Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005, ISBN 0110911504. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(6)(b), 9(1)(b) a (3), 10(1), (3) a (4) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 [1] ac adrannau 22, 25(1), 34(1), 35(1) a 118(7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 [2] a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ar ôl ymgynghori â'r personau hynny y mae'n barnu eu bod yn briodol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a dehongli 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. (3) Yn y Rheoliadau hyn -
(b) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi lleoli plentyn gydag ef i'w fabwysiadu; (c) sydd wedi hysbysu, o dan adran 44 o Ddeddf 2002, o'i fwriad i wneud cais am orchymyn mabwysiadu am blentyn; (ch) sydd wedi mabwysiadu plentyn; neu (d) sydd wedi mabwysiadu plentyn sydd wedi cyrraedd 18 oed ar ôl hynny;
ond nid yw'n cynnwys person sy'n llys-riant neu'n rhiant naturiol i'r plentyn, neu a oedd yn llys-riant y plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn.
(b) unrhyw berson y mae gan y plentyn mabwysiadol berthynas ag ef a honno'n berthynas sydd ym marn yr awdurdod lleol yn fanteisiol i les y plentyn o ystyried y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (i) i (iii) o adran 1(4)(f) o Ddeddf 2002;
(b) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi'i leoli i'w fabwysiadu; neu (c) sydd wedi'i fabwysiadu ar ôl cael ei leoli i'w fabwysiadu gan asiantaeth fabwysiadu;
(ii) yn berson nad yw'n rhiant naturiol nac yn llys-riant i'r plentyn; neu
(b) sydd wedi'i fabwysiadu gan berson -
(ii) nad oedd yn llys-riant y plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn
ond nad yw'n cynnwys plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth;
(5) Yn y Rheoliadau hyn -
(b) mae unrhyw gyfeiriad at riant mabwysiadol plentyn yn gyfeiriad at berson sy'n rhiant mabwysiadol o ran y plentyn hwnnw; (c) mae cyfeiriadau (heblaw cyfeiriadau yn yr is-baragraff hwn) at blentyn sy'n cael ei leoli i'w fabwysiadu -
(ii) yn cynnwys, pan fo'r plentyn wedi'i leoli gyda pherson gan asiantaeth fabwysiadu, gadael y plentyn gyda'r person hwnnw fel darpar fabwysiadydd;
(ch) mae unrhyw gyfeiriad at gyflogi person yn cynnwys cyflogi person boed am dâl neu beidio, a ph'un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, a chaniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr, a rhaid dehongli cyfeiriadau at gyflogai neu at berson sy'n cael ei gyflogi yn unol â hynny.
Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu
(b) gwasanaethau y gellir eu darparu mewn cysylltiad ag anghenion therapiwtig y plentyn o ran y mabwysiadu hwnnw; (c) cymorth er mwyn sicrhau bod y berthynas rhwng y plentyn a'r rhiant mabwysiadol yn parhau, gan gynnwys hyfforddiant i rieni mabwysiadol er mwyn diwallu unrhyw anghenion arbennig sydd gan y plentyn ac sy'n codi o'r mabwysiad hwnnw; (ch) cymorth pan fo tarfu ar drefniant mabwysiadu neu leoliad mabwysiadu wedi digwydd neu mewn perygl o ddigwydd, gan gynnwys:
(ii) trefnu a rhedeg cyfarfodydd i drafod achosion tarfu ar fabwysiadu neu leoli;
(d) cymorth i bersonau a fabwysiadwyd ac sydd wedi cyrraedd 18 oed i gael gwybodaeth ynglyn â'u mabwysiad neu i hwyluso cyswllt rhwng y personau hynny a'u perthnasau;
(3) At ddibenion Rheoliadau 2(2)(d) neu (dd) ystyr 'perthynas' yw unrhyw berson a fyddai, oni bai am ei fabwysiad, yn perthyn drwy waed, gan gynnwys hanner gwaed neu briodas, i'r person a fabwysiadwyd.
