Rheoliadau Cyflasynnau Mwg (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cyflasynnau Mwg (Cymru) 2005, ISBN 011091130X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (c), (e) ac (f), (17)(2), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac wedi ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. O ran y Rheoliadau hyn -
(b) deuant i rym -
(ii) neu fel arall, ar 16 Mehefin 2005;
(c) maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 2065/2003 yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn Rheoliad 2065/2003 ac yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at erthygl neu atodiad â Rhif yn gyfeiriad at yr erthygl neu'r atodiad â'r Rhif hwnnw yn Rheoliad 2065/2003.
(b) os rhan o swp, lot neu o lwyth o fwyd o'r un dosbarth neu ddisgrifiad yw'r bwyd hwnnw, hyd nes y profir i'r gwrthwyneb, rhaid tybio bod y cyfan o'r bwyd sydd yn y swp hwnnw, yn y lot hwnnw neu yn y llwyth hwnnw'n methu cydymffurfio â'r gofynion hynny.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn mae "bwyd" yn cynnwys unrhyw gyddwysiad sylfaenol o fwg, ffracsiwn sylfaenol o dar neu gyflasyn mwg deilliedig.
(b) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall); (c) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 14 neu 15 o'r Ddeddf honno); (ch) adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes); (d) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol); (dd) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion); (e) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd); (f) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd); (ff) adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e); (g) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac (ng) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Gorfodi
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer gorfodi a gweithredu rhai o ddarpariaethau penodol Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar y cyflasynnau mwg a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio mewn bwydydd neu arnynt (OJ Rhif L309, 26.11.2003, t.1.). Mae'r Rheoliadau hyn yn benodol -
(b) yn cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 ynghyd â rhai addasiadau o ran eu cymhwyso at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliadau 4 a 6); (c) yn sefydlu cosbau am fethu cydymffurfio â rhai o ddarpariaethau penodol Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 (rheoliad 5 a'r Atodlen); (ch) yn darparu ar gyfer gorfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn a Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 (rheoliad 7) gan awdurdodau bwyd penodol.
Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p.16.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] OJ Rhif L31, 1.2. 2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4). Yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Diwygio) 2004 (O.S. Rhif 2004/2990), gydag effaith o 7 Rhagfyr 2004 ymlaen datgymhwysir y gofyniad i ymgynghori a geir yn adran 48(4) o Ddeddf 1990 mewn unrhyw achos lle y mae ymgynghori yn ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002.back [4] OJ Rhif L309, 26.11.2003, t.1.back [5] Cyfeiriad yr Asiantaeth yng Nghymru yw Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.back
ISBN 0 11 091130 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 24 May 2005 |