Rheoliadau Cynhyrchu Colagen Buchol y Bwriedir i Bobl ei Fwyta yn y Deyrnas Unedig (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynhyrchu Colagen Buchol y Bwriedir i Bobl ei Fwyta yn y Deyrnas Unedig (Cymru) 2005, ISBN 011091144X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno (o ran rheoliadau 3, 4 a 5) a chan adrannau 16(1), (2) a (3), 19(1), 26(1)(a), (b), (2) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a pharagraffau 3(1), 5(1) a (2)(a) a 6(1) o Atodlen 1 iddi[3], ac a freiniwyd ynddo bellach[4] wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[5], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchu Colagen Buchol y Bwriedir i Bobl ei Fwyta yn y Deyrnas Unedig (Cymru) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Mehefin 2005. Dehongli 2. Yn rheoliad 6 i 9 ac yn yr Atodlen -
Diwygio Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) 1999
(b) produce any collagen, derived from a bovine animal slaughtered in the United Kingdom, being collagen which is liable to enter the human food or animal feed chain or is destined for use in cosmetics or in medical or pharmaceutical products, unless it is collagen intended for human consumption in the United Kingdom.".
5.
Ym mharagraff (3) o reoliad 9 (defnyddio sgil-gynhyrchion buchol a chynhyrchion eraill a reolir) -
(b) rhodder y geiriau "gelatin or collagen produced" ar ddechrau is-baragraffau (a) a (b); a (c) mewnosoder "; or" a'r is-baragraff a ganlyn ar ôl is-baragraff (b) -
Rheoli cynhyrchu colagen y bwriedir i bobl ei fwyta yn y Deyrnas Unedig sy'n dod o anifeiliaid buchol a gigyddwyd yno
(b) ar yr holl gynhyrchion sy'n mynd allan, o ddyddiad eu hanfon.
(3) Tan ddiwedd 2005 ni chaiff neb lapio, pacio, storio neu gludo unrhyw golagen sy'n dod o unrhyw anifail buchol a gigyddwyd yn y Deyrnas Unedig, sef colagen y bwriedir i bobl ei fwyta yno, oni chydymffurfir â'r gofynion a bennir ym mharagraff 6 o'r Atodlen.
(b) ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu'r ddau.
(3) Ni chychwynnir unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan reoliad 6 ar ôl i'r cyfnodau canlynol ddod i ben -
(b) blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,
p'un bynnag yw'r cynharaf.
(b) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)[8] fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15; (c) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol); (ch) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion); (d) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch); (dd) adran 35(1)[9] (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n berthnasol i dramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch); (e) adran 35(2) a (3)[10] i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (d); (f) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); (ff) adran 36A[11] (tramgwyddau gan Bartneriaethau Albanaidd); ac (g) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n ymddwyn yn ddidwyll).
Gorfodi Deunyddiau crai a sefydliadau sy'n cyflenwi deunyddiau crai 1. - (1) Dim ond crwyn anifeiliaid buchol, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), a ganiateir eu defnyddio fel deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu colagen y bwriedir i bobl ei fwyta yn y Deyrnas Unedig. (2) Gwaherddir defnyddio crwyn a gyflwynwyd i brosesau barcio. (3) Rhaid i'r deunyddiau crai ddod o anifeiliaid buchol a gigyddwyd mewn lladd-dy y gwelwyd bod eu carcasau yn ffit i'w bwyta gan bobl yn dilyn archwiliad ante mortem a post mortem. (4) Rhaid i'r deunyddiau crai ddod