Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005, ISBN 0110911482. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(6)(b) a (7), 3(3) a (4)(b), 4(1)(b), (5)(b), (6) a (7), 9(1)(a), 140(1), (7) ac (8) a 142(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol - Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(b) unrhyw berson y mae gan y plentyn mabwysiadol berthynas ag ef a honno'n berthynas, ym marn yr awdurdod lleol, sy'n llesol i'r plentyn o ystyried y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (i) i (iii) o adran 1(4)(f) o Ddeddf 2002;
ystyr "person sydd â'r hawl i gael ei asesu" ("person entitled to be assessed") yw person a bennir yn adran 4(1)(a) o Ddeddf 2002 neu yn rheoliad 5(1);
(b) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi'i leoli i'w fabwysiadu; neu (c) a fabwysiadwyd ar ôl cael ei leoli i'w fabwysiadu gan asiantaeth fabwysiadu;
ystyr "plentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth" ("non-agency adoptive child") yw plentyn -
(ii) heb fod yn rhiant naturiol neu'n llys-riant i'r plentyn; neu
(b) a fabwysiadwyd gan berson -
(ii) nad oedd yn llys-riant i'r plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn,
ond nid yw'n cynnwys plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth;
(b) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi lleoli plentyn gydag ef i'w fabwysiadu; (c) sydd wedi rhoi hysbysiad o dan adran 44 o Ddeddf 2002 am ei fwriad i wneud cais am orchymyn mabwysiadu ar gyfer plentyn; neu (ch) sydd wedi mabwysiadu plentyn,
ond nid yw'n cynnwys person os yw'r plentyn y cyfeirir ato wedi peidio â bod yn blentyn, neu berson sy'n llys-riant neu'n rhiant naturiol i'r plentyn, neu berson a oedd yn llys-riant i'r plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn;
(2) Yn y Rheoliadau hyn -
(b) mae unrhyw gyfeiriad at blentyn mabwysiadol person yn gyfeiriad at blentyn sy'n blentyn mabwysiadol mewn perthynas â'r person hwnnw; (c) mae unrhyw gyfeiriad at riant mabwysiadol plentyn yn gyfeiriad at berson sy'n rhiant mabwysiadol mewn perthynas â'r plentyn hwnnw; (ch) mae cyfeiriadau (heblaw cyfeiriadau yn yr is-baragraff hwn) at blentyn yn cael ei leoli, neu'n cael ei leoli i'w fabwysiadu -
(ii) os bydd plentyn sy'n derbyn gofal yn byw gyda pherson, yn cynnwys gadael y plentyn gyda'r person hwnnw fel darpar fabwysiadydd.
(3) Os mewn unrhyw achos -
(b) yn union cyn iddo gyrraedd 18 oed -
(ii) yr oedd cymorth ariannol yn daladwy mewn perthynas ag ef,
bydd y diffiniadau o "plentyn mabwysiadol" a "plentyn", at ddibenion parhau i ddarparu cymorth ariannol ac at ddibenion unrhyw adolygiad o gymorth ariannol, yn effeithiol fel pe na bai'r person hwnnw wedi cyrraedd 18 oed.
Gwasanaethau a ragnodir
(b) gwasanaethau i alluogi grwpiau o blant mabwysiadol, rhieni mabwysiadol a rhieni naturiol plentyn mabwysiadol i drafod materion sy'n ymwneud â mabwysiadu; (c) cymorth i blant mabwysiadol, rhieni mabwysiadol, rhieni naturiol plentyn mabwysiadol a phersonau perthynol o ran trefniadau ar gyfer cyswllt rhwng plentyn mabwysiadol a rhiant naturiol neu berson perthynol y plentyn mabwysiadol; (ch) gwasanaethau y gellir eu darparu ar gyfer teulu mabwysiadol o ran anghenion therapiwtig plentyn mabwysiadol; (d) cymorth er mwyn sicrhau bod y berthynas rhwng y plentyn a'i riant mabwysiadol yn parhau, gan gynnwys -
(ii) gofal seibiant; ac
(dd) cymorth os bydd tarfu ar leoliad mabwysiadu wedi digwydd neu mewn perygl o ddigwydd gan gynnwys -
(iv) trefnu a chynnal cyfarfodydd i drafod tarfu ar leoliadau mabwysiadu.
