Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005, ISBN 0110911296. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 26(1) i (2B), 59(4)(a) a (5) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989[1] ac adrannau 9(1)(a), 11(1)(b), 27(3), , 45(1) a (2), 53, 54 a 140(7) ac (8) a 142(4) a (5) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
Sefydlu panel mabwysiadu 3. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu sefydlu o leiaf un panel, a elwir y panel mabwysiadu, yn unol â'r rheoliad hwn. (2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu benodi person i gadeirio'r panel, sef person na fu'n aelod etholedig, ymddiriedolwr, cyfarwyddwr neu'n gyflogai o'r asiantaeth o fewn y 12 mis diwethaf, sydd â'r sgiliau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer cadeirio'r panel mabwysiadu. (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid bod dim mwy na deg aelod i'r panel mabwysiadu, gan gynnwys y person a benodwyd o dan baragraff (2), a rhaid iddo gynnwys -
(b) yn achos cymdeithas fabwysiadu gofrestredig, person sy'n gyfarwyddwr, rheolwr neu'n swyddog arall o'r asiantaeth sy'n ymwneud â rheolaeth yr asiantaeth; (c) yn achos awdurdod lleol, un aelod etholedig o'r awdurdod; (ch) y person a benodwyd fel cynghorydd meddygol i'r asiantaeth yn unol â rheoliad 9, (neu un ohonynt os penodwyd mwy nag un cynghorydd meddygol), tra pery'r person hwnnw'n gynghorydd meddygol; (d) o leiaf dri pherson arall (y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn fel "personau annibynnol") gan gynnwys lle y bo'n rhesymol ymarferol o leiaf ddau berson â phrofiad personol o fabwysiadu.
(4) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu benodi dau o aelodau'r panel mabwysiadu y bydd y naill neu'r llall yn gweithredu fel cadeirydd os yw'r person a benodwyd i gadeirio'r panel yn absennol neu os yw ei swydd yn wag ("yr is-gadeirydd").
(b) rhaid i bob awdurdod lleol benodi dau berson i'r panel, y mae'n rhaid i un ohonynt fod yn weithiwr cymdeithasol a rhaid i'r llall fod yn aelod etholedig o'r awdurdod hwnnw; (c) drwy gytundeb rhwng yr awdurdodau lleol rhaid penodi -
(ii) o leiaf dri aelod annibynnol gan gynnwys lle y bo'n rhesymol ymarferol o leiaf ddau berson â phrofiad personol o fabwysiadu; (iii) dau o aelodau'r panel y bydd y naill neu'r llall yn gweithredu fel cadeirydd os yw'r person a benodwyd i gadeirio'r panel yn absennol neu os yw ei swydd yn wag ("yr is-gadeirydd"). (iv) cynghorydd meddygol i un o'r awdurdodau.
(6) Rhaid peidio â phenodi person yn berson annibynnol ar banel mabwysiadu os yw'r person hwnnw -
(ii) yn achos awdurdod lleol, gan yr awdurdod hwnnw i gyflawni unrhyw swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod hwnnw;
(b) yn aelod etholedig neu wedi bod yn aelod etholedig o'r awdurdod hwnnw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf;
(ii) yn achos awdurdod lleol, i berson a gyflogir gan yr awdurdod hwnnw i gyflawni unrhyw un o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod hwnnw.
(7) At ddibenion paragraff (6)(d) mae person ("person A") yn perthyn i berson arall ("person B") os yw person A -
(b) yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd i berson B; neu (c) yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd i'r person sy'n briod â pherson B neu'n bartner sifil i berson B.
Deiliadaeth swydd aelodau'r panel mabwysiadu
(b) i fod yn gyfrifol am gynefino a hyfforddi aelodau o'r panel mabwysiadu; (c) i fod yn gyfrifol am weinyddu'r panel mabwysiadu, gan gynnwys cynorthwyo gyda chydlynu rhwng yr asiantaeth a'r panel mabwysiadu a monitro perfformiad aelodau o'r panel mabwysiadu; ac (ch) i roi'r cyfryw gyngor i'r panel mabwysiadu y gall y panel ofyn amdano o ran unrhyw achos neu yn gyffredinol.
Gofyniad i benodi cynghorydd meddygol Cymhwysiad rheoliadau 11 i 20 11. Mae rheoliadau 11 i 20 yn gymwys pan fydd asiantaeth fabwysiadu yn ystyried mabwysiadu ar gyfer plentyn. Gofyniad i ddechrau cofnod achos i blentyn 12. - (1) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu drefnu cofnod achos o ran y plentyn a rhoi ynddo unrhyw wybodaeth a gafwyd ac unrhyw adroddiad, argymhelliad neu benderfyniad a wnaed yn rhinwedd y Rheoliadau hyn. (2) Os yw'r plentyn -
(b) yn cael llety o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989 (darparu llety gan gyrff gwirfoddol),
rhaid i'r awdurdod lleol neu, yn ôl y digwydd, y gymdeithas fabwysiadu gofrestredig gael gafael ar unrhyw wybodaeth y mae angen cael gafael arni gan yr asiantaeth yn rhinwedd y Rhan hon, o'r cofnodion a gynhelir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan Ddeddf 1989, a rhoi'r wybodaeth honno yn y cofnod achos y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
(b) esbonio i'r plentyn mewn modd priodol y weithdrefn ynglyn â'i fabwysiadu, a goblygiadau cyfreithiol ei fabwysiadu, a rhoi'r wybodaeth ysgrifenedig briodol i'r plentyn ynglyn â'r materion hyn; ac (c) canfod dymuniadau a theimladau'r plentyn o ran -
(ii) ei fagwraeth grefyddol a diwylliannol; a (iii) cyswllt â'i riant, ei warcheidwad, perthynas neu berson arwyddocaol arall.
Gofyniad i ddarparu cwnsela a gwybodaeth ar gyfer rhiant neu warcheidwad y plentyn neu bobl eraill a chanfod eu dymuniadau a'u teimladau.
(b) esbonio a darparu gwybodaeth ysgrifenedig i riant neu warcheidwad y plentyn ar y materion canlynol -
(ii) goblygiadau cyfreithiol -
(bb) cydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf (cydsyniad ymlaen llaw i fabwysiadu); (cc) gorchymyn lleoliad; a
(iii) goblygiadau cyfreithiol mabwysiadu; ac
(c) canfod dymuniadau a theimladau rhiant neu warcheidwad y plentyn neu unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol o ran y canlynol -
(ii) lleoliad y plentyn ar gyfer mabwysiadu a'i fabwysiadu gan gynnwys unrhyw ddymuniadau a theimladau ynghylch magwraeth grefyddol a diwylliannol y plentyn; a (iii) cyswllt â'r plentyn os awdurdodwyd yr asiantaeth i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu neu os mabwysiedir y plentyn.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan nad oes gan dad plentyn gyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac mae'r asiantaeth yn gwybod pwy yw'r tad.
