Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2005, ISBN 011091127X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3) a (5) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf")[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cymhwyso a dehongli 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2005. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru. (3) Yn y Gorchymyn hwn -
Diwrnodau penodedig
(ii) paragraff 10 (ceisiadau am rai orchmynion penodol o dan Ran III), (iii) paragraff 11 (gweithdrefn mewn cysylltiad â gorchmynion penodol); a
(b) adran 57 o'r Ddeddf (creu, cau a gwyro priffyrdd) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i ddarpariaethau canlynol Atodlen 6 i'r Ddeddf -
(ii) yn ddarostyngedig i erthygl 5 o'r Gorchymyn hwn, paragraff 3 (diwygio adran 31 o Ddeddf 1980 sy'n ymwneud â chyflwyno ffordd i fod yn briffordd, gan y tybir hynny ar ôl ei defnyddio gan y cyhoedd am 20 mlynedd), (iii) paragraff 9(1) i (3) (gwyro llwybrau troed a llwybrau ceffylau), (iv) paragraff 11 (gwyro llwybrau troed a llwybrau ceffylau sy'n croesi rheilffyrdd), (v) paragraff 14(1) a (4)(a) (darpariaethau atodol), (vi) paragraff 20(a) i (c) (dehongli), a (vii) paragraff 24 (dirprwyo'r swyddogaeth o wneud penderfyniad).
3.
15 Gorffennaf 2005 yw'r diwrnod a bennwyd i adran 57 o'r Ddeddf (creu, cau a gwyro priffyrdd) ddod i rym i'r graddau y mae'n rhoi effaith i ddarpariaethau canlynol Atodlen 6 i'r Ddeddf -
(b) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 118B yn Neddf 1980 at ddibenion paragraff (1)(b) o'r adran honno, paragraff 8 (cau priffyrdd penodol sy'n croesi tir sy'n cael ei feddiannu at ddibenion ysgol), (c) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 119B yn Neddf 1980 at ddibenion paragraff (1)(b) o'r adran honno, paragraff 12 (gwyro priffyrdd penodol sy'n croesi tir sy'n cael ei feddiannu at ddibenion ysgol), ac (ch) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaeth a gafodd ei dwyn i rym gan yr erthygl hon -
(ii) i'r graddau nad yw'n cael ei ddwyn i rym gan erthygl 2, paragraff 14 (darpariaethau atodol), (iii) paragraff 17 (pwerau mynd i mewn), (iv) ym mharagraff 18 (rheoliadau, cynlluniau a gorchmynion) -
(bb) is-baragraff (b),
(v) paragraff 19 (dirymu ac amrywio cynlluniau a gorchmynion), i'r graddau ei fod, yn adran 326(5) o Ddeddf 1980, yn mewnosod cyfeiriadau at orchymyn diddymu arbennig a gorchymyn gwyro arbennig,
(bb) is-baragraff (2)(a) ac, i'r graddau ei fod, ym mharagraff 1(1) a (2) o Atodlen 6 i Ddeddf 1980, yn mewnosod y cyfeiriad at orchymyn gwyro arbennig, is-baragraff (2)(b), (cc) is-baragraff (3)(a) ac, i'r graddau ei fod, ym mharagraff 1(3A) o Atodlen 6 i Ddeddf 1980, yn mewnosod y cyfeiriad at orchmynion gwyro arbennig, is-baragraff (3)(b), (dd) is-baragraff (4)(a) ac, i'r graddau ei fod, ym mharagraff 1(3B) o Atodlen 6 i Ddeddf 1980, yn mewnosod y cyfeiriad at orchmynion gwyro arbennig, is-baragraff (4)(b), (ee) i'r graddau ei fod, ym mharagraff 2(2) a (3) o Atodlen 6 i Ddeddf 1980, yn mewnosod y cyfeiriad at orchymyn gwyro arbennig, is-baragraff (5), (ff) ac eithrio i'r graddau y mae'n mewnosod paragraff 2A(1)(b) o Atodlen 6 yn Neddf 1980, is-baragraff (7), (gg) is-baragraff (8), a (hh) is-baragraff (9)(a) ac, i'r graddau ei fod, ym mharagraff 3(2) o Atodlen 6 i Ddeddf 1980, yn mewnosod y cyfeiriad at orchymyn gwyro arbennig, is-baragraff (9)(b).
4.
21 Tachwedd 2005 yw'r diwrnod a bennwyd i'r canlynol ddod i rym -
(b) adran 57 o'r Ddeddf (creu, cau a gwyro priffyrdd) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i ddarpariaethau canlynol Atodlen 6 i'r Ddeddf-
(ii) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 121B yn Neddf 1980, paragraff 15 (cofrestr o geisiadau).
Darpariaethau trosiannol
(b) os na wnaeth y perchennog hwnnw, neu os na wnaeth ei ragflaenwyr mewn teitl, o fewn y cyfnod o 6 mlynedd yn gorffen ar 31 Mai 2005, roi datganiad statudol (p'un a roddwyd datganiad blaenorol ai peidio) yn unol ag adran 31(6) o Ddeddf 1980.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym rai o ddarpariaethau penodol Rhan II o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") o ran Cymru ar 31 Mai 2005, 15 Gorffennaf 2005 a 21 Tachwedd 2005. Mae'r darpariaethau y mae'r Gorchymyn hwn yn eu cychwyn yn gwella ac yn atgyfnerthu'r gwaith o reoli'r 33,000 o gilometrau amcangyfrifedig o hawliau tramwy cyhoeddus yng Nghymru drwy -
(b) galluogi awdurdodau priffyrdd lleol i gau neu wyro llwybrau troed, llwybrau ceffylau ac, ymhen amser, gilffyrdd cyfyngedig, at ddibenion amddiffyn plant ysgol a staff ysgolion drwy helpu'r awdurdodau i wella diogelwch mewn ysgolion lle y mae llwybrau cyhoeddus yn croesi tir sy'n cael ei feddiannu at ddibenion ysgol. Daw'r darpariaethau hyn i rym ar 15 Gorffennaf 2005 (erthygl 3); ac (c) ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau priffyrdd lleol lunio a chadw tair cofrestr newydd sy'n ymwneud â gorchmynion llwybrau cyhoeddus ac addasiadau a thrwy alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i ragnodi cynnwys y cofrestrau hynny. Daw'r darpariaethau hyn i rym ar 21 Tachwedd 2005 (erthygl 4). (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Cafodd darpariaethau canlynol Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 eu dwyn i rym yng Nghymru gan orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn -
Mae'r Gorchmynion Cychwyn canlynol wedi'u gwneud o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 o ran Lloegr -
Notes: [1] 2000 p.37.back
ISBN 0 11 091127 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 17 May 2005 |