Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2005, ISBN 0110911520. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), (17)(1) a (2), 26(1)(a), (2)(e) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], ac a freiniwyd ynddo bellach[2], wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno at gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], yn gwneud y rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2005 sy'n dod i rym ar 30 Mehefin 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru. Diwygio Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005 2. Diwygier Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005[4] fel a ganlyn —
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys o ran Cymru, ac sy'n diwygio Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/364 (Cy.31)) ("y prif Reoliadau"), yn darparu ar gyfer gorfodi gofynion —
(b) Rheoliad Comisiwn (EC) Rhif 683/2004 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 o ran afflatocsinau ac ocratocsin A mewn bwydydd i fabanod a phlant ifanc.
2.
Paratowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Rheoliadau'r Comisiwn y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 1 uchod yn cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p.16.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.).back [4] O.S. 2005/364 (Cy.31).back [5] OJ Rhif L104, 8.4.2004, t.48.back [6] OJ Rhif L106, 15.4.2004, t.3.back
ISBN 0 11 091152 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 21 June 2005 |