Rheoliadau Hawliau Ailfynediad a Fforffediad (Swm a Chyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Hawliau Ailfynediad a Fforffediad (Swm a Chyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2005, ISBN 0110911326. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 167(1) a 167(5) a 179(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hawliau Ailfynediad a Fforffediad (Swm a Chyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i anheddau yng Nghymru a feddiennir o dan les hir[2]. Swm a chyfnod rhagnodedig 2. - (1) £350 yw'r swm rhagnodedig at ddibenion is-adran 1(a) o adran 167 (methu â thalu swm bychan am gyfnod byr) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002. (2) Tair blynedd yw'r cyfnod rhagnodedig at ddibenion is-adran (1)(b) o'r adran honno. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 17 Mai 2005 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae adran 167(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 yn atal landlord sydd o dan les hir ar annedd rhag arfer hawl ailfynediad neu fforffediad os bydd tenant yn methu â thalu swm wedi'i wneud o rent, taliadau gwasanaeth neu daliadau gweinyddu (neu gyfuniad ohonynt) oni bai bod y swm sydd heb ei dalu yn fwy na'r swm rhagnodedig neu'n swm sydd wedi'i wneud o swm a fu'n daladwy am fwy na chyfnod rhagnodedig neu'n swm sy'n cynnwys swm o'r fath. Mae Rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran anheddau yng Nghymru yn unig, yn rhagnodi'r swm o £350 a chyfnod o dair blynedd. Notes: [1] 2002 p.15. Gweler y diffiniad o "prescribed" yn adran 167(5) a'r diffiniad o "appropriate national authority" yn adran 179(1).back [2] O ran "dwelling" a "long lease", gweler adran 167(5) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back
ISBN 0 11 091132 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 24 May 2005 |