/955 (Cy.129) a 837 (Cy.106), 2004/1014 (Cy.111) a 1042 (Cy.124).back
ISBN 0 11 091153 9
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 21 June 2005 |