(b) canfod i'r graddau y mae'n bosibl p'un a yw'r tad -
(ii) yn bwriadu gwneud cais am orchymyn preswylio neu orchymyn cyswllt ynglyn â'r plentyn o dan adran 8 o Ddeddf 1989 (preswyliad, cyswllt a gorchmynion eraill ynglyn â phlant) neu lle y bo plentyn yn ddarostyngedig i orchymyn gofal, gorchymyn o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant â phlant mewn gofal).
Gofyniad i gael gwybodaeth am y plentyn (gan gynnwys gwybodaeth am ei iechyd)
(b) cael adroddiad ysgrifenedig gan yr ymarferydd hwnnw ar gyflwr iechyd y plentyn a rhaid iddo gynnwys unrhyw driniaeth y mae'r plentyn yn ei chael, anghenion y plentyn am ofal iechyd a'r materion a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 1,
oni chafodd yr asiantaeth gyngor gan y cynghorydd meddygol nad oes angen yr archwiliad a'r adroddiad hwnnw.
(b) cael gafael ar adroddiadau ysgrifenedig o'r archwiliadau a'r profion hynny.
(4) Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys os yw'r plentyn yn deall digon i wneud penderfyniad seiliedig ar wybodaeth ac yn gwrthod cael archwiliadau neu brofion eraill.
(b) crynodeb, a ysgrifenwyd gan gynghorydd meddygol yr asiantaeth, o gyflwr iechyd y plentyn, hanes ei iechyd ac unrhyw angen am ofal iechyd a all godi yn y dyfodol; (c) dymuniadau a theimladau'r plentyn ynglyn â'r materion a nodir yn rheoliad 13(1)(c); (ch) dymuniadau a theimladau rhiant neu warcheidwad y plentyn, a phan fo rheoliad 14(2) yn gymwys, tad y plentyn, ac unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol, ynghylch y materion a nodir yn rheoliad 14(1)(c); (d) barn yr asiantaeth fabwysiadu am angen y plentyn o ran cyswllt â'i riant neu ei warcheidwad neu berthynas arall neu ag unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol (gan gynnwys tad y plentyn pan fo rheoliad 14(2) yn gymwys) a'r trefniadau y mae'r asiantaeth yn bwriadu eu gwneud i ganiatáu cyswllt â'r plentyn i unrhyw berson; (dd) asesiad o ddatblygiad emosiynol y plentyn a datblygiad ei ymddygiad ac unrhyw anghenion cysylltiedig; (e) asesiad o gynneddf rhiant neu warcheidwad y plentyn i fod yn rhiant, ac os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, ei dad; (f) cronoleg o'r penderfyniadau a'r camau a gymerwyd gan yr asiantaeth ynglyn â'r plentyn; (ff) dadansoddiad o'r opsiynau am ofal y plentyn yn y dyfodol a gafodd eu hystyried gan yr asiantaeth a pham yr ystyrir mai lleoliad ar gyfer mabwysiadu yw'r dewis gorau; a (g) unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei bod yn berthnasol.
(2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu anfon yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd â'r adroddiadau eraill y mae eu hangen yn rhinwedd rheoliad 15 a 16 at y panel mabwysiadu.
(b) caiff ofyn i'r asiantaeth gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r panel yn ystyried ei bod yn angenrheidiol; (c) rhaid iddo gael cyngor cyfreithiol yr ystyria sy'n angenrheidiol o ran yr achos.
(3) Pan fo'r panel mabwysiadu yn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu rhaid iddo ystyried a chaiff ar yr un pryd roi cyngor i'r asiantaeth ynghylch -
(b) os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn awdurdod lleol, a ddylid gwneud cais am orchymyn lleoliad ynglyn â'r plentyn.
Penderfyniad a hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu
(b) ystyried unrhyw gyngor a roddir gan y panel mabwysiadu yn unol â rheoliad 18(3); ac (c) rhoi sylw i'r ystyriaeth a nodir yn adran 1(2) o'r Ddeddf
wrth benderfynu a ddylid lleoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.
(b) unrhyw berthynas neu berson arwyddocaol arall yr ymgynghorodd yr asiantaeth ag ef o dan reoliad 14(1) gan gynnwys unrhyw berson y gall fod gorchymyn cyswllt ganddo o dan adran 8 o Ddeddf 1989 neu orchymyn o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant â phlant mewn gofal) mewn grym yn union cyn yr awdurdodir yr asiantaeth i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu; ac (c) os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, tad y plentyn; ac (ch) rhaid i'r asiantaeth esbonio ei phenderfyniad i'r plentyn mewn modd priodol ac yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn.
(4) Oni wnaed cais y gellid gwneud gorchymyn gofal o ran y plentyn, nas penderfynwyd arno, neu os yw'r plentyn yn llai na 6 wythnos oed, rhaid i'r asiantaeth ganfod a yw rhiant neu warcheidwad y plentyn yn barod -
(b) ar yr un adeg i gydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf (cydsynio ymlaen llaw i fabwysiadu).
(5) Pan fydd rhiant neu warcheidwad y plentyn yn barod i gydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf, rhaid i'r asiantaeth esbonio a chadarnhau yn ysgrifenedig i riant neu warcheidwad y plentyn -
(b) drwy roi hysbysiad i'r asiantaeth caiff, ar yr adeg honno neu rywbryd wedyn, ddatgan nad yw'n dymuno cael ei hysbysu o unrhyw gais am orchymyn mabwysiadu; ac (c) caniateir tynnu'r cyfryw ddatganiad yn ôl.
Cais i benodi swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS
(b) unrhyw hysbysiad a roddir i'r asiantaeth o dan adran 20(4)(a) o'r Ddeddf (datganiad na ddymunir cael hysbysiad o unrhyw gais am orchymyn mabwysiadu); ac (c) hysbysiad tynnu'n ôl unrhyw gydsyniad neu ddatganiad a roddwyd o dan adrannau 19 neu 20 o'r Ddeddf.
