Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 3 ac Arbediad a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 3 ac Arbediad a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005, ISBN 0110911334. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 181 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 3 ac Arbediad a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005. (2) Yn y Gorchymyn hwn, oni ddywedir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 ac Atodlenni iddi. (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru Darpariaethau sy'n dod i rym yng Nghymru ar 31 Mai 2005 2. Yn ddarostyngedig i erthygl 3, daw'r darpariaethau canlynol i rym yng Nghymru ar 31 Mai 2005 -
(b) adran 157, i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 15 o Atodlen 10, (c) adran 164, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, (ch) adran 165, (d) adrannau 166 a 167, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, (dd) adrannau 168 i 170, (e) adran 171, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, (f) yn adran 172, is-adrannau (1) i (5), ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â chymhwysiad adrannau 21 i 22 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985[2], fel y'u hamnewidir neu fel y'u mewnosodir gan adrannau 152 i 154, i'r Goron, (ff) adran 176 ac Atodlen 13, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, a (g) adran 180, i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu yn Atodlen 14 -
(ii) adran 82 o Ddeddf Tai 1996[4]; a (iii) ym mharagraff 18(2) o Atodlen 10 i'r Ddeddf honno, paragraff (b) a'r gair "and" sydd o'i flaen.
Arbediad a darpariaeth drosiannol
(b) ceisiadau a wneir cyn 31 Mai 2005 o dan adran 26 o'r Ddeddf honno.
(3) Ni fydd adran 168 yn effeithiol o ran hysbysiadau a gyflwynir o dan adran 146(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925[5] cyn 31 Mai 2005 ynghylch torri unrhyw gyfamod neu amod gan denant. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau pellach Rhan 2 (Diwygio Cyfraith Lesddaliad) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 ("Deddf 2002"). Daw darpariaethau Deddf 2002 a grybwyllir yn erthygl 2 o'r Gorchymyn i rym, o ran Cymru, ar 31 Mai 2005. Maent yn cynnwys:
(b) darpariaethau newydd y caiff deiliaid lesoedd hir, mewn amgylchiadau penodol, yswirio eu tai odanynt ac eithrio gydag yswiriwr a enwir neu a gymeradwyir gan y landlord (adran 164); (c) darpariaethau newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid hysbysu deiliaid lesoedd hir bod rhent yn ddyledus (adran 166); (ch) darpariaethau newydd sy'n atal landlord deiliad les hir rhag arfer hawl ailfynediad neu hawl fforffedu oherwydd methiant y lesddeiliad i dalu rhent, taliadau gwasanaeth neu daliadau gweinyddu pan nad yw'r swm sydd heb ei dalu a'r cyfnod y mae unrhyw ran o'r swm hwnnw wedi bod yn daladwy ar ei gyfer yn fwy na'r swm a'r cyfnod a ragnodir mewn rheoliadau (adran 167); (d) darpariaethau newydd sy'n atal landlord deiliad les hir rhag cyflwyno hysbysiad fforffedu oherwydd bod cyfamod neu amod yn y les wedi'i dorri oni bai bod y lesddeiliad yn cyfaddef ei fod wedi'i dorri, neu fod llys neu dribiwnlys cymrodeddu wedi penderfynu'n derfynol bod y toriad wedi digwydd (adrannau 168 a 169). Mae arbediad, sy'n berthnasol i adran 168, yn erthygl 3(3); ac (dd) newidiadau i'r amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn y gall landlord deiliad les hir arfer hawl ailfynediad neu hawl fforffedu oherwydd methiant i dalu taliadau gwasanaeth (adran 170). Mae arbediad perthnasol yn erthygl 3(4). (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2002 wedi'u dwyn i rym yng Nghymru drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Mae Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 5 ac Arbediad a Darpariaeth Drosiannol) 2004 (O.S. 2004/3056) (p.127) wedi dwyn i rym, o ran Cymru a Lloegr, adran 180 o Ddeddf 2002 i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu yn Atodlen 14 adran 104 o'r Ddeddf honno. Mae darpariaethau yn Rhan 1 o Ddeddf 2002 (Cyfunddaliad) wedi'u dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr gan y Gorchmynion Cychwyn canlynol -
Notes: [1] 2002 p.15. Gweler y diffiniad o "the appropriate national authority" yn adran 181(4).back [2] 1985 p.70. (Caiff adrannau 21, 21A, 21B a 22 eu hamnewid neu eu mewnosod pan ddaw adrannau 152 i 154 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 i rym yn llawn).back
ISBN 0 11 091133 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 24 May 2005 |