o ladd-dai, canolfannau casglu neu danerdai. (5) Awdurdodir canolfannau casglu a thanerdai sy'n cyflenwi deunyddiau crai o dan reoliad 6 o Reoliadau Colagen a Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) (Cymru) 2003[14]. Cludo a storio deunyddiau crai 2. - (1) Rhaid cludo deunyddiau crai a arfaethir ar gyfer cynhyrchu colagen o dan amodau glendid gan ddefnyddio dull priodol o gludo. (2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3) rhaid cludo a storio deunyddiau crai yn oer neu wedi eu rhewi, oni phrosesir hwy o fewn 24 awr ar ôl eu hanfon. (3) Caniateir cludo a storio crwyn a halltwyd, eu sychu a'u calchu a chrwyn a gafodd eu trin ag alcali neu asid ar dymheredd amgylchynol. (4) Rhaid cadw'r ystafelloedd storio mewn cyflwr da a glân, fel na fyddant yn ffynhonnell halogi'r deunyddiau crai. (5) Yn ystod y cludo ac ar adeg y traddodi i'r canolfannau casglu a'r sefydliadau sy'n cynhyrchu colagen, rhaid bod dogfen fasnachol gyda'r deunyddiau crai yn unol â'r model a nodir yn Rhan 2 o'r Atodlen hon. Sefydliadau sy'n cynhyrchu colagen 3. - (1) Rhaid i'r cynhyrchu ar colagen y bwriedir i bobl ei fwyta ddigwydd mewn sefydliad a awdurdodwyd o dan reoliad 5 o Reoliadau Colagen a Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) (Cymru) 2003. (2) Rhaid rhoi ar waith yn y sefydliad system sy'n ei gwneud yn bosibl cysylltu pob swp cynhyrchu a anfonir gyda'r llwythi â'r deunyddiau crai cysylltiedig sy'n dod i mewn, yr amodau cynhyrchu ac amser y cynhyrchu. Gweithgynhyrchu colagen 4. - (1) Rhaid cynhyrchu colagen drwy broses a fydd yn sicrhau bod y deunydd crai yn mynd drwy driniaeth sy'n ymwneud â golchi, addasu pH gan ddefnyddio asid neu alcali a ddilynir gan rinsio unwaith neu fwy, hidlo ac allwthio. (2) Ni fydd colagen a gynhyrchir yn unol ag is-baragraff (1) yn mynd drwy brosesau pellach heblaw proses sychu. (3) Ni fydd colagen nas bwriadir i bobl ei fwyta yn cael ei gynhyrchu a'i storio yn yr un sefydliad â cholagen y bwriedir i bobl ei fwyta onid yw'r colagen nas bwriadir i bobl ei fwyta wedi cael ei gynhyrchu a'i storio o dan yr un amodau ag a nodir yn yr Atodlen hon. (4) Gwaherddir defnyddio cyffeithyddion heblaw'r rhai a ganiateir o dan Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 95/2/EC ar ychwanegion bwyd heblaw lliwiau a melysyddion[15] (fel y diwygir y Gyfarwyddeb honno ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn). Cynhyrchion gorffenedig 5. - (1) Cymerir mesurau priodol, gan gynnwys profion, i sicrhau bod pob swp cynhyrchu colagen, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yn bodloni'r meini prawf microbiolegol a gweddilliol a nodir yn y Tabl yn Rhan 3 o'r Atodlen hon. (2) Os yw natur cynnyrch gorffenedig o'r math fel ei fod yn golygu na fyddai'n briodol ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â'r terfynau lleithder a lludw a bennir yn Rhan 3 o'r Atodlen hon, ni fydd y terfynau hynny yn gymwys i'r cynnyrch hwnnw. Lapio, pacio, storio a chludo 6. - (1) Rhaid lapio, pacio, storio a chludo colagen y bwriedir i bobl ei fwyta o dan amodau hylendid boddhaol, ac yn benodol -
(b) rhaid i'r lapio a'r pacio ddigwydd mewn ystafell neu mewn lle a fwriadwyd i'r diben hwnnw yn unig.
(2) Rhaid i ddeunyddiau lapio a phacio sy'n cynnwys colagen -
(ii) a ddilynir gan rif cofrestru'r sefydliad a'r llythrennau blaen "EC"; a
(b) dwyn y geiriau "Collagen fit for human consumption in the United Kingdom"; a
(3) Rhaid bod dogfen fasnachol gyda'r colagen yn ystod y cyfnod y cludir ef a rhaid iddi ddwyn -
(b) y dyddiad paratoi a rhif y swp.