Gofyniad i ddarparu cwnsela a gwybodaeth 21. Pan fydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried a yw person yn addas i fabwysiadu plentyn, rhaid i'r asiantaeth -
(b) mewn achos adran 83, esbonio i'r darpar fabwysiadydd y weithdrefn o ran mabwysiadu plentyn o'r wlad y mae'r darpar fabwysiadydd yn dymuno mabwysiadu ohoni a goblygiadau cyfreithiol gwneud hynny; (c) mewn unrhyw achos arall esbonio i'r darpar fabwysiadydd y weithdrefn o ran lleoli ar gyfer mabwysiadu (gan gynnwys lleoliad drwy gydsyniad o dan adran 19 o'r Ddeddf, cydsyniad i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf, cyfyngu cyfrifoldeb rhiant a gorchmynion lleoliad) a mabwysiadu a goblygiadau cyfreithiol gwneud hynny; a (ch) rhoi gwybodaeth ysgrifenedig i'r darpar fabwysiadydd ynglyn â'r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b) neu, yn ôl y digwydd, (c).
Gofyniad i ystyried cais am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn
(b) o ran unrhyw aelod arall o aelwyd y darpar fabwysiadydd sy'n 18 oed neu drosodd, tystysgrif record droseddol fanwl o dan adran 115 o'r Ddeddf honno gan gynnwys y materion a bennir yn is-adran (6A) o'r adran honno.
(2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu beidio ag ystyried person yn addas i fabwysiadu plentyn neu, yn ôl y digwydd, rhaid iddi ystyried nad yw person bellach yn addas i fabwysiadu plentyn, os yw'r person neu unrhyw aelod o aelwyd y person hwnnw sy'n 18 oed neu drosodd -
(b) os cafodd rybuddiad gan gwnstabl o ran unrhyw dramgwydd o'r fath, y cyfaddefodd y person i'r tramgwydd pan roddwyd y rhybuddiad iddo.
(3) Ym mharagraff (2) ystyr "tramgwydd penodedig" yw -
(b) tramgwydd a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3; (c) tramgwydd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979[12] o ran nwyddau y gwaharddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876 (gwaharddiadau a chyfyngiadau ynghylch pornograffi)[13] os oedd y nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blant o dan 16 oed; (ch) unrhyw dramgwydd arall sy'n cynnwys anaf corfforol i blentyn, ac eithrio tramgwydd ymosodiad cyffredin neu guro,
ac mae i'r ymadrodd "tramgwydd yn erbyn plentyn" yr ystyr a roddir i "offence against a child" yn adran 26(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000[14] ac eithrio nad yw'n cynnwys tramgwydd yn groes i adran 9 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 (gweithgaredd rhywiol â phlentyn) mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed a'r plentyn yn 13 oed neu drosodd adeg cyflawni'r tramgwydd.
(b) yn dod o fewn paragraff 2 neu 3 o Ran 2 o Atodlen 3,
er bod y tramgwyddau statudol a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 3 wedi'u diddymu.
(b) arwyddocâd a goblygiadau cyfreithiol mabwysiadu i blentyn a'i deulu; (c) cyswllt rhwng plentyn a'i rieni naturiol a pherthnasau eraill pan awdurdodir lleoli plentyn ar gyfer mabwysiadu neu pan gaiff y plentyn ei fabwysiadu; (ch) y sgiliau sydd eu hangen i fod yn rhiant mabwysiadol; (d) safbwynt y plentyn a theulu'r plentyn; (dd) gweithdrefnau'r asiantaeth fabwysiadu o ran asesu darpar fabwysiadwyr a lleoli plentyn ar gyfer mabwysiadu; a (e) y weithdrefn o ran mabwysiadu a lleoli ar gyfer mabwysiadu.
Gweithdrefnau o ran gwneud asesiad
(b) adroddiad ysgrifenedig am bob un o'r cyfweliadau gyda'r personau a enwebwyd gan y darpar fabwysiadydd yn ganolwyr personol; ac (c) adroddiad ysgrifenedig gan yr awdurdod lleol y mae'r darpar fabwysiadydd yn byw yn ei ardal, a phan fo'r darpar fabwysiadydd wedi byw yn yr ardal honno am gyfnod llai na deuddeng mis rhaid i'r asiantaeth gael adroddiad ysgrifenedig hefyd gan yr awdurdod lleol yr oedd y darpar fabwysiadydd yn byw yn ei ardal cyn hynny.
(4) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu baratoi adroddiad ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys -
(b) crynodeb, a ysgrifenwyd gan gynghorydd meddygol yr asiantaeth, ar gyflwr iechyd y darpar fabwysiadydd; (c) asesiad yr asiantaeth ar addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fabwysiadu plentyn, ac wrth benderfynu addasrwydd cwpl i fabwysiadu plentyn, rhaid i'r asiantaeth roi sylw priodol i'r angen am gysondeb a sefydlogrwydd yn eu perthynas; (ch) unrhyw wybodaeth berthnasol y caiff yr asiantaeth afael arni o dan baragraff (3)(c); (d) unrhyw sylwadau gan yr asiantaeth ar y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 22, 23 a 25; (dd) unrhyw wybodaeth arall y mae'r asiantaeth yn ystyried sy'n berthnasol.
(5) Mewn achos adran 83 rhaid i'r adroddiad gynnwys -
(b) cadarnhad bod y darpar fabwysiadydd yn bodloni'r gofynion cymhwyster i fabwysiadu o'r darddwlad; (c) gwybodaeth ychwanegol a gafwyd o ganlyniad i ofynion y darddwlad; ac (ch) asesiad yr asiantaeth o addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fabwysiadu plentyn sy'n preswylio'n arferol y tu allan i Ynysoedd Prydain.
(6) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd yr atgyfeirir ei gais at y panel mabwysiadu ac ar yr un pryd yr anfonir copi at y darpar fabwysiadydd o adroddiad yr asiantaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (4), a gwahodd unrhyw sylwadau ar yr adroddiad sydd i'w anfon yn ysgrifenedig at yr asiantaeth o fewn 10 niwrnod gwaith, gan ddechrau ar y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad.
(b) yr adroddiadau ysgrifenedig y cyfeirir atynt ym mharagraff (3); ac (c) unrhyw wybodaeth arall berthnasol a gafwyd gan yr asiantaeth o dan y rheoliad hwn
at y panel mabwysiadu.
(b) caiff ofyn i'r asiantaeth gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r panel yn ystyried ei bod yn angenrheidiol; ac (c) rhaid iddo gael y cyngor cyfreithiol yr ystyria sy'n angenrheidiol o ran yr achos.
(3) Pan fydd y panel mabwysiadu yn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu bod y darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn, caiff ystyried ac ar yr un pryd caiff gynghori'r asiantaeth am y nifer o blant y gall y darpar fabwysiadydd fod yn addas i'w mabwysiadu, ystod eu hoedran, eu rhyw a'u nodweddion (iechyd a chymdeithasol).
