Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2005, ISBN 0110911261. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), 17, 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac wedi ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3] yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2005, deuant i rym ar 20 Mai 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru. Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 2. Diwygir Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[4] yn unol â rheoliadau 3 i 14 isod. 3. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) -
4.
Ym mharagraff (1) o reoliad 4 (defnyddio ychwanegion amrywiol mewn bwydydd cyfansawdd neu arnynt), ar ôl y geiriau "that compound food contains, as an ingredient, a food", mewnosoder y geiriau a ganlyn -
5.
Ar ôl rheoliad 4, mewnosoder y rheoliad a ganlyn - -
4A. - (1) Where -
(b) that flavouring is an ingredient of a compound food; and (c) the permitted miscellaneous additive performs a technological purpose in the final food;
the permitted miscellaneous additive shall be regarded for the purposes of these Regulations as an additive of the final food.
(b) the presence of such additives is a hazard to human health, or misleading to the consumer.".
6.
Yn rheoliad 11 (darpariaeth drosiannol ac esemptiadau) ar ôl paragraff (1E) mewnosoder y paragraff a ganlyn -
(b) the matter constituting the offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulations 3 to 6, 7(b), 8(a), 8(b)(ii), 9(a), 10, 11(a) to (c), (e) to (i) and (k) to (l) of the Miscellaneous Food Additives (Amendment) (No.2) (Wales) Regulations 2005 had not been made when the food additive, food or flavouring was placed on the market or labelled.".
7.
Yn Atodlen 1 (ychwanegion amrywiol y caniateir yn gyffredinol eu defnyddio mewn bwydydd na chyfeirir atynt yn Atodlenni 6,7 neu 8) -
8.
Yn Atodlen 2 (cadwolion a gwrthocsidyddion a ganiateir yn amodol) Rhan A (sorbadau, bensoadau a p-hydrocsibensoadau) -
Yn Atodlen 2 Rhan C (cadwolion eraill) -
(b) yn y cofnod sy'n ymwneud ag E1105, yn y drydedd golofn a'r bedwaredd (sy'n dwyn y penawdau "Food" a "Maximum level" yn y drefn honno) ychwaneger y cofnod a ganlyn -
Yn Atodlen 2 Rhan D (gwrthocsidyddion eraill) -
Yn Atodlen 3 (ychwanegion amrywiol eraill a ganiateir) -
(b) yn y cofnod sy'n ymwneud ag E416, yn y drydedd golofn a'r bedwaredd, ychwaneger y geiriau a ganlyn -
(ff) ar ôl y cofnod sy'n ymwneud ag E901, E902, E903 ac E904 fel y'i diwygiwyd gan baragraff (f) uchod, mewnosoder y cofnod a ganlyn -
Spice oleoresins are defined as extracts of spices from which the extraction solvent has been evaporated leaving a mixture of the volatile oil and resinous material from the spice."
12.
Yn Atodlen 4 (carwyr a thoddyddion carwyr a ganiateir) -
Yn Atodlen 7 (bwydydd y caniateir defnyddio ynddynt nifer cyfyngedig o ychwanegion amrywiol a restrir yn Atodlen 1) -
Yn Atodlen 8 (ychwanegion amrywiol a ganiateir mewn bwydydd i fabanod a phlant bach) -
10 Mai 2005 D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio ymhellach Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 (O.S. Rhif 1995/3187) fel y'i newidiwyd eisoes, ac yn gweithredu Cyfarwyddeb 2003/114 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/2/EC ar ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion (OJ Rhif L24, 29.1.2004, t. 58). 2. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 o ran Cymru drwy -
(b) diweddaru'r diffiniad o "Directive 95/2/EC" er mwyn iddo ymwneud â diwygio'r Gyfarwyddeb honno gan Gyfarwyddeb 2003/114/EC (rheoliad 3(b)); (c) rhoi ar gyfer y term "stabiliser" ddiffiniad newydd sy'n cynnwys sylweddau sy'n ychwanegu at allu bwyd i rwymo (rheoliad 3(ch)); (ch) diwygio rheoliad 4 i sicrhau y gellir defnyddio'n gynhwysyn mewn bwyd cyfansawdd gyflasyn y mae'n gyfreithlon bod ynddo neu arno ychwanegyn amrywiol a ganiateir (rheoliad 4)); (d) darparu bod yn rhaid ystyried bod ychwanegyn amrywiol a ganiateir ac a ddefnyddir mewn cyflasyn yn ychwanegyn yn y bwyd terfynol os yw'n cyflawni swyddogaeth