(b) unrhyw berson sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth neu sy'n gweithredu ar ran plentyn sy'n cael gwasanaethau o'r fath gan yr asiantaeth; (c) unrhyw berson sy'n holi ar ei ran ei hun neu ar ran plentyn am gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth; (ch) unrhyw awdurdod lleol.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig, o ran asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu i blant, gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r asiantaeth (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "yr arweiniad plant") a rhaid iddo gynnwys -
(b) crynodeb o'r weithdrefn gwynion a sefydlwyd o dan reoliad 19(1); ac (c) cyfeiriad a Rhif ffôn yr awdurdod cofrestru.
(5) Rhaid i'r arweiniad plant gael ei gynhyrchu ar ffurf sy'n briodol i oedran, dealltwriaeth ac anghenion cyfathrebu'r plant y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu iddynt.
(b) unrhyw amodau sydd mewn grym am y tro o ran cofrestru'r darparydd cofrestredig o dan Ran 2 o Ddeddf 2000.
Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant
(b) hysbysu'r awdurdod cofrestru o unrhyw adolygiad o'r fath o fewn 28 o ddiwrnodau; ac (c) os adolygir yr arweiniad plant, darparu copi i bob oedolyn sy'n gweithredu ar ran plentyn y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu iddo ac (yn dibynnu ar ei oedran a'i ddealltwriaeth) i bob plentyn o'r fath.
Ffitrwydd y darparydd cofrestredig 5. - (1) Rhaid i gorff beidio â rhedeg asiantaeth oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny. (2) Nid yw corff yn ffit i redeg asiantaeth -
(b) oni bai bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).
(3) Y gofynion yw -
(b) ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg yr asiantaeth; ac (c) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglyn â'r person o ran pob un o'r materion a bennir yn Atodlen 2.
Penodi rheolwr
(b) y dyddiad y daw'r penodiad yn effeithiol.
Ffitrwydd y rheolwr
(b) o ystyried maint yr asiantaeth a datganiad o ddiben yr asiantaeth -
(ii) bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli'r asiantaeth; ac
(c) bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael ynglyn â'r person o ran pob un o'r materion a bennir yn Atodlen 2.
Y person cofrestredig - gofynion cyffredinol
(b) yr angen i ddiogelu a hyrwyddo lles y rhai sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth,
redeg neu reoli'r asiantaeth â gofal, cymhwysedd a sgil digonol.
(b) y tramgwydd y mae wedi'i gollfarnu ohoni; (c) y gosb a osodwyd am y tramgwydd.
Cymhwysiad y darpariaethau 10. Dim ond i asiantaethau sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu o dan reoliadau 2(2)(d) neu (dd) y mae'r darpariaethau canlynol a gynhwysir yn y Rhan hon yn gymwys. Dim rhwymedigaeth i fwrw ymlaen os nad yw'n briodol 11. - (1) Nid yw'n ofynnol i asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu o dan reoliadau 2(2)(d) neu (dd) ddechrau darparu gwasanaethau o'r fath, neu ar ôl iddi ddechrau darparu'r gwasanaethau hynny, nid yw'n ofynnol iddi barhau i'w darparu os yw'r asiantaeth o'r farn na fyddai'n briodol iddi wneud hynny. (2) Wrth benderfynu a yw'n briodol iddi ddarparu'r gwasanaethau hynny (neu ddechrau darparu'r gwasanaethau o'r fath), rhaid i'r asiantaeth roi sylw i'r canlynol:
(b) lles y perthynas sy'n gofyn am y gwasanaeth; (c) unrhyw feto a gofnodwyd o dan reoliad 13; (ch) unrhyw wybodaeth a ddelir gan y Cofrestrydd Cyffredinol ar y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu;
a holl amgylchiadau eraill yr achos.
(b) oni chydymffurfir â darpariaethau paragraff (4).
(4) Rhaid i asiantaeth beidio â bwrw ymlaen â darparu gwasanaethau o'r math y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3) oni bai -
(b) bod naill ai
(ii) unrhyw ddymuniadau neu deimladau gan blentyn nad yw'n gymwys wedi'u cymryd i ystyriaeth.
Cydsyniad y gwrthrych â datgeliad etc
(b) os perthynas i'r person a fabwysiadwyd yw'r gwrthrych; ac (c) os yw'r person hwnnw wedi hysbysu'r asiantaeth yn ysgrifenedig -
(ii) mai dim ond o dan amgylchiadau penodedig neu gan bersonau penodedig y mae'n dymuno cael cyswllt.