(b) anfon gyda'r hysbysiad hwnnw ei rhesymau ynghyd â chopi o argymhelliad y panel mabwysiadu, os ydynt yn wahanol; (c) cynghori'r darpar fabwysiadydd y caiff o fewn 20 niwrnod gwaith gan ddechrau ar y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad y caiff y darpar fabwysiadydd -
(ii) wneud cais i'r panel adolygu annibynnol i adolygu'r dyfarniad cymwys.
(5) O fewn y cyfnod o 20 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (4), os na fydd y darpar fabwysiadydd wedi gwneud unrhyw sylwadau neu wedi gwneud cais i banel adolygu annibynnol, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu fynd rhagddi i wneud ei phenderfyniad a rhaid iddi hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o'i phenderfyniad ynghyd â'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
(b) unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan y darpar fabwysiadydd yn unol â rheoliad 26(6); (c) unrhyw adroddiadau eraill neu wybodaeth arall a anfonwyd gan yr asiantaeth fabwysiadu at y panel mabwysiadu; (ch) cofnod o drafodion y panel mabwysiadu, ei argymhellion a'i resymau dros ei argymhellion; (d) yr hysbysiad, ynghyd â'r rhesymau a anfonwyd gan yr asiantaeth fabwysiadu at y darpar fabwysiadydd yn unol â rheoliad 28(4)(a) a (b).
Adolygiadau a therfynu cymeradwyaeth
(b) mewn unrhyw achos arall, bod y plentyn wedi'i leoli ar gyfer mabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.
(2) Rhaid i adolygiad ddigwydd pryd bynnag y bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried ei fod yn angenrheidiol ond fel arall ddim mwy na dwy flynedd ar ôl cymeradwyaeth ac yna ar ôl bylchau nad ydynt yn fwy na dwy flynedd.
(b) gofyn am farn y darpar fabwysiadydd a'i hystyried.
(4) Fel rhan o bob adolygiad rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried -
(b) unrhyw drefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu ac a ddylent barhau neu gael eu haddasu; (c) pan ddychwelir plentyn at yr asiantaeth fabwysiadu yn unol ag adran 35(1) neu (2) o'r Ddeddf, y rhesymau dros ddychwelyd y plentyn; ac (ch) a yw'r darpar fabwysiadydd yn parhau i fod yn addas i fabwysiadu plentyn.
(5) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu -
(ii) unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol,
(b) sicrhau bod -
(ii) manylion y trafodion mewn unrhyw gyfarfod a drefnwyd gan yr asiantaeth i ystyried unrhyw agwedd o'r adolygiad; a (iii) manylion unrhyw benderfyniad a wnaed yn ystod yr adolygiad neu o ganlyniad iddo,
yn cael eu cofnodi'n ysgrifenedig a'u rhoi yng nghofnod achos y darpar fabwysiadydd.
(6) Ar ddiwedd yr adolygiad, os bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried nad yw'r darpar fabwysiadydd bellach yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol, rhaid iddi baratoi adroddiad ysgrifenedig y mae'n rhaid iddo gynnwys -
(b) rhesymau'r asiantaeth; ac (c) unrhyw wybodaeth arall y mae'r asiantaeth yn ystyried sy'n berthnasol.
(7) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd fod yr adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (6) i gael ei atyfeirio at y panel mabwysiadu a rhoi copi i'r darpar fabwysiadydd o'r adroddiad hwnnw, a gwahodd sylwadau ar yr adroddiad sydd i'w hanfon yn ysgrifenedig at yr asiantaeth o fewn 10 niwrnod gwaith, gan ddechrau ar y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad.
(b) yr holl ddogfennau a gwybodaeth a roddwyd i'r panel mabwysiadu yn unol â rheoliad 26; (c) cofnod o drafodion y panel mabwysiadu, ei argymhellion a'i resymau dros ei argymhellion; (ch) os oedd y darpar fabwysiadydd wedi gwneud cais am adolygiad gan banel annibynnol o ddyfarniad o gymhwyster, cofnodion trafodion y panel hwnnw, ei argymhellion a'r rhesymau dros ei argymhellion; a (d) unrhyw wybodaeth arall ynglyn â'r achos y gall y Cynulliad Cenedlaethol neu'r awdurdod tramor perthnasol ei gwneud yn ofynnol.
Y lleoliad arfaethedig 32. - (1) Os bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried lleoli plentyn ar gyfer mabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd penodol (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel "y lleoliad arfaethedig") rhaid i'r asiantaeth -
(b) cyfarfod â'r darpar fabwysiadydd i drafod y lleoliad arfaethedig; (c) canfod barn y darpar fabwysiadydd am -
(ii) anghenion asesedig y plentyn ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu a'r cynllun cymorth mabwysiadu; (iii) y trefniadau y mae'r asiantaeth yn bwriadu eu gwneud er mwyn caniatáu cyswllt â'r plentyn i unrhyw berson; a
phan fo'n gymwys, unrhyw gyfyngiad wrth arfer ei gyfrifoldeb rhiant.
(2) Os dilynwyd y gweithdrefnau a nodir ym mharagraff (1) ac os yw'r darpar fabwysiadydd wedi cadarnhau i'r asiantaeth yn ysgrifenedig ei fod yn barod i gytuno ar y lleoliad arfaethedig, rhaid i'r asiantaeth mewn achosion o'r fath ac os yw'n ystyried ei bod yn briodol i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn, gwnsela'r plentyn a dweud wrth y plentyn am y darpar fabwysiadwyr, eu hamgylchiadau teuluol ac awyrgylch eu cartrefi a chanfod barn y plentyn am y lleoliad arfaethedig, y trefniadau cyswllt ac unrhyw gyfyngiad ar gyfrifoldeb rhiant y darpar fabwysiadydd.
(b) ystyried y trefniadau ar gyfer caniatáu cyswllt gan unrhyw berson â'r plentyn; (c) ystyried a ddylid cyfyngu i unrhyw raddau ar gyfrifoldeb unrhyw riant neu warcheidwad, neu ddarpar fabwysiadwyr; (ch) paratoi adroddiad ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys -
(ii) yr wybodaeth a gafwyd yn rhinwedd paragraffau (1) a (2); (iii) os yw'r asiantaeth yn awdurdod lleol, ei gynigion ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, os o gwbl, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 4(6) o'r Ddeddf; (iv) y trefniadau y mae'r asiantaeth yn bwriadu eu gwneud er mwyn caniatáu cyswllt â'r plentyn i unrhyw berson; (v) cynigion yr asiantaeth i gyfyngu ar gyfrifoldeb unrhyw riant neu warcheidwad, neu ddarpar fabwysiadydd; a (vi) unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol i'r lleoliad arfaethedig.
