Rheoliadau TSE (Cymru) (Diwygio) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau TSE (Cymru) (Diwygio) 2005, ISBN 0110911385. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â mesurau yn y maes milfeddygol i ddiogelu iechyd y cyhoedd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau TSE (Cymru) (Diwygio) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 31 Mai 2005. Diwygio Rheoliadau TSE (Cymru) 2002 2. - (1) Diwygir Rheoliadau TSE (Cymru) 2002[4] yn unol â pharagraffau (2) a (3). (2) Ym mharagraff (1) o reoliad 3 (dehongli), yn lle'r diffiniad o "the Community Transitional Measures" rhodder y diffiniad canlynol -
(b) Commission Regulation (EC) No. 1326/2001 of 29 June 2001 laying down transitional measures to permit the changeover to Regulation (EC) No. 999/2001 of the European Parliament and of the Council for the prevention, control and eradication of certain transmissible spongiform encephalopathies, and amending Annexes VII and XI to that Regulation[6]; (c) Commission Regulation (EC) No. 270/2002 of 14 February 2002 amending Regulation (EC) No. 999/2001 of the European Parliament and of the Council as regards specified risk material and epidemio-surveillance for transmissible spongiform encephalopathies and amending Regulation (EC) No. 1326/2001 as regards animal feeding and the placing on the market of ovine and caprine animals and products thereof[7]; (d) Commission Regulation (EC) No. 1494/2002 of 21 August 2002 amending Annexes III, VII and XI to Regulation (EC) No. 999/2001 of the European Parliament and the Council as regards monitoring of bovine spongiform encephalopathy, eradication of transmissible spongiform encephalopathy, removal of specified risk materials and rules for importation of live animals and products of animal origin[8]; (e) Commission Regulation (EC) No. 1139/2003 of 27 June 2003 amending Regulation (EC) No. 999/2001 of the European Parliament and of the Council as regards monitoring programmes and specified risk material[9]; and (f) Commission Regulation (EC) No. 1492/2004 of 23 August 2004 amending Regulation (EC) No. 999/2001 of the European Parliament and of the Council as regards eradication measures for transmissible spongiform encephalopathies in bovine, ovine and caprine animals, the trade and importation of semen and embryos of bovine and caprine animals and specified risk material[10];".
(1) Ym mharagraff (2)(b) o reoliad 33 (tynnu deunydd risg penodedig o garcasau mewn lladd-dai) mewnosoder yr ymadrodd ", ileum" o flaen y gair "and" lle'r ymddengys y gair hwnnw gyntaf. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau TSE (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1416 (Cy.142) a ddiwygiwyd eisoes). 2. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio O.S. 2002/1416 (Cy.142) drwy -
(ii) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1139/2003 (OJ Rhif L160, 28.6.2003, t.22), a (iii) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1492/2004 (OJ Rhif L274, 24.8.2004, t.3) (rheoliad 2(2)), a
(b) ychwanegu'r ilewm at y rhestr o feinweoedd sy'n rhaid eu tynnu o ddefaid a geifr hyn a gigyddwyd mewn lladd-dy neu a gludwyd i ladd-dy ar ôl iddynt gael eu cigydda yn rhywle arall (rheoliad 2(3)).
3.
Paratowyd arfarniad rheoliadol ar yr effaith y bydd y Rheoliadau hyn yn ei chael ar gostau busnes yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac fe'i gosodwyd yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW. Notes: [1] O.S. 2003/1246.back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back [4] O.S. 2002/1416 (Cy.142) a ddiwygiwyd gan O.S.2003/2756 (Cy. 267) ac O.S. 2004/2735 (Cy.242).back [5] OJ Rhif L173, 27.6.2001, t.12.back [6] OJ Rhif L177, 30.6.2001, t.61.back [7] OJ Rhif L45, 15.2.2002, t.4.back [8] OJ Rhif L225, 22.8.2002, t.3.back [9] OJ Rhif L160, 28.6.2003, t.22.back [10] OJ Rhif L274, 24.8.2004, t.3.back
ISBN 0 11 091138 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 1 June 2005 |