Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005, ISBN 0110911512. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2], ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3] yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. O ran y Rheoliadau hyn —
(b) deuant i rym ar 24 Mehefin 2005; ac (c) maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995
(3) Yn rheoliad 13 (darpariaeth drosiannol ac esemptiad) ar ôl paragraff (1) mewnosoder y paragraff canlynol —
(b) the matter constituting the offence would not have constituted an offence under these Regulations as they stood immediately before the coming into force of the Colours in Food (Amendment) (Wales) Regulations 2005.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/47/EC[9] sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/45/EC[10]. Maent yn gwneud hynny drwy ddiwygio ymhellach Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995[11]. Mae'r Rheoliadau yn—
(b) mewnosod darpariaeth amddiffyn drosiannol ar gyfer cynhyrchion a roddwyd ar y farchnad neu a labelwyd cyn 1 Ebrill 2005 sydd fel arall yn cydymffurfio â Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995, er mwyn caniatáu i stociau cyfredol gael eu dihysbyddu (rheoliad 2(3)).
Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau o'r ddogfen hon oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p.16back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4). Yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Diwygio) 2004 (O.S. Rhif 2004/2990), gydag effaith o 7 Rhagfyr 2004 ymlaen datgymhwysir y gofyniad i ymgynghori a geir yn adran 48(4) o Ddeddf 1990 mewn unrhyw achos pan fo ymgynghori yn ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002.back [4] O.S. 1995/3124, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2000/1799 (Cy.124) ac O.S. 2001/3909 (Cy.321).back [5] Diwygiwyd y diffiniad o "Directive 95/45/EC" gan O.S. 2000/1799 (Cy.124) ac O.S. 2001/3909 (Cy.321).back [6] Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/50/EC 3 Gorffennaf 2001 sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/45/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol sy'n ymwneud â lliwiau sydd i'w defnyddio mewn deunyddiau bwyd (OJ Rhif L190, 12.7.2001, t.14).back [7] Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/47/EC 16 Ebrill 2004 sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/45/EC o ran carotenau cymysg (E160 a (i)) a beta-caroten (E160 a (ii)) (OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.24).back [9] OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.24.back [10] Cyfarwyddeb y Comisiwn 95/45/EC 26 Gorffennaf 1995 sy'n pennu meini prawf purdeb penodol sy'n ymwneud â lliwiau sydd i'w defnyddio mewn deunyddiau bwyd (OJ Rhif L226, 22.9.1995, t.1).back [11] O.S. 1995/3124, y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2000/1799 (Cy.124) ac O.S. 2001/3909 (Cy.321).back
ISBN 0 11 091151 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 21 June 2005 |