Personau y mae'n rhaid bod trefniadau yn eu lle ar eu cyfer
(b) i bersonau sy'n dymuno mabwysiadu plentyn; (c) i bersonau wedi'u mabwysiadu, eu rhieni mabwysiadol, eu rhieni naturiol a'u gwarcheidwaid blaenorol; ac (ch) i blant sy'n frodyr a chwiorydd naturiol plentyn mabwysiadol (p'un ai o waed coch cyfan neu o hanner gwaed).
(3) Cymorth ariannol o dan reoliad 11 ar gyfer rhiant mabwysiadol plentyn mabwysiadol.
(b) plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth; ac (c) rhiant naturiol y rhoddodd asiantaeth ei blentyn i'w fabwysiadu neu y mabwysiadwyd ei blentyn yn dilyn lleoliad o'r fath.
(5) Rhaid i'r gwasanaethau a grybwyllir yn rheoliad 3(c) (cyswllt) fod yn eu lle ar gyfer -
(b) plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth; (c) rhiant naturiol y rhoddodd asiantaeth ei blentyn i'w fabwysiadu neu y mabwysiadwyd ei blentyn yn dilyn lleoliad o'r fath; ac (ch) person perthynol.
(6) Rhaid i'r gwasanaethau a grybwyllir yn rheoliad 3(ch) (gwasanaethau therapiwtig) fod yn eu lle ar gyfer -
(b) plentyn mabwysiadol y mae'r cyfyngiadau yn adran 83 o Ddeddf 2002 (cyfyngiadau ar ddod â phlant i mewn) yn gymwys mewn perthynas ag ef; ac (c) plentyn mabwysiadol yn achos gorchymyn mabwysiadu Confensiwn.
(7) Rhaid i'r gwasanaethau a grybwyllir yn rheoliad 3(d) ac (dd) (cymorth at ddibenion sicrhau bod unrhyw berthynas yn parhau a chymorth pan fydd tarfu wedi bod ar leoliad mabwysiadu) fod yn eu lle ar gyfer -
(b) plentyn mabwysiadol y mae'r cyfyngiadau yn adran 83 o Ddeddf 2002 (cyfyngiadau ar ddod â phlant i mewn) yn gymwys mewn perthynas ag ef; (c) plentyn mabwysiadol yn achos gorchymyn mabwysiadu Confensiwn; (ch) rhiant mabwysiadol plentyn a grybwyllir yn (a) i (c); a (d) plentyn y rhiant mabwysiadol hwnnw.
(8) Mae'n ofynnol gwneud y trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) o ran unrhyw wasanaeth p'un a yw'r awdurdod lleol wedi penderfynu darparu'r gwasanaeth ar gyfer unrhyw berson ai peidio.
(b) asiantaeth cymorth mabwysiadu gofrestredig; (c) bwrdd iechyd lleol; (ch) Ymddiriedolaeth GIG; (d) Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol; ac (dd) awdurdod addysg lleol.
(2) Ym mharagraff (1) ystyr "asiantaeth cymorth mabwysiadu gofrestredig" yw asiantaeth cymorth mabwysiadu a gofrestrwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000[9] ond, o ran darparu unrhyw wasanaeth cymorth mabwysiadu, nid yw'n cynnwys asiantaeth cymorth mabwysiadu nad yw wedi'i chofrestru o ran y gwasanaeth penodol hwnnw.
(ii) sut y gellir darparu'r gwasanaethau hynny ar eu cyfer;
(b) rhoi cyngor, gwybodaeth a chymorth i'r awdurdod lleol a'i penododd, gan gynnwys ynghylch -
(ii) argaeledd gwasanaethau cymorth mabwysiadu a gwasanaethau lleol eraill; a (iii) llunio cynlluniau yn unol â rheoliad 10; ac
(c) rhoi cyngor, gwybodaeth a chymorth i awdurdod lleol arall gan gynnwys ynghylch y materion a bennir yn is-baragraff (b) pan -
(ii) bydd person y mae cynllun wedi'i baratoi mewn perthynas ag ef yn symud o ardal yr awdurdod lleol y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) i ardal yr awdurdod lleol arall hwnnw.