(4) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd bod y lleoliad arfaethedig i'w atyfeirio at y panel mabwysiadu ac anfon at y darpar fabwysiadydd gopi o adroddiad yr asiantaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (3) a gwahodd unrhyw sylwadau ar yr adroddiad i'w hanfon yn ysgrifenedig at yr asiantaeth o fewn 10 niwrnod gwaith, gan ddechrau ar y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad.
(b) yr adroddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 17; (c) yr adroddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 26 ac unrhyw sylwadau a wnaed gan y darpar fabwysiadydd ar yr adroddiad hwnnw; (ch) unrhyw wybodaeth berthnasol arall a gafwyd gan yr asiantaeth o dan y rheoliad hwn
at y panel mabwysiadu.
(b) caiff ofyn i'r asiantaeth fabwysiadu gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r panel yn ystyried ei bod yn angenrheidiol; ac (c) rhaid iddo gael cyngor cyfreithiol yr ystyria sy'n angenrheidiol o ran yr achos.
(3) Rhaid i'r panel mabwysiadu hefyd ystyried a chaiff, os yw'r panel yn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd penodol hwnnw, ystyried rhoi cyngor ar yr un pryd i'r asiantaeth fabwysiadu ynghylch -
(ii) y trefniadau y mae'r asiantaeth yn bwriadu eu gwneud er mwyn caniatáu cyswllt â'r plentyn i unrhyw berson; (iii) a ddylid gwneud cais am orchymyn lleoliad; a (iv) os awdurdodwyd yr asiantaeth i leoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu a ydyw'n ystyried y dylid cyfyngu ar gyfrifoldeb rhiant unrhyw berson ac, os felly, i ba raddau.
(4) Caiff y panel mabwysiadu wneud yr argymhelliad ym mharagraff (1) ond ddim ond -
(b) os yw'r asiantaeth fabwysiadu neu asiantaeth fabwysiadu arall wedi gwneud penderfyniad yn unol â rheoliad 19 y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu;
ac yn y naill achos a'r llall bod yr argymhelliad i'w wneud yn yr un cyfarfod o'r panel y cafodd argymhelliad ei wneud bod y darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn neu fod yr asiantaeth fabwysiadu, neu asiantaeth fabwysiadu arall, wedi gwneud penderfyniad yn unol â rheoliad 28 fod y darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn.
(b) ystyried unrhyw gyngor a roddir gan y panel mabwysiadu yn unol â rheoliad 33(3); a (c) rhoi sylw i'r ystyriaeth a nodir yn adran 1(2) o'r Ddeddf,
wrth benderfynu a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd penodol.
(b) os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, tad y plentyn,
o'i phenderfyniad.
(b) ystyried yr wybodaeth honno; (c) cyfarfod y darpar fabwysiadydd i drafod yr wybodaeth; ac (ch) os yw'n briodol, darparu gwasanaeth cwnsela ar gyfer y darpar fabwysiadydd ac unrhyw wybodaeth bellach iddo yn ôl y gofyn.
Gofynion a osodir ar yr asiantaeth fabwysiadu cyn y lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd 36. - (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r asiantaeth fabwysiadu -
(b) wedi cyfarfod â'r darpar fabwysiadydd i ystyried y trefniadau y mae'n bwriadu eu gwneud er mwyn lleoli'r plentyn gydag ef.
(2) Os yw paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, o leiaf 7 niwrnod cyn lleoli'r plentyn gyda'r darpar fabwysiadydd, roi cynllun lleoli i'r darpar fabwysiadydd ynglyn â'r plentyn sy'n ymdrin â'r materion a bennir yn Atodlen 6 ("y cynllun lleoliad").
(b) hysbysu'r awdurdod lleol (os nad yr awdurdod hwnnw yw'r asiantaeth fabwysiadu) a'r Bwrdd Iechyd Lleol neu'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol (Lloegr) y mae'r darpar fabwysiadydd yn preswylio yn ei ardal yn ysgrifenedig o'r lleoliad arfaethedig; (c) hysbysu'r awdurdod addysg lleol y mae'r darpar fabwysiadydd yn preswylio yn ei ardal yn ysgrifenedig o'r lleoliad arfaethedig a gwybodaeth am hanes addysgol y plentyn ac a gafodd neu a yw'n debygol o gael ei asesu ar gyfer anghenion addysgol arbennig o dan Ddeddf Addysg 1996.
(5) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o unrhyw newid yn y cynllun lleoliad.
(b) wedyn dim mwy na chwe mis ar ôl dyddiad yr adolygiad blaenorol ("adolygiad chwe mis"),
nes lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.
(b) dim mwy na thri mis ar ôl yr adolygiad cyntaf; ac (c) wedyn dim mwy na chwe mis ar ôl dyddiad yr adolygiad blaenorol,
oni chaiff y plentyn ei ddychwelyd i'r asiantaeth gan y darpar fabwysiadydd neu oni wneir gorchymyn mabwysiadu.
(b) sicrhau bod adroddiadau ysgrifenedig yn cael eu llunio am yr ymweliadau hynny; ac (c) rhoi cyngor a chymorth o'r fath i'r darpar fabwysiadydd y mae'r asiantaeth o'r farn bod eu hangen.
(6) Wrth wneud adolygiad rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ymweld â'r plentyn ac i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol ganfod barn -
(b) os lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, y darpar fabwysiadydd; ac (c) unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn barnu eu bod yn berthnasol,
o ran pob un o'r materion a nodir ym mharagraff (7)(a) i (dd).
(b) anghenion y plentyn, ei les, ei gynnydd a'i ddatblygiad, ac a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i ddiwallu anghenion y plentyn neu gynorthwyo datblygiad y plentyn; (c) y trefniadau presennol ar gyfer cyswllt, ac a ddylent barhau neu gael eu haddasu; (ch) pan leolir plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, y trefniadau o ran arfer cyfrifoldeb rhiant am y plentyn, ac a ddylent barhau neu gael eu haddasu; (d) y trefniadau presennol ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu ac a ddylid gwneud ailasesiad o'r angen am y gwasanaethau hynny; (dd) wrth ymgynghori â'r asiantaethau priodol, y trefniadau ar gyfer asesu a diwallu anghenion gofal iechyd ac anghenion addysgol y plentyn; (e) yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4) amlder yr adolygiadau.
