Rheoliadau Tai Lesddaliad (Hysbysiad o Warchodaeth Yswiriant) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Tai Lesddaliad (Hysbysiad o Warchodaeth Yswiriant) (Cymru) 2005, ISBN 0110911342. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 164(5)(d) a (6)(a) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai Lesddaliad (Hysbysiad o Warchodaeth Yswiriant) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran tai[2] yng Nghymru'n unig. Cynnwys ychwanegol hysbysiad o warchodaeth 2. Rhaid i hysbysiad o warchodaeth[3] bennu (Yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) i (c) o is-adran (5) o adran 164 (Yswiriant nad yw gydag yswirwyr y landlord) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002) -
(b) swyddfa gofrestredig yr yswiriwr awdurdodedig[4] neu, os nad oes gan yr yswiriwr awdurdodedig swyddfa gofrestredig, ei brif swyddfa; (c) Rhif y polisi; (ch) pa mor aml y mae premiymau'n daladwy o dan y polisi; (d) swm unrhyw dâl ychwanegol sy'n daladwy gan y tenant o dan y polisi; (dd) os bydd tâl ychwanegol yn daladwy, p'un a yw'n daladwy o ran pob cais a wneir o dan y polisi neu mewn amgylchiadau penodol yn unig ac, yn yr achos olaf hwn, ddisgrifiad byr o'r amgylchiadau hynny; (e) p'un a yw'r polisi wedi'i adnewyddu ai peidio ac, os cafodd ei adnewyddu, y dyddiad y gwnaed hynny ddiwethaf; (f) os na chafodd y polisi ei adnewyddu, y dyddiad y daeth yn effeithiol; (ff) bod y tenant wedi'i fodloni bod y polisi'n gwarchod ei fuddiannau; a (g) nad oes gan y tenant unrhyw reswm dros gredu nad yw'r polisi'n gwarchod buddiannau'r landlord.
Ffurf ar hysbysiad o warchodaeth
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Os bydd les hir ar dŷ yn ei gwneud yn ofynnol i'r tenant yswirio'r tŷ gydag yswiriwr a enwebwyd neu a gymeradwywyd gan y landlord, caiff tenant osgoi'r gofyniad hwnnw os bydd darpariaethau adran 164(2)(a) i (d) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 sy'n ymwneud â'r yswiriwr, y buddiannau a'r risgiau a warchodir, a swm y warchodaeth, wedi'u bodloni a bod y tenant yn rhoi hysbysiad o warchodaeth i'r landlord o fewn y cyfnod a bennir yn yr adran honno. Rhaid i hysbysiad o warchodaeth bennu enw'r yswiriwr, y risgiau a warchodir gan y polisi, swm a chyfnod y warchodaeth ac unrhyw wybodaeth bellach y gellir bod wedi'i rhagnodi. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi gwybodaeth bellach sydd i'w chynnwys mewn hysbysiad o warchodaeth. Mae'r wybodaeth honno fel a ganlyn:
(b) swyddfa gofrestredig yr yswiriwr neu, os nad oes swyddfa gofrestredig gan yr yswiriwr, ei brif swyddfa; (c) Rhif y polisi; (ch) pa mor aml y mae premiymau'n daladwy o dan y polisi; (d) swm unrhyw dâl ychwanegol sy'n daladwy gan y tenant o dan y polisi; (dd) os bydd tâl ychwanegol yn daladwy, p'un a yw'n daladwy o ran pob cais a wneir o dan y polisi neu mewn amgylchiadau penodol yn unig ac, yn yr achos olaf hwn, ddisgrifiad byr o'r amgylchiadau hynny; (e) p'un a yw'r polisi wedi'i adnewyddu ai peidio ac, os cafodd ei adnewyddu, y dyddiad y gwnaed hynny ddiwethaf; (f) os na chafodd y polisi ei adnewyddu, y dyddiad y daeth yn effeithiol; (ff) datganiad bod y tenant wedi'i fodloni bod y polisi'n gwarchod buddiannau tenantiaid; a (g) datganiad nad oes gan y tenant reswm dros gredu nad yw'r polisi'n gwarchod buddiannau'r landlord.
Rhaid i'r hysbysiad fod ar y ffurf a geir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau neu ar ffurf sylweddol debyg ei heffaith. Notes: [1] 2002 p.15. Gweler y diffiniadau o "prescribed" yn adran 164(10) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002. Yn rhinwedd adran 179(1) o'r Ddeddf honno, Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r "the appropriate national authority" o ran Cymru. (Mae'r pwerau a roddir gan adran 164(5)(d) a (6)(a) o'r Ddeddf honno'n arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd y diffiniad o "prescribed" ac adran 179(1).)back [2] Yn rhinwedd adrannau 164(10) a 179(2) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, yr un ystyr sydd i "house" yn adran 164 ag sydd iddo at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 (p.88). Yn y Ddeddf honno yn adran 2 y ceir y diffiniad o "house" .back [3] Gweler adran 164(3) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back [4] Gweler y diffiniad o "authorised insurer" yn adran 164(10) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back
ISBN 0 11 091134 2
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 24 May 2005 |