(2) Pan fo'r asiantaeth yn cael ei hysbysu o feto o dan baragraff (1), rhaid iddi gadw cofnod ohono.
(b) yn wrthrych cais o'r fath ac sy'n ystyried a ddylai gydsynio â datgelu gwybodaeth amdano i'r person a ofynnodd am yr wybodaeth honno.
(2) Rhaid i'r wybodaeth a ddarperir o dan baragraff (1) gynnwys -
(b) y ffioedd y gall y personau hynny eu codi.
(3) Os bydd person a grybwyllir ym mharagraff (1) yn gofyn bod cwnsela yn cael ei ddarparu iddo, rhaid i'r asiantaeth cymorth mabwysiadu sicrhau bod gwasnaethau cwnsela yn cael eu darparu i'r person hwnnw.
(b) gyda pherson sy'n darparu gwasanaethau o'r fath o dan gontract i ddarparydd cofrestredig.
(5) Pan fo gwrthrych cais yn dewis peidio â manteisio ar wasanaeth cwnsela y mae ffi yn daladwy amdano, rhaid i'r asiantaeth cymorth mabwysiadu roi cymorth a chefnogaeth, serch hynny, i'r gwrthrych sy'n gwneud penderfyniad. Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant 16. - (1) Rhaid i'r person cofrestredig, o ran asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig sydd -
(b) yn nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn os bydd unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod.
(2) Rhaid i'r weithdrefn o dan baragraff (1)(b) ddarparu'n benodol ar gyfer -
(b) cofnodion ysgrifenedig sydd i'w cadw am unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod a'r camau a gymerwyd mewn ymateb i hynny; ac (c) trefniadau sydd i'w gwneud ar gyfer personau sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth ac oedolion a phlant y mae'r asiantaeth wedi darparu iddynt wasanaethau cymorth mabwysiadu er mwyn iddynt gael mynediad i wybodaeth a fyddai'n eu galluogi i gysylltu -
(ii) â'r awdurdod cofrestru,
ynghylch unrhyw bryder am les neu ddiogelwch unrhyw blentyn.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr "ymholiadau amddiffyn plant" yw unrhyw ymholiadau sy'n cael eu gwneud gan awdurdod lleol wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau a roddwyd iddo gan neu o dan Ddeddf Plant 1989[7] ynglyn ag amddiffyn plant.
(b) dyddiad geni; (c) a yw'r person:
(ii) yn berson sy'n dymuno mabwysiadu plentyn; (iii) yn berson sydd wedi'i fabwysiadu, ei riant, rhiant naturiol, cyn warcheidwad neu'n berson perthynol;
(ch) disgrifiad o'r gwasanaethau y gofynnwyd amdanynt;
(2) Rhaid i'r cofnodion a bennir ym mharagraff (1) gael eu cadw am o leiaf bymtheg a thrigain o flynyddoedd o ddyddiad y cofnod diwethaf.
(b) na chaiff unrhyw berson sy'n wrthrych cwyn gymryd rhan yn y broses o'i hystyried ac eithrio, os bydd y person cofrestredig yn barnu bod hynny'n briodol, yn ystod cyfnod datrys y gwyn yn anffurfiol yn unig; (c) ar gyfer ymdrin â chwynion am y person cofrestredig; ac (ch) yn achos asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu i blant, bod cwynion i'w gwneud gan berson sy'n gweithredu ar ran plentyn.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r weithdrefn gwynion i bob person sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth ac, os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid iddo ddarparu copi o'r weithdrefn i unrhyw berson a grybwyllir ym mharagraff (1) neu i unrhyw berson sy'n gweithio ar ran plentyn.
(b) manylion y weithdrefn (os oes un) yr hysbyswyd y person cofrestredig ohoni gan yr awdurdod cofrestru ar gyfer gwneud cwynion i'r awdurdod cofrestru sy'n ymwneud â'r asiantaeth.