(8) Os yw'r plentyn yn destun gorchymyn lleoliad ond na chafodd ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu ar adeg yr adolygiad chwe mis cyntaf, rhaid i'r awdurdod yn yr adolygiad hwnnw -
(b) yng ngoleuni hynny, ystyried a yw'n parhau'n fodlon y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu.
(9) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu -
(ii) y darpar fabwysiadydd; a (iii) unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn barnu ei fod yn berthnasol.
(b) sicrhau bod -
(ii) manylion y trafodion mewn unrhyw gyfarfod a drefnwyd gan yr asiantaeth i ystyried unrhyw agwedd ar adolygiad o'r achos; a (iii) manylion unrhyw benderfyniad a wnaed yn ystod adolygiad neu o ganlyniad iddo (gan gynnwys amlder yr ymweliadau),
yn cael eu cofnodi'n ysgrifenedig a'u rhoi yng nghofnod achos y plentyn.
(10) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, hysbysu -
(b) y darpar fabwysiadydd; ac (c) unrhyw berson arall y mae'n ystyried y dylid ei hysbysu
o ganlyniad yr adolygiad ac o unrhyw benderfyniad a gymerwyd ganddi o ganlyniad i'r adolygiad.
(b) person sydd â chyfrifoldebau rheoli o ran y person a grybwyllir yn is-baragraff (a); neu (c) person sydd â rheolaeth dros yr adnoddau a glustnodwyd i'r achos.
(4) Rhaid i'r swyddog adolygu annibynnol, cyn belled ag y mae'n rhesymol ymarferol, gadeirio unrhyw gyfarfod a gynhelir mewn cysylltiad ag adolygiad achos y plentyn.
(b) bod y personau sy'n gyfrifol am weithredu unrhyw benderfyniad a wnaed o ganlyniad i'r adolygiad yn cael eu henwi; a (c) bod unrhyw fethiant i adolygu'r achos yn unol â rheoliad 37 neu i gymryd camau priodol i wneud neu weithredu trefniadau y cytunwyd arnynt yn yr adolygiad yn cael ei ddwyn i sylw personau ar lefel briodol o gyfrifoldeb yn yr asiantaeth.
(6) Os bydd y plentyn yr adolygir ei achos yn dymuno dwyn camau cyfreithiol o dan y Ddeddf ar ei ran ei hun, er enghraifft, gwneud cais i'r llys i ddirymu gorchymyn lleoliad, swyddogaeth y swyddog adolygu annibynnol yw -
(b) sefydlu a oes oedolyn priodol yn alluog ac yn barod i weithredu i ddarparu'r cymorth hwnnw neu ddwyn camau cyfreithiol ar ran y plentyn.
(7) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r swyddog adolygu annibynnol o -
(b) unrhyw newid arwyddocaol mewn amgylchiadau sy'n digwydd ar ôl yr adolygiad sy'n effeithio ar y trefniadau hynny.
Tynnu cydsyniad yn ôl
(b) os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, tad y plentyn, ac (c) os lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, y darpar fabwysiadydd y lleolir y plentyn gydag ef.
(3) Os bydd paragraff (1) yn gymwys a bod yr asiantaeth fabwysiadu yn gymdeithas fabwysiadu gofrestredig, rhaid i'r asiantaeth ar unwaith ystyried a yw'n briodol i hysbysu'r awdurdod lleol y mae'r plentyn yn byw yn ei ardal. Storio cofnodion achos 40. Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu sicrhau bod y cofnodion achos a drefnwyd yn unol â rheoliadau 12 neu 22 o ran plentyn neu ddarpar fabwysiadydd a bod cynnwys y cofnodion achos hynny bob amser yn cael eu cadw mewn cyflwr diogel ac yn benodol bod mesurau priodol yn cael eu cymryd i rwystro'r cofnodion achos rhag cael eu lladrata, rhag datgelu nas awdurdodwyd, rhag colled neu ddistryw neu niwed iddynt neu i'w cynnwys. Cadw cofnodion achos 41. Pan wneir gorchymyn mabwysiadu ynglyn â phlentyn rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gadw'r holl gofnodion achos a luniwyd yn unol â rheoliadau 12 neu 22 am 100 mlynedd o leiaf. Mewn unrhyw achos arall rhaid i'r asiantaeth gadw'r cofnodion achos am y cyfnod hwnnw y mae'n ystyried ei fod yn briodol. Cyfrinachedd cofnodion achos 42. Yn ddarostyngedig i reoliad 43, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu drin unrhyw wybodaeth a geir, neu adroddiadau neu argymhellion neu benderfyniadau a wneir yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn gyfrinachol. Mynediad at gofnodion achos a datgelu gwybodaeth 43. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ddarparu'r mynediad hwnnw at ei chofnodion achos a datgelu'r wybodaeth honno sydd yn ei meddiant, y gallai fod ei hangen -
(b) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru; (c) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 74(5) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (datgeliad), i Gomisiynydd Plant Cymru at ddibenion unrhyw archwiliad a gynhelir yn unol â Rhan V o'r Ddeddf honno; (ch) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adrannau 29(7) a 32(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 (ymchwiliadau a datgeliad), i Gomisiynydd Gweinyddiaeth Leol yng Nghymru, at ddibenion unrhyw ymchwiliad a gynhelir yn unol â Rhan III o'r Ddeddf honno; (d) i unrhyw berson a benodwyd gan yr asiantaeth fabwysiadu at ddibenion ystyriaeth gan yr asiantaeth o unrhyw sylwadau (gan gynnwys cwynion); (dd) i'r personau a'r awdurdodau gan y Rheoliadau hyn ac i'r graddau a bennir yn y Rheoliadau hyn; (e) i swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS at ddibenion cyflawni dyletswyddau'r swyddog o dan y Ddeddf; (f) i lys y mae ganddo bŵer i wneud gorchymyn o dan y Ddeddf neu o dan Ddeddf 1989.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff yr asiantaeth fabwysiadu ddarparu'r mynediad hwnnw a datgelu'r wybodaeth honno sydd yn ei meddiant, fel y gwêl yn dda at ddibenion cyflawni ei swyddogaethau fel asiantaeth fabwysiadu.
(b) yn achos cymdeithas sy'n cyfuno â chymdeithas fabwysiadu gofrestredig arall i ffurfio cymdeithas fabwysiadu gofrestredig newydd, i'r corff newydd hwnnw.
(3) Os yw cymdeithas fabwysiadu gofrestredig yn bwriadu peidio â darparu ar gyfer mabwysiadu plant ond ei bod wedi'i chofrestru i ddarparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu caiff gadw ei holl gofnodion achos ar ôl cael yn gyntaf gymeradwyaeth yr awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig ar gyfer eu cadw. Addasu Deddf 1989 o ran mabwysiadu 46. - (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys -
(b) pan fydd plentyn a leolwyd ar gyfer ei fabwysiadu gan awdurdod lleol yn llai na chwe wythnos oed.
