Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Sefydliadau a Chyfryngwyr) (Diwygio) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Sefydliadau a Chyfryngwyr) (Diwygio) (Cymru) 2005, ISBN 0110911407. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â mesurau sy'n gysylltiedig â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu fwyd anifeiliaid a roddir iddynt i'w bwydo, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Sefydliadau a Chyfryngwyr) (Diwygio) (Cymru) 2005, deuant i rym ar 31 Mai 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru. Diwygio Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999 2. Caiff Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999 ("y prif Reoliadau")[4] eu diwygio i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru yn unol â rheoliadau 3 i 5. 3. Yn syth ar ôl rheoliad 9 (gweithdrefn sy'n berthnasol i dynnu cymeradwyaethau yn ôl) mewnosoder y rheoliad a ganlyn -
9A. - (1) Subject to paragraphs (2), (3), (5), (6) and (7), an eligible person who applies to the competent body under regulation 5 or 7 to approve an establishment which is located in Wales as an establishment on which an establishment activity may be exercised shall -
(b) reimburse the competent body the cost of any laboratory analysis incurred by it in connection with the application.
(2) Any fee payable under paragraph (1)(a) shall be payable at the time the application is submitted to the competent body.
(b) take any step specified in regulation 6(2) until, in accordance with paragraph (1)(b), it has been reimbursed the cost of any laboratory analysis incurred by it in connection with the application.
(5) Where an eligible person makes an application under regulation 5 seeking approval of an establishment as one on which more than one establishment activity may be exercised, he shall be liable to pay a single relevant fee, which shall be the highest one otherwise payable.
4.
Yn syth ar ôl rheoliad 16 (gweithdrefn sy'n berthnasol i dynnu cymeradwyaethau yn ôl) mewnosoder y rheoliad a ganlyn -
16A. - (1) Subject to paragraphs (2), (3), (5), (6) and (7), where the area of the competent body is in Wales, an eligible person who applies to it under regulation 12 or 14 to be approved as an intermediary who may exercise an intermediary activity shall -
(b) reimburse the competent body the cost of any laboratory analysis incurred by it in connection with the application.
(2) Any fee payable under paragraph (1)(a) shall be payable at the time the application is submitted to the competent body.
(b) take any step specified in regulation 13(3) until, in accordance with paragraph (1)(b), it has been reimbursed the cost of any laboratory analysis incurred by it in connection with the application.
(5) Where an eligible person makes an application under regulation 12 seeking approval as a person who may exercise more than one intermediary activity, he shall be liable to pay a single relevant fee.
5.
Yn syth ar ôl Atodlen 1 (ymadroddion y mae iddynt yr un ystyr ag yng Nghyfarwyddeb 70/524 neu Gyfarwyddeb 95/69) mewnosoder yr Atodlen a geir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio o ran Cymru Reoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999 (O.S. 1999/1872, fel y'i diwygiwyd eisoes), sy'n rhychwantu'r Deyrnas Unedig yn gyfan. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith Benderfyniad y Cyngor 98/728/EC sy'n ymwneud â system Gymunedol o ffioedd yn y sector bwyd anifeiliaid (OJ Rhif L346, 22.12.98, t.51). 2. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio O.S. 1999/1872 drwy -
(b) mewnosod yn yr offeryn hwnnw reoliad newydd, sef rheoliad 16A, sy'n darparu ar gyfer talu ffioedd ac ad-dalu costau dadansoddiadau labordy i'r corff cymwys gan berson sy'n gwneud cais am i'r corff ei gymeradwyo'n gyfryngwr ("intermediary") o dan reoliad 12 neu 14 o'r offeryn hwnnw; mae rheoliad 16A hefyd yn gwneud darpariaethau atodol sy'n gysylltiedig â hynny (rheoliad 4); ac (c) mewnosod yn yr offeryn hwnnw Atodlen newydd, sef Atodlen 1A, sy'n pennu'r ffioedd sy'n daladwy yn rhinwedd rheoliadau newydd 9A ac 16A (rheoliad 5).
3.
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Notes: [1] O.S. 2003/2901.back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4). O dan Erthygl 3 o'r Rheoliad hwnnw mae "food law" yn rhychwantu bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu fwyd anifeiliaid a roddir iddynt i'w bwydo.back [4] O.S. 1999/1872, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
ISBN 0 11 091140 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 1 June 2005 |