(3) Ni chaiff yr awdurdod lleol benodi person yn gynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu onid yw'n fodlon bod gwybodaeth y cynghorydd am y canlynol a'i brofiad ohonynt yn ddigonol at ddibenion y gwaith y mae ef wed'i gyflawni -
(b) effaith mabwysiadu plentyn ar bersonau y mae'n debygol yr effeithir arnynt gan y mabwysiadu.
Rheidrwydd asesu
(b) plentyn sy'n frawd neu'n chwaer naturiol i blentyn mabwysiadol (p'un ai o waed coch cyfan neu o hanner gwaed); ac (c) person perthynol o ran trefniadau cyswllt rhyngddo a phlentyn mabwysiadol pan fydd trefniadau ar gyfer y cyswllt hwnnw wedi'u gwneud cyn i'r cais am asesiad gael ei wneud.
(2) Os bydd person sy'n dod o fewn adran 4(1)(a) o Ddeddf 2002 neu o fewn paragraff (1) o'r rheoliad hwn yn gwneud cais am asesiad, a bod y cais hwnnw'n ymwneud â gwasanaeth cymorth mabwysiadu penodol, neu os ymddengys i'r awdurdod lleol bod modd i anghenion y person hwnnw am wasanaethau cymorth mabwysiadu gael eu hasesu'n dderbyniol drwy gyfeirio at wasanaeth cymorth mabwysiadu penodol, caiff yr awdurdod lleol gynnal yr asesiad hwnnw drwy gyfeirio at y gwasanaeth hwnnw yn unig.
(b) gwasanaeth a bennir yn rheoliad 3.
(4) Pan fydd awdurdod lleol ("yr awdurdod lleoli") yn ystyried lleoli plentyn sy'n derbyn gofal gan ddarpar fabwysiadydd sy'n preswylio yn ardal awdurdod lleol arall ("yr awdurdod adennill"), rhaid i'r awdurdod lleoli ymgynghori yn ysgrifenedig â'r awdurdod adennill am y lleoliad ac am ganlyniadau'r asesiadau a wnaed yn unol ag adran (4)(1) a (2) o Ddeddf 2002 ac yn benodol am allu'r asiantaethau yn ardal yr awdurdod adennill i ddarparu unrhyw wasanaethau cymorth mabwysiadu a nodwyd.
(b) anghenion y plentyn mabwysiadol a'i deulu mabwysiadol a sut y gellir eu diwallu; (c) o ran plentyn a leolwyd i'w fabwysiadu, yr amgylchiadau a arweiniodd at leoli'r plentyn i'w fabwysiadu; (ch) unrhyw anghenion arbennig sydd gan y plentyn mabwysiadol sy'n codi oherwydd -
(ii) bod y plentyn wedi arfer preswylio y tu allan i Ynysoedd Prydain; (iii) bod y rhiant mabwysiadol yn berthynas i'r plentyn.
(2) Rhaid i berson sydd â'r cymwysterau, y profiad a'r sgiliau addas sy'n angenrheidiol at ddibenion asesu gynnal yr asesiad o anghenion person am wasanaethau cymorth mabwysiadau, neu oruchwylio'r asesiad hwnnw.
(b) sy'n dod o fewn swyddogaethau awdurdod addysg lleol,
rhaid i'r awdurdod lleol, fel rhan o'r asesiad, ymgynghori â'r bwrdd iechyd lleol hwnnw, yr Ymddiriedolaeth GIG honno, yr Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol honno neu'r awdurdod addysg lleol hwnnw.
(b) llunio adroddiad ysgrifenedig ar yr asesiad.
Hysbysu am asesiad
(b) rhoi hysbysiad am yr hawl i gyflwyno sylwadau fel a bennir ym mharagraff (3).
(2) Yr wybodaeth a bennir yw -
(b) y gwasanaethau, os oes rhai, y bwriedir eu darparu ar gyfer y person; (c) os bydd yr asesiad yn ymwneud ag angen y person am gymorth ariannol -
(ii) y swm arfaethedig a fyddai'n daladwy;
(ch) unrhyw amodau y mae'r awdurdod lleol yn bwriadu eu gosod ar ddarpariaeth y cymorth ariannol hwnnw yn unol â rheoliad 13(3); a
(3) Bydd gan y person a hysbysir yn unol â pharagraff (2) yr hawl i gyflwyno sylwadau i'r awdurdod lleol ynghylch y cynnig ym mharagraff (2)(b) o fewn cyfnod a bennir gan yr awdurdod lleol.