dechnolegol yn y bwyd terfynol y mae'r cyflasyn hwnnw'n gynhwysyn ynddo (rheoliad 5); (dd) gwahardd defnyddio ychwanegion mewn meintiau mwy na'r lleiafswm angenrheidiol, neu mewn amgylchiadau pan fyddent yn berygl i iechyd pobl neu'n gamarweiniol i'r defnyddiwr (rheoliad 5); (e) gwneud darpariaeth drosiannol i ganiatáu marchnata ychwanegion a gafodd eu marchnata neu eu labelu cyn 27 Ionawr 2006 ac sy'n gyfreithlon o dan y rheolau presennol (rheoliad 6); (f) caniatáu safoni E407a, yn ychwanegol at E407 ac E440 gyda siwgrau, ar yr amod bod hyn yn cael ei ddatgan yn ychwanegol at rif a dynodiad yr ychwanegyn (rheoliad 7(a)); (ff) cynnwys "calcium carbonate" yn enw ar E170 (rheoliadau 7(b), 13(b) a 14(b); (g) ychwanegu at yr enwau derbyniol ar E466, E468 ac E469 (rheoliadau 7(c) a (ch) a 12(a); (ng) caniatáu defnyddio ychwanegyn newydd, E907, yn asiant sgleinio ar gyffaith siwgr a ffrwythau sych (rheoliad 11(g)); (h) cynnwys diffiniadau newydd o gategorïau bwyd y caniateir defnyddio ynddynt ychwanegion amrywiol a ganiateir (rheoliadau 8(a) a 10(b)); (i) gwahardd defnyddio E230 fel cadwolyn a ganiateir ar gyfer trin arwyneb ffrwythau sitrws (rheoliad 9(a)); (j) estyn categorïau bwydydd y gellir defnyddio ynddynt ychwanegion amrywiol a ganiateir (rheoliadau 8(b)(i), 9(b), 11(ch), 13(a) ac (c)-(dd), 14(ch)); (l) gwahardd defnyddio ffosffadau mewn seidr a pherai (rheoliad 11(a)(ii)); (ll) darparu terfynau Rhif yddol i gyfyngu ar y defnydd o E903 (rheoliad 11(f) - (ff)); (m) gwneud darpariaeth ar gyfer y defnydd cyfyngedig o ychwanegion mewn cyflasynnau (rheoliad 8(b)(ii), 10(a), 11(a)(i), (b) - (c), (d) - (e) ac (ng)); (n) mewnosod diffiniad o oleoresinau sbeisys yn Atodlen 3 (rheoliad 11(1)); (o) caniatáu defnyddio toddyddion carwyr newydd, sef E555, mewn rhai lliwiau penodedig (rheoliad 12(b)); (p) ei gwneud yn glir i ba raddau y caniateir cario E1450 drosodd i fformiwla a bwydydd diddyfnu i fabanod (rheoliad 14(a)); (ph) diweddaru pennawd Rhan 4 o Atodlen 8 i roi sylw i Gyfarwyddeb y Comisiwn 1999/21/EC ar fwydydd dietegol at ddibenion meddygol arbennig (OJ Rhif L91, 7.4.1999, t.29) (rheoliad 14 (c)).
3.
Mae arfarniad rheoliadol ar effaith y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y trosir prif elfennau Cyfarwyddebau 2003/95/EC a 2003/45/EC yn gyfraith ddomestig. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p. 16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Secretary of State", i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4). Yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Diwygio) 2004 (O.S. 2004/2990), gydag effaith o 7 Rhagfyr 2004 ymlaen datgymhwysir y gofyniad i ymgynghori a geir yn adran 48(4) o Ddeddf 1990 mewn unrhyw achos pan fo ymgynghori'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002.back [4] O.S. 1995/3187, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/1413, O.S. 1999/1136, O.S. 2001/1440 (Cy.102), O.S. 2001/1787 (Cy.128), O.S. 2001/2679 (Cy.220), O.S. 2001/3909 (Cy.321), O.S. 2002/329 (Cy.42), O.S. 2002/330 (Cy.43), O.S. 2003/3037 (Cy.285), O.S. 2003/3041 (Cy.286), O.S. 2003/3044 (Cy.288), O.S. 2003/3047 (Cy.290), O.S. 2003/3053 (Cy.291), O.S. 2004/553 (Cy.56), O.S. 2004/554 (Cy.57) ac O.S. 2005/259 (Cy.25).back [5] OJ Rhif . L184, 15.7.1988, t.61.back [6] OJ Rhif L55, 24.2.2001, t.59.back [7] OJ Rhif L24, 29.1.2004, t.58.back [8] OJ Rhif L184, 15.7.1988, t.61.back [9] Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 dyddiedig 17 Mai 1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, OJ Rhif L179, 14.7.1999, t.1.back [10] Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000 dyddiedig 24 Gorffennaf 2000 sy'n gosod rheolau manwl penodol ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin ac ar sefydlu cod Cymunedol o arferion a phrosesau gwinyddol, OJ Rhif L194, 31.7.2000, t.1.back [11] Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/21/EC ar fwydydd dietegol at ddibenion meddygol arbennig, OJ Rhif L91, 7.4.1999, t.29.back
ISBN 0 11 091126 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 17 May 2005 |