Rhif y ddogfen fasnachol: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 1. Dynodi'r deunydd crai Natur (sef natur y crwyn): . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . Pwysau net (kg): . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . Marc adnabod (paled neu gynhwysydd): . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 2. Tarddiad y deunydd crai
Cyfeiriad y sefydliad: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Cyfeiriad y sefydliad: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Cyfeiriad y sefydliad: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . Meini prawf microbiolegol
Gweddillion
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) 1999 (O.S.1999/1103, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/1554, O.S. 2000/656, O.S. 2002/1174 ac O.S. 2002/2325 - " y BBPTR") i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Mae'r BBPTR yn rhoi effaith i Benderfyniadau'r Comisiwn 98/692/EC (OJ Rhif L238, 4.12.98, t.28) a 98/564/EC (OJ Rhif L273, 9.10.98, t.37) sy'n diwygio Penderfyniad y Cyngor 98/256/EC (OJ Rhif L113, 15.4.98, t.32). Mae'r Rheoliadau yn diwygio'r BBPTR er mwyn -
Mae'r Rheoliadau hefyd yn gosod gofynion ar gynhyrchu colagen sy'n dod o anifail buchol a gigyddir yn y Deyrnas Unedig ac y bwriedir i bobl ei fwyta yn y Deyrnas Unedig tan ddiwedd 2005 (rheoliad 6) ("cynhyrchu domestig"). Mae'r Rheoliadau yn gymwys i ofynion cynhyrchu domestig sy'n adlewyrchu'r rheini sydd, o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC[16], yn gymwys i gynhyrchu colagen i'w fwyta gan bobl ar gyfer masnach o fewn y Gymuned. Mae'r Rheoliadau -
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer yr offeryn hwn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Notes: [1] O.S. 1999/2788.back [3] 1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28) ac O.S. 2004/2990.back [4] Mae'r swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Ministers" (sef, o ran Cymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol a oedd yn eu trefn yn ymwneud ag iechyd yn Lloegr a bwyd a iechyd yng Nghymru ac o ran yr Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol) bellach yn arferadwy o ran Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran yr Alban, i Weinidogion yr Alban gan adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (1998 p.46) fel y'i darllenir gydag adran 40(2) o Ddeddf 1999. Diwygiwyd adrannau 16(1) a (2), 19(1) a 48(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999, diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i'r Ddeddf honno a mewnosodwyd adran 48(4A) gan baragraff 21 o Atodlen 5 i'r Ddeddf honno. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990.back [5] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan reoliad (EC) Rhif 1642/2003 (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4). Yn rhinwedd Rheoliad 5 o Reoliadau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Diwygio) 2004 (O.S. 2004/2990) gydag effaith o 7 Rhagfyr 2004 ymlaen datgymhwysir y gofyniad i ymgynghori a geir yn adran 48(4) o Ddeddf 1990 mewn unrhyw achos lle mae ymgynghori yn ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002.back [6] OJ Rhif L62, 15.3.93, t.49. Mewnosodwyd Pennod 4, Adran B o Atodiad II gyntaf yn y Gyfarwyddeb honno gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/42/EC (OJ Rhif L13, 18.1.2003, t.24) a disodlwyd hi gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/721/EC (OJ Rhif L260, 11.10.2003, t.21). Diwygiwyd y Gyfarwyddeb ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 445/2004 (OJ Rhif L72, 11.3.2004, t.60).back [7] O.S. 1999/1103, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/1554, O.S. 2000/656, O.S. 2002/1174 ac O.S. 2002/2325.back [8] Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.back [9] Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu.back [10] Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.back [11] Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), Atodlen 5, paragraff 16.back [12] Diwygiwyd adran 9 gan O.S. 2004/3279.back [15] OJ Rhif L61, 18.3.95, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2003/114/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L24, 29.1.2004, t.58).back [16] OJ Rhif L62, 15.3.93, t. 49, sy'n gosod gofynion o ran iechyd anifeiliaid a iechyd y cyhoedd sy'n llywodraethu'r fasnach mewn cynhyrchion, a mewnforion i'r Gymuned o gynhyrchion, nad ydynt yn ddarostyngedig i'r gofynion hynny a osodwyd mewn rheolau penodol gan y Gymuned ac y cyfeirir atynt yn Atodiad A(I) i Gyfarwyddeb 89/662/EEC ac, o ran pathogenau, i Gyfarwyddeb 90/425/EEC fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn(EC) Rhif 445/2004 (OJ Rhif L72, 11.3.2004, t. 60).back
ISBN 0 11 091144 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 2 June 2005 |