(ii) wedi hysbysu'r awdurdod lleol ei fod yn fodlon ar y penderfyniad arfaethedig; neu
(b) y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (1)(b) ar gyfer cyflwyno sylwadau wedi dod i ben.
Cynllun
(b) pan ymddengys i'r awdurdod lleol -
(ii) y gall fod angen darparu ar gyfer y person hwnnw wasanaethau sy'n dod o fewn swyddogaethau awdurdod addysg lleol,
ac â'r bwrdd iechyd lleol hwnnw, yr Ymddiriedolaeth GIG honno neu'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol honno, neu'r awdurdod addysg lleol hwnnw.
(4) Os yw'r awdurdod lleol, o dan reoliad 13, yn penderfynu darparu unrhyw wasanaethau cymorth mabwysiadu ar gyfer person, ac os yw'n ofynnol iddo o dan y rheoliad hwnnw roi hysbysiad o'r penderfyniad hwnnw, rhaid iddo -
(b) hysbysu'r person am yr enwebiad pan fydd yn ei hysbysu am ei benderfyniad o dan reoliad 13.
(5) Rhaid i'r awdurdod lleol roi copi o'r cynllun -
(b) pan fydd paragraff (3)(b)(i) yn gymwys, i'r bwrdd iechyd lleol, yr Ymddiriedolaeth GIG neu i'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol; (c) pan fydd paragraff (3)(b)(ii) yn gymwys, i'r awdurdod addysg lleol; ac (ch) pan fydd y person y mae'r cynllun yn ymwneud ag ef yn byw mewn ardal awdurdod lleol arall, i'r awdurdod lleol hwnnw.
Amgylchiadau pryd y gellir talu cymorth ariannol
(b) pan fydd y plentyn wedi'i leoli gyda'r rhiant mabwysiadol i'w fabwysiadu, a bydd cymorth ariannol yn angenrheidiol i sicrhau y gall y rhiant mabwysiadol barhau i ofalu am y plentyn; (c) pan fydd y plentyn wedi'i fabwysiadu, a bod cymorth ariannol yn angenrheidiol i sicrhau y gall y rhiant mabwysiadol barhau i ofalu am y plentyn; (ch) pan fydd yr awdurdod lleol yn fodlon bod y plentyn wedi sefydlu perthynas gref a phwysig gyda'r rhiant mabwysiadol cyn i orchymyn mabwysiadu gael ei wneud; (d) pan fydd yn ddymunol bod y plentyn yn cael ei leoli gyda'r un rhiant mabwysiadol â'i frawd neu'i chwaer (p'un ai o waed coch cyfan neu o hanner gwaed), neu gyda phlentyn y mae wedi rhannu cartref ag ef o'r blaen; (dd) pan fydd ar y plentyn angen gofal arbennig sy'n gwneud treulio rhagor o adnoddau yn ofynnol oherwydd salwch, anabledd, anawsterau emosiynol neu ymddygiadol neu ganlyniadau parhaus camdriniaeth neu esgeulustod yn y gorffennol; (e) pan fydd yn angenrheidiol oherwydd oedran, rhyw neu darddiad ethnig y plentyn i'r awdurdod lleol wneud trefniadau arbennig i hwyluso lleoli'r plentyn i'w fabwysiadu.
(3) Cyn y gellir talu cymorth ariannol, rhaid i'r awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i'r rhieni mabwysiadol fod wedi cytuno -
(ii) os nad gyda hwy y mae cartref y plentyn bellach (neu gyda'r naill neu'r llall ohonynt), neu os yw'r plentyn yn marw; neu (iii) os oes unrhyw newid yn eu hamgylchiadau ariannol neu yn anghenion neu adnoddau ariannol y plentyn;
(b) ac os rhoddir yr wybodaeth ar lafar, i'w chadarnhau yn ysgrifenedig cyn pen saith niwrnod;
Swm y cymorth ariannol
(b) cost cyfarpar at ddibenion diwallu unrhyw anghenion arbennig sydd gan y plentyn; (c) gwariant sy'n angenrheidiol er mwyn parhau i letya'r plentyn, gan gynnwys darparu dodrefn a chyfarpar tŷ, newidiadau ac addasiadau i'r cartref, darparu cyfrwng cludo a darparu dillad, teganau a phethau eraill sy'n angenrheidiol er mwyn gofalu am y plentyn; (ch) cost difrod yn y cartref lle y mae'r plentyn yn cael ei letya pan fydd y gost honno yn codi o anawsterau ymddygiadol arbennig y plentyn; (d) cost lleoli plentyn mewn ysgol fyrddio pan fydd y lleoliad yn angenrheidiol er mwyn diwallu anghenion arbennig y plentyn; (dd) cost diwallu anghenion arbennig y plentyn, gan gynnwys anghenion sy'n codi o anabledd neu salwch difrifol; (e) gwariant ar deithio ar gyfer ymweliadau rhwng y plentyn a pherson perthynol.