Cwynion - gofynion pellach
(b) na fydd unrhyw berson yn wrthrych unrhyw ddial gan yr asiantaeth am wneud cwyn.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i'r awdurdod cofrestru, os bydd yr awdurdod yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o unrhyw gwynion a wnaed yn ystod y 12 mis blaenorol a'r camau a gymerwyd mewn ymateb i hynny.
(b) yr angen i ddiogelu a hyrwyddo iechyd a lles y plant y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu iddynt,
y bydd nifer digonol o bersonau gyda chymwysterau, medrau a phrofiad addas yn gweithio at ddibenion yr asiantaeth.
(b) caniatáu i berson sy'n cael ei gyflogi gan berson heblaw'r darparydd cofrestredig weithio at ddibenion yr asiantaeth oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio at ddibenion yr asiantaeth.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio at ddibenion asiantaeth oni bai -
(b) bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd a'r profiad sy'n angenrheidiol i'r gwaith y mae i'w gyflawni; (c) bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i wneud y gwaith y mae i'w gyflawni; ac (ch) bod gwybodaeth lawn a boddhaol ynglŷn â'r person ar gael o ran pob un o'r materion a bennir yn Atodlen 2.
Cyflogi staff
(b) darparu disgrifiad swydd sy'n amlinellu eu cyfrifoldebau i bob cyflogai.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod bob person sy'n cael ei gyflogi gan yr asiantaeth -
(b) yn cael ei alluogi o dro i dro i ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y mae'n ei gyflawni.
Gweithdrefn disgyblu staff
(b) yn darparu bod y methiant ar ran cyflogai i hysbysu person priodol o ddigwyddiad cam-drin, neu ddigwyddiad lle'r amheuir bod plentyn wedi'i gam-drin yn sail ar gyfer cychwyn achos disgyblu.
(2) At ddibenion paragraff (1)(b), mae person priodol yn un o'r canlynol -
(b) un o swyddogion yr awdurdod cofrestru; (c) un o swyddogion yr heddlu; (ch) un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant; a (d) un o swyddogion yr awdurdod lleol y mae'r asiantaeth wedi'i lleoli yn ei ardal.
Cofnodion ynglyn â staff
(b) bod unrhyw gofnodion nad ydynt, am unrhyw reswm, ar y fangre, yn cael eu cadw, serch hynny, o dan amodau diogelwch priodol.
Digwyddiadau hysbysadwy 27. - (1) Os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a restrir yng ngholofn 1 o'r tabl yn Atodlen 4 ("y tabl") yn digwydd mewn cysylltiad ag asiantaeth, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r person a nodir yn ddi-oed ynglyn â'r digwyddiad yng ngholofn 2 o'r tabl. (2) Rhaid cadarnhau yn ysgrifenedig unrhyw hysbysiad sy'n cael ei roi ar lafar yn unol â'r rheoliad hwn o fewn 10 o ddiwrnodau gwaith. (3) Yn y tabl -
(b) o ran plentyn sydd wedi marw neu sydd wedi'i anafu'n ddifrifol wrth gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu, unrhyw awdurdod lleol arall y mae'r asiantaeth yn darparu gwasnaethau cymorth mabwysiadu ar ei ran i'r plentyn hwnnw o dan reoliadau a wnaed o dan adran 3(4)(b) o Ddeddf 2002, (c) ystyr "Bwrdd Iechyd Lleol" ac "Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol" yw'r Bwrdd Iechyd Lleol neu'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol yr oedd y plentyn sydd wedi marw neu sydd wedi'i anafu'n ddifrifol wrth gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn byw yn ei ardal adeg y digwyddiad.
Y sefyllfa ariannol
(b) sicrhau bod cyfrifon digonol yn cael eu cynnal a chadw'n gyfoes ynglyn â'r asiantaeth.
(2) Os bydd yr awdurdod cofrestru yn gofyn amdanynt, rhaid i'r darparydd cofrestredig ddarparu i'r awdurdod cofrestru unrhyw wybodaeth a dogfennau y bydd yn ofynnol i'r awdurdod eu cael er mwyn ystyried hyfywedd ariannol yr asiantaeth, gan gynnwys -
(b) geirda oddi wrth fanc yn mynegi barn ar statws ariannol y darparydd cofrestredig; (c) gwybodaeth am ddull ariannu'r asiantaeth a'i hadnoddau ariannol; (ch) gwybodaeth am unrhyw gwmnïau cysylltiedig y corff; a (d) tystysgrif yswiriant ar gyfer y darparydd cofrestredig o ran unrhyw rwymedigaeth y gallai'r darparydd fynd iddi mewn cysylltiad â'r asiantaeth o ran marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu unrhyw golled arall.
