Rheoliadau Landlord a Thenant (Hysbysu o Rent) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Landlord a Thenant (Hysbysu o Rent) (Cymru) 2005, ISBN 0110911350. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 166 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Landlord a Thenant (Hysbysu o Rent) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran anheddau[2] yng Nghymru yn unig. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "Deddf 2002" ("the 2002 Act") yw Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002. Cynnwys ychwanegol a ffurf hysbysiad o rent sy'n ddyledus 3. - (1) Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1) o adran 166 o Ddeddf 2002 (Gofyniad i hysbysu deiliaid lesoedd hir bod rhent yn ddyledus) gynnwys (yn ychwanegol at yr wybodaeth a bennir yn unol â pharagraffau (a) a (b) o is-adran (2) o'r adran honno ac, os yw'n gymwys, paragraff (c) o'r is-adran honno) -
(b) y cyfnod y mae'r rhent sy'n cael ei hawlio i'w briodoli iddo; (c) enw'r person y mae taliad i'w wneud iddo, a'r cyfeiriad ar gyfer talu; (ch) enw'r landlord y mae'r hysbysiad yn cael ei roi ganddo ac, os nad yw wedi'i nodi yn unol ag is-baragraff (c) uchod, ei gyfeiriad; a (d) yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1) o adran 166 o Ddeddf 2002 fod ar y ffurf a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
NODIADAU AR GYFER LESDDEILIAID Darllenwch yr hysbysiad hwn yn ofalus. Mae'n nodi swm y rhent sy'n ddyledus gennych a'r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i chi ei dalu. Fe'ch cynghorir i ofyn am gymorth ar unwaith, os na allwch dalu, neu os ydych yn herio'r swm. Mae'r rhai sy'n gallu'ch helpu yn cynnwys canolfan cyngor ar bopeth, canolfan cynghori ar dai, canol fan gyfraith a chyfreithiwr. Dangoswch yr hysbysiad hwn a chopi o'ch les i bwy bynnag a fydd yn eich helpu. Mae'n bosibl y gall y landlord hawlio symiau ychwanegol oddi wrthych os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hwn. Mae gennych hawl i herio rhesymoldeb unrhyw symiau ychwanegol mewn tribiwnlys prisio lesddaliadau. Mae Adran 167 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 a'r rheoliadau a wnaed odani yn atal eich landlord rhag peri i chi fforffedu'ch les am beidio â thalu rhent, taliadau gwasanaeth neu daliadau gweinyddu (neu gyfuniad ohonynt) os yw'r swm sy'n ddyledus yn £350 neu lai, neu os nad oes dim o'r swm sydd heb ei dalu wedi aros heb ei glirio am fwy na thair blynedd. NODIADAU AR GYFER LANDLORDIAID 1. Os anfonwch yr hysbysiad hwn drwy'r post, cyfeiriwch ef at y lesddeiliad yn yr annedd y mae'r taliad yn ddyledus ar ei chyfer, oni bai bod y lesddeiliad wedi'ch hysbysu'n ysgrifenedig o gyfeiriad gwahanol yng Nghymru a Lloegr lle mae'n dymuno bod hysbysiadau o dan adran 166 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 yn cael eu rhoi iddo. 2. Rhaid i'r dyddiad hwn beidio â bod naill ai'n llai na 30 niwrnod nac yn fwy na 60 niwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r hysbysiad hwn yn cael ei roi na bod cyn y diwrnod y byddai'r lesddeiliad wedi bod yn atebol i wneud y taliad yn unol â'r les.. 1. Ticiwch y bocs a cynhwyswch y datganiad hwn ddim ond os nad yw'r dyddiad ar gyfer talu yr un fath â'r dyddiad a benderfynwyd yn unol â'r les. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â ffurf a chynnwys hysbysiadau sy'n gofyn bod rhent tir yn cael ei dalu. Mae Rheoliad 3 yn ychwanegu at adran 166(2) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, sy'n ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad o dan adran 166(1) o'r Ddeddf honno, ynglyn â thalu rhent tir, bennu'r swm sy'n ddyledus, y dyddiad y mae'r tenant yn atebol i'w dalu, ac, os yw'n wahanol, y dyddiad y byddai'r tenant wedi bod yn atebol i'w dalu yn unol â'r les. Mae'r gofynion ychwanegol a bennir yn rheoliad 3 yn cynnwys darparu nodiadau ar gyfer lesddeiliaid a landlordiaid. Mae cynnwys y nodiadau wedi'i nodi yn yr Atodlen i'r Rheoliadau, fel rhan o'r ffurf ragnodedig ar hysbysiad o dan adran 166(1). Notes: [1] 2002 p.15. Gweler y diffiniad o "prescribed" yn adran 166(9) o Ddeddf 2002. Yn rhinwedd adran 179(1) o'r Ddeddf honno, Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r "appropriate national authority" o ran Cymru.back [2] Gweler adran 166(9) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, y diffiniad o "the 1985 Act" yn adran 179(2) o'r Ddeddf honno, ac adran 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985.back
ISBN 0 11 091135 0
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 24 May 2005 |