(5) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd yr awdurdod lleol yn ystyried darparu cymorth ariannol mewn perthynas â -
(b) costau cyfreithiol y rhiant mabwysiadol pan fydd cais wedi'i wneud am orchymyn mabwysiadu o ran plentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, pan fydd yr awdurdod lleol yn cefnogi gwneud y gorchymyn hwnnw a phan fydd gwneud y gorchymyn yn cael ei wrthwynebu gan berson arall.
(6) Dyma'r ystyriaethau -
(b) yr adnoddau ariannol sydd ar gael i'r rhieni mabwysiadol gan gynnwys credyd treth plant ac unrhyw fudd-dal arall a fyddai ar gael mewn perthynas â'r plentyn petai'r plentyn yn byw gyda hwy; (c) y swm y mae ei angen ar y rhieni mabwysiadol o ran eu treuliau a'u rhwymedigaethau rhesymol (ac eithrio treuliau sy'n gysylltiedig â'r plentyn); ac (ch) anghenion ac adnoddau ariannol y plentyn.
(7) Ni thelir cymorth ariannol i ddiwallu unrhyw anghenion i'r graddau y mae unrhyw fudd-dal neu lwfans sy'n gymwys i'r rhieni mabwysiadol oherwydd eu bod wedi mabwysiadu'r plentyn yn daladwy neu ar gael iddynt mewn perthynas â'r anghenion hynny.
(b) ymddengys i'r awdurdod lleol bod unrhyw gymorth ariannol neu lwfansau sy'n cael eu rhoi i'r rhieni mabwysiadol mewn perthynas â maethu'r plentyn wedi peidio neu y byddant yn peidio; (c) bydd yr awdurdod lleol wedi penderfynu yn unol â rheoliad 28 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) y byddai'r rhiant mabwysiadol yn addas fel rhiant mabwysiadol ar gyfer y plentyn; ac (ch) bydd yr awdurdod lleol, cyn i'r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneud, yn penderfynu talu cymorth ariannol ac yn penderfynu y dylai'r cymorth ariannol hwnnw gael ei dalu'n rheolaidd.
(10) Mae'r paragraff hwn yn gymwys -
(b) ar unrhyw adeg ar ôl yr ail ben blwydd, pan fydd unrhyw un o'r amgylchiadau a bennir yn rheoliad 11(2)(a), (b), (d), (dd) neu (e) yn bodoli ar y dyddiad pan fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu talu cymorth ariannol.
Penderfyniad i ddarparu cymorth
(b) os felly, a oes angen darparu'r gwasanaethau hynny ar ei gyfer; ac (c) pa amodau, os oes rhai, sydd i'w gosod yn unol â pharagraff (3)
ac, yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad hwnnw, a rhaid i'r hysbysiad gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad a chopi o'r cynllun y cyfeirir ato yn rheoliad 10.
(b) o ran y gofyniad i gydymffurfio â'r cytundeb y cyfeirir ato yn rheoliad 11(3).
(4) Pan fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu bod cymorth ariannol i'w dalu, rhaid iddo gael ei dalu yn un taliad ac eithrio os -
(b) bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu bod cymorth ariannol i'w dalu i ddiwallu unrhyw anghenion sy'n debygol o arwain at wariant sy'n debygol o ddigwydd dro ar ôl tro; (c) gellir ei dalu -
(ii) yn rheolaidd hyd at unrhyw ddyddiad (os bydd un) y bydd yr awdurdod lleol yn ei bennu.