Hysbysu absenoldeb
(b) y rheswm dros yr absenoldeb arfaethedig; (c) y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg yr asiantaeth yn ystod yr absenoldeb hwnnw; (ch) enw, cyfeiriad a chymwysterau'r person a fydd yn gyfrifol am reoli'r asiantaeth yn ystod yr absenoldeb; a (d) y trefniadau sydd wedi'u gwneud neu y bwriedir eu gwneud ar gyfer penodi person arall i reoli'r asiantaeth yn ystod yr absenoldeb, gan gynnwys y dyddiad arfaethedig erbyn pryd y mae'r penodiad i ddechrau.
(3) Pan fo'r absenoldeb yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu o'r absenoldeb o fewn wythnos i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(a) i (d).
(b) bod person yn peidio â rheoli'r asiantaeth; (c) bod enw neu gyfeiriad y darparydd cofrestredig wedi'i newid; (ch) bod unrhyw newid o ran ymddiriedolwr, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg i'r darparydd cofrestredig; (d) bod unrhyw newid i fod o ran pwy yw'r unigolyn cyfrifol; (dd) bod derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro wedi'i benodi o ran y darparydd cofrestredig; neu (e) bod yr asiantaeth yn bwriadu peidio â gweithredu neu fodoli fel y cyfryw.
(2) Rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig ac yn ddi-oed o farwolaeth yr unigolyn cyfrifol neu'r rheolwr cofrestredig.
(b) penodi rheolwr i gymryd gofal amser-llawn o ddydd i ddydd dros yr asiantaeth mewn unrhyw achos lle nad oes unrhyw reolwr; ac (c) heb fod yn hwy nag 20 o ddiwrnodau ar ôl ei benodiad, hysbysu'r awdurdod cofrestru o'i fwriadau ar gyfer gweithredu'r asiantaeth yn y dyfodol.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir -
(b) yn ddatodwr neu'n ddatodwr dros dro i ddarparydd cofrestredig.
Tramgwyddau
(c) yn y diffiniad o "statement of purpose" mewnosoder -
Darpariaethau Trosiannol
(b) os, o fewn y cyfnod hwnnw, y gwneir cais am gael cofrestru, hyd nes y gwaredir y cais hwnnw yn derfynol neu'i dynnu yn ôl.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr 'gwaredu yn derfynol' yw'r dyddiad 28 o ddiwrnodau gwaith ar ôl caniatáu neu wrthod cofrestriad ac, os apelir, y dyddiad pan benderfynir ar yr apêl yn derfynol neu pan roddir y gorau iddo. 1. Nodau ac amcanion yr asiantaeth. 2. Enw a chyfeiriad y darparydd cofrestredig, yr unigolyn cyfrifol a'r rheolwr cofrestredig. 3. Unrhyw amodau sydd mewn grym am y tro o ran cofrestru'r personau cofrestredig o dan Ran 2 o Ddeddf 2000. 4. Cymwysterau a phrofiad perthnasol y rheolwr cofrestredig. 5. Nifer, cymwysterau perthnasol a phrofiad y staff sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth. 6. Strwythur trefniadaethol yr asiantaeth. 7. Disgrifiad o'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig gan yr asiantaeth. 8. Y system sydd wedi'i sefydlu i fonitro a gwerthuso gwaith darparu'r gwasanaethau hynny er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan yr asiantaeth yn effeithiol a bod ansawdd y gwasanaethau hynny o safon briodol. 9. Crynodeb o'r weithdrefn gwynion. 10. Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn yr awdurdod cofrestru. 1. Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar. 2. Naill ai -
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno, ac y mae llai na 3 blynedd wedi mynd heibio mewn cysylltiad â hi ers iddi gael ei dyroddi,
