Rheoliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Esboniadau ynghylch Gwasanaethau Cymdeithasol) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Esboniadau ynghylch Gwasanaethau Cymdeithasol) 2005, ISBN 0110911466. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 101(1) a (2) a 195(1) a (2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a dehongli 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Esboniadau ynghylch Gwasanaethau Cymdeithasol) 2005 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2005. (2) Yn y Rheoliadau hyn -
(3) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn rheoliad 2 isod.
(b) unrhyw wybodaeth a ddarparwyd o dan yr adrannau hynny; (c) unrhyw faterion y mae unrhyw rai o swyddogaethau'r Cynulliad o dan Bennod 6 o Ran 2 o'r Ddeddf yn cael eu harfer mewn cysylltiad â hwy,
mewn achosion lle mae'r Cynulliad yn credu y byddai esboniad yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion y Bennod honno.
(b) pennu a yw'r esboniad i'w roi yn bersonol neu'n ysgrifenedig (ac eithrio bod rhaid gofyn i'r esboniad fod yn ysgrifenedig pan fo'r person y gofynnir iddo roi'r esboniad yn gorff o bersonau corfforaethol neu anghorfforedig); ac (c) pan fo'r esboniad i'w roi yn bersonol, pennu'r amser ar gyfer ei roi a'r man lle mae i'w roi, a rhoi hysbysiad rhesymol o'r amser hwnnw a'r man hwnnw.
(3) Y personau a ragnodir yw -
(b) aelod neu gyn aelod awdurdod lleol; (c) maer etholedig neu gyn faer etholedig awdurdod lleol, o fewn yr ystyr a roddwyd iddynt yn adran 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[2]; (ch) swyddog neu gyn swyddog i awdurdod lleol; (d) darparydd gwasanaeth; (dd) cyflogai neu gyn gyflogai darparydd gwasanaeth neu unrhyw berson arall sy'n cynorthwyo neu sydd wedi cynorthwyo'r darparydd hwnnw i ddarparu un o wasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yng Nghymru; (e) person (nad yw'n un a restrwyd mewn unrhyw un o is-baragraffau (b) i (dd)) sy'n cynorthwyo neu sydd wedi cynorthwyo awdurdod lleol i ddarparu un o wasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yng Nghymru.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a restrir yn rheoliad 2(3) roi esboniad i'r Cynulliad am unrhyw beth a restrir yn rheoliad 2(1), er enghraifft dogfen a gymerwyd o fangre gan un o arolygwyr awdurdodedig y Cynulliad o dan adran 99 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 ("Deddf 2003"). Dim ond pan fo'r Cynulliad yn credu bod yr esboniad yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion Pennod 6 o Ran 2 o Ddeddf 2003 y caiff osod gofyniad i esbonio o dan y Rheoliadau hyn. O dan y Bennod honno mae gan y Cynulliad swyddogaeth o ran hyrwyddo gwelliant yn y modd y mae gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol Cymru yn cael eu darparu ac o ran ymgymryd ag adolygiadau o'r ffordd y mae awdurdodau lleol Cymru yn cyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol ac o ran cynnal ymchwiliadau i'r ffordd y maent yn gwneud hynny. Rhaid i'r Cynulliad gydymffurfio hefyd â rheoliad 2(2) pan fydd yn gosod gofyniad i esbonio. Effaith adran 101(3) o Ddeddf 2003 yw bod person sy'n methu â chydymffurfio, a hynny heb esgus rhesymol, ag unrhyw ofyniad a osodir o dan y Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol. Notes: [1] 2003 p.43. Gweler adran 148 o'r Ddeddf i gael y diffiniad o "prescribed".back
ISBN 0 11 091146 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 14 June 2005 |