(5) Rhaid i'r materion canlynol gael eu pennu yn yr hysbysiad o dan baragraff (1) -
(b) pan fydd cymorth ariannol i'w dalu'n rhandaliadau neu'n rheolaidd -
(ii) pa mor aml y bydd y taliad yn cael ei wneud; (iii) y dyddiad (os oes un) y mae cymorth ariannol i'w dalu hyd ato; (iv) y dyddiad y telir cymorth ariannol gyntaf;
(c) pan fydd cymorth ariannol i'w dalu yn un taliad, y dyddiad y mae'r taliad i'w wneud;
(ii) y rhieni mabwysiadol yn unol â'u cytundeb o dan reoliad 11(3).
Hysbysiadau
(b) pan fydd y person yr aseswyd ei anghenion am wasanaethau cymorth mabwysiadu yn blentyn -
(ii) ac eithrio pan ymddengys i'r awdurdod lleol ei bod yn amhriodol gwneud hynny, -
(bb) i'r person y lleolwyd y plentyn gydag ef i'w fabwysiadu; (cc) i'r person sydd wedi mabwysiadu'r plentyn; neu
os nad oes neb yn dod o dan benawdau (aa) i (cc) o'r is-baragraff hwn, y person sy'n bwriadu mabwysiadu'r plentyn.
Cyfrifoldebau awdurdodau lleol am leoliadau y tu allan i'r ardal
(b) rhiant mabwysiadol plentyn o'r fath; ac (c) plentyn rhiant mabwysiadol o'r fath.
(2) Bydd adran 4 o Ddeddf 2002 yn peidio â bod yn gymwys yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (1) ar ddiwedd y cyfnod o dair blynedd yn cychwyn ar y dyddiad mabwysiadu, ac eithrio pan fydd yr awdurdod lleol yn darparu cymorth ariannol a bod y penderfyniad i ddarparu'r cymorth hwnnw wedi'i wneud cyn y dyddiad mabwysiadu, a bydd rheoliad 17(9) yn gymwys o dan yr amgylchiadau hynny.
(b) bydd llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers y dyddiad mabwysiadu; (c) bydd yr awdurdod lleoli wedi ceisio cymorth awdurdod lleol arall ("yr awdurdod adennill") yn unol ag adran 4(10) o Ddeddf 2002; ac (ch) bydd yr awdurdod adennill wedi cydymffurfio â'r cais hwnnw yn unol ag adran 4(11) o Ddeddf 2002,
caiff yr awdurdod adennill adennill oddi wrth yr awdurdod lleoli unrhyw dreuliau sy'n codi o ddarparu cymorth o'r fath.
(b) adolygu ac, os yw'n briodol, diwygio'r cynllun a luniwyd o dan reoliad 10.
(4) Os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu amrywio'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu ar gyfer y person, neu'n penderfynu diwygio'r cynllun, rhaid iddo roi hysbysiad yn unol â pharagraff (1) o reoliad 9; ac mae paragraffau (3) a (4) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys i'r paragraff hwn fel y maent yn gymwys i baragraff (1)(b) o'r rheoliad hwnnw.
(ii) anghenion ac adnoddau ariannol y plentyn; (iii) eu cyfeiriad ac a oes gan y plentyn gartref gyda hwy o hyd (neu gyda'r naill neu'r llall ohonynt); a
(b) os daw unrhyw newid yn amgylchiadau'r rhieni mabwysiadol neu'r plentyn, gan gynnwys unrhyw newid cyfeiriad, yn hysbys iddo.
(2) Bydd paragraffau (3) i (6) yn gymwys pan fydd cymorth ariannol yn daladwy mewn rhandaliadau neu'n rheolaidd.
(b) ceisio adennill y cyfan neu ran o'r cymorth ariannol y mae wedi'i dalu.
(5) Os y gofyniad i roi datganiad blynyddol yn unol â chytundeb y cyfeirir ato yn rheoliad 11(3)(c) yw'r amod na chydymffurfir ag ef, rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chymryd unrhyw gamau o dan baragraff (4) hyd nes -
(b) i 28 o ddiwrnodau ddod i ben ers y dyddiad yr anfonwyd y nodyn atgoffa hwnnw.
(6) Ar ôl iddo gymryd y camau a bennir ym mharagraff (5), os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu o dan baragraff (4) y dylid atal cymorth ariannol, caiff godi'r ataliad pan fydd wedi cael y datganiad blynyddol y cyfeirir ato yn rheoliad 11(3)(c).