gan gynnwys, i'r graddau a ganiatawyd o dan Ddeddf yr Heddlu 1997 y materion a bennwyd yn adrannau 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno[12]. Cofnod sy'n dangos ar gyfer pob person sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth - 1. Enw llawn. 2. Rhyw. 3. Dyddiad geni. 4. Cyfeiriad cartref. 5. Cymwysterau sy'n berthnasol i weithio gyda phersonau sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu a phrofiad o weithio gyda phersonau o'r fath ac (o ran asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu i blant) cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n cynnwys plant, a phrofiad o waith o'r fath. 6. Y dyddiadau pan fydd y person yn dechrau cael ei gyflogi felly a phan fydd ei gyflogaeth yn dod i ben. 7. A yw'r person yn cael ei gyflogi gan y darparydd cofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, neu a yw'n cael ei gyflogi gan rywun heblaw'r darparydd cofrestredig. 8. Disgrifiad swydd y person ac a yw'n gweithio'n amser llawn neu'n rhan amser a nifer yr oriau y mae'n cael ei gyflogi bob wythnos gan y darparydd cofrestredig neu'n cael ei gontractio bob wythnos i weithio i'r darparydd hwnnw. 9. Yr hyfforddiant y mae'r person wedi ymgymryd ag ef, y gwaith o'i oruchwylio a'i werthuso, y camau disgyblu (os o gwbl) a gymerwyd yn ei erbyn, y cwynion (os o gwbl) a wnaed yn ei erbyn neu ynglŷn â'r person a chanlyniad y cwynion hynny ac unrhyw faterion eraill mewn cysylltiad â'i gyflogaeth at ddibenion yr asiantaeth.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud yn rhannol o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("Deddf 2000") ac yn rhannol o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ("Deddf 2002"). Sefydlodd Deddf 2000 system reoleiddio newydd ar gyfer gwasanaethau gofal yng Nghymru; mae adran 8(3) o Ddeddf 2002 yn diwygio Deddf 2000 ac effaith hynny yw na chaiff person redeg na rheoli asiantaeth cymorth mabwysiadu heb fod wedi'i gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000. Mae Deddf 2002 yn darparu pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, fel yr awdurdod cofrestru, i reoleiddio asiantaethau cymorth mabwysiadu. Bydd rhaid i asiantaeth sy'n gwneud cais i'r awdurdod cofrestru am gael ei chofrestru o dan Ddeddf 2000 ddangos ei bod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r awdurdod cofrestru. Mae adran 2(6) o Ddeddf 2002 yn darparu bod cwnsela, cyngor a gwybodaeth ac unrhyw wasanaethau eraill a ragnodir drwy reoliadau, mewn cysylltiad â mabwysiadu, yn wasanaethau cymorth mabwysiadu. Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi gwasanaethau sy'n wasanaethau cymorth mabwysiadu at ddibenion y rheoliadau hyn. Mae rheoliadau 3 a 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y datganiad o ddiben a'r arweiniad plant. Rhaid bod gan bob asiantaeth cymorth mabwysiadu ddatganiad o ddiben sy'n nodi beth yw nodau ac amcanion yr asiantaeth. Rhaid cadw golwg ar y datganiad o ddiben a'i adolygu pan fo angen. Rhaid i'r asiantaeth gael ei rhedeg mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben. Rhaid i asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau i blant gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r asiantaeth sy'n addas i blant. Mae rheoliadau 5 i 9 yn gwneud darpariaeth ynglyn â'r personau sy'n rhedeg ac yn rheoli asiantaeth cymorth mabwysiadu. Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i asiantaeth enwebu unigolyn cyfrifol i oruchwylio gwaith rheoli'r asiantaeth. Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i reolwr gael ei benodi ar gyfer yr asiantaeth. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer ffitrwydd y rheolwr, yn benodol drwy'r gofyniad bod rhaid sicrhau gwybodaeth foddhaol o ran y materion a bennir yn Atodlen 2 (rheoliad 7). Mae rheoliad 8 yn gosod gofynion cyffredinol o ran rheoli asiantaeth cymorth mabwysiadu yn briodol, a'r angen am hyfforddiant priodol. Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r unigolyn cyfrifol a'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru o gollfarnau. Mae rheoliadau 10 - 15 yn ymdrin â cheisiadau am wasanaethau cymorth mabwysiadu sy'n helpu'r person a fabwysiadwyd neu'r perthynas i gael gwybodaeth neu i hwyluso cyswllt. Nid yw rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth ddarparu gwasanaethau o'r fath pan fernir ei bod yn amhriodol ac mae'n nodi'r ffactorau y dylai'r asiantaeth eu cymryd i ystyriaeth wrth wneud y penderfyniad hwnnw. Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth gael cydsyniad deallus gwrthrych y cais cyn datgelu gwybodaeth amdano a fyddai'n dangos pwy ydyw neu a fyddai'n galluogi'r person sy'n gofyn am yr wybodaeth i olrhain y gwrthrych hwnnw. Mae rheoliad 13 yn galluogi'r person a fabwysiadwyd neu'r perthynas i gofrestru feto gyda'r asiantaeth. Mae rheoliad 14 yn gwneud darpariaeth i wybodaeth gefndir gael ei datgelu pan fo cais am gydsyniad wedi'i wrthod. Mae rheoliad 15 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth ddarparu gwybodaeth am gwnsela a sicrhau gwasanaethau cwnsela o ran ceisiadau am wasanaethau cymorth mabwysiadu o'r fath o dan reoliad 2(d) neu (dd). Rhaid i asiantaethau cymorth mabwysiadu eu hunain roi cymorth a chefnogaeth i berson sy'n wrthrych cais gan berson a fabwysiadwyd neu gan berthynas am wybodaeth neu gyswllt os bydd y person yn dewis peidio â manteisio ar wasanaeth cwnsela. Mae rheoliadau 16 i 26 yn gwneud darpariaeth ynglyn â'r dull o reoli asiantaeth cymorth mabwysiadu, yn benodol ynghylch amddiffyn plant (rheoliad 16), darparu gwasanaeth sy'n briodol i anghenion defnyddiwr (rheoliad 17), cadw cofnodion mewn cysylltiad â gwasanaethau sy'n cael eu darparu (rheoliad 18), cwynion (rheoliadau 19 a 20), staffio (gan gynnwys cadw cofnodion ynglyn â staff) a ffitrwydd y staff a'r fangre (rheoliadau 21 i 26). Mae rheoliad 27 yn darparu bod y darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig i hysbysu'r personau a bennir yn Atodlen 4 o'r digwyddiadau a ddisgrifir yn yr Atodlen honno. Mae rheoliad 28 yn gosod gofynion sy'n ymwneud â sefyllfa ariannol asiantaeth cymorth mabwysiadu. Mae rheoliadau 29 i 31 yn darparu ar gyfer hysbysu'r awdurdod cofrestru a phenodi datodwyr. Mae rheoliad 32 yn darparu ar gyfer tramgwyddau sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau yn y rheoliadau neu ar gyfer methiant i gydymffurfio â'r darpariaethau hynny. Pan fo'r rheoliadau hyn yn gosod gofyniad ar fwy nag un person, a bod un o'r rhai sy'n gorfod bodloni'r gofyniad hwnnw yn gwneud hynny, mae rheoliad 33 yn darparu nad yw'r person arall hefyd yn gorfod bodloni'r gofyniad hwnnw. Mae rheoliad 34 yn diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002. Mae rheoliad 35 yn darparu ynglŷn â'r trefniadau trosiannol ar gyfer cofrestru asiantaethau cymorth mabwysiadu. Notes: [1] 2002 p.38.back [5] O.S. 2005/1313 (Cy.95).back [8] O.S. 2002/919 (Cy.107).back [10] 1997 p.50. Mewnosodwyd adran 115(5)(ea) gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 104 p.14.back [11] Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn gofalu am bersonau o dan 18 oed, yn eu hyfforddi, yn eu goruchwylio, neu os yw'r personau hynny o dan ei ofal ef yn unig.back [12] Mewnosodwyd adrannau 113(3A) a 115(6A) yn Neddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(p.14) a'u diwygio gan adrannau 104, 106 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi.back
ISBN 0 11 091150 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 14 June 2005 |