(2) Pan fydd paragraff (1) yn gymwys -
(b) bydd adran 22(4)(c) o Ddeddf 1989 yn gymwys fel pe bai'r canlynol yn cael ei fewnosod yn lle'r is-baragraff hwnnw "(c) any prospective adopter with whom the local authority has placed the child for adoption."; (c) bydd adran 22(5)(b) o Ddeddf 1989 yn gymwys fel pe bai'r geiriau "(4)(c) and (d)" yn cael eu mewnosod yn lle "(4)(b) to (d)"; ac (ch) ni fydd paragraffau 15 a 21 o Atodlen 2 i Ddeddf 1989 yn gymwys.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan awdurdodir cymdeithas fabwysiadu gofrestredig i leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu neu pan fydd plentyn a leolwyd ar gyfer ei fabwysiadu gan gymdeithas fabwysiadu gofrestredig yn llai na 6 wythnos oed.
(b) ni fydd adran 61(2)(b) o Ddeddf 1989 yn gymwys; (c) bydd adran 61(2)(c) o Ddeddf 1989 yn gymwys fel pe mewnosodwyd yn lle'r is-baragraff hwnnw "(c) any prospective adopter with whom the registered adoption society has placed the child for adoption.".
Cyswllt
(b) os lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, yn ddarostyngedig i ymgynghori blaenorol â'r darpar fabwysiadydd y lleolir y plentyn gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu; ac (c) hysbysiad ysgrifenedig gan yr asiantaeth i'r personau a bennir ym mharagraff (4) o'r rhannau hynny o'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (5) yn ôl fel y barna'r asiantaeth bod angen i'r personau hynny gael gwybod, o fewn saith niwrnod o'r cytundeb i beidio â dilyn telerau'r gorchymyn.
(3) Os bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn amrywio neu'n atal unrhyw drefniadau a wnaed (heblaw o dan orchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf) er mwyn caniatáu cyswllt i unrhyw berson â'r plentyn, rhaid i'r asiantaeth hysbysu'r personau a bennir ym mharagraff (4) yn ysgrifenedig o'r rhannau hynny o'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (5) yn ôl fel y barna'r asiantaeth bod angen i'r personau hynny gael gwybod.
(b) rhiant y plentyn; (c) rhiant neu warcheidwad y plentyn; (ch) unrhyw berson y mae'r gorchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf yn darparu cyswllt iddo; (d) unrhyw berson y caniataodd yr asiantaeth gyswllt iddo â'r plentyn; (dd) os lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, y darpar fabwysiadydd; (e) unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth o'r farn bod ei ddymuniadau a'i deimladau yn berthnasol.
(5) Mae'r wybodaeth ganlynol yn un a bennir at ddibenion paragraffau 1, 2 a 3 -
(b) dyddiad y penderfyniad; (c) y rhesymau dros y penderfyniad; (ch) pa hyd y pery'r penderfyniad (os yw'n gymwys).
Dirymu Rheoliad 15(1) 1. Enw, rhyw, dyddiad a man geni a chyfeiriad gan gynnwys ardal yr awdurdod lleol. 2. Llun a disgrifiad corfforol. 3. Cenedl[20]. 4. Tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol. 5. Cred grefyddol, os oes un, (gan gynnwys manylion bedydd, gwasanaeth derbyn neu seremonïau cyfatebol). 6. A yw'r plentyn yn derbyn gofal neu a ddarperir llety iddo o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989. 7. Manylion unrhyw orchymyn llys a wnaed ynglŷn â'r plentyn o dan Ddeddf 1989 gan gynnwys enw'r llys, y gorchymyn a wnaed a'r dyddiad y gwnaed y gorchymyn. 8. A oes gan y plentyn unrhyw hawl i eiddo neu unrhyw fuddiant ynddynt neu unrhyw hawliad am iawndal o dan Ddeddf Damweiniau Angheuol 1976 neu fel arall y gall eu cadw neu eu colli os mabwysiadir ef. 9. Cronoleg o ofal y plentyn ers ei enedigaeth. 10. Asesiad o bersonoliaeth y plentyn, ei ddatblygiad cymdeithasol a'i ddatblygiad emosiynol a datblygiad ei ymddygiad. 11. A oes gan y plentyn unrhyw anawsterau gyda gweithgareddau megis bwydo, ymolchi ac ymwisgo. 12. Hanes addysgol y plentyn gan gynnwys -
(b) crynodeb o'i gynnydd a'i gyraeddiadau; (c) a yw'n ddarostyngedig i ddatganiad o dan Ddeddf Addysg 1996; (ch) unrhyw anghenion arbennig sydd ganddo o ran dysgu; a (d) os yw'n derbyn gofal, manylion ei gynllun addysg personol a baratowyd gan yr awdurdod lleol.
13.
Gwybodaeth am -
(ii) unrhyw frodyr neu chwiorydd neu berthnasau eraill; a (iii) unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn barnu ei fod yn berthnasol;
(b) y tebygolrwydd y gall y berthynas honno barhau a gwerth hynny i'r plentyn; a
14.
Y trefniadau ar hyn o bryd a'r math o gyswllt rhwng rhiant y plentyn neu ei warcheidwad neu berson arall â chyfrifoldeb rhiant amdano ac, os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, ei dad, ac unrhyw berthynas, cyfaill neu berson arall. Rheoliad 15(2) 1. Enw, dyddiad geni, rhyw, pwysau a thaldra. 2. Adroddiad newyddenedigol ar y plentyn, gan gynnwys -
(b) canlyniadau archwiliad corfforol a phrofion sgrinio; (c) manylion unrhyw driniaeth a roddwyd; (ch) manylion unrhyw broblemau mewn rheoli a bwydo; (d) unrhyw wybodaeth berthnasol arall a allai fod o gymorth i'r panel; (dd) enw a chyfeiriad unrhyw feddyg a allai roi gwybodaeth bellach am unrhyw un o'r materion uchod.
3.
Hanes iechyd y plentyn yn llawn, gan gynnwys -
(b) manylion a dyddiadau imwneiddio; (c) asesiad corfforol ac asesiad o ddatblygiad yn ôl oedran, gan gynnwys asesiad o'r llygaid a'r clyw a datblygiad niwrolegol, llafaredd ac iaith ac unrhyw dystiolaeth o anhwylder emosiynol; (ch) hanes ei iechyd gan yr ysgol (os yw ar gael); (d) sut y mae iechyd corfforol a iechyd meddwl y plentyn a'i hanes meddygol wedi effeithio ar ddatblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol neu ddatblygiad ei ymddygiad; (dd) unrhyw wybodaeth berthnasol arall a all gynorthwyo'r panel mabwysiadu.