(b) bydd y plentyn yn peidio â bod mewn addysg lawnamser neu hyfforddiant llawnamser ac yn dechrau mewn swydd gyflogedig; (c) bydd y plentyn yn gymwys i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith yn ei hawl ei hun; neu (ch) bydd y plentyn yn cyrraedd 18 oed, oni bai ei fod yn parhau mewn addysg lawnamser neu hyfforddiant llawnamser, pan gaiff barhau hyd ddiwedd y cwrs addysg neu'r hyfforddiant y mae yn ei ddilyn bryd hynny.
(8) Mae rheoliadau 9, 10 a 12 yn gymwys mewn perthynas ag adolygiad o dan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys o ran asesiad o dan reoliad 8. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i awdurdodau lleol yng Nghymru ddarparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu fel rhan o'r gwasanaeth y maent yn ei gynnal o dan adran 3(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Caiff gwasanaethau cymorth mabwysiadu eu diffinio gan adran 2(6) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 fel cwnsela, cyngor a gwybodaeth, a gwasanaethau eraill sy'n cael eu rhagnodi gan reoliadau, sy'n ymwneud â mabwysiadu. Caiff y gwasanaethau hynny eu rhagnodi yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn ac maent yn cynnwys cymorth ariannol (rheoliad 3(a)). Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol benodi cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu er mwyn rhoi cyngor a gwybodaeth i bersonau y mae'n bosibl y bydd mabwysiadu plentyn yn effeithio arnynt (rheoliad 6). Mae rheoliad 5 yn rhagnodi'r personau hynny sy'n gallu darparu cymorth mabwysiadu. Mae rheoliad 7 yn rhagnodi'r personau, ac eithrio'r sawl a grybwyllir yn adran 3(1) o'r Ddeddf, sydd â hawl i gael asesiad o'u hanghenion ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu. Mae rheoliad 8 yn pennu'r weithdrefn asesu. Ar ôl gwneud asesiad, rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad o dan reoliad 9 am y gwasanaethau cymorth mabwysiadu y mae'n bwriadu eu darparu. Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i gynllun gael ei baratoi y mae'n rhaid darparu gwasanaethau yn unol ag ef. Mae rheoliad 11 yn pennu'r personau y caniateir talu cymorth ariannol iddynt a'r amgylchiadau pryd y caniateir ei dalu iddynt. Mae rheoliad 12 yn darparu ar gyfer swm y cymorth ariannol sy'n daladwy. Mae rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol benderfynu, gan ystyried yr asesiad, ei fwriadau a hysbysir o dan reoliad 9, ynghyd ag unrhyw sylwadau a wneir am y bwriadau hyn, a phenderfynu pa wasanaethau y mae i'w darparu ac unrhyw amodau sydd i'w gosod, a rhoi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw. Mae rheoliad 15 yn disgrifio cyfrifoldebau awdurdodau lleol dros leoli y tu allan i'w hardal ac mae'n galluogi awdurdod lleol i adennill cost darparu gwasanaethau oddi wrth yr awdurdod sydd wedi lleoli plentyn i'w fabwysiadu yn ei ardal. Mae rheoliadau 16 a 17 yn darparu ar gyfer adolygu'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu a chymorth ariannol. Drwy reoliad 18, mae Rheoliadau Lwfans Mabwysiadu 1991 a Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2004 yn cael eu dirymu, ac mae darpariaeth drosiannol yn cael ei gwneud. Notes: [1] 2002 p.38. Mae'r pwerau'n arferadwy gan yr "appropriate Minister a ddiffinnir o ran Cymru, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler adran 144(1)). Mae'r "appropriate Minister" wedi'i ddiffinio yn adran 144(1), o ran Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, fel yr Ysgrifennydd Gwladol.back [3] 2002 p.21. Gweler adran 8 am y diffiniad o gredyd treth plant.back [6] O.S. 2005/1313 (Cy.95).back [7] O.S. 2003/237 (Cy.35).back [8] 1989 p.41. Gweler adran 22(1) am y diffiniad o blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol.back [11] O.S. 2004/1011 (Cy.108).back
ISBN 0 11 091148 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 14 June 2005 |