4.
Llofnod, enw, cyfeiriad, Rhif ffôn a chymwysterau'r ymarferydd meddygol cofrestredig a baratôdd yr adroddiad, dyddiad yr adroddiad a'r archwiliadau a wnaed ynghyd ag enw a chyfeiriad unrhyw feddyg arall a all roi gwybodaeth bellach am unrhyw rai o'r materion uchod. Rheoliad 16(1) Gwybodaeth am bob rhiant i'r plentyn (gan gynnwys y rhieni naturiol a mabwysiadol) gan gynnwys tad nad oes ganddo gyfrifoldeb rhiant am y plentyn 1. Enw, rhyw, dyddiad a man geni a chyfeiriad gan gynnwys ardal yr awdurdod lleol. 2. Llun, os oes un ar gael, a disgrifiad corfforol. 3. Cenedl[21]. 4. Tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol. 5. Cred grefyddol, os oes un. 6. Disgrifiad o'u personoliaeth a'u diddordebau. Gwybodaeth am frodyr a chwiorydd y plentyn 7. Enw, rhyw a dyddiad a man geni. 8. Llun, os oes un ar gael, a disgrifiad corfforol. 9. Cenedl[22]. 10. Cyfeiriad, os yw'n briodol. 11. Os unrhyw frawd neu chwaer o dan 18 oed -
(b) a yw'n derbyn gofal neu a ddarperir llety iddo neu iddi o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989; (c) manylion unrhyw orchymyn llys a wnaed ynglyn ag ef neu hi o dan Ddeddf 1989 gan gynnwys enw'r llys, y gorchymyn a wnaed a'r dyddiad y gwnaed y gorchymyn; ac (ch) a ydyw ef neu hi hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer eu mabwysiadu.
Gwybodaeth am berthnasau eraill y plentyn ac unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol
(b) i unrhyw frodyr neu chwiorydd y plentyn.
Gwybodaeth arall am ddau riant y plentyn ac os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, y tad Rheoliad 16(1) 1.
(b) Cenedl[24]. (c) Cyfeiriad a Rhif ffôn.
2.
Y berthynas a fu a'r berthynas bresennol â'r plentyn. Rheoliad 16(2) 1. Enw, dyddiad geni, rhyw, pwysau a thaldra'r ddau riant naturiol. 2. Hanes iechyd y teulu, sy'n ymwneud â dau riant naturiol y plentyn, brodyr a chwiorydd y plentyn (os oes rhai) a'r plant arall (os oes rhai) gan bob rhiant gyda manylion unrhyw salwch corfforol difrifol neu salwch meddwl difrifol a chlefyd neu anhwylder etifeddol. 3. Hanes iechyd dau riant naturiol y plentyn, gan gynnwys manylion unrhyw salwch corfforol difrifol neu salwch meddwl difrifol, camddefnyddio cyffuriau neu alcohol, anabledd, damwain neu dderbyn i ysbyty, ac ym mhob achos unrhyw driniaeth a gafwyd y mae'r asiantaeth o'r farn ei bod yn berthnasol. 4. Crynodeb o hanes obstetrig y fam, gan gynnwys unrhyw broblemau yn y cyfnod cyn geni, esgor ac ar ôl geni, gyda chanlyniadau unrhyw brofion a wnaed yn ystod neu'n syth ar ôl beichiogrwydd. 5. Manylion unrhyw salwch presennol, gan gynnwys y driniaeth a'r prognosis. 6. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r asiantaeth yn ystyried a all gynorthwyo'r panel. 7. Llofnod, enw, cyfeiriad, Rhif ffôn a chymwysterau unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig a roddodd unrhyw wybodaeth sydd yn y Rhan hon ynghyd ag enw a chyfeiriad unrhyw feddyg arall a allai roi gwybodaeth bellach am unrhyw rai o'r materion uchod. 1. Copi o dystysgrif geni'r plentyn. 2. Enw a chyfeiriad rhiant neu warcheidwad y plentyn. 3. Cronoleg o'r camau a'r penderfyniadau a gymerwyd gan yr asiantaeth o ran y plentyn. 4 . Cadarnhad gan yr asiantaeth ei bod wedi cwnsela, ac wedi esbonio i'r rhiant neu'r gwarcheidwad oblygiadau cyfreithiol y cydsyniad i leoli o dan adran 19 o'r Ddeddf a hefyd, yn ôl y digwydd, o ran gwneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf, a'i bod wedi rhoi gwybodaeth ysgrifenedig i'r rhiant neu'r gwarcheidwad ynghylch y mater hwn ynghyd â chopi o'r wybodaeth a roddwyd i'r rhiant neu'r gwarcheidwad. 5. Unrhyw wybodaeth am y rhiant neu'r gwarcheidwad neu wybodaeth arall y mae'r asiantaeth fabwysiadu o'r farn y gall y swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog CAFCASS fod angen ei gwybod. Tramgwyddau yng Nghymru a Lloegr 1. Tramgwydd treisio oedolyn o dan adran 1 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 -
(b) tramgwydd ymosodiad drwy dreiddiad o dan adran 2 o'r Ddeddf honno; (c) tramgwydd peri i berson gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol heb gydsyniad o dan adran 4 o'r Ddeddf honno os oedd y gweithgaredd yn dod o fewn is-adran (3); (ch) tramgwydd gweithgaredd rhywiol gyda pherson ag anhwylder meddwl sy'n llesteirio dewis o dan adran 30 o'r Ddeddf honno os oedd y cyffwrdd yn dod o fewn is-adran (3); (d) tramgwydd peri neu ysgogi person ag anhwylder meddwl sy'n llesteirio dewis, i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol o dan adran 31 o'r Ddeddf honno, os oedd y gweithgaredd a barwyd neu a ysgogwyd yn dod o fewn is-adran (3); (dd) tramgwydd cymell, bygwth neu ddichell i ddenu gweithgaredd rhywiol gyda pherson ag anhwylder meddwl o dan adran 34 o'r Ddeddf honno, os oedd y cyffwrdd yn dod o fewn is-adran (2); ac (e) tramgwydd o beri i berson ag anhwylder meddwl gymryd rhan neu gytuno i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol drwy gymell, bygwth neu ddichell os oedd y gweithgaredd yn dod o fewn is-adran (2).
Tramgwyddau yn yr Alban |